Yr adran rhwng Llandudoch a dref Trefdraeth yw rhan fwyaf heriol Llwybr yr Arfordir. Mae'n 15.5 milltir o hyd gyda bryniau serth iawn yn aml. Nid oes unrhyw wasanaethau rhwng Poppit a thraeth Trefdraeth. Dylai cerddwyr sicrhau eu bod wedi paratoi'n iawn ac yn dod â digon o fwyd, diod a dillad. Efallai y byddai'n syniad i gerddwyr sy'n debygol o gael yr adran hon yn rhy anodd dreulio deuddydd ar yr adran hon, gan aros am egwyl yn Nhrewyddel (Mae Trewyddel 0.8 milltir tua'r tir o Geibwr. Yn Nhrewyddel, mae yna: Toiled, arosfan bysiau (achlysurol), maes parcio bach, dau Wely a Brecwast bach - angen archebu lle'n gynnar).

Cymeriad y daith: Ffordd.

Cyfleusterau
Abertief (Cyfeirnod Grid: SN177461)

Tref marchnad gydag amrywiaeth dda o wasanaethau. Cysylltiadau bws da i Aberystwyth, Caerfyrddin a Hwlffordd. Dechrau/diwedd Llwybr Arfordir Ceredigion.

Cyfleusterau
Llandudoch (Cyfeirnod Grid: SN162460)

Pentref mawr gyda siopau bach, tafarndai a llety. Mae Llwybr yr Arfordir yn dechrau wrth y llythrffordd ger tafarn y Ferry Inn. Mae yna wasanaeth bws i Poppit ac i Aberteifi.

Gwerth edrych
Poppit Sands Traeth (Cyfeirnod Grid: SN151487)

Mae’r traeth hwn, ar geg yr Afon Teifi, yn lle poblogaidd ar gyfer hamdden. Mae’r twyni’n bwysig ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig planhigion prin fel y tegeirian gwenynog. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn rheoli dros 20 hectar (50 erw) o dwyni, corsydd a thir pori yma. Un o’i brosiectau yw troi’r prysgwydd helyg tu ôl i’r twyni yn ôl yn wely cyrs. Ar ochr dwyreiniol y twyni, mae’r erydiad wedi ffurfio clogwyni tywod dros 4 metr (13 troedfedd) o uchder. Byddwch yn ofalus wrth ymyl y rhain, oherwydd fe allent syrthio. Mae twyni newydd yn cael eu ffurfio’n agos i brif fynedfa’r traeth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Poppit Sands (Cyfeirnod Grid: SN151487)

Arosfan bysiau (Roced Poppit – dychwelyd dair gwaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol (tâl yn ystod y tymor), caffi, toiled radar, toiled. Mynediad i gadeiriau olwyn i draeth mawr â digon o dywod sydd â gwobr y faner las.


2. Traeth Poppit i grid gwartheg Allt-y-goed
1.4 Milltir (1.61km)

Heol dawel, serth, un trac gyda golygfeydd da. Oherwydd y llwybrau sy’n ymuno â’r llwybr, mae yna sawl opsiwn ar gyfer teithiau cylch tua’r tir.

Cymeriad y daith – Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Pedwar Llwybr
Oherwydd y pedwar llwybr sy’n cwrdd â’i gilydd mae yna ddigon o opsiynau ar gyfer teithiau cylch o wahanol hydoedd tua’r tir. Yng nghyfeirnod grid SN150484, SN147486, SN144487, SN141488.

Cyfleusterau
Hostel Ieuenctid Seaview (Cyfeirnod Grid: SN144488)

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr i Gei-bach (Cyfeirnod Grid: SN143488)
Llwybr â chaniatâd rhannol at draeth bach, gyda mynediad o Draeth Poppit pan fydd y llanw’n isel hefyd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr i Ben Cemaes  (Cyfeirnod Grid: SN139490)
Fel arfer, mae’r tua 150m cyntaf yn wlyb iawn ac mae yna dipyn o fwd. Mae’n dechrau fel llwybr ceffylau ond yna mae yna lwybr cerdded yn unig i Ben Cemaes. Yn wreiddiol, dyma’r llwybr at adeilad gwylio Gwylwyr y Glannau.


3. Grid gwartheg Allt-y-goed i lwybr Pen Cemaes
1.2 milltir (1.61km)

Clogwyni uchel sydd â ffawtiau trawiadol a golygfeydd draw at Ynys Aberteifi. 1 sticl gyda mynediad i gŵn, 25 o risiau, graddiannau ysgafn yn bennaf. Mae ceffylau’n pori ar Ben Cemaes.

Cymeriad y daith – Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Gwerth edrych
Man Gwylio’r Teifi
Golygfeydd da draw at Ynys Aberteifi ac o’r aber. Mae llawer o’r pentir yn warchodfa natur sy’n eiddo i Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru. Chwiliwch am heligogod, mulfrain, gwylanod y graig a gweilch y penwaig sy’n nythu ar y clogwyni yn y Gwanwyn ac yn gynnar yn yr Haf. Efallai hefyd y gwelwch chi’r frân goesgoch brin yn bwydo ar lethrau glaswelltog neu’n gwneud ei thriciau nodweddiadol yn yr awyr. Mae prosiect a weithredir ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol, wedi cyflwyno merlod i bori’r pentir, er mwyn gwella ansawdd y gweundir a’r glaswelltir ar gopa’r clogwyni. Fe fydd hyn yn helpu’r frân goesgoch i oroesi. Mae Pen Cemaes yn lle da i weld dolffiniaid trwynbwl hefyd.

Gwybodaeth
Man Gwylio Pen Cemaes

Man Gwylio Gwylwyr y Glannau sydd ddim yn cael ei ddefnyddio bellach.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cnwcau
Mae hen Fan Gwylio Gwylwyr y Glannau yn ymuno gan gynnig taith gylch yn ôl tuag at Poppit. Dilynwch y llwybr cyhoeddus i lawr y tyle hyd nes y mae’n ymuno â llwybr ceffylau, ewch yn syth ymlaen (peidiwch â throi i’r dde) a dewch nôl at yr heol yn Cnwcau (gwlyb a mwdlyd ar y gwaelod).


4. Pen Cemaes i Bwllygranant
1.1 milltir (1.61km)

Llwybr uchel ar draws y clogwyn gyda golygfeydd gwych o glogwyni serth yn agos a Bae Trefdraeth yn y pellter. Un sticl â mynediad i gŵn, disgyn ac esgyn yn serth o 400′ hyd at yn agos at lefel y môr.

Cymeriad y daith – Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Rhybudd
Llwybr yn agos at yr ymyl
Byddwch yn ofalus pan fydd y tywydd yn wyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth edrych
Daeareg Cemais
Mae daeareg y rhan hon o’r arfordir yn ysblennydd. Mae’r clogwyni yn cynnwys haenau tenau o dywodfaen bob yn ail â cherrig llaid. Cynhyrchwyd yr haenau gan dirlithriadau tanddwr, a ysgubodd dywod o’r silff arfordirol i fwd ar wely’r môr dwfn, tua 440 miliwn o flynyddoedd yn ôl ar ddiwedd y cyfnod Ordofigaidd. Rhyw 50 miliwn o flynyddoedd yn ddiweddarach, cywasgwyd yr haenau hyn gan wrthdrawiad dau gyfandir, gan ffurfio’r plygiadau rhyfeddol sydd i’w gweld yn y clogwyni rhwng Pen Cemaes a Bae Ceibwr. Mae golygfa arbennig o dda o’r plygiadau hyn o bentir gorllewinol Bae Ceibwr, gan edrych yn ôl tuag at Ben Cemaes.

Rhybudd
Glannau Pwllygranant

Peidiwch â chael eich temtio i fentro at y lan fan hyn, mae’r creigiau’n llithrig iawn ac yn serth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Pwllygranant 

Llwybr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd â chaniatâd rhannol. Mae’n cynnig taith gylch yn ôl tuag at Poppit neu Geibwr – cyswllt at lwybr cyhoeddus, sy’n codi’n serth trwy ddyffryn coediog. Trowch i’r chwith wrth gyffordd y llwybr isaf neu’r llwybr ceffylau er mwyn dychwelyd ar lwybr traws gwlad i Poppit. Neu, dringwch i fyny at yr heol a throwch i’r dde wrth y llwybr ceffylau nesaf i ddychwelyd i Geibwr. Nid oes lle i barcio wrth ymyl yr heol (tractorau anferth yn troi).


5. Pwllygranant i Geibwr
2.1 milltir (3.22km)

Clogwyn agored gyda disgynfeydd ac esgynfeydd serth o 400’ hyd at yn agos at lefel y môr. Ger Pencastell, mae yna lai o fryniau ar hyd y llwybr, mae yna 2 sticil ar hyd y rhan yma, ac nid oes darpariaeth i ganiatau mynediad i gŵn ar un o’r sticlau. Mae defaid yn pori’r rhan fwyaf o’r adran hon.

Cymeriad y daith – Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Rhybudd
Ymyl y clogwyn
Ymyl y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Pencastell

Mae Pencastell (ar dir preifat) yn safle Bryngaer o’r Oes Haearn – un o rhyw 50 ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ceffylau Pencastell

Teithiau cylch yn ymuno: Uwchben Pencastell, dilynwch y trac tua’r gogledd ar gyfer llwybr, sydd oddi ar y ffordd yn bennaf, at Poppit (neu Bwllygranant).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ceffylau Ceibwr
Rhwng Ceibwr a Phencastell, dilynwch arwyddion y llwybr ceffylau i gael llwybr mwy ysgafn. Mae pedwar llwybr cyhoeddus yn ymuno â’r llwybr ceffylau gan gynnig teithiau cylch amrywiol.

Cyfleusterau
Penrallt Ceibwr

Cymerwch y llwybr agosaf at Gaerwen ac fe allwch ddilyn llwybr coediog serth at yr ystafell de a’r blanhigfa.

Cyfleusterau
Trewyddel
Mae Trewyddel 0.8 milltir tua’r tir o Geibwr. Arosfan bysiau (Roced Poppit – dychwelyd dair gwaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio bach. Toiled. Dau Wely a Brecwast bach – rhaid cadw’ch lle’n gynnar.


6. Ceibwr i Bwll-y-wrach
0.9 milltir (1.61km)

Mae yna raddiannau ysgafn ar hyd Llwybr yr Arfordir yn yr adran hon ac, er bod yr arwyneb yn eithaf garw, nid oes unrhyw sticlau na grisiau. Dyma adran hyfryd i gerddwyr sy’n llai abl. Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn isffordd am rhyw 200m yng Ngheibwr.

Cymeriad y daith – Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Ceibwr
Lle i rhyw chwe char barcio wrth ymyl yr heol. Arosfan bysiau yn Nhrewyddel (Roced Poppit – dychwelyd dair gwaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Mae llawer o’r tir yn y fan yma’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tair sedd. Mynediad i draeth caregog.

Gwybodaeth
Bae Ceibwr

Yng nghildraeth caregog Ceibwr mae yna dystiolaeth o orffennol daearegol mwy diweddar. Gwnaed Cwm Trewyddel, y dyffryn ble mae Nant Ceibwr yn llifo, yn fwy dwfn gan ddwr tawdd rhewlifol yn ystod Oes yr Iâ, ac mae rhan isaf y dyffryn wedi’i flocio’n rhannol gan weddillion rhewlifol. Mae’r llwyfandir gwastad ger sylfaen pentir gorllewinol y cildraeth yn gyfordraeth hynafol, ac mae cerrig crwn y traeth wedi’u smentio’n naturiol. Ffurfiwyd hwn tua 125,000 o flynyddoedd yn ôl pan yr oedd lefel y môr yn 5 metr (16 troedfedd) yn uwch nag ydyw nawr.

Rhybudd
Ymyl clogwyn yng Ngharreg Wylan
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Pwll-y-wrach
Chwythdwll yw Pwll-y-Wrach, a grëwyd gan ddymchweliad to ogof. Mae yna dramwyfa gul yn ei gysylltu at y môr. Mae’r nant sy’n llifo i lawr y dyffryn cyfagos yn diflannu o dan y ddaear ac yn gwacau i mewn i’r “pwll”. Ar ochr gyferbyn y dyffryn mae Castell Trerufydd, un o nifer o Gaerau o’r Oes Haearn a welir ar hyd Llwybr yr Arfordir.


7. Pwll-y-wrach i Draeth Trefdraeth
6 milltir (9.66km)

Adran ddiarffordd yn llawn sialens gyda 9 o sticlau, 200 o risiau a nifer o raddiannau serth. Nid oes darpariaeth i ganiatáu mynediad i gŵn drwy’r rhan fwyaf o’r sticlau. Llwybr uchel dros y clogwyni gyda golygfeydd gwych. Carpedi o glychau’r gog a thegeirianau yn hwyr yn y Gwanwyn. Mae ceffylau a defaid yn pori’r godiroedd uwchben Cell Howell, ger Blaenmeini, a gwartheg ger Treruffydd.

Cymeriad y daith – Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Castell Treruffydd
Cyffordd gyda llwybr tua’r tir. O Gastell Treruffydd (Bryngaer Oes Haearn), sy’n prysur ddadfeilio, mae llwybr sy’n aml yn fwdlyd yn codi trwy Fferm y Cadno i ymuno â ffordd yr arfordir. Dyma’r unig allanfa rhwng Ceibwr a Thraeth Trefdraeth.

Rhybudd
Pen Pistyll
Er ei fod yn apelio, ni chynghorir disgyn i’r traeth o bont droed Pen Pistyll am ei fod, er nad yn bell iawn, dros greigiau llithrig sydd bron yn fertigol.

Rhybudd
Clogwyn uchel

Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Traeth Trefdraeth
Arosfan bysiau (Roced Poppit – dychwelyd ddwywaith y dydd – Aberteifi i Abergwaun). Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol, codir tâl yn ystod y tymor. Toiled hygyrch. Ciosg lluniaeth yn ystod y tymor.

Traeth
Traeth Mawr Trefdraeth
Traeth sy’n llawn tywod ac ar lethr ysgafn ble gellir ymdrochi ar gefndir o dwyni. Man da iawn i ymlacio wedi cerdded o Poppit!


8. Traeth Trefdraeth i Barrog Trefdraeth
1.7 milltir (3.22km)

Mae’r adran hon yn dilyn glannau’r afon Nyfer, rhyw 1km tua’r tir, i groesi’r afon yn y Bont ‘Haearn’. Dyma daith gysgodol trwy goetir ifanc, ac mae’r aber yn bwysig i rydwyr ac adar eraill. Ar adran ddeheuol y llwybr mae yna arwyneb a baratowyd ar gyfer cadeiriau olwyn. Ni chyflwynwyd unrhyw rwystrau i’r adran ogleddol a phan fydd y tywydd yn braf mae cadeiriau olwyn traws gwlad yn gallu ei dilyn; mae teuluoedd â chadeiriau gwthio (pushchairs) yn defnyddio dipyn ar yr adran hon.

Cymeriad y daith – Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Gwybodaeth
Twyni Tywod Trefdraeth

Yn y gorffennol, fe ddioddefodd y twyni yma am fod pobl yn eu sathru, ond fe’u sefydlogwyd gyda hesg môr a blannwyd gan y Parc Cenedlaethol.

Rhybudd Bryncyn
Croesi Llanw Bryncyn
Mae rhan fer o’r adran hon yn gorlifo pan fydd y llanw ar ei uchaf yn y Gwanwyn. Fwy na thebyg y byddai’n well aros tan iddo fynd allan (tua 1-2 awr), yn hytrach na cherdded y 3 milltir ychwanegol ar yr heol. Weithiau, mae’r llanw’n gadael pentyrrau o wymon a malurion yma.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Traeth Trefdraeth i’r Bont Haearn
Parciwch ym maes parcio Traeth Trefdraeth. (Mae yna dâl am barcio yn ystod y tymor ond fe all unrhyw un sydd â bathodyn glas barcio am ddim). Mae rhan gyntaf y llwybr yn croesi cwrs golff ac felly porfa fer ydyw gan fwyaf. Ar y 900m diwethaf, mae yna arwyneb o gerrig wedi’u rholio a fydd yn ailgynhyrchu llystyfiant gydag amser, tair giât gyda chloeon lletchwith. Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr yn wastad, neu mae’r graddiannau’n llai nag 1 mewn 25 ond mae yna bedair rhan, pob un yn llai na 50m o hyd, gyda graddiannau mwy serth – pob un yn llai nag 1 mewn 8. Yn ystod llanwai’r Gwanwyn, unwaith y pythefnos, mae ochr y llwybr ger y Bont Haearn yn gorlifo pan fydd y llanw’n uchel. Mae’r toiledau hygyrch agosaf ym maes parcio Heol Hir yn Nhrefdraeth. Mynediad Hwylus 1.4km

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Y Bont Haearn
Parcio cyfyngedig wrth ymyl y ffordd (tua 8 car) 3 sedd.

Gwybodaeth
Aber Nyfer
Mae aber cysgodol yr Afon Nyfer yn un o hoff leoliadau rhydwyr, hwyaid ac adar y môr. Chwiliwch am grëyr ger y Bont Haearn. Saif siambr gladdu Neolithig, Carreg Coetan, ychydig oddi ar yr heol sy’n arwain o’r bont i Drefdraeth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Y Bont Haearn i Drefdraeth Parrog
Trefdraeth Parrog SN 052397 i’r Bont Haearn SN 063395
O Faes Parcio’r Parrog, trowch i’r chwith yn ôl tuag at Drefdraeth, yna i’r chwith eto arno i Lwybr yr Arfordir. Llwybr o gerrig wedi’u rholio sydd wedi’i greu at y diben i safon BT; prin yw’r goleddf croes. Mae arwyneb y llwybr yn gallu gorlifo yn ystod y Gaeaf; caiff ei drwsio bob Gwanwyn. Er bod y llwybr yn wastad yn bennaf, mae yna rai graddiannau bach ac mae tipyn o feicwyr yn ei ddefnyddio. Mae perchennog y tir yn fodlon i bobl ifanc farchogaeth ar y llwybr hwn ond ni chaiff ei ddefnyddio fel hyn yn aml. Rhai seddau, giât ar yr ochr dwyreiniol. Toiledau ym maes parcio Heol Hir, Trefdraeth. Cadair Olwyn 1.1 km.

Cyfleusterau
Trefdraeth
Yn Nhrefdraeth mae yna siopau, gwestai, tafarndai, peiriant arian parod ay. ac mae tua chwarter milltir tua’r tir o Lwybr yr Arfordir. Mae Trefdraeth yn dref fach swynol. Fe’i sefydlwyd tua 1200 fel Novus Burgus, gan William Fitzmartin, Arglwydd Cemaes. Mae ei strydoedd yn dal i ddilyn y patrwm grid Normanaidd. Brwydrodd y Normaniaid a’r Cymry dros y castell a’r arglwyddiaeth, ac fe’u gwelwyd yn newid dwylo sawl gwaith. O’r 16eg ganrif ymlaen, daeth Trefdraeth i fod yn ganolfan fasnachu bwysig – roedd yn allforio gwlân, penwaig a llechi ac yn mewnforio briciau, calchfaen, teils a glo. Roedd adeiladu cychod yn ddiwydiant pwysig arall. Yn y Parrog roedd yna sawl warws cargo, ac mae un ohonynt bellach yn Glwb Cychod Trefdraeth. Gerllaw mae yna odyn galch, ble llosgwyd calchfaen i gynhyrchu calch i’w ddefnyddio wrth ffermio ac adeiladu, ac wrth ymyl yr odyn mae bwthyn ceidwad yr odyn. Am fwy o wybodaeth ar Drefdraeth, holwch yng Nghanolfan Wybodaeth y Parc Cenedlaethol yn Heol Hir.

Gweld yr adran hon ar Street View

Llandudoch (Cyfeirnod Grid: SN162460)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir