Adran wefreiddiol o'r llwybr sy'n arw mewn mannau ac yn croesi dros glogwyni uchel ac o dan frigiadau folcanig caregog dramatig Pen Beri, Carn Lleithyr a Charn Llidi. Gadewch amser i oedi ychyig ar benrhyn gwyllt a charegog Penmaendewi ble mae yna lond lle o archeoleg. Chwiliwch hefyd am forloi yn y baeau bach caregog islaw'r llwybr, a gwylanwyddau'n deifio am bysgod allan ar y môr; efallai y byddwch chi'n ddigon ffodus i gael fflach o lwyd y llamhidyddion sy'n hela am bysgod o dan y gwylanwyddau. Mae i'r adran rhwng Abereiddi a'r Porth Mawr naws wyllt ac anghysbell a phrin iawn yw'r adeiladau sydd i'w gweld. Mae'r caffi yn y Porth Mawr a'r fan lluniaeth yn Abereiddi felly'n olygfeydd y bydd y cerddwr blinedig yn eu croesawu os ydych yn cerdded o'r de i'r gogledd!

1. Porthgain i Abereiddi 2 milltir (3.2km)

Unwaith y byddwch chi ar y llwyfandir ar gopa’r clogwyn, mae graddiannau Llwybr yr Arfordir yn ysgafn iawn. Gellir osgoi’r 66 o risiau concrit serth ym Mhorthgain trwy ddilyn llwybr Ynys Faen. Mae’r llethr uwchben Abereiddi’n serth er bod yr ychydig gannoedd o lathenni gorllewinol yn rhannu llwybr ag arwyneb i gadeiriau olwyn i’r Lagwn Glas. 0 sticil, 4 giât, 66 o risiau (Gradd 2, os yn defnyddio’r llwybr i osgoi grisiau Porthgain). Defaid a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Porthgain (Cyfeirnod Grid: SM813323)
Arosfan bysiau (Gwibiwr Strwmbwl – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Abergwaun). Maes parcio maint canolig, rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol, sy’n aml yn llawn. Toiled.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Chwarel Porthgain Mynediad Hwylus (Cyfeirnod Grid: SM815324)
O’r maes parcio, ewch yn ôl i fyny’r heol tuag at Llanrhian a throwch i’r dde ar ôl y teras o fythynnod bach, i fyny llethr serth a glaswelltog (mae’n feddal pan yn llaith) ac o amgylch y tŷ mawr [Ynys Faen] (peth camber croes ar y tro). Dilynwch y llwybr troed trwy 2 giât hygyrch (mae’r 2il giât yn dynn i gadair olwyn oddi-ar-y-ffordd Tramper, ond mae modd ei wneud) ac i fyny arno i’r clogwyn. Mae mynediad yn bosib tuag at Abereiddi ond mae angen dewis eich llwybr ar draws adrannau o dir garw. Mae’n bosib cael mynediad hefyd i lawr yr hen inclein i’r chwarel gwenithfaen ger Porthgain. Golygfeydd gwych tuag at Benmaendewi a Phen-Caer. Dim seddau. Toiledau ym Mhorthgain. Tafarn neis iawn hefyd, ond nid yw’n hygyrch. Er, maen nhw’n dweud eu bod nhw’n fodlon cario pobl i fyny’r grisiau, neu weini bwyd a diod ar y borfa neu yn y maes parcio islaw. Llwybr Mynediad Hwylus hyd at 2km gan ddibynnu ar allu traws-gwlad.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM812326)
Ymyl y Clogwyn heb ei amddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Er bod digon o le i gadw i ffwrdd oddi wrth y clogwyn ar yr adran hon, mae’r clogwyni’n rhai serth.

Gwybodaeth
Diwydiant Porthgain (Cyfeirnod Grid: SM812325)
Yn y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, roedd Porthgain yn borthladd diwydiannol ffyniannus. Chwarelwyd y garreg leol, crai g igneaidd galed o’r enw diorite, i’w defnyddio fel carreg adeiladu ac ar gyfer wyneb ffyrdd. Wedi’i falu a’i raddio, fe’i storiwyd yn yr hopranau mawr sy’n dal i sefyll dros yr harbwr, cyn cael ei allforio ar y môr. Roedd yna hefyd waith brics a oedd yn defnyddio clai lleol, ac roedd llawer o’r llechi a chwarelwyd yn Abereiddi yn cael eu cludo o’r fan hon. Dirywiodd masnach ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf a chaeodd y gwaith cerrig ym 1932. Bellach mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol am warchod yr harbwr a’r gweddillion diwydiannol. Ail-doi ar ‘Y Rhes’, teras o fythynnod ar ochr orllewinol y pentref, gan ddefnyddio llechi Abereiddi a adferwyd o gargo a oedd wedi suddo yn y 19eg ganrif.

Gwybodaeth
Pori Arfordirol (Cyfeirnod Grid: SM802321)
Mae’r adran hon yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn un o’r adrannau arfordirol niferus ble maen nhw’n ailgyflwyno pori i wella amrywiaeth y cynefin.

Traeth
Traeth Llyfn (Cyfeirnod Grid: SM801320)
Traeth tywodlyd, llydan gyda grisiau dur 90 troedfedd yn fynediad. Caiff mynediad ei dorri ar frig llanwau’r Gwanwyn. Er gwaethaf ei leoliad diarffordd, dyma draeth poblogaidd iawn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Traeth Llyfn (Cyfeirnod Grid: SM801317)
Cyfle i gymryd taith gylch fer o Abereiddi.

Rhybudd
Ymylon Clogwyni Serth (Cyfeirnod Grid: SM795314)
Byddwch yn ofalus rhag sefyll yn rhy agos at yr ymyl i weld y Lagwn Glas.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Abereiddi – Lagwn Glas – Taith Mynediad Hwylus (Cyfeirnod Grid: SM797314)
Rhan yn llwybr concrit, rhan yn ddaear galed a llwybr dros y clogwyn. Mae’n arwain at fan gwylio isel ar draws y Lagwn Glas – chwarel ddwfn drawiadol wedi’i gorlifo. Y graddiant mwyaf serth yw 1:8 ar goncrit garw – dwy adran 5m, 1:10 am 50m ar goncrit, ond hefyd adran garreg 1:15 am 60m. Dim goleddf croes o bwys. Un sedd. Mae arwyneb y maes parcio’n arw iawn, yn enwedig ar ôl stormydd y Gaeaf. Toiledau ym Mhorthgain. Antur.

Gwybodaeth
Diwydiant Abereiddi (Cyfeirnod Grid: SM796313)
Chwarelwyd llechi yn Abereiddi hyd yn oed cyn datblygu Porthgain. I ddechrau, llwythwyd y llechi ar gychod ochr yn ochr â’r chwarel, er, yn ddiweddarach, fe’u cludwyd ar dramffordd i Borthgain. Gelwir yr hen chwarel, sydd bellach wedi’i gorlifo, yn ‘Lagwn Glas’, ac mae wedi’i chysylltu at y môr trwy sianel gul. Ymhellach ymlaen, mae olion adeiladau’r chwarel a bythynnod y gweithwyr llechi. Mae adran o’r llwybr sy’n addas i gadeiriau olwyn yn cysylltu’r Lagwn Glas a’r maes parcio. Ger yr heol, mae yna fythynnod traddodiadol hyfryd. Mae gan lawer ohonyn nhw doeon wedi’u growtio, a llechi wedi’u dal i lawr gan rhaff neu weiren bigog a’u gorchuddio gyda golch sment. Ar un adeg, roedd y ffordd draddodiadol hon o amddiffyn rhag difrod storom yn boblogaidd iawn yn Sir Benfro, ond bellach mae toeon growt yn brin. Rheolir Abereiddi a’r ardal o’i chwmpas gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.


2. Abereiddi i ochr ddwyreiniol Aber-pwll 1.3 Milltir (1.61km)

Dau fryn eithaf serth, ond heblaw hynny graddiannau gweddol wastad, gyda chlogwyni serth sy’n chwalu tuag at y môr. Mae defaid yn pori rhannau o’r adran hon. Dim sticlau, 5 giât, 10 o risiau. Mae’r adran ger Abereiddi ar heol gul heb balmant (400m).

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Abereiddi (Cyfeirnod Grid: SM796313)
Arosfan bysiau (Gwibiwr Strwmbwl – dychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Abergwaun). Maes parcio Cenedlaethol Ymddiriedaeth, rhad ac am ddim, gydag arwyneb garw sy’n aml yn arw iawn yn ystod y Gaeaf oherwydd difrod stormydd. Toiled. Fan hufen iâ yn ystod y tymor.

Traeth
Traeth Abereiddi (Cyfeirnod Grid: SM796312)

Traeth canolig gyda thywod a cherrig mân. Poblogaidd iawn gyda grwpiau arforlywio a helwyr ffosilau. Daearegwyr – peidiwch â tharo’r brigiadau carreg gyda morthwyl i gael ffosilau.

Rhybudd
Ymylon y clogwyn yn erydu (Cyfeirnod Grid: SM795309)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Anheddiad Oes Haearn Caerau (Cyfeirnod Grid: SM788307)
Mae Llwybr yr Arfordir yn pasio drwy anheddiad Oes Haearn Caerau. Dyma Heneb Cofrestredig sydd â ffosydd a banciau dramatig.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Aber Pwll (Cyfeirnod Grid: SM785306)
Cyfle i ddilyn taith gylch ar dir fferm o Abereiddi.


3. Aber-pwll i Borth y Dwfr 2.2 Milltir (3.22km)

Adran arw, heriol a gwyllt. Mewn mannau, mae arwyneb y llwybr yn ymdrech i ddringo dros y creigiau, gan gynnwys y llwybr i lawr at gildraeth bach dymunol Aber-pwll ac yn ôl i fyny. 5 sticil, 54 o risiau, 2 gatiau mochyn, 5 giât wiced. Mae defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Rhybudd
Llethrau Caregog (Cyfeirnod Grid: SM784305)
Rhai llethrau caregog serth – byddwch yn arbennig o ofalus mewn tywydd gwlyb.

Traeth
Traeth Aber-pwll (Cyfeirnod Grid: SM784305)
Cildraeth bach caregog a diarffordd, y math o le ble mae dau berson yn ymddangos fel llond lle.

Gwybodaeth
Castell Coch (Cyfeirnod Grid: SM775302)
Un o dri ‘Castell Coch’ – Caer arall eto o’r Oes Haearn. Yn hwyr yn yr Haf ac yn yr Hydref, mae’r traethau anhygyrch islaw’n llefydd poblogaidd ar gyfer morloi bach.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ffos y Mynach (Cyfeirnod Grid: SM764292)
Mae llwybr o’r enw Ffos y Mynach yn ymuno yma. Yn gyntaf, mae’n gyfle i gael cinio ar gopa Carn Penberi gyda Gorllewin Sir Benfro yn ei chyfanrwydd o’ch blaen. Yn ail, mae’r llwybr yn gyfle i gerdded Penrhyn Tyddewi fel taith gylch deuddydd. Caiff y llwybr ei gynnal a’i gadw gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ac mae’n dilyn llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau a rhai isffyrdd i gysylltu unwaith eto gyda Llwybr yr Arfordir filltir i’r gorllewin o Naw Ffynnon. Yn drydydd, defnyddiwch y llwybr hwn ar gyfer taith gylch, undydd, fer o amgylch y Porth Mawr. Sylwch ar y cyferbyniad rhwng arferion ffermio modern yr iseldir tua’r tir a’r ffermydd pentref Canoloesol yr ydych yn cerdded trwyddyn nhw, yr Oesoedd Tywyll ym Maes y Mynydd a’r Oes Haearn ger Penmaendewi.

Gwybodaeth
Carn Penberi (Cyfeirnod Grid: SM766292)
Penberi yw’r cyntaf mewn cyfres o fryniau caregog dramatig ar hyd arfordir gogleddol penrhyn Tyddewi. Enwau’r lleill yw Carn Treliwyd, Carn Perfedd, Carnedd Lleithr a Charn Llidi. Ffurfiwyd y bryniau hyn o graig galed, igneaidd. Rhyw 70 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan yr oedd lefel y môr lawer yn uwch, roedden nhw’n ynysoedd. Fe dreuliodd y môr o’u cwmpas y creigiau mwy meddal i greu’r llwyfandir sydd nawr yn gorchuddio llawer o Sir Benfro.


4. Porth y Dwfr i Borth Mawr 3.9 Milltir (6.44km)

Golygfeydd gwyllt, agored. Llystyfiant sy’n nodweddiadol o fynyddoedd ar y clogwyni o darddiad folcanig sy’n grwn gan fwyaf. Y graddiant fwyaf serth ar yr adran hon yw’r disgyniad i lawr i’r Porth Mawr. Mae’r gweddill yn fwy ysgafn, ond mewn mannau mae’r arwyneb yn arw. 0 sticil, 6 giât, 77 o risiau. Mae defaid, gwartheg a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Porth Gwyn (Cyfeirnod Grid: SM749287) a Phorth Coch (Cyfeirnod Grid: SM743287)
Llwybr â chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r ddau lwybr serth yma’n cynnig cyfleoedd i ddargyfeirio at lwybr ar lefel uwch o amgylch Carnedd Lleithr, neu lwybrau tarw i Dyddewi gan osgoi Penmaendewi.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Porth Coch Footpath (Cyfeirnod Grid: SM743287)
National Trust permissive footpaths. These two steep paths offer options to divert to a high level route around Carnedd Lleithr, or take short cuts to St David’s avoiding St David’s Head.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Dar y Cadno (Cyfeirnod Grid: SM736287)
Llwybr â chaniatâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r llwybr serth a garw hwn yn cynnig cyfle i ddargyfeirio i lwybr lefel uchel, gyda golygfeydd o Garn Llidi. Y llwybr byraf i Hostel Ieuenctid YHA Tyddewi.

Cyflesterau
Hostel Ieuenctid Tyddewi (Cyfeirnod Grid: SM740277)
Mae’r Hostel Ieuenctid yn swatio islaw Carn Llidi ac yn 0.9 milltir o Lwybr yr Arfodir, 2 filltir o Dyddewi.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Penmaendewi (Cyfeirnod Grid: SM729283)
Mae nifer o lwybrau’n croesi yn ôl ac ymlaen ar draws Penmaendewi gan gynnig nifer o opsiynau ar gyfer teithiau cylch.

Gwybodaeth
Llwybrau Penmaendewi (Cyfeirnod Grid: SM722279)
Mae diwedd y pentir yn gorwedd o fewn caer o’r Oes Haearn. Mae yma olion tri gwrthglawdd paralel o garreg a sylfeini chwech o dai crwn. I’r dwyrain, fe allwch chi weld ffiniau isel system gaeau sydd efallai’n dyddio or un cyfnod. gan Mae Coetan Arthur, siambr gladdu Neolithig sy’n dyddio o’r cyfnod cyn 4,000-3,000CC yn cynrychioli presenoldeb llawer cynharach gan bobl . Fe fyddai pridd wedi gorchuddio’r slabiau carreg ond mae wedi hen dreulio erbyn hyn. Mae gweundir yr iseldir yn yr ardal hon bellach yn gynefin sy’n brin yn rhyngwladol, ac mae mudiadau gwarchod yn gweithio i’w amddiffyn.

Traeth
Traeth Porthmelgan (Cyfeirnod Grid: SM727728)
Traeth tywodlyd bach i ganolig. Man tawel a dymunol i ymlacio am ychydig cyn prysurdeb y Porth Mawr. Gwyliwch y cerrynt pwerus oddi ar y lan!

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb Ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM732274)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Porth Mawr (Cyfeirnod Grid: SM733272)
Heddiw, mae traeth y Porth Mawr yn boblogaidd ymhlith y rheiny sy’n dod yma ar eu gwyliau a syrffwyr. O’r Oes Efydd, roedd yn fan cyfarfod i lwybrau i Iwerddon ar y tir a’r môr a ddefnyddiwyd gan fasnachwyr, teithwyr, pererinion a saint. Mae olion capel o’r 6ed ganrif sydd wedi’i gysegru i San Padrig wedi’u claddu o dan y twyni ar ochr ogleddol y traeth. Mae’r twyni’n ymestyn am dipyn tua’r tir ac maen nhw wedi cael eu hadfer gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Gweld yr adran hon ar Street View

Porthgain (Grid ref: SM815324)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir