Mae'r adran hon yn dangos yn glir pam mae'r arfordir hwn yn haeddu bod yn Barc Cenedlaethol. Mae'n cynnwys traeth Barafundle, a enwyd yn un o'r deg traeth gorau yn y byd yn ddiweddar! Mae hefyd yn cyffwrdd â'r Pyllau Lili enwog yn Bosherston, syn warchodfa Natur Genedlaethol. Mae'r llwybr yn codi ac yn disgyn dipyn ond dydych chi fyth ymhell o draeth, tafarn pentref neu doiled!

1. Broad Haven South i Gei Ystagbwll 3.1 Milltir (4.83km)

Ar yr adran hon, mae yna bedair cyfres hir o risiau, sy’n llydan a ddim yn serth. Cyfanswm o 173 o risiau, 4 giât mochyn, 1 giât wiced, 0 sticil. Clogwyni carreg galch ar eu gorau, chwythdyllau, ogofau, bwâu ayb. Mae yna lwybrau tarw ar draws Pen Saddle a Phen Ystagbwll. Mae gweilch y penwaig a heligogod yn nythu ar yr ysgafelloedd, ac mae brain coesgoch yn hoffi’r lle yma, yn wir maen nhw’n olygfa gyffredin rhwng Bae Gorllewin Angle a Lydstep.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Broad Haven South (Cyfeirnod Grid: SR97559387)
Safle bysiau – (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tâl y ystod y tymor. Toiledau.

Traeth
Traeth Broad Haven South (Cyfeirnod Grid: SR97829396)
Traeth mawr, tywodlyd â system helaeth o dwyni’n gefndir.

Rhybudd
Clogwyni Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR98059402)
Gofalwch rhag ymylon y clogwyni sydd heb eu gwarchod ac sy’n erydu. Mae’r clogwyni’n edrych yn gryf ond mae’r ymylon yn malurio! Gofalwch rhag chwythdyllau a disgyniadau sydyn. Mae Llwybr yr Arfordir dipyn tua’r tir o’r clogwyni.

Rhybudd
Traeth Pwll Tywod (Cyfeirnod Grid: SR98299427)
Osgowch y demtasiwn i geisio mynd i lawr i’r traeth cyntaf ym Mhwll Tywod/Sandy Pit, mae’r llwybr wedi disgyn i ffwrdd mewn mannau. Mae’r traeth hwn ar gyfer y rheiny sy’n dringo clogwyni, a chychod, yn unig.

Gwerth Edrych
Penrhyn Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR99549422)
Mae’r pentir hwn yn dir bridio enwog ar gyfer yr wylan goesddu, gwalch y penwaig, aderyn drycin y graig a’r heligog. Efallai y gwelwch chi frân goesgoch a phâl hefyd. Mae yna nifer o chwythdyllau (toeon ogofau wedi dymchwel) ac mae’r môr yn tasgu trwyddynt ar ddiwrnodau stormus. Yn wreiddiol, ogofau môr oedd rhai o’r rhain ond roedd eraill yn systemau ogofau a ffurfiwyd gan ffrydiau tanddaearol.

Traeth
Bae Barafundle (Cyfeirnod Grid: SR99099504)

Traeth tywodlyd mawr ar gefndir o dwyni tywod. Haws cerdded arno’n droednoeth! Mae De Aber Llydan yn lle dymunol os am nofio, ond mae dyfroedd Barafundle yn fwrlwm oer sy’n dyfnhau’n eithaf cyflym ar adegau o’r llanw. Roedd yn draeth eithaf tawel hyd nes iddo gael ei bleidleisio’n draeth gorau’r bydysawd! Erbyn hyn, caiff ei reoli gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond roedd yn arfer bod yn rhan o Ystad Ystagbwll. Ar un adeg, roedd coed a cholofnau addurniadol ar hyd y grisiau i lawr at y traeth. Adeiladwyd y wal i gadw ceirw ar dir yr ystad. O’r grisiau, fe allwch weld ogof “smyglwyr” yn y clogwyn gyferbyn. Yr enw ar y bwâu naturiol ar y pentir deheuol yw’r Ffenestri Dellt.

Rhybudd
Clogwyni Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR99389558)
Gofalwch rhag ymylon y clogwyni sydd heb eu gwarchod ac sy’n erydu. Mae’r clogwyni’n edrych yn gryf ond mae’r ymylon yn malurio! Gofalwch rhag chwythdyllau a disgyniadau sydyn. Ar y cyfan, mae Llwybr yr Arfordir dipyn tua’r tir o’r clogwyni.


2. Cei Ystagbwll i Freshwater East 2.9 Milltir (4.83km)

Adran sy’n gofyn llawer, gyda chyfres o fryniau serth. 0 sticil, 2 giât mochyn, 5 giât wiced, 119 o risiau. Mae’r sticlau’n darparu mynediad i gŵn. Clogwyni lliwgar o Hen Dywodfaen Coch yn frith o algai melyn. Golygfeydd tuag at llwyfandir carreg galch Penrhyn Ystagbwll a Maenorbŷr.

Cymeriad y daith: Rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Cei Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR99139578)

Safle bysiau – (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tâl y ystod y tymor. Toiledau.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr y Bont Wyth Bwa (Cyfeirnod Grid: SR99139578)
Mae llwybr caniataol yn ymuno yma, gan gynnig taith gylch hir drwy’r Bont Wyth Bwa a Chei Ystagbwll (1.7 milltir). Mae adran Cei Ystagbwll a’r Bont Wyth Bwa yn eiddo preifat – ceir mynediad trwy ganiatâd ac ar adegau mae’r llwybr ar gau.

Cyflesterau
Ystafell De Cei Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR99249572)
Sgons â jam a hufen ayyb.

Gwybodaeth
Cei Ystagbwll (Cyfeirnod Grid: SR99329564)
Adeiladwyd y cei yn y 18fed ganrif, i allforio calchfaen o’r chwarel gerllaw a chludo nwyddau moethus i Lys Ystagbwll. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi trawsnewid adeiladau fferm gerllaw yn fythynnod gwyliau, ac mae’r chwarel bellach yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau addysgol awyr agored. Dengys yr ynys fechan oddi ar y lan blygiad trawiadol yn yr haenau o Galchfaen Carbonifferaidd, sy’n ganlyniad i wrthdaro rhwng cyfandiroedd 290 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn y bae nesaf, mae’r calchfaen yn ildio’i le i garreg laid, carreg silt a thywodfaen amryliw yr Hen Dywodfaen Coch. O bentir gogleddol y bae, gellir gweld proffil trawiadol Trwyn Greenala. Yma, gorchuddiwyd yr haenau amryliw o graig gyda chennau oren llachar Xanthoria.

Gwerth Edrych
Caer Bentir Greenala o’r Oes Haearn (Cyfeirnod Grid: SR00679657)
Yma, mae Llwybr yr Arfordir yn pasio trwy ragfuriau allanol caer fawr o’r Oes Haearn. Mae dau fanc a ffos yn amddiffyn y pentir, er, mae’n debygol i fwyafrif y trigolion fyw tu allan i’r waliau, gan encilio tu mewn ar adegau o berygl yn unig.


3. Traeth Freshwater East 0.7 Milltir (1.61km)

Traeth hir ar gefndir o dwyni tywod eang. Mae Llwybr yr Arfordir yn gwau tu ôl i’r gyfres gyntaf o dwyni, ond mae llawer o gerddwyr yn defnyddio’r traeth pan fydd y llanw allan yn rhannol. Mae’r esgyniad o’r traeth ar y pen gogledd-ddwyreinol yn ymdrech fer ychydig cyn i’r clogwyni ddechrau codi. Defnyddiwch y llithrffordd ar y pen deheuol. Mae bryn serth gyda 51 o risiau’n cysylltu llwybr y twyni tywod gyda llwybr uchaf y clogwyni i / o Faenorbŷr.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS01589775)
Safle bysiau wrth fynedfa’r traeth – (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Maes parcio mawr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tâl y ystod y tymor. Toiledau ar y llwybr at y traeth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad i Draeth Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS01589776)
Mynediad at Draeth Freshwater East a golygfan. SS015977. Rhodfa fer o estyll pren / cerrig wedi’u rholio at olygfan sy’n edrych allan dros y traeth, yn ymuno â llwybr tebyg at y traeth. Llwybr cadeiriau olwyn 160m.

Traeth
Traeth Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS01939788)
Traeth tywodlyd mawr, poblogaidd ar gefndir o dwyni tywod helaeth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Troed Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS01929807)

SS019980 i SS025983. Mae tua hanner dwsin o lwybrau troed yn ymuno ac yn croesi Llwybr yr Arfordir. Cofrestrwyd y mwyafrif ohonynt yn ddiweddar fel llwybrau cyhoeddus ac nid ydynt wedi eu nodi felly ar y rhan fwyaf o fapiau. Mae’r llwybrau hyn yn cysylltu’r pentref at y traeth. Mae’r llwybr uchel mwyaf dwyreiniol (cysylltiad caniataol) ag arwyneb rhannol, ac mae’n cynnig mynediad i gadeiriau olwyn at olygfan a mynediad at Lwybr yr Arfordir sy’n osgoi’r tyle serth iawn o’r twyni (dyma’r llwybr rhwyddaf at y dafarn ac yn ôl hefyd).

Gwybodaeth
Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS01619803)
Mae’r traeth tywodlyd bendigedig hwn wedi bod yn fan hamdden poblogaidd ers meitin, ac mewn canrifoedd cynt mae wedi bod yn un o hoff lefydd smyglwyr. Ar un ochr o’r bae mae yna bentref gwyliau a adeiladwyd yn y 1970au o dan y polisi a oedd mewn grym bryd hynny i ganiatáu i ambell le ddatblygu fel cyrchfan “pot mêl”. Adferwyd y twyni’n helaeth ac fe’u hailblannwyd i geisio gwneud iawn am y mannau ble mae pobl wedi bod yn eu sathru dan draed, ac mae yna lwybrau trwyddynt at y traeth. Mae’r Parc Cenedlaethol yn datblygu cynllun rheoli ar gyfer y twyni a choetir prysg, i wella cyfleoedd ar gyfer bywyd gwyllt a mynediad i’r cyhoedd. Mae’r twyni’n lle arbennig o dda i weld magïod, os ydych chi yma gyda’r hwyr.

Cyflesterau
Pentref Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS02029840)
Llety Gwely a Brecwast. Dim siopau, Tafarn y Freshwater Inn.


4. Freshwater East i Faenorbŷr 3.4 Milltir (4.83km)

Adrannau gwastad ar bob pen, bryniau byr eithaf serth rhyngddyn nhw. 0 sticil, 10 giât wiced, 6 o risiau.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Freshwater East – Maes Parcio’r Dwyrain (Cyfeirnod Grid: SS02409838)

Maes parcio bach, rhad ac am ddim, wrth ffin ddwyreiniol y pentref.

Mynediad i Lwybr Cerdded
I’r Dwyrain o Freshwater East (Cyfeirnod Grid: SS02469822)
SS023983. O ardal barcio fach ffurfiol ychydig cyn arwyddion y terfyn ar gyflymder, tuag at gopa’r clogwyn, gyda golygfeydd o Drewent a’r bae. Llwybr asffalt i safon Fieldfare. Byddwch yn ofalus – mae’r llwybr yn diweddu ar grib llethr serth. Seddau. Toiledau yn Freshwater East, ar y llwybr mynediad i’r traeth. Llwybr cadeiriau olwyn 220m.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed West Moor (Cyfeirnod Grid: SS04259820)
West Moor, Swan Lake. Cysylltiad ar draws cae a thrac fferm at isffordd yr arfordir, ystafell de yn y fferm. Mae’r llwybr hwn yn cynnig ffordd o ddychwelyd at Freshwater East tua’r tir – ar ôl 150m o’r 4139 trowch i’r chwith (nid yw hon yn llawer o isffordd o gwbl).

Cyflesterau
Ystafelloedd Te West Moor (Cyfeirnod Grid: SS04129849)
Tymhorol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed East Moor (Cyfeirnod Grid: SS04609804)
East Moor, Swan Lake. Mae’r llwybr troed hwn ar ymyl y cae yn cysylltu at isffordd yr arfordir, i gynnig taith gylch fer o Maenorbŷr.

Traeth
Traeth Swan Lake (Cyfeirnod Grid: SS04539795)
Traeth canolig o dywod/graean. (Nid oes elyrch na llynnoedd yma). Traeth diarffordd hyfryd i ymdrochi, ble mae symudiadau penodol y tonnau’n didoli’r cerrig bach yn ddrifftiau o gerrig crwn o’r un maint.

Clogwyni Hen Dywodfaen Coch (Cyfeirnod Grid: SS04799765)
Mae gan y clogwyni Hen Dywodfaen Coch ffawtiau fertigol ac mae’r môr wedi manteisio ar y mannau gwan i ddatblygu holltiadau dwfn iawn ar y pentiroedd – cadwch at y llwybr sydd wedi’i farcio a goruchwyliwch blant a chŵn yn ofalus ar yr adran hon.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio ym Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS05999767)
Parcio cyfyngedig wrth ymyl yr heol, gyda golygfa. Lle da yn ystod stormydd y gaeaf.


5. Maenorbŷr i Skrinkle 1.7 Milltir (3.22km)

Mae yna dri bryn serth byr (dau â grisiau) a bryn graddol hir i’r gorllewin o Presipe. I’r dwyrain o Presipe mae’n eithaf gwastad ond mae yna 2 sticil (ger Skrinkle), 4 giât wiced, 50 o risiau. Nid oes darpariaeth i ganiatáu mynediad i gŵn ar y sticil (ar gornel Gogledd Orllewinol ffens y maes roced). Naws wyllt ac anghysbell sydyn i’r adran hon rhwng Presipe a phentir Maenorbŷr (Priest’s Nose). Golygfeydd gwych o’r Bae a draw tuag at Ystagbwll, yna tuag at y Maes ac Ynys Bŷr.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Gwybodaeth
Hostel Ieuenctid Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS08009763)
Mae Hostel Ieuenctid Maenorbŷr yn Skrinkle Haven, ac nid Maenorbŷr.

Gwerth Edrych
Castell Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06399778)
Maenorbŷr oedd cartref yr eglwyswr, y teithiwr a’r awdur pwysig o’r 12fed ganrif, Giraldus Cambrensis (Gerallt Cymro). Mae un o’i lyfrau, The Journey Through Wales, mewn print hyd heddiw. Saif y castell, lle cafodd ei eni, ar grimog gyda nentydd ar y naill ochr a’r llall. Cronnwyd nant y gogledd-orllewin i greu pyllau pysgod a phynfeirch. Daw rhan hynaf y castell, sy’n edrych allan dros y traeth, o’r 12fed ganrif ac fe’i adeiladwyd gan deulu Gerallt, sef teulu’r de Barris, a fu’n byw yma hyd nes 1336. Disgrifiwyd y pentref gan Gerallt fel “y man mwyaf dymunol yng Nghymru”, ac mae’n enghraifft berffaith o faenor Normanaidd, gydag eglwys, melin a cholomendy.

Cyflesterau
Pentref Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06719788)
Pentref Maenorbŷr ar gyfer tafarn, siop a llety gwely a brecwast.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06249768)
Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol, tâl y ystod y tymor (a fan hufen iâ). Toiledau yn y maes parcio.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Traeth Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06189766)
Mynediad at Draeth Maenorbŷr. O brif faes parcio’r traeth islaw’r castell, mae llwybr ag arwyneb o raean yn arwain at y traeth. I safon BT, mae’r adran ddiwethaf dros rodfa bren, ac yn diweddu wrth y sedd. Golygfeydd o’r traeth a’r castell. Mae’r traeth ei hun yn dywod meddal. Toiledau yn y maes parcio. Llwybr cadeiriau olwyn 210m.

Traeth
Traeth Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06019748)
Traeth tywodlyd canolig, sy’n boblogaidd ymhlith syrffwyr.

Rhybudd
Clogwyni Hen Dywodfaen Coch (Cyfeirnod Grid: SS05909723)
Mae gan y clogwyni Hen Dywodfaen Coch ffawtiau fertigol ac mae’r môr wedi ecsploetio mannau gwan i ddatblygu holltau dwfn iawn i fyny at y llwybr ar y llwybrau sy’n mynd at y pentiroedd – cadwch at y llwybr sydd wedi’i farcio a goruchwyliwch blant a chŵn yn ofalus ar yr adran hon.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Coetan y Brenin (Cyfeirnod Grid: SS05999733)
Coetan y Brenin / Parson’s Piece & SS05959712. Mae’r ddwy gyffordd yma gyda’r un llwybr yn cynnig teithiau cylch 0.6 milltir o hyd, gyda golygfeydd da, trwy’r Eglwys Ganoloesol. Gwyliwch rhag holltau sydyn sy’n ddwfn iawn, 120 troedfedd o ddyfnder.

Gwerth Edrych
Coetan y Brenin (Cyfeirnod Grid: SS05939728)
I’r de-ddwyrain o’r traeth, mae Llwybr yr Arfordir yn pasio Coetan y Brenin, sef siambr gladdu Neolithig o tua 3,000 CC.

Rhybudd
Clogwyni Maenorbŷr (Cyfeirnod Grid: SS06119710)
Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Traeth
Traeth Presipe (Cyfeirnod Grid: SS06949698)
Traeth tywodlyd canolig. Mae’r llwybr am i lawr at Draeth Presipe yn serth iawn, gyda nifer o risiau. Mae’n draeth diarffordd. Byddwch yn ofalus oherwydd mae yna gafnau dwfn yng ngwely’r traeth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Troed Hill Farm (Cyfeirnod Grid: SS06949709)
Presipe. Mae llwybr yn croesi o Hill Farm i Draeth Presipe, ac mae mynediad i’r traeth yn serth iawn. Mae’r llwybr hwn yn cyflwyno’r opsiwn o gerdded taith gylch o Faenorbŷr. (0.7 milltir i’r pentref.)

Gwybodaeth
Maes Tanio Skrinkle (Cyfeirnod Grid: SS07399677)
Mae Maes y Weinyddiaeth Amddiffyn o’ch blaen yn un ble maen nhw’n tanio taflegrau wedi’u tywys tuag at dargedau a dynnir gan awyrennau model, ac os digwydd i chi glywed hymian awyren yn cylchdroi allan at y môr, byddwch yn barod am sŵn ergyd ddwbl swnllyd iawn.

Gwybodaeth
Llwybr Troed Twll Cwningar (Cyfeirnod Grid: SS07279702)
Mae’r mapiau’n dangos llwybr sy’n ymlwybro at Dwll Cwningar – nid yw’n arwain i unlle, oherwydd gwaredwyd y gweddill adeg adeiladu’r Maes.

Gwybodaeth
Hen Lwybr Skrinkle (Cyfeirnod Grid: SS07469755)
Mae’r llwybr a ddangosir ar y rhan fwyaf o fapiau, ychydig i’r gogledd o giatiau gwersyll Skrinkle, fel Llwybr yr Arfordir, yn hen ran o Lwybr Arfordir Sir Benfro. Mae’r llwybr hwn bellach yn arwain at y parc chwarae ymhellach i’r gogledd.

Gweld yr Adran hon ar Street View

Broad Haven South (Cyfeirnod Grid: SR975938)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir