Clogwyni isel hynod o goch. Godiroedd a chopa clogwyni sy'n gyfoeth o flodau gwyllt. Mewn mannau, mae algai melyn yn graith ar liw coch yr Hen Dywodfaen Coch. Erbyn hyn, nid oes unrhyw sticlau ar yr adran hon.

1. Aberllydan (Broad Haven) i Little Haven 1 Milltir (1.61km)

Mae’r llwybr dynoededig ar hyd yr heol. Dyma lwybr llydan gyda phalmant trwy Broad Haven. Ond mae’n gul ac heb balmant rhwng Little Haven a Broad Haven. Mae llawer o bobl yn defnyddio’r traeth pan fydd y llanw’n isel. Mae yna berygl o gael eich torri i ffwrdd – mae angen gwybodaeth o’r llanw.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Cyflesterau
Hostel Ieuenctid Aberllydan (Cyfeirnod Grid: SM862140)

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Aberllydan (gogledd) (Cyfeirnod Grid: SM862140)
Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol, codir tâl yn ystod y tymor. Toiledau.

Traeth
Traeth Aberllydan (Broad Haven North) (Cyfeirnod Grid: SM859138)
Traeth tywodlyd mawr gyda thraethellau ysgafn. Pyllau glan môr ar bob pen. Mewn ambell fan ar y traeth hwn mae yna dywod byw (sugndraeth).

Cyflesterau
Tref Aberllydan (Cyfeirnod Grid: SM861137)
Tref bach ar lan y môr, gyda’r holl wasanaethau arferol.

Gwybodaeth
Aberllydan (Cyfeirnod Grid: SM861137)
Fe fu’r traeth yn Aber Llydan yn boblogaidd ers 1800, pan oedd peiriannau ymdrochi ar y tywod. Treuliai’r arlunwyr Gwen ac Augustus John eu gwyliau yma yn Rocks Drift, tŷ a adeiladwyd gan eu tad, adeg eu plentyndod. Erbyn hyn, trowyd y tŷ yn fflatiau gwyliau. Roedden nhw’n arfer cloddio am lo ar y clogwyni i’r gogledd o’r traeth, ac mae modd gweld pyllau wedi cwympo wrth ochr y llwybr. Mae’r pentref gwreiddiol yn swatio yng nghysgod y bryn ar ben deheuol y traeth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Safle Bysiau Aberllydan (Cyfeirnod Grid: SM861137)
Safle bysiau – Y Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau.

Cyflesterau
Galleon Inn (Cyfeirnod Grid: SM860136)
Bwyd a chwrw.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes parcio Aberllydan (de) (Cyfeirnod Grid: SM860135)
Maes parcio i 20 o geir. Toiledau.

Caution
Llwybr Traeth ‘Settlands’ (Cyfeirnod Grid: SM856133)
Mae llawer o bobl yn defnyddio’r traeth, ond mae perygl o gael eu torri i ffwrdd – mae angen gwybodaeth am y llanw. Y perygl penodol yw er ei fod yn edrych fel bod un pentir i’w basio, mewn gwirionedd mae dau ac mae’r llanw’n cyrraedd y naill cyn y llall.

Cyflesterau
Gwesty y Castle Hotel (Cyfeirnod Grid: SM857129)
Gwely a Brecwast, Cwrw a Bwyd.

Cyflesterau
Little Haven (Cyfeirnod Grid: SM857129)
Gwasanaethau pentref, llety gwely a brecwast, 3 thafarn, bistro, caffi.

Gwybodaeth
Little Haven (Cyfeirnod Grid: SM857129)
Mae’r pentref bach swynol hwn, gyda’i lonydd cul, ei fythynnod, ei dafarndai a’i faeau bychain, yn fan poblogaidd i dreulio gwyliau. Fel Nolton Haven, roedd yn arfer bod yn fan allforio glo lleol. Llwythwyd y glo ar gychod hwylio ar y traeth pan fyddai’r llanw’n isel.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Little Haven Car Park (Cyfeirnod Grid: SM857128)
Maes parcio maint canolig Y Parc Cenedlaethol – codir tal yn ystod y tymor. Toiledau.


2. Little Haven i Strawberry Hill 0.8 Milltir (1.61km)

Mae arwyneb (Gradd 1)ar yr ychydig gan-metrau cyntaf. Mae rhanau o’r llwybr ar ôl hyn yn serth. Nodwch bod clogwyni uchel sy’n malu tua’r môr. Golyfeydd i’r gogledd ar hyd y traethau i Broad Haven. 0 sticil, 2 giât, 35 o risiau.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Safle Bysiau Little Haven (Cyfeirnod Grid: SM857129)
Safle bysiau – Gwesty’r Castell (Y Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio maint canolig y Parc Cenedlaethol: tâl yn ystod y tymor. Toiledau.

Traeth
Traeth Little Haven (Cyfeirnod Grid: SM856130)
Cildraeth bach tywodlyd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Y Trwyn (Cyfeirnod Grid: SM856129)
Llwybr Y Trwyn, Aber Llydan SM856129. Graddiannau safonol i Fieldfare; nid oes fawr ddim o’r arwyneb yn gwyro’n groes. Arwyneb tebyg i friciau. Seddau. Toiledau ym maes parcio Aber Bach. Cadair Olwyn 300m.

Caution
Clogwyn yn Disgyn (Cyfeirnod Grid: SM852126)
Ymyl y clogwyn heb ei warchod. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Mae adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Foxes’ Hole (Little Haven) (Cyfeirnod Grid: SM849123)
Tua 1 km (0.6 milltir) i’r de o Aber Bach, mae’r math o graig yn newid. Oddi yma, mae’r clogwyni mawreddog yn greigiau igneaidd Cyngambriaidd, tua 650 miliwn mlwydd oed. Oherwydd symudiadau cramen y Ddaear, mae’r creigiau hynafol hyn yn gorwedd ochr yn ochr â’r Cystradau Glo sydd ond yn 300 miliwn mlwydd oed. Yn Foxes’ Hole, cilfach fechan ychydig i’r gogledd o Mill Haven, mae’r clogwyni’n newid eto i’r Hen Dywodfaen Coch nodedig. Mae’r gwahaniaeth yn amlwg yn y pridd coch-frown cyfoethog yn y caeau gerllaw.


3. Strawberry Hill i Sain Ffraid 4.5 Milltir (6.44km)

Mae’r adran ddeheuol bron yn wastad, heblaw am y bryniau byr ar bob pen. Mae’r adran ogleddol yn fryn graddol, hir ond nid yw’n serth iawn. Golygfeydd llydan agored ar draws Bae San Ffraid, 0 sticil, 4 giât mochyn, 3 giât wiced, 8 o risiau.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Parcio yn Strawberry Hill (Cyfeirnod Grid: SM851124)
Cyffordd gydag isffordd yr arfordir. Parcio cyfyngedig i 3 char wrth ymyl yr heol, sedd. Dim toiledau.`

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn Strawberry Hill (Cyfeirnod Grid: SM851124)

Strawberry Hill, Aber Bach. Llwybr byr iawn at olygfan o faes parcio bach wrth ymyl yr heol, ar yr heol tuag at Dale. Golygfeydd o Heolydd Goultrop a Bae Sain Ffraid. Sedd. Toiled ym maes parcio Aber Bach. Cadeiriau Olwyn 20m.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Goultrop (Dwyrain) (Cyfeirnod Grid: SM846123)
Llwybr troed byr at isffordd yr arfordir, dim lle i barcio.

Caution
Llwybr Troed Goultrop (Gorllewin) (Cyfeirnod Grid: SM840124)
Perygl! Ar y mapiau, dangosir llwybr troed sy’n gadael o Lwybr yr Arfordir, ar y pen sydd agosaf at y môr, ac yn parhau at safle hen orsaf bad achub. O ganlyniad i gyfres o dirlithriadau sydd wedi effeithio ar y llwybr ar y pen sydd agosaf at y môr, mae nawr yn diweddu wrth glogwyn serth, ansefydlog, ac felly ni argymhellir y defnydd o’r llwybr hwn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Mill Haven (Cyfeirnod Grid: SM856123)
Mae’r llwybr troed hwn yn cynnig siwrnai ddychwelyd tua’r tir i’r Aber Bach ar hyd isffyrdd bach y wlad. Mae hefyd yn cynnig siwrnai ddychwelyd tua’r tir ar gyfer taith gylch o amgylch Aber Sain Ffraid. Parcio cyfyngedig wrth ymyl yr heol yng Nghroes Talbenni.

Traeth
Traeth Mill Haven (Cyfeirnod Grid: SM816123)
Traeth bach creigiog, anghysbell.

Gwerth Edrych
Cerfluniau Mill Haven (Cyfeirnod Grid: SM816123)
Law yn llaw ag odyn galch hynafol a wal hen dŷ cychod, gwelir ‘croth y môr’ – cerflun modern (1990au cynnar) a gomisiynwyd gan Gyngor y Celfyddydau a pherchennog y tir. Mae cerrig wedi eu cerfio ar y tri llwybr i’r cildraeth yn rhan o’r un arddangosfa.

Caution
Sain Ffraid i Glogwyni Mill Haven (Cyfeirnod Grid: SM809122)
Ymyl y clogwyn heb ei warchod. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth Edrych
Sain Ffraid i Mill Haven (Cyfeirnod Grid: SM809122)
Clystyrau trawiadol o Glustog Fair a blodau eraill yn eu tymor.


4. Sain Ffraid i Tower Point 1 Milltir (1.61km)

Dau fryn byr (1:10) a 250 metr o arwyneb o gerrig wedi’u rholio, ychydig i’r gorllewin o San Ffraid. Bryn hir, bron na fyddwch yn sylwi arno, rhwng San Ffraid a Tower Point. 2 giât hygyrch, 0 sticil, 0 grisiau.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Safle Bysiau Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM805108)
Mae’r safle bysiau 250 metr tua’r tir o’r maes parcio ar gyffordd yr heol. (Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau).

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio yn Aber Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80291089)
Parcio anffurfiol cyfyngedig, rhad ac am ddim. Toiled.

Gwerth Edrych
Tŷ Pwmpio Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80321088)
Hen Dŷ Pwmpio a adferwyd gan Ffrindiau’r Parc Cenedlaethol ac sy’n llawn o wybodaeth ddefnyddiol sy’n dehongli’r ardal. Ar un adeg, roedd y pwmp, sy’n dal i fodoli, yn cyflenwi dŵr i Gastell Sain Ffraid.

Gwybodaeth
Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80261084)
Fwy na thebyg mai Sant Brigid o Kildare oed Sain Ffraid, a oedd yn byw tua’r 5ed ganrif hwyr i’r 6ed ganrif gynnar. Credir bod yr eglwys ganoloesol bresennol wedi cymryd lle capel hŷn. Ar un adeg, roedd y tŷ mawr sy’n edrych allan dros y bae, a adwaenir fel Castell Sain Ffraid, yn gartref i deulu’r Edwardes, Barwniaid Kensington, ond erbyn hyn mae’n dal fflatiau gwyliau. Mae peth o’r hen ystad, gan gynnwys y cildraeth ei hun, yn eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Eglwys Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80251088)
Mae llwybr troed, sy’n dechrau wrth yr eglwys, yn cynnig ffordd tua’r tir at bentref Marloes, ar hyd ymylon caeau.

Traeth
Aber Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80191092)
Cildraeth bach tywodlyd gyda phyllau glan môr, sy’n boblogaidd ymhlith sgwba-blymwyr pan fydd y gwelededd o dan y dŵr yn dda.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM80221089)
Llwybr byr o gerrig wedi eu rholio o’r maes parcio at olygfan, i lawr gan fwyaf ar raddiant o 1:20. Golygfeydd o Aber Sain Ffraid. Sedd. Toiledau hygyrch yn Dale ac Aber Llydan. Cadeiriau Olwyn 15m.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad Hwylus Sain Ffraid i Drwyn y Twr (Cyfeirnod Grid: SM80221089)
Ar ôl llwybr byr o gerrig wedi eu rholio at y lle picnic, mae yna lethr serth i lawr ar raddiant o 1:10 am 20m ac yna 1:8 am 20m, dim mannau gwastad. Yna, 230m o lwybr ag arwyneb trwy gae at olygfan ar lwybr yr arfordir gyda llethr o 1:10 am 40m. O’r fan hon ymlaen, mae’r llwybr yn arw a heb ei wella ac yn fwdlyd pan yn wlyb, gyda graddiant cyson i fyny, tua 1:20. Un sedd yn agos at y dechrau, un sedd hanner ffordd. 2 giât sydd efallai angen cymorth i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn hirion. Toiledau hygyrch yn Dale ac Aber Bach. Llwybr Mynediad Hwylus 1.8 km.

Caution
Clogwyni Aber Sain Ffraid (Cyfeirnod Grid: SM79861107)
Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod. Cadwch at y llwybr. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth Edrych
Safleoedd yr Oes Haearn yn Nab Head (Cyfeirnod Grid: SM79081105)
Roedd y rheiny a oedd yn byw ar y pentir hwn yn ystod y cyfnod Mesolithig, tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl, yn helwyr a chasglwyr, a fwy na thebyg mai gwersyll tymhorol oedd yma. Yn ystod cloddiadau 1979 dadorchuddiwyd bron i 40,000 o eitemau, gan gynnwys nifer fawr o leiniau, ac efallai mai dyma oedd arbenigedd y safle. Ymhellach ar hyd y llwybr, ar Drwyn y Tŵr, mae yna gaer bentir wych o’r Oes Haearn. Mae Caer Bentir Oes Haearn Pen-y-Castell hanner ffordd rhwng Nab Head a Sain Ffraid.


5. Tower Point i Draeth Musselwick 2.84 Milltir (4.83km)

Unwaith eto adran hawdd. Ym Musselwick y ceir yr unig fryn serth, a gellir ei osgoi drwy gymryd y llwybr uwch yn y mewndir. 0 sticil, 5 giât, 0 o risiau. Llethrau arfordirol yn gyfoeth o flodau gwyllt. Mewn rhai llefydd, mae cochni’r Hen Dywodfaen Coch â rhesi llachar o algâu melyn.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Caution
Clogwyni Hen Dywodfaen Coch (Cyfeirnod Grid: SM78820917)
Ymylon y clogwyn heb eu gwarchod. Cadwch at y llwybr. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Traeth
Traeth Musselwick (Cyfeirnod Grid: SM78420888)
Traeth tywodlyd, digon o faint, â llanw cryf, wedi ei gysgodi rhag gwyntoedd y de orllewin.

Caution
Traeth Musselwick (Cyfeirnod Grid: SM78420888)
Mae Traeth Musselwick yn draeth da os am nofio, ond mae’n hawdd i chi gael eich ynysu yma. Daw’r llanw i mewn wrth y fynedfa ymhell cyn iddo orchuddio gweddill y tywod. Mae’r llwybrau dianc anffurfiol yn beryglus ac ni chynghorir pobl i’w defnyddio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Pentref Marloes (Cyfeirnod Grid: SM78720885)
Y llwybr troed hwn yw’r llwybr byrraf at y siop a’r tafarndai ym Marloes, ac mae hefyd yn cynnig cyfleoedd byrrach neu hirach i gerdded taith gylch o amgylch penrhyn Marloes.


6. Musselwick i Martin’s Haven 2 Milltir (3.22km)

Naws eithaf garw – nid yw’n adran egniol iawn, ond mae yna bedwar bryn serth byr sy’n gwthio’r radd i fyny i bump. Mae’r golygfeydd cyntaf neu ddiwethaf ar draws Bae San Ffraid, draw bob cam at Dyddewi ac Ynys Dewi. 0 sticil, 5 giât, 60 o risiau.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio ger Traeth Musselwick (Cyfeirnod Grid: SM78660854)

Stopio a Theithio – Y Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau. Parcio cyfyngedig wrth ymyl yr heol ar gyfer tua 10 car. Toiledau yn y pentref.

Cyflesterau
Gwersyll ger y Llwybr (Cyfeirnod Grid: SM7640911)
Fferm West Hook.

Caution
Musselwick i Glogwyni Hafan Martin (Cyfeirnod Grid: SM76140920)
Ymyl y clogwyn heb ei warchod. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Martin’s Haven (Cyfeirnod Grid: SM76060916)
O’r bae cysgodol hwn y mae’r cychod yn gadael i fynd i ynysoedd Sgomer a Sgogwm, y ddau yn enwog yn rhyngwladol am eu bywyd gwyllt. Cânt eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru, sydd â chanolfan wybodaeth sy’n swatio yn y llechwedd sy’n edrych allan dros y bae. Mae Hafan Martin hefyd yn boblogaidd ymhlith deifwyr. Mae gwely’r môr yn yr ardal hon yn un o dair gwarchodfa natur forol ddynodedig ym Mhrydain. Mae yna arddangosfa ynglŷn â hyn yn yr hen fwthyn ger y traeth. Cyngor Cefn Gwlad Cymru sy’n rheoli’r warchodfa ac sy’n gyfrifol am yr arddangosfa.

Traeth
Traeth Martin’s Haven (Cyfeirnod Grid: SM76060916)
Traeth bach yn llawn cerrig. Nid yw’n lle da i nofio oherwydd y cychod.

Cyflesterau
Toiledau Martin’s Haven (Cyfeirnod Grid: SM76030901)
Nid ydyw yn y maes parcio – mae ar y trac at y traeth. Parciwch yn y maes parcio a cherdded i’r toiledau – mae’n anodd troi ar yr heol ac mae’n brysur iawn dros yr haf.

GWELD YR ADRAN HON AR STREET VIEW

Aberllydan (Cyfeirnod Grid: SM860135)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr y Arfordir