Fwy na thebyg mai dyma rhan fwyaf gwastad y llwybr, ond yn anffodus mae yna gyfyngiadau ar lawer ohoni oherwydd defnydd milwrol. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn faes tanio, oherwydd ei faint (deng milltir sgwâr) ac oherwydd y cyfyngiadau ar fynediad, ac am nad ydyw wedi cael ei drin na chnydau wedi eu tyfu arno ers rhyw 50 mlynedd, mae Maes y Gorllewin yn un o lochesi bywyd gwyllt pwysicaf Prydain ac mae'n dod o dan warchodaeth rhai o ddynodiadau cryfaf Ewrop. Gellir gweld tystiolaeth o lawer o'r uchod trwy groesi Maes y Dwyrain o Stack Rocks i Dde Broad Haven. Mae Maes y Dwyrain ar agor ar benwythnosau, gwyliau banc a gyda'r hwyr ar y mwyafrif o nosweithiau ar ôl tua 4.30p.m. ond mae'n well ffonio'r linell wybodaeth wedi'i recordio ar 01646 662367 neu ewch i wefan Gov.uk i sicrhau'r amserau. Erbyn hyn, nid oes unrhyw sticlau ar yr adran hon

1. Freshwater West i Bosherston (Maes Ar Gau) 7.2 Milltir (11.27km)

Mae’n werth holi ymlaen llaw a yw’r Maes ar gau’n llwyr, oherwydd fe fydd yn bosib i chi ddewis y llwybr fwyaf addas. (Ffoniwch 01646 662367 i glywed neges peiriant ateb gyda manylion y rhaglen danio ar gyfer y diwrnod canlynol). Maen nhw hefyd yn dweud y gellir cynnal ‘tanio heb ei amserlenni heb unrhyw rybudd ymlaen llaw ac y gellir canslo’r tanio heb rybudd’. Pan fydd Maes Castellmartin ar gau’n llwyr, mae Llwybr yr Arfordir yn parhau ar hyd yr heol, dilynwch yr heol fwyaf dwyreiniol sydd ddim ar gau, arno i’r B4319, heibio i Wersyll y Fyddin Merrion a throwch arno i’r isffordd trwy Fferm Lyserry i Fferm Cairew ac yna trowch arno i’r ‘heol wen’ – mae’r ‘heol wen’ yn heol gyhoeddus sydd mewn cyflwr gwael iawn. Yna, mae’r heol hon yn ymuno â’r brif heol ychydig cyn Bosherston. Anelwch at Freshwater West o Bosherston, trowch tua’r gorllewin arno i’r ‘heol wen’ ¼ milltir ar ôl Eglwys Bosherston. Ond, ar ôl gaeaf 2010, mae llwybr ceffylau caniataol, sef Llwybr Maes Castellmartin, yn cynnig opsiwn arall oddi ar yr heol. Mae’r ffordd wedi ei marcio gydag arwydd tanc ac mewn mannau mae’n croesi ffermydd gwartheg. Mae yna 31 giât wiced, ac ar hyn o bryd mae’r llwybr yn cael ei gynnal gan Y Fyddin. Mae’r adran rhwng Castellmartin a’r Wningar yn cynnig golygfeydd panoramig at yr arfordir, ar draws y maes cyfan.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Prif Faes Parcio Freshwater West (Cyfeirnod Grid: SR88589951)

Safle bysiau (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio mawr, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol a thoiledau.

Rhybudd
Perygl Tanciau – Maes y Gorllewin (Cyfeirnod Grid: SR88739917)

Nid yw Maes y Gorllewin (Stack Rocks i Freshwater West) ar agor i’r cyhoedd o gwbl, ac nid oes unrhyw hawliau tramwy. Ond, mae yna nifer o deithiau tywys dan arweiniad staff y Parc Cenedlaethol sydd wedi cael eu briffio’n benodol gan y fyddin ynglŷn â phryderon diogelwch a chadwraeth. Cynhelir teithiau cerdded o’r fath ar rai penwythnosau a gwyliau banc yn unig. Cysylltwch â’r Parc Cenedlaethol ar 08453 457275 am fanylion teithiau tywys.

Gwybodaeth
Maes y Dwyrain – Parth Peryglus (Cyfeirnod Grid: SE91549831)

Fel arfer, mae Llwybr yr Arfordir, llwybr ceffylau, o Sain Gofan i Stack Rocks (Maes y Dwyrain), ar gau yn ystod yr wythnos o 9yb tan 4.30yp. Maen nhw hefyd yn tanio yma yn ystod y nos ar tua hanner y diwrnodau hyn ac yn cau’r adran o 6.30yh tan 11.30yh. Ar tua chwarter o’r diwrnodau hyn, mae adran Llwybr yr Arfordir, llwybr troed, o Sain Gofan i Dde Aber Llydan, hefyd ar gau. Felly, os ydych am fod yn siŵr o gerdded ar Faes y Dwyrain ymlaen llaw – cynlluniwch daith yn ystod y penwythnos. Ffoniwch ffôn y fyddin, 01646 662367, i glywed neges ar beiriant ateb gyda manylion y rhaglen tanio. Maen nhw hefyd yn dweud y gellid cynnal ‘tanio heb ei amserlennu’ heb rybudd ymlaen llaw, ac y gellir canslo’r tanio heb rybudd.


2. Castellmartin i Staciau’r Heligog (Maes y Dwyrain Ar Agor) 3.1 Milltir (4.83km)

Mae Maes y Gorllewin wastad ar gau heblaw am deithiau tywys. Ar ôl cerdded i Gastellmartin, trowch i’r dde wrth gylchfan y pownd gwartheg, yna i’r dde eto (ar ôl tua 2 filltir) wrth yr arwydd i Stack Rocks. Mae Llwybr yr Arfordir yn ailymuno â’r Arfordir yn Stack Rocks

Cymeriad y daith: Ffordd.


3. Staciau’r Heligog i Sant Gofan 3.1 Milltir (4.83km)

Llwybr ceffylau sydd dipyn i ffwrdd oddi wrth ymyl y clogwyn, ond mae yna lwybrau anffurfiol ar hyd y clogwyn. Mae rhan o’r llwybr ceffylau’n drac o gerrig ac mae rhan yn heol asffalt. Graddiannau ysgafn iawn, 0 sticil na grisiau, 7 giât. Mae’r clogwyni’n fertigol gan fwyaf (peidiwch â sefyll ar yr ymyl) gydag enghreifftiau o’r holl nodweddion carreg galch y gallech ddymuno’u gweld. Mae nifer o Gaerau o’r Oes Haearn yn amddiffyn y pentiroedd ar hyd y daith.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Rhybudd
Perygl Tanciau – Maes y Gorllewin (Cyfeirnod Grid: S92369451)
Nid yw Maes y Gorllewin (Stack Rocks i Freshwater West) ar agor i’r cyhoedd o gwbl, ac nid oes unrhyw hawliau tramwy. Ond, mae yna nifer o deithiau tywys dan arweiniad staff y Parc Cenedlaethol sydd wedi cael eu briffio’n benodol gan y fyddin ynglŷn â phryderon diogelwch a chadwraeth. Cynhelir teithiau cerdded o’r fath ar rai penwythnosau a gwyliau banc yn unig. Cysylltwch â’r Parc Cenedlaethol ar 08453 457275 am fanylion teithiau tywys.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Staciau’r Heligog (Cyfeirnod Grid: SR92549465)

Safle bysiau – Dydd Llun Gŵyl y Banc, Dydd Sadwrn a Dydd Sul yn unig. (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Efallai y bydd maes parcio rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol ar gau yn ystod amserau tanio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Y Bont Werdd a Staciau’r Heligog (Cyfeirnod Grid: SR92549465)

Llwybr porfa – tywarch byr. Graddiannau’n llai nag 1 mewn 20; ychydig bach iawn o raddiannau croes. Yn ystod y tymor, mae gweilch y penwaig a heligogod yn nythu ar y staciau. Gofalwch rhag y llethr ysgafn sy’n arwain at glogwyn serth! Ar gau pan fydd tanio ar faes y Fyddin, ar agor fel arfer gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. I gael gwybod beth yw’r amserau tanio, ffoniwch 01646 662367. Byrddau picnic. Toiledau yn Freshwater West (nid ydynt gerllaw). Cadeiriau olwyn 300m.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Staciau’r Heligog i San Gofan (Cyfeirnod Grid: SR92589446)
Y Bont Werdd – Staciau Elegug i San Gofan SR925946 i SR967931. Llwybr ceffylau gydag arwynebau amrywiol. Llwyfan gwylio yn Staciau Elegug. Graddiannau i safon Fieldfare; nid oes fawr ddim o raddiannau croes. Trac ddim yn union ger ymyl y clogwyni yn y rhan fwyaf o achosion, ond mae yna olygfeydd gwych o glogwyni calchfaen. Oherwydd natur amrywiol yr arwyneb, a hyd y darn hwn, efallai y bydd yn fwy addas i gadeiriau antur. Mae defnyddwyr cadeiriau trydan yn dweud eu bod wedi cwblhau’r daith. Hyd yn oed ar ddiwrnodau heulog, oer, mae’r haul yn gallu llosgi’n ddifrifol – dylech ddod ag eli haul a dŵr gyda chi (a siocled!). Ar gau pan fydd tanio ar faes y Fyddin, ar agor fel arfer gyda’r hwyr ac ar benwythnosau. I gael gwybod beth yw’r amserau tanio, ffoniwch 01646 662367. Dim seddau. Toiledau yn Freshwater West (nid ydynt gerllaw) a maes parcio Bosherston. Pum gât anodd. Traws Gwlad 4.5km.

Rhybudd
Clogwyni Calchfaen Serth (Cyfeirnod Grid: SR92589446)

Gofalwch rhag ymylon y clogwyni sydd heb eu gwarchod ac yn erydu. Mae’r clogwyni’n edrych yn gryf ond mae’r ymylon yn malurio! Gofalwch rhag chwythdyllau a chwympiadau sydyn. Mae Llwybr yr Arfordir dipyn tua’r tir o gyfeiriad y clogwyni.

Gwerth Edrych
Y Bont Werdd a Staciau’r Heligog (Cyfeirnod Grid: SR92589446)

Un o nodweddion daearegol enwocaf Sir Benfro, sef bwa naturiol a elwir yn “Bont Werdd Cymru”. Fel arfer, caiff bwâu eu ffurfio wrth i’r môr dorri trwy bentir cul. Ger y Bont Werdd, mae yna ddau biler enfawr a elwir yn Staciau Elegug. Ar un adeg, roeddent yn rhan o fwa arall sydd bellach wedi dymchwel. Mae’r staciau a’r clogwyni’n cynnig ysgafellau i amrywiaeth o adar y môr nythu arnynt yn ystod y gwanwyn a’r haf, gan gynnwys yr elegug, gwalch y penwaig, yr wylan goesddu, gwylan y graig a’r bilidowcar. Efallai y gwelwch chi ambell frân goesgoch a hebog tramor ar hyd yn rhan yma o’r arfordir hefyd.

Gwerth Edrych
Cestyll Flimston (Cyfeirnod Grid: SR92999466)

Caer Bentir o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd anheddiad Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro. Mae yna dair caer ar yr adran hon, ac olion anheddiad yn yr ogofau ar wyneb y clogwyn. Yn ystod oes yr iâ, roedd y clogwyni hyn yn edrych allan ar draws coetir, ac roedd y môr ymhellach i ffwrdd.

Traeth
Traeth Bullslaughter (Cyfeirnod Grid: SR94169430)

Traeth tywodlyd canolig â mynediad anodd.

Gwybodaeth
Maes Castellmartin (Cyfeirnod Grid: SR956934)

Sefydlwyd y maes milwrol hwn ym 1939, pan yr edrychai fel petai rhyfel ar droed yn Ewrop. Erbyn hyn, mae gan y Weinyddiaeth Amddiffyn tua 2,400 hectar (5,900 erw) yma at ddibenion hyfforddiant ac ymarfer. Weithiau, hefyd, mae gwledydd eraill NATO yn defnyddio’r maes. Mae’r presenoldeb milwrol yn cyfyngu ar fynediad y cyhoedd, ac felly mae’n cyfyngu ar waith y Parc Cenedlaethol ar hyrwyddo’r gallu i fwynhau’r ardal wledig, ond mae yna fanteision i gadwraeth. I raddau helaeth, nid yw’r tir wedi ei gyffwrdd gan ddatblygiad preswyl ac mae’n rhydd o gemegau a gwrteithiau a ddefnyddir mewn ffermio modern. Oherwydd hyn, mae bywyd gwyllt wedi ffynnu ar y maes. Mae grŵp o arbenigwyr o Gyngor Cefn Gwlad Cymru, y Parc Cenedlaethol a mudiadau eraill yn cadw llygad ar yr ardal ac yn cynghori’r fyddin ar gadwraeth.

Gwerth Edrych
Naid yr Heliwr/Huntsman’s Leap (Cyfeirnod Grid: SR96169303)
Mae Naid yr Heliwr/Huntsman’s Leap yn gilfach gul ag ochrau serth a ffurfiwyd gan erydiad y môr ar hyd llinell ffawt (y term technegol yw “geo”). Yn ôl chwedloniaeth, anogodd heliwr ei geffyl i garlamu dros yr agendor, glaniodd yn ddiogel, yna edrychodd yn ôl a syrthio’n farw o sioc wedi gweld yr ardal yr oedd wedi neidio drosti. Drws nesaf i’r gilfach hon, mae yna ‘geo’ arall a adwaenir fel Rhyd Stennis, sydd fwy na thebyg yn deillio o’r gair Norseg, “fjord”.


4. Bosherston i Broad Haven South (Maes y Dwyrain Ar Gau) 1 Milltir (1.61km)

Mae hanner gogleddol yr adran hon yn croesi dau sarn hir a chul ac mae yna dipyn o fryniau rhyngddynt, er nad yw’r bryniau’n serth iawn. 61 o risiau, dim sticlau na giatiau. Paratowyd yr hanner deheuol ar gyfer cadeiriau olwyn, a gellir cael mynediad o Home Farm. Mae Pyllau Lili Bosherston yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn ogystal â mwyafrif y llwybr i Freshwater East. Mae’r lilïau ar eu gorau ym Mehefin. (Y man cychwyn a gorffen yw’r gyffordd rhwng y llwybrau yn Arllwysfa’r Pyllau Lili).

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Cyflesterau
Pentref Bosherston (Cyfeirnod Grid: SR96609466)

Gwely a Brecwast, Caffi Ye Olde Worlde, Tafarn San Gofan

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Eglwys Bosherston (Cyfeirnod Grid: SR96619477)
Safle bysiau (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro).

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Bosherston (Cyfeirnod Grid: SR96669483)

Maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; tâl yn ystod y tymor, toiledau hygyrch.

Gwybodaeth
Pyllau Lili Bosherston (Cyfeirnod Grid: SR97469460)
Roedd llynnoedd Bosherston yn rhan o Ystad Ystagbwll. Yn y 18fed ganrif, roedd yr ystad yn eiddo i deulu’r Campbell, Iarllod Cawdor. Nhw oedd wedi creu’r llynnoedd trwy gronni tri dyffryn calchfaen. Ym 1977, fe gymerodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol reolaeth dros 810 hectar (2,000 erw) yr ystad. Mae’r llynnoedd yn cwmpasu 32 hectar (80 erw) ac yn cynnal amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt, gan gynnwys dyfrgwn, adar y dŵr, gweision y neidr a lilïau dŵr. Erbyn hyn, maen nhw’n rhan o Warchodfa Natur Forol a reolir ar y cyd gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Pyllau Bosherston – Mynediad Hwylus (Cyfeirnod Grid: SR97569474)
Mae yna le i barcio sawl car ar ochr bellaf y Bont Un Bwa SR97729622. Mae’r llwybr yn arwain yn syth yn ei flaen o’r maes parcio, heibio i safle Tŷ Ystagbwll (sydd wedi’i ddymchwel), ac yna’n arwain i lawr at ymyl y llyn. Mae’r disgyniad hwn yn eithaf serth, ond yn bosib ei wneud, i fyny yn ogystal ag i lawr, gyda chynorthwyydd gweddol gryf. Ar hyd ymyl y llyn, mae’r llwybr yn weddol wastad, gydag ambell ran fer sy’n fwy serth. Ar y pen, mae’n arwain yn syth arno i draeth Broad Haven South, ond mae’r tywod ar y traeth yn rhy feddal i’r rhan fwyaf o gadeiriau olwyn. Fe fuasem yn dweud bod y daith hon yn daith ‘antur’, tua 2.3km o’r maes parcio un ffordd. Ysgrifennwyd gan Dr P Young a fu’n profi’r llwybr. Cysylltwch â swyddfa’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am daflen (01646 661452 neu 661359).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Caniataol Grassy Bridge (Cyfeirnod Grid: SR97569474)

Mae Llwybr Caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ymuno yma, gan gynnig taith gylch fawr trwy’r Bont Wyth Bwa a Chei Ystagbwll (1.7 milltir). Mae’r Bont Wyth Bwa ac Adran Cei Ystagbwll yn eiddo preifat – mae mynediad trwy ganiatâd ac mae’r llwybr ar gau ar adegau. Mae yna arwyneb ar gyfer cadeiriau olwyn hefyd, sy’n galluogi mynediad i gadeiriau olwyn o Home Farm i’r Arllwysfa (y man ble mae’r dŵr yn arllwys allan o’r llynnoedd).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Cyffordd Llwybr yr Arllwysfa (Cyfeirnod Grid: SR97729435)
Mae pedwar llwybr troed yn ymuno yma. Prif lwybr Llwybr yr Arfordir o Dde Aber Llydan (maes parcio, toiledau), ar draws y tywod. Llwybr Caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a llwybr troed cyhoeddus sy’n cynnig cysylltiadau at yr isffordd. Llwybr troed cyhoeddus sy’n darparu siwrnai ddychwelyd at faes parcio Eglwys Bosherston ar hyd ochr dde orllewinol y llyn.


5. San Gofan i Broad Haven South 1.4 Milltir (1.61km)

Mae’r adran hon yn llwybr cyhoeddus (nawr mae’n llwybr ceffylau caniataol i faes parcio De Aber Llydan ac nid i’r traeth). Dau fryn serth byr, 3 giât, dim sticlau, 30 o risiau ar y fynedfa i’r traeth. Mae’r nodweddion carreg galch yn parhau. (Y man cychwyn a gorffen yw’r gyffordd rhwng y llwybrau yn Arllwysfa’r Pyllau Lili).

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Gwybodaeth
Golygfeydd calchfaen (Cyfeirnod Grid: SR96859229)

Mae rhan ddeheuol Penrhyn Castellmartin yn llwyfandir gwastad, sy’n diweddu mewn clogwyni fertigol trawiadol. Mae’r graig yn galchfaen Garbonifferaidd, tua 350 miliwn mlwydd oed. Ffurfiwyd y llwyfandir gan erydiad morol pan yr oedd lefel y môr lawer yn uwch nag a ydyw heddiw, ac yna fe’i codwyd gan symudiadau cramen y Ddaear tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Rhwng Bae Flimston a Thrwyn Mewsford, mae’r calchfaen wedi bwclo mewn cyfres o blygiadau, a ddigwyddodd wrth i cyfandiroedd a oedd yn drifftio wrthdaro ar ddiwedd y cyfnod Carbonifferaidd, tua 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae’r clogwyni ar hyd y darn hwn o arfordir yn boblogaidd ymhlith y rheiny sy’n dringo clogwyni, ond mae’r Cyngor Mynydda Prydeinig, y Parc Cenedlaethol ac asiantaethau cadwraeth eraill yn cytuno ar gyfyngiadau bob blwyddyn, er mwyn sicrhau na therfir ar adar sy’n nythu yn y clogwyni.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio San Gofan (Cyfeirnod Grid: SR96719305)

Safle bysiau – Dydd Llun Gŵyl y Banc, Dydd Sadwrn a Dydd Sul yn unig. (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Penrhyn Sant Gofan (Cyfeirnod Grid: SR96719305)

Heol darmac. Graddiannau i safon Fieldfare; nid oes unrhyw raddiannau croes o bwys. Gellir osgoi’r grid gwartheg trwy fynd trwy’r giât wiced â sbring cryf. (Efallai y bydd cadeiriau traws gwlad yn gallu mynd 1km arall at Dde Aber Llydan.) Ar gau yn ystod amserau tanio maes y Fyddin, ar agor gyda’r hwyr ac ar benwythnosau fel arfer. I gael gwybod beth yw’r amserau tanio, ffoniwch 01646 662367. Dim seddau. Toiledau ym meysydd parcio Bosherston a Broad Haven South. Cadair olwyn 0.9 km.

Gwybodaeth
Capel Sant Gofan (Cyfeirnod Grid: SR96709297)
Mae capel bach Sain Gofan yn swatio mewn hollt wrth droed y clogwyni. Gallwch ei gyrraedd trwy risiau serth, anwastad. Yn ôl traddodiad, nid oes modd cyfrif y grisiau hyn yn gywir. Daw’r capel o’r 13eg ganrif ond credir bod ei sylfeini lawer yn hŷn. Fwy na thebyg mai Gobhan oedd Sain Gofan, sef abad Gwyddelig a ddaeth yma i fyw fel meudwy ar ôl ymddeol, yn y 6ed ganrif. Fodd bynnag, weithiau dywedir mai marchog y Brenin Arthur, Syr Gawain, ydoedd. Ar un achlysur, dywedir i Sain Gofan guddio rhag môr-ladron mewn hollt gul ger yr allor, gan adael ôl ei asennau yn y creigiau. Islaw’r capel mae yna ffynnon sanctaidd, y credir iddi wella problemau llygaid, gwynegon a chloffni. Hyd yn oed yn y 19eg ganrif, aml y gorchuddiwyd yr allor â hen ffyn baglau. Os ewch chi at y ffynnon rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, a wnewch chi beidio â chrwydro ar hyd sylfeini’r clogwyni, rhag ofn i chi darfu ar yr adar sy’n nythu yno.

Rhybudd
Clogwyni Calchfaen Serth (Cyfeirnod Grid: SR96709297)
Gofalwch rhag ymylon y clogwyni sydd heb eu gwarchod ac sy’n erydu. Mae’r clogwyni’n edrych yn gryf ond mae’r ymylon yn malurio! Gofalwch rhag chwythdyllau a disgyniadau sydyn. Mae Llwybr yr Arfordir dipyn tua’r tir o’r clogwyni.

Rhybudd
Maes y Dwyrain – Parth Peryglus (Cyfeirnod Grid: SR9762356)
Fel arfer, mae Llwybr yr Arfordir, sy’n llwybr ceffylau rhwng Sain Gofan a Staciau Elegug (Maes y Dwyrain) ar gau yn ystod yr wythnos o 9yb hyd 4.30yp. Maen nhw hefyd yn tanio yn ystod y nos ar tua hanner y diwrnodau hyn, gan gau’r adran o 6.30yh hyd 11.30yh. Ar tua chwarter o’r diwrnodau hyn, mae Llwybr yr Arfordir, sy’n llwybr troed rhwng Sain Gofan a De Aber Llydan, hefyd ar gau. Er mwyn sicrhau ymlaen llaw eich bod yn gallu cerdded ar Faes y Dwyrain, cynlluniwch daith ar benwythnosau. Ffoniwch rif ffôn y Fyddin, 01646 662367, i glywed neges ar beiriant ateb gyda manylion y rhaglen danio. Maen nhw hefyd yn nodi y gellir cynnal ‘tanio heb ei amserlennu’ heb rybudd ymlaen llaw ac y gellir canslo’r tanio heb rybudd.

Gweld yr adran hon ar Street View

Freshwater West (Cyfeirnod Grid: SR885995)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir