Clogwyni 30 i 70m o uchder gan fwyaf, â tharddiad folcanig. Clogwyni crwn ble mae'r graig yn gryf ac yn galed, ond maen nhw'n serth ble mae'r strata'n wan. Llethrau serth mewn ambell fan. Nodwedd o gymeriad yr adran hon yw'r brigiadau caregog aml a'r cerrig folcanig rhydd. Digon o eithin a grug, gyda gwledd ddramatig o liw ym mis Awst.

1. Y Cwm, Abergwaun i’r Parrog, Wdig 1.7 Milltir (3.22Km)

Mae tair adran sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, sef y Dref Isaf, y Daith Forol a’r Parrog, Wdig, yn cael eu gwahanu gan lethrau serth neu risiau. Enw arall ar yr adran o Lwybr Arfordir Sir Benfro sy’n mynd dros y Clogwyni o amgylch Abergwaun yw’r Daith Forol.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Gwybodaeth
Y Cwm, Abergwaun (Cyfeirnod Grid: SM962371)
Ceg yr afon Gwaun
Pan fyddwch chi gyferbyn â Chaer Abergwaun mae yna olygfa drawiadol yn ôl tuag at y Dref Isaf a Chwm Gwaun, sy’n benthyg ei enw i’r dref – Abergwaun (ceg yr afon Gwaun). Cerfiwyd y dyffryn serth hwn gan ddŵr tawdd yn llifo o dan haenen o iâ. Mae’r clogwyni ar ochr ddwyreiniol y gilfach yn dangos amlygiadau trawiadol o greigiau folcanig, sy’n ganlyniad i ffrwydriadau pwerus o dan y dŵr yn ystod y cyfnod Ordoficaidd, rhyw 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Gwthiwyd yr haenau i fyny ar eu pen wrth i gyfandiroedd a oedd yn drifftio wrthdaro.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn – Taith Forol (Dwyrain) (Cyfeirnod Grid: SM962371)
Taith Forol (Dwyrain), Y Cwm, Abergwaun SM962371 i SM960371
Rhodfa wastad o darmac gyda seddau, yn dechrau o faes parcio ‘Skirmisher’ ac yn diweddu wrth droed bryn serth (220m) neu fe allwch chi barcio ar ochr arall y bont a dilyn y palmant i’r hen gei (440m). I safon BT. Golygfeydd ar draws yr hen borthladd. Toiledau yn Abergwaun, y Sgwâr a Heol y Gorllewin. Cadeiriau Olwyn 660m.

Cyflesterau
Abergwaun (Cyfeirnod Grid: SM956372)
Tref fach a adeiladwyd ar lethrau’r bryn, gydag amrywiaeth lawn o siopau a gwasanaethau.

Gwybodaeth
Tair Tref (Cyfeirnod Grid: SM956371)
Dwy ganrif yn ôl, roedd Tref Isaf Abergwaun yn ganolfan fasnachu bwysig. Roedd dros 50 cwch yma, yn allforio corn, menyn, pysgod a llechi i Iwerddon, Bryste a Gogledd Cymru. Dirywiodd y masnachu arfordirol gyda dyfodiad y rheilffordd, ond wedi cwblhau harbwr newydd a therfynfa rheilffordd newydd yn Wdig yn 1906, sefydlwyd Abergwaun fel porthladd cychod fferi ar gyfer Môr Iwerddon. Digwyddiad hanesyddol enwocaf Abergwaun oedd ymosodiad y Ffrancod yn 1797 (gweler F). Mae yna dapestri drawiadol, a grewyd i ddathlu 200 mlynedd ers yr ymosodiad, i’w gweld yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, er, efallai y caiff gartref wedi’i adeiladu’n arbennig ar ei chyfer cyn hir. Gellir gweld carreg i goffau Jemima Niclas, a fu’n taclo rhai o’r ymosodwyr ar ei phen ei hun, yn Eglwys y Santes Fair. Yn Nhafarn y Royal Oak, gellir gweld y bwrdd ble’r arwyddwyd amodau’r ildio. Am fwy o wybodaeth am Abergwaun, holwch yn y Canolfannau Croeso yn y Sgwâr neu yn Wdig.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn – Taith Forol (Gorllewin) (Cyfeirnod Grid: SM950375)
Taith Forol (Gorllewin), Abergwaun SM950375
Mae’n dechrau fel taith balmantog, 140m, sydd ychydig yn anwastad ac yn sigledig, yna’n lwybr o hen darmac, sy’n anwastad mewn mannau. Ar ôl 50m arall, mae’r llwybr yn disgyn ar raddiant o tua 1 mewn 9 am 40m, yna’n dod yn wastad ac yna, ar ôl 50m arall, mae’n codi ar raddiant o tua 1 mewn 9 am 30m. Ar ôl cynnydd graddol, mae’r codi’n ailddechrau tua 1:9. Efallai y byddai’n bosib i gadeiriau olwyn traws gwlad daclo 500m pellach. Digon o seddau. Toiledau ar Sgwâr Abergwaun ac yn Stryd y Gorllewin.
Cadeiriau Olwyn 300m ac hefyd 0.5km o Fynediad Hwylus.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio’r Daith Ffrengig (Cyfeirnod Grid: SM950375)
Man parcio bach i geir (6 char).

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Pont Wdig
Man parcio bach i rhyw 10 car.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn – Y Parrog, Wdig (Dwyrain) (SM946380)
Parciwch ar lan y môr, ochr Abergwaun. Llwybr wedi’i greu’n arbennig ar gyfer cadeiriau olwyn, gydag arwyneb o gerrig . Nid oes unrhyw raddiannau o bwys na goleddf croes. Seddau a Dehongli. Llwybr ar hyd cawsai glan môr ond digon o bellter o’r môr. Golygfeydd o’r môr, porthladd cychod fferi, godiroedd, ardal chwarae a, tua’r tir, mae yna dir cors sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Llwybr yn cysylltu at lwybr y Parrog, Wdig (Gorllewin) a’r toiledau RADAR ar draws llwybr 20m o borfa fer sydd wedi’i atgyfnerthu gyda gwe plastig. Cadeiriau Olwyn 400m.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Glan Môr Wdig
Maes parcio canolig, rhad ac am ddim. Toiled. Caffi. Gwybodaeth.


2. Y Parrog, Wdig i Harbour Village 1 Milltir (1.61Km)

Nid oes gan y Llwybr Cenedlaethol lwybr dynodedig trwy’r trefi mwy, mae’r mapiau a’r tywyslyfrau yn dangos llwybrau amrywiol sydd wedi eu hargymell, yna fe all cerddwyr ddewis y llwybr mwyaf addas iddynt, gan ddibynnu os oes angen llety a chyflenwadau. Marciwyd llwybr trwy’r trefi gydag arwydd y fesen ar byst goleuadau ac arwyddion ffordd, fel arfer yn uchel i fyny, ond mae fandaliaid a phaent newydd yn gallu achosi iddynt ddiflannu o’r golwg. Fe’ch cynghorir i ddefnyddio map. O’r Pasg 2009, fe fydd arwyddion brown gydag arwydd y fesen yn cael eu hychwanegu at byst arwydd ar strydoedd ayb, felly chwiliwch am y rhain nawr rhwng Cil-maen, Penfro a Gellyswick. Chwliwch hefyd am symbol y fesen ar arwyddion llwybr troed gwyrdd y Cyngor Sir.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cadeiriau Olwyn – y Parrog, Wdig (Gorllewin) (Cyfeirnod Grid: SM946380)
Parciwch ar lan y môr ger y fynedfa i derfynfa’r cychod fferi. Rhannau yn balmant, rhannau yn arwyneb tebyg i friciau. Dim graddiannau o bwys na goleddf croes. Mae’r 200m i’r de-ddwyrain yn ardal boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr, ac mae yma seddau. Mae’r 500m gogledd-orllewinol yn dilyn copa wal y môr tu allan i gompownd ciwio’r cychod fferi – dim seddau. Toiledau ar ochr ddwyreiniol yr adeilad chwaraeon dŵr. Cadeiriau Olwyn 0.7km.

Cyflesterau
Tref Wdig (Cyfeirnod Grid: SM944382)
Amrywiaeth da o lety, tafarndai a bwytai.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Sgwâr Wdig (Cyfeirnod Grid: SM944382)
Arosfan bysiau (Gwibfws Strwmbwl – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Abergwaun).

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Cyswllt Rheilffordd a Chychod Fferi Wdig (Cyfeirnod Grid: SM951388)
Mae trenau o Lundain hanner nos a hanner dydd yn cwrdd â’r cwch fferi o Rosslare.


3. Harbour Village i Garnfathach 1.4 Milltir (1.61Km)

Graddiannau ysgafn gan fwyaf, godiroedd crwn a gwyllt gyda brigiadau caregog, 3 gatiau, dwy ohonynt yn mochyn. Mae defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Harbour Village (Cyfeirnod Grid: SM949391)
Maes parcio bach i tua chwe char. Arosfan bysiau (a wnewch chi adael lle i’r bws droi). Golygfeydd ar draws Bae Abergwaun.

Gwerth Edrych
Pen Anglas (Cyfeirnod Grid: SM949405)
Dilynwch y llwybr llai amlwg yn syth ymlaen o’r ail giât i weld y brigiadau basalt colofnog ym Mhen Anglas. Dyma’r un math o graig-ffurfiadau a welir yng nghawsai Giant’s Causeway yn Iwerddon.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Crincoed (Cyfeirnod Grid: SM947399)
Llwybr â chaniatâd sy’n cysylltu at gyfres o deithiau cylch tua’r tir.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr y Ciliau (Cyfeirnod Grid: SM939403)
Llwybr â chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – yn aml yn gorsiog, cysylltu â Llanwnda neu’n dychwelyd at Harbour Village. Wrth ychwanegu’r llwybr nesaf (Aber Felin), cewch gylched ddymunol o amgylch Llanwnda (tir fferm, gall fod yn fwdlyd, gwartheg yn y caeau).


4. Carnfathach i Ben Caer 4.2 Milltir (6.44Km)

Rhai llethrau serth, clogwyni uchel sy’n malu i gyfeiriad y môr rhwng y clogwyni mwy caled a chrwn. 120 o risiau, 9 gatiau mochyn, 10 giât wiced. Mae yna gynlluniau pori arfordirol yma: ceffylau ar yr ochr orllewinol rhwng Strwmbwl a Phorthsychan; gwartheg rhwng Wdig a Charregwastad; defaid yn y canol! A wnewch chi gadw cŵn dan reolaeth agos.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn (Cyfeirnod Grid: SM930402)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Llanwnda
Mae’n cynnig cyswllt i Lanwnda, neu cyfle i ddychwelyd at Harbour Village. Wrth ychwanegu llwybr y Ciliau – (Llwybr â chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) GR SM 939403, cewch gylched fach ddymunol o amgylch Llanwnda (tir fferm, gall fod yn fwdlyd, gwartheg yn y caeau).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Tre Howel/Castell (Cyfeirnod Grid: SM925403)
I fyny’r tyle, traciau concrid gan fwyaf, dychwelyd at isffordd. Gellir cael cylched arall trwy ddefnyddio’r ‘heol wen’ (mae hon yn ffordd gyhoeddus fach iawn), i Lanwnda neu Wdig.

Gwybodaeth
Carreg Goffa (Cyfeirnod Grid: SM926404)
Ar Chwefror 22 1797, yn ystod Rhyfel Napoleon, gwelwyd pedair cwch Ffrengig yn angori oddi ar Garregwastad a 1,400 o filwyr yn dod oddi arni. Roedd llawer yn gyn-garcharorion a’u Comander oedd yr Americanwr William Tate, yr oedd ei wybodaeth o’r Ffrangeg yn gyfyngedig. Sefydlwyd eu pencadlys yn Fferm Trehowel gerllaw, ac fe’u gwelwyd yn meddiannu penrhyn Pen Caer, gan ysbeilio ffermydd, lladd gwartheg a meddwi. Yn y pendraw, fe’u gwelwyd yn ildio ar Draeth Wdig.

Rhybudd
Llethrau Caregog (Cyfeirnod Grid: SM924405)
Llethrau Caregog. Rhai llethrau caregog serth – byddwch yn arbennig o ofalus mewn tywydd gwlyb.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Goodhope (Cyfeirnod Grid: SM912406)
Trac garw sy’n dychwelyd yn hamddenol i fyny’r tyle at isffordd a theithiau cylch lefel uchel. Neu, trowch i’r dde i ddilyn llwybr trwy gae at Borthsychan.

Traeth
Traeth Porthsychan (Cyfeirnod Grid: SM905407)
Bae mawr gyda thraeth bach caregog, sy’n boblogaidd gyda morloi. Peidiwch â mynd at y morloi bach, cadwch gŵn ar dennyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Tresinwin (Cyfeirnod Grid: SM905407)
Trac garw a gwlyb i fyny’r tyle sy’n dychwelyd at isffordd trwy fferm. Mae’n cynnig cylched ar yr heol o Ben Caer.

Gwybodaeth
Pen Caer (Cyfeirnod Grid: SM898415)
Mae’r pentir yn cynnwys creigiau a ffurfiwyd gan weithgarwch folcanig yn ystod y cyfnod Ordoficaidd. Fe oeroedd lafa o ffrwydriadau o dan y môr yn gyflym i ffurfio siapiau gobennydd, tra gwelwyd ffrwydriadau diweddarach yn chwistrellu mwy o graig tawdd rhwng y llifau lafa presennol. Gellir gweld y craig-ffurfiadau hyn wrth i chi ddod at y pentir, yn enwedig o gwmpas bae bach Porthsychan.


5. Pen Caer i Bwll Deri. 2.8 Milltir (4.83Km)

Golygfeydd gwyllt, agored, llystyfiant sy’n nodweddiadol o fynyddoedd ar y clogwyni o lafa clustog (magma sy’n ymwthio allan o dan y dŵr) sy’n grwn gan fwyaf. Mae’r graddiannau mwyaf serth ger Pwll Deri. 2 sticil, 22 o risiau, 4 giât. Defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Cyflesterau
Cysgodfan Pen Caer (Cyfeirnod Grid: SM898413)
Mae Pen Caer yn enwog fel lle i wylio adar y môr, adar sy’n mudo a bywyd morol. Dyma hen fan gwylio o’r Ail Ryfel Byd ac mae’n cynnig cysgod i’r rheiny sydd am wylio bywyd gwyllt, gyda rhai byrddau dehongli tu mewn. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol wedi cyflwyno merlod i bori’r pentir, i wella ansawdd y glaswelltir a’r gweundir ar gopa’r clogwyni sy’n bwysig i fywyd gwyllt.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Pen Caer (Cyfeirnod Grid: SM894412)
Arosfan bysiau (Gwibiwr Strwmbwl – dychwelyd ddwy waith y dydd – Tyddewi i Abergwaun). Dau fan parcio i ddal dros 20 o geir.

Gwybodaeth
Goleudy Pen Caer (Cyfeirnod Grid: SM892412)
Un o nifer o oleudai o amgylch arfodir Penfro. Mae yna eirwyau môr dramatig oddi ar y arfordir yma a pherygl o greigiau o dan y dŵr. Adeiladwyd y goleudy yn 1908 ac fe gostiodd £70,000. Erbyn hyn, mae’n llwyr awtomatig. Mae’r golau’n fflachio bedair gwaith bob 15 eiliad a gellir ei weld o rhyw 50km (dros 30 milltir). Mae’r corn niwl yn seinio bedair gwaith y funud a gellir ei glywed am 8km (5 milltir).

Gwybodaeth
Pen Brush (Cyfeirnod Grid: SM886394)
Hen Adeiladau’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Cynllun pori arfordirol.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn. Llethrau Caregog (Cyfeirnod Grid: SM889391)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai llethrau caregog serth – byddwch yn arbennig o ofalus mewn tywydd gwlyb. Porth Maenmelyn, traeth preifat prin gyda chlo ar fynediad.

Gwerth Edrych
Dinas Fawr (Cyfeirnod Grid: SN887386)
Mae’r Gaer Benrhyn ddramatig o’r Oes Haearn sydd ar yr arfordir yn cyferbynnu gyda Bryngaer Garn Fawr sy’n sefyll 200 metr uwchben.

Gwerth Edrych
Morloi Pwll Deri (Cyfeirnod Grid: SM889386)
Mae’r traethau cudd bob ochr i wrthgloddiau Dinas Fawr yn llefydd da i weld morloi bach (a hynny heb darfu arnyn nhw) yn yr Hydref. Byddwch yn ofalus oherwydd mae’r clogwyni’n serth.

Cyflesterau
Hostel Ieuenctid YHA Pwll Deri (Cyfeirnod Grid: SM892387)
Hostel Ieuenctid yn un o’r lleoliadau mwyaf trawiadol ym Mhrydain.

Gweld yr adran hon ar Street View

Y Cwm, Abergwaun (Grid ref: SM962371)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir