Mae'r clogwyni ar yr adran hon yn is, tua 40m gan fwyaf. Er bod Pen Dinas yn codi i 142m, mae llwybr gwastad y dyffryn (sydd hefyd yn Lwybr Cenedlaethol) yn osgoi hyn. Mae'r bryniau i fyny o'r traethau bach, ac i lawr iddynt, yn serth ond heb fod yn rhy agos at ei gilydd.

1. Trefdraeth Parrog i Hen Orsaf y Bad Achub 0.5 milltir (0.8 km)

Taith lan môr ar heolydd mynediad a sarnau ag arwyneb, gydag adran fer ar y traeth pan fydd y dŵr yn isel. Mae yna lwybr arall i’w gerdded pan fydd y llanw’n uchel ac mae ganddo adran gul, un set o 6 o risiau ac un set o 25 o risiau.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parrog Trefdraeth (Cyfeirnod Grid: SN051396)
Arosfan bysiau (Roced Poppit – dychwelyd dair gwaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio maint canolig. Toiled hygyrch. Caffi gerllaw.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Adran i Gadeiriau Olwyn y Parrog
Trefdraeth Parrog SN052397 i Orsaf y Bad Achub SN044397.
O faes parcio’r Parrog trowch i’r dde arno i adran gawsai 30” (0.8m) o led sydd wedi’i chodi. Mae yna lwybr sy’n osgoi’r gawsai y gellir ei gerdded pan fydd y llanw’n isel ac mae ar dywod caled (150m). Mae yna adran bellach hefyd sy’n croesi’r tywod, ac felly nid oes modd dilyn y llwybr ddwy awr bob ochr i’r llanw uchel. Mae 250m ohono yn heol fynediad asffalt; mae llawer o’r llwybr sy’n weddill ag arwyneb concrit. Mae’r graddiannau’n fyr ac yn cydymffurfio â safon BT. Seddau. Rhodfa arfordirol. Toiledau ym maes parcio Heol Hir SN 057392. Cadair Olwyn 0.7 km.


2. Hen Orsaf y Bad Achub i uwchlaw Aberhigian 1 Milltir (1.61 Km)

Adran gweddol ysgafn heb unrhyw sticlau a 5 gris isel. Roedd rhai o’r baeau islaw’r clogwyn yn chwarelau môr ar un adeg, ar gyfer y cerrig llechi a ddefnyddiwyd yn Nhrefdraeth ar gyfer y waliau.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Rhybudd
Clogwyni Cat Rock (Cyfeirnod Grid: SN039398)
Ymyl y clogwyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Aber Step (Rhigian) (Cyfeirnod Grid: SN035396)
I fyny ychydig o dyle yna trowch i’r dde am daith fer i Aberhigion neu ewch yn ôl at y brif ffordd a theithiau cylch yr ucheldir. (Cyffordd y llwybr wedi’i diwygio trwy Orchymyn 200m i’r gorllewin).


3. Uwchlaw Aber Rhigian i uwchlaw Aber Fforest 1 Milltir (1.61Km)

Mae’r disgyniadau serth i’r baeau mewn gwrthgyferbyniad â’r llwybr sydd bron yn wastad uwchben y graig. 2 giât, 100 o risiau. Nid yw Aber Rhigian wedi’i datblygu ac mae yna glwstwr o adeiladau yn Aber Fforest. O Aber Rhigian ac Aber Fforest mae yna lwybrau dymunol ar hyd y dyffryn coediog sy’n dychwelyd i’r heol.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Traeth
Traeth Aber Rhigian (Cyfeirnod Grid: SN032395)
Traeth diarffordd ar gefndir o fanc o gerrig mân a chors.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cwm Rhigian (Cyfeirnod Grid: SN033394)
Dyffryn coediog serth, nant groyw, nôl i’r brif ffordd.

Rhybudd
Clogwyni Aber Ysgol (Cyfeirnod Grid: SN029396)
Ymylon y Clogwyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn agos at ymyl y clogwyn. Mae rhannau o’r cildraeth hwn wedi erydu 5m yn y 10 mlynedd diwethaf.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Aber Fforest (Cyfeirnod Grid: SN029395)

Pedwar llwybr troed. Trac o gerrig sy’n mynd nôl i’r brif ffordd yw’r llwybr dwyreiniol. Mae’r llwybrau eraill yn dychwelyd trwy goetir at y brif ffordd a Dinas.

Traeth
Traeth Aber Fforest (Cyfeirnod Grid: SN029395)
Traeth bach tawel gyda banc o gerrig mân yn gefndir. Odyn Galch.


4. Uwchben Aberfforest i Fryn Soar 0.5 Milltir (0.8Km)

Ceir mynediad o’r gorllewin ac nid oes unrhyw sticlau, grisiau na llethrau serth ar y daith hon. Yn ôl yr arfer, mae yna olygfeydd gwych.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Bryn Soar (Cyfeirnod Grid: SN017398)
650m o lôn goediog, heb unrhyw rwystrau i gadeiriau olwyn wedi’u cyflwyno.


5. Bryn Soar i Gwm-yr-Eglwy (0Km)

Heol serth heb unrhyw balmentydd. Fel arfer yn ystod y tymor mae’r traffig yn araf ond yn brysur.

Cymeriad y daith: Adeiladwyd y llwybr i Safon ‘BT’ ar gyfer cadeiriau olwyn.


6. Cwm-yr-Eglwys i Bwllgwaelod i Gadeiriau Olwyn 0.6 Milltir (1.61Km)

Rhwng Cwm-yr-Eglwys a Phwllgwaelod, mae yna ddau Lwybr Cenedlaethol dynodedig sy’n cyferbynnu’n ddramatig. Dyma lwybr sy’n addas ymhob tywydd. Mae arno arwyneb asffalt ar gyfer cadeiriau olwyn sy’n troi â llaw. 4 giât hygyrch.

Cymeriad y daith: Adeiladwyd y llwybr i Safon ‘BT’ ar gyfer cadeiriau olwyn.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Cwm-yr-Eglwys (Cyfeirnod Grid: SN014400)
Maes parcio bach a weithredir gan Ymddiriedolaeth Gymunedol. Codir tâl yn ystod y tymor. Toiled hygyrch.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ynys Dinas i Gadeiriau Olwyn (Cyfeirnod Grid: SN012399)
Ynys Dinas – Maes parcio Cwm yr Eglwys (codi tâl yn ystod y tymor) SN014400 i faes parcio Pwllgwaelod (mawr, rhad ac am ddim) SN005398
Wedi’i greu’n arbennig at y diben i safon BT; prin iawn yw’r goleddf croes. Seddau’n aml, pedair giât. Adran ar draws maes carafanau Cwm yr Eglwys, 90m, yn arwyneb gwe concrit y mae’r borfa’n tyfu drwyddo. Mae hyn yn gallu ysgwyd ychydig ar gadeiriau olwyn wrth iddynt groesi. Erbyn hyn, mae arwyneb y llwybr yn dirywio ac, mewn mannau, mae wedi malu. Bwriedir rhoi arwyneb newydd yn ystod y tair blynedd nesaf. Golygfeydd da o’r môr (a’r traeth) ar bob pen. Toiledau ym meysydd parcio Pwllgwaelod a Chwm yr Eglwys. Cadair olwyn 1 km.

Cyfleusterau
The Old Sailors (Cyfeirnod Grid: SN005399)
Bwyty

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Pwllgwaelod (Cyfeirnod Grid: SN005398)

Safle bws (Roced Poppit – dychwelyd ddwywaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio cymunedol mawr sy’n rhad ac am ddim. Toiled hygyrch.

Cyfleusterau
Dinas Cross (a Frynhenllan) (Cyfeirnod Grid: SN012388)
Pentrefi (0.9 milltir tua’r tir) gyda siop, tafarn, llety, siop sglodion.


7. Cwm-yr-Eglwys i Bwllgwaelod Dros y Clogwyn 2.4 Milltir (3.22Km)

Rhwng Cwm-yr-Eglwys a Phwllgwaelod, mae yna ddau Lwybr Cenedlaethol dynodedig sy’n cyferbynnu’n ddramatig. Mae’r llwybr yma dros glogwyn agored gydag esgyniad serth i 400’ ac yna nôl i lawr at lefel y môr, trwy Dinas Head (sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Golygfeydd gwych o’r arfordir i’r dwyrain a’r gorllewin. 1 sticil â mynediad i gŵn, 1 giât wiced, 3 giât mochyn, 120 o risiau. Defaid a gwartheg yn pori rhannau o’r adran hon. (Mewn tywydd gwlyb iawn, gall adran Rock fod yn fwdlyd iawn, felly defnyddiwch y dewis arall o lwbyr a ganiateir, sydd wedi cael ei nodi.)

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Traeth
Traeth Cwm-yr-Eglwys (Cyfeirnod Grid: SN015400)

Traeth bach tywodlyd sy’n weddol dawel.

Gwybodaeth
Eglwys Cwm-yr-Eglwys (Cyfeirnod Grid: SN015400)

Y clochdwr a mur y gorllewin yw’r cyfan sy’n weddill o eglwys Sant Brynach yng Nghwm-yr-Eglwys, sy’n deillio o’r 12fed ganrif. Dinistriwyd yr eglwys gan storm fawr 1859.

Worth a look
Needle Rock (Cyfeirnod Grid: SN015409)
Mae gwylanod y penwaig, gweilch y penwaig a heligogod yn bridio ar Needle Rock.

Traeth
Traeth Pwllgwaelod (Cyfeirnod Grid: SN004399)
Traeth bach tywodlyd sy’n weddol dawel.


8. Pwllgwaelod i’r Pentir i’r Gorllewin o Hescwm(Aber Bach) 1.6 Milltir (3.22Km)

Mae’r disgyniadau serth i’r baeau’n cyferbynnu gyda chopa’r clogwyn sydd bron yn wastad. Prin fod y clogwyni drylliedig llwyd hyn yn edrych yn Brydeinig – maen nhw’n fwy fel tirwedd mesa wedi gorlifo. 7 sticil, 1 giât wiced, 110 o risiau. Mae’r sticlau’n caniatau mynediad i gŵn. Defaid a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn (Cyfeirnod Grid: SN01394)
Ymylon y clogwyn yn erydu. Cadwch at y llwybr.

Traeth
Pwll Gwylog (Cyfeirnod Grid: SM999393)

Mynediad anodd i lawr i’r clidraeth bach diarffordd a hyfryd hwn. Traeth o gerrig mân bras a chlogfeini.

Traeth
Aber Hesgwm neu Aber Bach (Cyfeirnod Grid: SM996386)

Traeth bach tawel gyda banc o gerrig mân yn gefndir. Sedd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Aber Hesgwm (Cyfeirnod Grid: SM997385)
Mae’r mynediad ar yr heol i Aber Hesgwm (Aber Bach) yn arw ac yn gul iawn ac ychydig o fannau pasio sydd yna. Mae yna lawer o droeon llym ac nid oes unrhyw fannau parcio. Mynediad gorau trwy’r llwybr cyhoeddus o Dinas Cyfeirnod Grid SN003381.


9. Pentir i’r Gorllewin, o Hesgwm i Aber Grugog, Penrhyn 1.4 Milltir (1.61Km)

Ar y rhannau o Lwybr yr Arfordir ar hyd yr adran hon mae yna raddiannau ysgafn ac nid oes unrhyw sticlau. Er nad oes unrhyw rwystrau i gadeiriau olwyn, byddai’r adran hon yn anodd, hyd yn oed i gadeiriau olwyn traws gwlad cryf.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Penrhyn tuag at Hesgwm (Cyfeirnod Grid: SM997385)

Graddiannau ysgafn, adran heb sticlau na grisiau. Dim parcio i’r cyhoedd ar yr arfordir.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Garn Gelli (Cyfeirnod Grid: SM985375)

Mynediad i Lwybr yr Arfordir o gyfeiriad y tir – parciwch yn y man-tynnu-i-mewn ar gopa’r bryn ar yr A487(T), dilynwch y llwybr ceffylau i’r Penrhyn.


10. Aber Grugog, Penrhyn i Gaer Abergwaun 1.7 Milltir (3.22Km)

Adran fer ond eithaf gwyllt gydag eithin a grug ar frigiadau garw. Un sticil gyda darpariaeth mynediad i gŵn, 100 o risiau, mannau gwlyb a graddiannau serth. Nid oes darpariaeth i ganiatáu mynediad i gŵn ar 1 o’r sticlau. Nid oes sticlau ar y chwarter milltir gorllewinol ac mae’r graddiannau’n rhai bach. Mae ceffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Worth a look
Needle Rock (Cyfeirnod Grid: SM975380)

Mae Needle Rock yn stac anarferol sydd â thwll ynddo a bwa yn ei sylfaen. Ceir y golygfeydd gorau ychydig tua’r môr o lwybr yr arfordir.


11. Caer Abergwaun i’r Dref Isaf 0.5 Milltir (0Km)

Ar yr llwybr 300m rhwng y Gaer a’r heol, mae yna arwyneb gwastad ond mae’n eithaf serth. Mae’r 100m uchaf o’r maes parcio i’r man gwylio yn adran sydd wedi’i chreu’n arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae adran serth fer ar yr heol, sydd â phalmant, yn cysylltu’r ddau faes parcio. Chwiliwch am symbol y fesen fach i’ch harwain chi – mae’n uchel i fyny ar arwyddion a pholion metel. Mae’n dangos y llwybr a awgrymir trwy drefi neu’n agos atynt.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Gwybodaeth
Caer Abergwaun (Cyfeirnod Grid: SM961378)

Adeiladwyd Caer Abergwaun yn 1779-81, wedi i’r preifatîr Black Prince fombardio’r dref. Arfogwyd y gaer gydag wyth dryll naw pownd. Ar Chwefror 22, 1797, fe daniodd y gaer ei drylliau i rybuddio cychod Ffrengig a oedd ar y gorwel, ond ni chwaraeodd unrhyw ran bellach yn yr ymgyrch i wrthyrru’r “ymosodiad olaf” (Glaniad y Ffrancod yn 1797). Erbyn hyn, Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n cynnal a chadw’r adeilad.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn – Caer Abergwaun (Cyfeirnod Grid: SM962375)

O’r maes parcio bach uwchben Gwaelod y Dref, ar yr heol i Drefdraeth. Mae’r adran gyntaf, sy’n llwybr o gerrig wedi’u rholio, yn ramp serth 1:8 (gyda glanfeydd) am 30m. Ar ôl 70m pellach o lethr ysgafn i lawr, mae yna fan gwylio sy’n edrych allan dros y Gaer a’r Bae. Mae’r llwybr yn parhau at y Gaer ac nid oes unrhyw rwystrau wedi’u cyflwyno, ond mae’n serth iawn i lawr y tyle, 1:4 am 60m. Toiledau yn Abergwaun, yn y Sgwâr ac yn Heol y Gorllewin. Cadeiriau Olwyn 100m.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Caer Abergwaun (Cyfeirnod Grid: SM962375)
Maes parcio bach (tuag 8 car). Weithiau mae yma fan hufen iâ. Man poblogaidd iawn i wylio’r cychod fferi’n mynd a dod.

Cyfleusterau
Y Cwm (Dref isaf Abergwaun) (Cyfeirnod Grid: SM963371)
Tafarn y Ship.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Y Cwm (Dref isaf Abergwaun) (Cyfeirnod Grid: SM963371)

Arosfan bysiau (Roced Poppit – dychwelyd dair gwaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio maint canolig. Harbwr.

Gweld yr adran hon ar Street View

Parrog Trefraeth (Cyfeirnod Grid: SN051396)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir