Llwybr gweddol hwylus i’w gerdded, ar lwyfandir Marloes/Dale a dorrwyd gan y tonnau, gydag ambell esgyniad byr allan o gymoedd gweddol serth a dorrwyd gan ddŵr tawdd rhewlifol ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf. Taith sy’n llawn cyferbyniaeth, gan ddechrau ar yr arfordir Atlantig gwyllt a di-goed gyda golygfeydd gwych o’r ynysoedd garw oddi ar y lan, sef Sgomer, Sgogwm a Gwales, a diweddu yng nghysgod ysgafn, bugeiliol a choediog mewn mannau dyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’r adran hon yn agos at lety ac at siopau pentref, tafarndai a chaffis Marloes a Dale. Oherwydd y mannau mynediad niferus a’r gwasanaeth bws arfordirol gwych, mae’n lle poblogaidd ar gyfer teithiau byr a theithiau cylch. Nid oes unrhyw sticlau ar yr adran hon.

1. Martin’s Haven i Watery Bay 1 Milltir (1.61km)

Mae’r adran hon yn agored i holl amrywiaeth stormydd yr Atlantig ac mae yma glogwyni serth iawn. Mae erydiad yn bygwth y Llwybr Cenedlaethol. Mae’r Llwybr yn torri ar draws gwddf y penrhyn gorllewinol (y Parc Ceirw), er, mae yna lwybr arall y gellir ei ddilyn sy’n rhoi dolen ychwanegol sy’n werth chweil. Mae golygfeydd newydd yn agor i fyny, gydag ynysoedd Sgomer a Sgogwm yn torri ar draws ehangder y môr. 2 giât mochyn a giât wiced trwy’r Parc Ceirw (gradd 3) neu dri giât wiced os ydych yn dod o Faes Parcio Martin’s Haven (gradd 2).

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Hafan Martin (Cyfeirnod Grid: SM76110898)
Safle bysiau (Y Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tâl yn ystod y tymor – tua 100m i gyfeiriad y tir o Lwybr yr Arfordir. Toiledau ger traeth Hafan Martin.

Gwerth Edrych
Y Parc Ceirw (Cyfeirnod Grid: SM75810900)

Cyfeirir at y pentir gorllewinol fel y Parc Ceirw. Adeiladwyd wal o amgylch yr ardal yn hwyr yn y 18fed ganrif, pan yr oedd yn eiddo i ystad Kensington, ond fwy na thebyg na chadwyd ceirw yma. O’r Parc Ceirw mae yna olygfeydd gwych draw at yr ynysoedd. Yn gynnar yn yr hydref, mae’n un o holl lefydd bridio’r morlo. Os ydych chi’n gwylio morloi a’u rhai bach, a wnewch chi fod yn dawel ac yn llonydd, oherwydd mae sŵn a symudiadau yn eu cynhyrfu’n hawdd. Ac er eich diogelwch eich hun, cadwch i ffwrdd oddi wrth ymyl y clogwyn. Mae’r gwrthgloddiau ar draws gwddf y penrhyn yn Gaer Bentir arall o’r Oes Haearn, ac mae’n un o dros 50 o safleoedd anheddiad Neolithig sydd i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed y Parc Ceirw (Cyfeirnod Grid: SM75810900)

Ni ddynodwyd y Parc Ceirw yn rhan o’r Llwybr Cenedlaethol. Mae’r llwybr hwn yn cynnig llwybr troed cyhoeddus a chylch caniataol o amgylch y penrhyn.

Rhybudd
Parc Ceirw i Glogwyni Traeth Marloes (Cyfeirnod Grid: SM76010880)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn. Mewn tywydd gwael, mae’n well cadw at ymyl y cae.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Hwylus o Hafan Martin tuag at Gateholm (Cyfeirnod Grid: SM76110874)

Trowch i’r chwith trwy glwyd fechan ar ben gorllewinol maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (codir tâl am barcio yn ystod y tymor). Llwybr ger ochr y cae. Graddiannau yn llai nag 1 mewn 20; dim goleddf amlwg i’r ochr; dim seddau, tair clwyd â chliciedu hygyrch. (Mae ‘Sterling EX3 (Clasurol)’ wedi taclo hwn heb unrhyw broblemau). Yn cysylltu â llwybr cerrig o faes parcio Llyn Marloes. Mae’r llwybrau i’r dwyrain yn arwain at olygfannau hygyrch ar draws y tywod. Golygfeydd gwych o Ynys Sgomer ac Ynys Sgogwm. Toiled yn Marloes. Llwybr Mynediad Hwylus 2.8km.


2. Watery Bay i Raggle Rocks 0.9 Milltir (1.61km)

Mae’r llwybr yn pasio trwy’r Gaer grand o’r Oes Haearn yn Watery Bay ac mae’r llwyfandir gweddol wastad ar gopa’r clogwyn yn parhau. Mae’r golygfeydd o graig-ffurfiadau wedi eu ffurfio gan stormydd yn diflannu i roi lle i’r golygfeydd gwych ar hyd Traeth ysblennydd Marloes wrth i chi droi’r gornel uwchlaw Gateholm. 1 giât mochyn, un cyfres o 15 o risiau, graddiannau bach.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Gwerth Edrych
Caer Oes Haearn Watery Bay (Cyfeirnod Grid: SM76870798)

Caer Bentir o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd anheddiad Neolithig sydd i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Sylwer ar y ffosydd triphlyg trawiadol a’r banicau. Heneb Gofrestredig.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Watery Bay (Cyfeirnod Grid: SM76930790)

Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dychwelyd at Faes Parcio Llyn Marloes (a’r Hostel Ieuenctid). Mae’n cynnig sawl opsiwn ar gyfer teithiau cylch o amgylch y penrhyn.

Rhybudd
Clogwyni Bae Marloes (Cyfeirnod Grid: SM76930790)

Ymylon y clogwyn heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Rhybudd
Llwybr Troed Traeth yr Albion (Cyfeirnod Grid: SM77200764)

Mae’r llwybr troed at Draeth yr Albion, a ddangosir ar rai mapiau tua’r môr o’r Llwybr Cenedlaethol, yn sgrialfa egnïol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed o Gateholm i’r Llyn (Cyfeirnod Grid: SM77340773)

Dychwelyd i Faes Parcio Llyn Marloes (a’r Hostel Ieuenctid). Ceir sawl opsiwn ar gyfer teithiau cylch o amgylch y penrhyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed o Raggle Rocks i’r Llyn (Cyfeirnod Grid: SM77840770)
Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dychwelyd i Faes Parcio Llyn Marloes (a’r Hostel Ieuenctid). Ceir sawl opsiwn ar gyfer teithiau cylch o amgylch y penrhyn.


3. Raggle Rocks, Marloes i Hayguard Hay, Westdale 2.5 Milltir (3.22km)

Ar bob pen i‘r daith hon mae yna ddisgyniadau ac esgyniadau serth sy’n tywys y cerddwr o 150 troedfedd at lefel y môr ac yn ôl ar lethrau serth â grisiau. Rhyngddynt, mae llwybr y clogwyn yn eithaf gwastad. Os ydych yn dod o faes awyr Dale mae yna daith ysgafnach.6 giât wiced, 130 o risiau, 6 bryn. (Gradd 2 os ydych yn defnyddio’r llwybr mynediad ar hyd y maes awyr).

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Llyn Marloes (Cyfeirnod Grid: SM77920822)

Mae’r Pâl Gwibio’n codi teithwyr (stopio a theithio) o fynedfa’r gogledd i’r maes parcio (SM77800858). Maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, codir tâl yn ystod y tymor. Toiledau hygyrch wrth yr Hostel Ieuenctid (SM77880804).

Cyflesterau
Hostel Ieuenctid Marloes (Cyfeirnod Grid: SM77880804)

Runwayskiln

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ceffylau o Draeth Marloes i’r Llyn (Cyfeirnod Grid: SM78120767)

Y llwybr ceffylau hwn yw’r brif fynedfa at y traeth o Faes Parcio Llyn Marloes a’r isffordd.

Traeth
Traeth Marloes (Cyfeirnod Grid: SM78040755)

Traeth tywodlyd, hir, gyda chreigiau hwnt ac yma. Mae’n ddiddorol cerdded ar hyd traeth Marloes, ond nid oes man diogel i ddringo o’r traeth ar y pen dwyreiniol. Mae’n draeth hyfryd, adfywiol i nofio oddi yno, ac yn aml mae’r tonnau’n gyffrous, ond gwyliwch y cerhyntau terfol a’r cerhyntau drifft.

Gwybodaeth
Clogwyni Traeth Marloes (Cyfeirnod Grid: SM78040755)

Mae’r clogwyni tu ôl i’r traeth bendigedig hwn yn cynnwys amrywiaeth o greigiau gwaddod a ffurfiwyd yn ystod y cyfnod Silwraidd, tua 410 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Maen nhw’n cynnwys ffurfiad dramatig “Y Tair Simnai”, sydd wedi eu ffurfio o haenau o garreg laid a thywodfaen bob yn ail a’r pen wedi ei godi i safle fertigol wrth i gyfandiroedd wrthdaro tua 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r tywodfaen meddal wedi hindreulio’n fwy, fel bod yr haenau tywodfaen caletach yn gwthio allan o wyneb y clogwyn fel gwanasau.

Rhybudd
Clogwyni Traeth Marloes (Cyfeirnod Grid: SM78160760)
Ymylon y clogwyn heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Mathew’s Slade (Cyfeirnod Grid: SM78460750)

Disgyniad serth gyda grisiau i lawr at Draeth Marloes.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Maes Awyr Dale (Cyfeirnod Grid: SM79090671)

Mae’r llwybr troed hwn yn cynnig cyfle i ddilyn taith gylch hirach o amgylch y penrhyn.

Gwybodaeth
Maes Awyr Dale (Cyfeirnod Grid: SM79460676)

Roedd yna gysylltiad rhwng Dale, sy’n un o wyth maes awyr o’r Ail Ryfel Byd yn Sir Benfro, â Thalbenni gerllaw. Agorwyd y maes awyr ym mis Mehefin 1942 ac am flwyddyn bu’n gweithredu awyrennau bomio Wellington ar batrolau morol, gyda gwŷr awyr o wlad Pwyl yn eu hedfan yn y Llu Awyr Brenhinol. Yn ddiweddarach, cymerodd y Llynges Frenhinol reolaeth o faes awyr Dale hyd nes cau’r orsaf ym 1947.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad i Gadeiriau Olwyn Maes Awyr Dale (Cyfeirnod Grid: SM79810623)

Maes Awyr o’r Ail Ryfel Byd. Arwyneb gwastad o goncrit ac asffalt (1.3 km), ychydig yn anwastad dros yr uniadau. Golygfeydd gwych. 1.4km pellach a allai fod yn addas i rai cadeiriau, ar adran fer, laswelltog o Lwybr yr Arfordir. Toiled yn Dale. Cadeiriau olwyn 1.3 km; Antur 1.4 km.

Rhybudd
Clogwyni Westdale (Cyfeirnod Grid: SM79880601)

Ymylon y clogwyn heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Troed Bae Westdale (Cyfeirnod Grid: SM79980580)

Mae dau lwybr troed yn dod at ei gilydd yn y fan hon. Mae’r uchaf yn llwybr troed byr at isffordd fach iawn. (Lle i tua thri char barcio wrth ymyl yr heol ac nid oes lle diogel i droi!)Mae’r llwybr isaf yn cynnig llwybr tarw i Dale (0.7 milltir) (siop, tafarn a chaffi) a’r cyntaf o nifer o deithiau cylch byrrach neu hirach o amgylch penrhyn Dale.

Traeth
Bae Westdale (Cyfeirnod Grid: SM79860586)

Traeth bach tywodlyd gyda chreigiau ar y naill ochr a’r llall. Mae Bae Westdale yn lle cyffrous arall i nofio pan fydd y tonnau’n uchel, ond gwyliwch y llanw terfol, sydd ar ei gryfaf ar ochr dde’r traeth.

Gwybodaeth
Penrhyn Castell Mawr (Cyfeirnod Grid: SM79930566)
Caer Bentir fawreddog arall o’r Oes Haearn. Mae hon yn cael ei herydu’n gyflym gan y môr.


4. Hayguard Hay i Benrhyn Santes Ann 2.5 Milltir (3.22km)

Unwaith eto, mae Llwybr yr Arfordir yn yr adran hon ar lwyfandir sydd bron yn wastad ar gopa’r clogwyn, heb unrhyw fryniau serth. 0 sticil, 0 grisiau, 2 giât mochyn, 1 giât wiced. Mae’r 250m deheuol ym Mhenrhyn Santes Anne ar heol breifat dawel iawn.

Cymeriad y daith: Ffordd

Gwybodaeth
Maes Awyr Kete (Cyfeirnod Grid: SM79830480)

Am 16 blynedd weithgar roedd Kete yn orsaf lyngesol. Ym 1944 fe ddechreuodd y gwaith ar yr hyn a ddaeth yn safle helaeth, a chomisiynwyd yr orsaf fel HMS Harrier ym 1948. Roedd yn gartref i Ganolfan Rheoli Awyrennau’r Llynges Brydeinig ac Ysgol Meteoroleg y Llynges. Wedi iddi gau ym 1960 gwaredwyd nifer o’r adeiladau dan gynllun o’r enw ‘Operation Neptune’. Prin yw’r atgofion a erys o’i gorffennol llyngesol. Ychwanegiad diweddar yw’r plac coffa ger Llwybr yr Arfordir. Mae’r banc ar ochr Llwybr yr Arfordir sydd agosaf at y tir yn cynnwys rhywfaint o weddillion concrit a briciau’r rhedfa, a adferwyd yn dir fferm yn ddiweddar.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Kete (Cyfeirnod Grid: SM80290427)

Defnyddiwch y maes parcio rhad ac am ddim hwn sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Penrhyn y Santes Ann. Mae’r bws yn aros ym mhentref Dale.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Gogledd Kete (Cyfeirnod Grid: SM79950420)

Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cysylltiad at isffordd ar hyd yr arfordir, a maes parcio. Defnyddiwch y maes parcio rhad ac am ddim hwn sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Penrhyn y Santes Ann.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Hwylus Kete (Cyfeirnod Grid: SM79950420)

Parciwch ym maes parcio Kete (ger Penrhyn y Santes Ann), ewch yn ôl ar hyd yr heol tuag at Dale am un cae, ac yna trowch trwy’r giât ar y llwybr troed. Mae’r adran gyntaf yn hen redfa goncrit, ac yn aml mae tail gwartheg arni, yna croeswch gae gweddol galed ac ewch trwy drydedd giât arno i Lwybr yr Arfordir. Golygfeydd gwych o Sgogwm a’r arfordir. Nid oes rhwystrau ar tua 0.5 km o Lwybr yr Arfordir. Toiled yn Dale. Antur 1.1 km.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed De Kete (Cyfeirnod Grid: SM80080383)
Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cysylltiad at isffordd ar hyd yr arfordir, a maes parcio. Defnyddiwch faes parcio rhad ac am ddim yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Penrhyn y Santes Ann.

Rhybudd
Clogwyni Kete (Cyfeirnod Grid: SM80480315)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Rhybudd
Penrhyn y Santes Ann (Cyfeirnod Grid: SM80530312)

Heol breifat, tir preifat – dim parcio – defnyddiwch faes parcio Kete i gael mynediad at Benrhyn y Santes Ann.

Gwybodaeth
Goleudy y Santes Ann (Cyfeirnod Grid: SM80570295)

Adeiladwyd capel yma, wedi’i gysegru i’r Santes Ann, gan Harri VII ac roedd yn cynnwys goleufa dân a losgai yn y nos. Codwyd goleudy, a oleuwyd gan danau glo, ym 1713. Fe fyddai’r cychod a hwyliai heibio’n talu 1 geiniog am bob tunnell o gargo os oeddent yn gychod Prydeinig, a 2 geiniog y dunnell os oeddent o dramor. Daw’r adeiladau presennol o ganol y 19eg ganrif. Erbyn hyn, mae’r goleudy’n llwyr awtomatig. Gellir gweld y pelydrau am 20 milltir ac mae’n fflachio bob 5 eiliad.

Gwerth Edrych
Twll y Cobler (Cyfeirnod Grid: SM80550286)

Perygl, nid yw ymyl y clogwyn wedi’i warchod. Wrth gerdded tua’r de mae’r 250m diwethaf at Benrhyn y Santes Ann ar heol dawel iawn. Yn y man ble mae Llwybr yr Arfordir yn troi i mewn i’r cae, mae llwybr ar ochr arall yr heol yn arwain at Dwll y Cobler ble mae modd gweld plygiadau gwyrdroëdig Hen Dywodfaen Coch.


5. Penrhyn Santes Ann i Watwick 1.5 Milltir (3.22km)

Adran gweddol wastad heblaw am y bryn serth i lawr i Mill Bay ac i fyny eto. 0 sticil, 2 giât wiced, 1 giât mochyn, 50 o risiau. Golygfeydd da ar draws Dyfrffordd Aberdaugleddau Penrhyn Angle, tanceri olew ac mae’r cwch fferi i Iwerddon yn pasio’n aml.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Gwybodaeth
Bae’r Felin (Mill Bay) (Cyfeirnod Grid: SM80920347)

Ar 7 Awst 1485, fe laniodd Harri Tudur yma ar ôl hwylio o Ffrainc gyda byddin o 2,000 o ddynion. Ganed Harri ym Mhenfro, ac ef oedd hawliwr gorsedd Lloegr o blith Tŷ Lancaster. Wedi cynnull cefnogaeth, fe orymdeithiodd trwy Gymru gan drechu Richard III ym Mrwydr Bosworth, a chipio’r orsedd fel Harri VII.

Traeth
Bae’r Felin (Mill Bay) (Cyfeirnod Grid: SM80920347)

Cildraeth bach tywodlyd. Gofalwch rhag y metel miniog sydd hwnt ac yma oherwydd llongddrylliad.

Rhybudd
Blocws y Gorllewin (gorllewin) (Cyfeirnod Grid: SM81560352)

Nid yw’r llwybr troed a welir ar y rhan fwyaf o fapiau ar gael, oherwydd mae’n dangos trywydd cynharach Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n dilyn yr arfordir yn agosach erbyn hyn.

Gwybodaeth
Blocws y Gorllewin (Cyfeirnod Grid: SM81690359)

Ym Mlocws y Gorllewin mae hen safle magnelfeydd drylliau modern ar ochr y llwybr sydd agosaf at y tir. Tua’r môr mae Blocws y Gorllewin ei hun, sydd o gyfnod cynharach.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Blocws y Gorllewin (dwyrain) (Cyfeirnod Grid: SM81760379)

Cysylltiad at ‘heol wen’ sy’n llwybr troed cyhoeddus sy’n cynnig llwybr i ddychwelyd i Dale, tua’r tir. 1 milltir i’r heol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Bae Watwick (Cyfeirnod Grid: SM81490409)
Mae llwybr troed sy’n rhoi mynediad i’r traeth yn croesi Llwybr yr Arfordir, gan gysylltu at ‘heol wen’ sy’n llwybr troed cyhoeddus ac yn cynnig ffordd i ddychwelyd i Dale, tua’r tir. Disgyn yn serth, gyda grisiau, am 200m at y traeth, 0.7 milltir i’r heol.

Traeth
Bae Watwick (Cyfeirnod Grid: SM81690404)
Small to medium sandy cove. Watwick Bay is another delightful Traeth that has an almost Caribbean appearance at times, usually with calm water that feels cold.


6. Watwick i Gaer Dale 1.3 Milltir (1.61km)

Os ydych yn dod o Flocws y Gorllewin, mae hon yn adran gweddol wastad ond ger Dale Fort mae yna ychydig o fryniau canolig. 9 giât wiced, 35 o risiau. Mae’r llwybr yn pasio trwy goetiroedd, mae yna rai pyllau dyfrhau (ar gyfer tato cynnar) yn agos at y llwybr – digonedd o weision y neidr a mursennod yn eu tymor.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Gwybodaeth
Golau Arweiniol Watwick (Cyfeirnod Grid: SM82130443)
Mae Golau Watwig yn un o gyfres o oleufâu o wahanol batrymau sy’n arwain cychod yn ddiogel i’r Aber.

Traeth
Traeth y Castell (Cyfeirnod Grid: SM81920501)

Traeth bach tywodlyd, yn aml ag ysgeintiad o wymon.

Gwybodaeth
Caerau Dale (Cyfeirnod Grid: SM82300517)

Mae Caer Dale yn cynnwys Caer o’r Oes Haearn a Chae Fictoraidd. Mae’r gyfres o strwythurau amddiffynnol rhwng Blocws y Gorllewin a Blocws y Dwyrain, o amgylch yr Aber, yn rhychwantu miloedd o flynyddoedd – dyma un o’r nodweddion ychwanegol o ddiddordeb ar hyd y Llwybr.


7. Caer Dale i Bentref Dale 0.8 Milltir (1.61km)

Bryn hir a graddol ar hyd heol gul. Nid yw’r llwybrau sy’n gadael y prif lwybr trwy’r coed yn lwybrau y gallwch eu dilyn yn lle’r prif lwybr. Gwyliwch am y danadl os oes cae yn dod. Pan welwch gipolwg ar syrffwyr gwynt rhwng y coed cewch flas ar bwysigrwydd Dale fel canolfan ar gyfer chwaraeon dŵr.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr troed trwy dir fferm (Cyfeirnod Grid: SM81270558)

Llwybr troed yn ymuno yn agos at Dale, ac yn cynnig cylch daith trwy Fferm Maryborough a Watwig, neu lwybr sy’n osgoi mwyafrif adran yr heol. 1.4 milltir i Fae Watwick.

Cyflesterau
Tafarn y Griffin (Cyfeirnod Grid: SM81150568)
Bwyd a diod.

Cyflesterau
Pentref Dale (Cyfeirnod Grid: SM81150568)

Tafarn, siop, caffi ayyb.

Gwybodaeth
Dale (Cyfeirnod Grid: SM81090569)

Mae dyffryn Dale yn nodi llinell ffawt ddaearegol bwysig sy’n ymestyn tua’r dwyrain mor bell â Dinbych-y-pysgod. Pan oedd lefel y môr yn uwch, roedd y dyffryn yn swnt cul rhwng penrhyn Dale a’r prif dir. Erbyn hyn, mae pen gorllewinol y dyffryn wedi ei blygio gan weddillion rhewlifol. Mae gan Dale draddodiad morwrol hir. Yn yr 16eg ganrif roedd yn un o’r porthladdoedd pwysicaf yn Sir Benfro, ac roedden nhw’n dal i adeiladu cychod yma yn y 1850au.

Traeth
Heolydd Dale (Cyfeirnod Grid: SM81340577)

Oherwydd y bae mawr, cysgodol hwn, mae Dale yn ganolfan boblogaidd iawn ar gyfer chwaraeon dŵr.

GWELD YR ADRAN HON AR STREET VIEW

Martin's Haven (Cyfeirnod Grid: SM760091)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir