This section is close to the accommodation, shops and facilities of St Davids and Solva. The many access points and a good bus service makes this a popular area for short and circular walks. There are now no stiles to cross between Porth y Dwfr (north of Whitesands) and Pembroke Dock.

1. Porth Mawr i Borthstinan 2.2 Milltir (3.22Km)

Clogwyni eithaf isel – hyd at 30m, golygfeydd da o Ynys Dewi. 1 giât, 0 sticil, 30 o risiau, graddiannau ysgafn.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio’r Porth Mawr
(Cyfeirnod Grid: SM734271)
Arosfan bysiau (Crwydrwr Celtaidd – gwasanaeth gwennol bob awr o amgylch Penrhyn Tyddewi). Maes parcio mawr, ond mae’n llawn yn ystod y rhan fwyaf o fisoedd yr Haf. Cyngor Dinas Tyddewi sy’n ei rhedeg, tâl yn ystod y tymor. Toiled.

Cyflesterau
Porth Mawr

Caffi a siop. Toiledau cyhoeddus.

Traeth
Whitesands Traeth
(Cyfeirnod Grid: SM731271)
Traeth poblogaidd ar gyfer syrffio ac ymdrochi. Teithiau cychod pŵer i’r Ynysoedd.

Rhybudd
Llanw a Cherrynt ym Mhorth Mawr (Cyfeirnod Grid: SM731268)
Mae’n bosib cerdded ar y traeth rhwng y Porth Mawr a Phorthselau, ond er mwyn gwneud hyn yn ddiogel mae angen dealltwriaeth dda o’r llanw. Dylai unrhyw un sy’n nofio gymryd gofal rhag y cerrynt pwerus os ydyn nhw’n nofio’n rhy bell allan. Cyfyngiadau ar gŵn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Porth Mawr – Mynediad Hwylus (Cyfeirnod Grid: SM733271)

Traws Gwlad i’r Porth Mawr gyda mynediad i gadeiriau olwyn. I’r gogledd, mae Maes Capel Sant Padrig yn eithaf gwastad am 150m cyn i’r llwybr godi’n serth iawn tuag at Benmaendewi, gwlyb yn y Gaeaf. I’r de, maer llwybr yn codi’n fwy ysgafn, ond ar ôl 200m mae yna duedd i’r dŵr gasglu ar yr arwyneb ac mae’n arw iawn, 5 sedd. Mae yna arwyneb o dywod ar y ddau lwybr, un giât. Toiledau yn y maes parcio. Llwybr Mynediad Hwylus yn 350m ar y cyfan.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr De’r Porth Mawr (Cyfeirnod Grid: SM733266)

0.5km i’r de o’r Porth Mawr. Cyfle i gymryd taith gylch fer, (gan ddychwelyd ar yr heol) o’r Porth Mawr, neu daith draws gwlad i Dyddewi

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Porthselau (Cyfeirnod Grid: SM727259)

Dau lwybr. Mae un yn gyfle i ddychwelyd tua’r tir i’r Porth Mawr, yn rhannol ar hyd llwybr ceffylau sydd weithiau’n fwdlyd. Mae’r llall yn drac at yr isffordd, ac fe allwch ei ddilyn i gerdded mewn cylch trwy St Justinian neu Borth Clais.

Traeth
Traeth Porthselau
(Porthsele) (Cyfeirnod Grid: SM726260)
Traeth bach cysgodol a ddefnyddir yn helaeth gan y maes carafanau / pebyll gerllaw.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM721260)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.


2. Porthstinan i Dreginnis 0.7 Milltir (1.61Km)

Llwyfandir ar gopa’r clogwyn. Mae yna raddiannau ysgafn ar Lwybr yr Arfordir. Banciau o glustog Fair a blodau gwyllt eraill yn gynnar yn yr Haf, rha clogwyni serth sy’n edrych yn gadarn. 2 giât mochyn, 1 giât wiced, 0 sticil, 3 o risiau carreg isel. Mae defaid yn pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio ym Mhorthstinan
(Cyfeirnod Grid: SM724252)
Arosfan bysiau (Crwydrwr Celtaidd – gwasanaeth Gwennol bob awr o amgylch Penrhyn Tyddewi). Parcio cyfyngedig iawn i geir, heolydd cul. Dim toiled.

Gwybodaeth
Porthstinan (Cyfeirnod Grid: SM723252)
Enwyd St Justinian ar ôl sant o’r 6ed ganrif a fu’n byw ar Ynys Dewi. Yn ôl y chwedl, fe dorrodd ei ddilynwyr ei ben, wedi iddynt flino ar ei gyfundrefnau llym, ond cododd ei ben oddi ar y llawr a cherdded draw at y prif dir cyn marw. Mae’r capel adfeiliedig, ar dir preifat, yn dangos ei fan claddu gwreiddiol. Adeiladwyd gorsaf y bad achub yn 1911 ac, ers hynny, mae badau achub o’r fan hon wedi achub nifer sylweddol o fywydau. Yn yr Haf mae yna deithiau cwch oddi yma i Ynys Dewi, gwarchodfa natur sy’n cael ei rhedeg gan yr RSPB ac sy’n lle pwysig iawn i’r morloi llwyd, y frân goesgoch ac adar y môr.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM723252)

Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth Edrych
Caer Benrhyn Castell Heinrif o’r Oes Haearn (Cyfeirnod Grid: SM723246)

aer Benrhyn o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd aneddiadau Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro.


3. Treginnis i Borth Clais 3.7 Milltir (6.44Km)

Pedwar bryn byr, eithaf serth, gan gynnwys dau sy’n golygu ychydig o ymdrech. Mae yna fryn serth, hir ychydig i’r gorllewin o Borth Clais. Adran wyllt gyda naws anghysbell. 7 giât mochyn, 3 giât wiced, 0 sticil, 25 o risiau. Mae defaid a cheffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Treginnis (Cyfeirnod Grid: SM722241)

Cyfle i gymryd teithiau cylch o amgylch St Justinian neu Borth Clais. Neu amrywiaeth o ddolenni a llwybrau tarw. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar ymyl y ffyrdd, ffermydd neu draciau mynediad o amgylch Treginnis.

Gwybodaeth
Swnt Dewi (Cyfeirnod Grid: SM712236)
Wrth edrych draw at Ynys Dewi, efallai y gwelwch chi lamhidyddion yn ogystal ag adar y môr fel gwylanwyddau, gwylanod coesddu a mulfrain. Maen nhw’n dod yma i fwydo ar y pysgod toreithiog sy’n dod i’r wyneb oherwydd bwrlwm y llanw yn y Swnt, sy’n gallu cyrraedd cyflymder o 7 not.

Rhybudd
Cerrynt cryf (Cyfeirnod Grid: SM716239)
Waeth pa mor boeth fyddwch chi, peidiwch â chael eich temtio i nofio yn Swnt Dewi, fe fydd y cerrynt pwerus yn eich cario chi draw i Iwerddon!

Gwybodaeth
Mwyngloddiau Copr Penmaenmelin (Cyfeirnod Grid: SM715235)

Twll wedi’i ffensio i ffwrdd. Fe’i defnyddiwyd yn ystod y 19eg ganrif.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Penmaenmelyn i Dreginnis
(Cyfeirnod Grid: SM715235)
Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyfle i gymryd teithiau cylch o amgylch St Justinian neu Borth Clais. Neu amrywiaeth o ddolenni a llwybrau tarw. Nid oes parcio cyhoeddus wrth ymyl y ffyrdd, ffermydd neu draciau mynediad o amgylch Treginnis.

Rhybudd
Llwybrau Defaid (Cyfeirnod Grid: SM717231)

Clogwyni crwn gan fwyaf tua’r môr – mae defaid yn pori’r ardal hon, felly gofalwch rhag dilyn llwybrau gogylchol cul sydd ddim yn mynd i unrhyw le. Os oes amheuaeth, dilynwch y llwybr sydd wedi’i ddiffinio orau sydd agosaf at ochr y tir.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Porth Henllys i Dreginnis
(Cyfeirnod Grid: SM725236)
Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyfle i gymryd teithiau cylch o amgylch St Justinian neu Borth Clais. Neu amrywiaeh o ddolenni a llwybrau tarw. Nid oes unrhyw lefydd parcio cyhoeddus wrth ymyl y ffyrdd, ffermydd neu draciau mynediad o amgylch Treginnis.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Porthlisgi i Dreginnis (Cyfeirnod Grid: SM730237)

Llwybr caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyfle i gymryd teithiau cylch o amgylch St Justinian neu Borth Clais. Neu amrywiaeth o ddolenni a llwybrau tarw. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar ymyl y ffyrdd, ffermydd neu draciau mynedad o amgylch Treginnis.

Traeth
Traeth Porthlysgi (Cyfeirnod Grid: SM730236)
Ar ddiwrnod poeth, mae Porthlysgi’n gallu bod yn lle dymunol i nofio, mae’r dŵr wastad yn ffres. Traeth diarffordd canolig gyda pheth tywod. Mae’r hanner dwyreiniol yn cael ei dorri i ffwrdd wrth i’r llanw ddod i mewn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad Hwylus Fferm Porthllisky (Cyfeirnod Grid: SM737236)

Efallai y byddai’n bosib i gadeiriau olwyn traws gwlad basio’r llwybr mynediad caniataol newydd hwn o’r fferm.


4. Porth Clais i Gaerbwdi 2.5 Milltir (3.22Km)

Er bod yna fryniau serth bob pen i’r adran hon, mae yna raddiannau ysgafn ar y Llwybr rhyngddynt. Gellir cael mynediad i’r adran hon o St Non’s neu Gaerfai i osgoi’r bryniau. Dim sticlau, 2 giât mochyn, 1 giât wiced, 15 o risiau ychydig i’r Dwyrain o Borth Clais, 5 o risiau yng Nghaerbwdi. Mae yna olygfeydd gwych ar draws Bae San Ffraid i Ynys Sgomer. Perspectifau’n newid wrth i chi gerdded o amgylch troeon-s y baeau.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Penrhyn Treginnis (Cyfeirnod Grid: SM740242)
Isffordd, gyda thipyn o draffig yn aml yn y prif dymor. Defnyddiwch yr heol i ddychwelyd i St Justinian neu Borthselau, teithiau dydd byr, da, ar hyd y penrhyn . Cyfle i ddychwelyd ar hyd llwybr troed i Dyddewi / St Non’s hefyd.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau Porth Clais (Cyfeirnod Grid: SM740242)

Arosfan bysiau (Crwydrwr Celtaidd – gwasanaeth Gwennol bob awr o amgylch Penrhyn Tyddewi). Maes parcio rhad ac am ddim 20 car yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Maes parcio 15 car Ymddiriedolaeth yr Harbwr, gyda thâl. Ciosg bach yn gwerthu coffi / hufen iâ. Toiled hygyrch.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Hwylus Porth Clais (Cyfeirnod Grid: SM740242)

Mae ochrau uchaf yr harbwr yn hygyrch – tua 80m ar bob ochr. Mae yna arwyneb o gerrig wedi’u cywasgu. Golygfeydd o harbwr bach tlws. Seddau. Toiled Radar ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 160m.

Gwybodaeth
Porth Clais (Cyfeirnod Grid: SM741241)

Roedd y gilfach gul hon yn ddyffryn a gerfiwyd gan ddŵr tawdd rhewlifol yn ystod yr Oes Iâ, ac yna fe’i boddwyd wrth i lefelau’r môr godi pan giliodd yr iâ, 10,000 i 5,000 o flynyddoedd yn ôl. O’r 16g ganrif ymlaen, roedd hwn yn borth masnachu prysur. Mewnforiwyd carreg galch ac fe’i proseswyd yn yr odynau calch wrth yr harbwr. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi adfer yr odynau a’r cei. Yn ôl traddodiad, bedyddiwyd Dewi Sant yma. Mae Porth Clais hefyd yn y Mabinogi, sef casgliad canoloesol o chwedlau Cymreig, fel y lle ble daeth y Twrch Trwyth i’r lan, a’r Brenin Arthur a’i farchogion ar ei ôl.

Rhybudd
Y Wal Goch – Llwybr i Ddringwyr (Cyfeirnod Grid: SM743238)

Mae’r clogwyni slab o dywodfaen yn cael eu defnyddio fel safleoedd hyfforddi gan ganolfannau gweithgarwch awyr agored lleol a dringwyr clogwyni, ac mae eu defnydd wedi datblygu rhai llwybrau clir sy’n arwain at y gwymp – os oes amheuaeth, dilynwch y llwybr sydd wedi’i ddiffinio orau – y llwybr sydd agosaf at ochr y tir.

Rhybudd
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn (Cyfeirnod Grid: SM744239)
Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwybodaeth
Bae Santes Non
(Cyfeirnod Grid: SM751243)
Mae’r bae bach hwn, ble, yn ôl y traddodiad, y ganed Dewi Sant, yn enwog am ei awyrgylch hudolus. Mae’r capel adfeiliedig yn dyddio o tua 1300 ac wedi’i gysegru i fam Dewi, sef y Santes Non. Efallai mai olion cylch o’r Oes Efydd yw’r cerrig o’i amgylch, yn atgof o’r chwedl fod meini hirion yn gwarchod Non wrth iddi roi genedigaeth. Dywedir bod ffynnon wedi codi yn y man ble ganwyd Dewi, ac ers hynny mae wedi dod yn ffynnon sanctaidd. Adeiladwyd y capel modern a St Nons Retreat gerllaw yn y 1930au.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Mynediad i St Non’s (Cyfeirnod Grid: SM751242)
Dau gyswllt ar hyd llwybrau byr i heol sydd ddim yn arwain i unman, heb unrhyw fannau parcio ffurfiol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ffordd Aaron (Cyfeirnod Grid: SM752243)
Y llwybr dwyreiniol, o’r enw Ffordd Aaron, yw’r cyswllt byraf ar lwybr o Lwybr yr Arfordir i Dyddewi, (gwaredwyd y sticlau oddi ar y llwybr yn 2006 gan sicrhau mynediad haws), mae yna gyfle i ddychwelyd ar gaeau a lôn werdd i Borthclais ac i ddychwelyd ar lwybr, sydd ar heol mewn mannau, i Gaerfai.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Mynediad ar yr Heol i Gaerfai (Cyfeirnod Grid: SM760243)

Isffordd, maes parcio bach (25 car) y Parc Cenedlaethol, tagfeydd traffig yn aml yn y prf dymor. Arosfan bysiau, prif faes parcio, toiled ayb yn y Ganolfan Groeso 0.6 milltir i lawr yr heol.

Cyflesterau
Dinas Tyddewi (Cyfeirnod Grid: SM753253)

Dinas fechan gydag amrywiaeth lawn o wasanaethau.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Arosfan Bysiau a Chanolfan Groeso (Cyfeirnod Grid: SM757252)

Arosfan bysiau (Crwydrwr Celtaidd – gwasanaeth Gwennol bob awr o amgylch Penrhyn Tyddewi a’r Pâl Gwibio – dychwelyd dair gwaith y dydd i Aberdaugleddau) {Daliwch Gwibiwr Strwmbwl ym maes parcio’r Gelli}). Maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol, gyda thâl, a Chanolfan Groeso’r Awdurdod. Toiled hygyrch.

Traeth
Traeth Caerfai (Cyfeirnod Grid: SM760242)

Y traeth ymdrochi agosaf i Dyddewi. Traeth tywodlyd bach i ganolig, gyda disgyniad serth, sy’n swatio o dan glogwyni uchel.

Rhybudd
Clogwyni Caerbwdi a St Non’s (Cyfeirnod Grid: SM762243)
Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhai rhannau o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Gwerth Edrych
Caer Benrhyn Penpleidiau o’r Oes Haearn
(Cyfeirnod Grid: SM762240)
Caer Benrhyn o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd aneddiadau Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Sylwer y ffosydd triphlyg a’r banciau trawiadol wedi eu palu i mewn i’r graig gadarn.


5. Caerbwdi i Borth y Rhaw 1.6 Milltir (3.22km)

Bryniau serth ar bob pen, gellir cael mynediad i’r adran hon ar lwybrau gyda graddiannau mwy ysgafn, Path gwastad a llydan, yn ôl oddi wrth y clogwyn, ar gomin agored. 0 sticil, 1 giât wiced, 45 o risiau ym Mhorth y Rhaw. Mae ceffylau’n pori rhannau o’r adran hon.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Gwybodaeth
Chwarel Caerbwdi

Gosodwyd tywodfaen porffor (Iasbis neu ‘Jasper’) Caerbwdi i lawr 540 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn y cyfnod Cambriaidd. Fe’i defnyddiwyd yn y cyfnod Canoloesol i adeiladu Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ailagorwyd y chwarel yn ddiweddar i ddarparu cerrig ar gyfer gwaith adfer.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Caerbwdi (Cyfeirnod Grid: SM767245)
Mynediad ar lwybr troed o fan parcio bach iawn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 200m tua’r tir.

Traeth
Traeth Caerbwdi (Cyfeirnod Grid: SM766243)

Traeth bach i ganolig o dywod a chlogfeini, gyda chraig-ffurfiadau diddorol.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Ysgafn Trelerw
(Cyfeirnod Grid: SM772243)
Llwybr byr sy’n cysylltu at isffordd sy’n cysylltu at brif ffordd, parcio mewn man-tynnu-i-mewn ar y brif ffordd. (Cyswllt hefyd at y Foss y Mynach).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Ffos y Mynach (Cyfeirnod Grid: SM776244)

Comin Morfa (1 milltir i’r gorllewin o Naw Ffynnon. Mae llwybr o’r enw Ffos y Mynach yn ymuno. Mae’r llwybr hwn yn cynnig cyfle i gerdde Penrhyn Tyddewi fel taith gylch 2 ddiwrnod. Awdurdod y Parc Cenedlaethol sy’n cynnal a chadw’r llwybr, ac mae’n dilyn llwybrau cyhoeddus, llwybrau ceffylau a rhai isffyrdd i gysylltu at Lwybr yr Arfordir unwaith eto ym Mhenberi ar arfordir gogleddol Penrhyn Tyddewi.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Mynediad Ysgafn Naw Ffynnon
(Cyfeirnod Grid: SM784244)
Mae’r llwybr gorllewinol (uchel) i Naw Ffynnon yn disgyn yn ysgafn i’r cwm. Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda lle i bedwar car.


6. Porth y Rhaw to Solfach Isaf 1.8 Milltir (3.22km)

Graddiannau ysgafn heblaw am y bryn serth yn Solfach sydd â 50 o risiau. Gellir cyrraedd y daith hon ar y llwybr gweddol wastad o Swyddfa Bost Solfach. 3 giât wiced, 0 sticil, 50 o risiau.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybrau Mynediad Ysgafn Naw Ffynnon (Cyfeirnod Grid: SM786244)

Dau lwybr sy’n cynnig cyswllt uchel at y brif ffordd neu lwybr isel ar hyd y dyffryn gyda diddordeb gwlyptir. Lle i ryw bedwar car yn agos at y brif ffordd. Mae’r llwybrau hyn yn cynnig dolen fer iawn gyda rhai golygfeydd da, neu gylched hirach ar ymyl y caeau o Solfach gan ddilyn llwybrau caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd ddim wedi eu marcio ar y mapiau, ond sydd wedi eu marcio’n dda ar y tir.

Traeth
Traeth Porth y Rhaw
(Cyfeirnod Grid: SM785242)
Traeth bach o gerrig mân a chreigiau gydag ychydig o dywod. Mae’r mynediad yn eithaf serth.

Gwerth Edrych
Caer Benrhyn Porth y Rhaw o’r Oes Haearn (Cyfeirnod Grid: SM786242)

Caer Benrhyn fawr o’r Oes Haearn, un o dros 50 o safleoedd aneddiadau Neolithig i’w gweld ar hyd Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ceir y golygfeydd gorau o’r Heneb Cofrestredig arbennig hwn o’r pentir gorllewinol uwchben.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Llanunwas (Cyfeirnod Grid: SM790239)

Lôn werdd, wastad sy’n cysylltu at y brif ffordd, dim parcio, dim palmant. Ond mae’n torri ar draws y gylched ymyl-y-cae o Solfach ar lwybrau caniataol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd ddim wedi eu dangos ar y mapiau, ond sydd wedi eu marcio’n dda ar y tir.

Rhybudd
Clogwyni Porth y Rhaw i Solfach (Cyfeirnod Grid: SM794237)

Ymyl y Clogwyn Heb ei Amddiffyn. Ymylon y clogwyni’n erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Rhannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Solfach Uchaf (Cyfeirnod Grid: SM794238)

Solfach, Rhan Uchaf yr Harbwr. Llwybr byr at gyswllt isffordd i Solfach Uchaf (ychydig o barcio, os o gwbl, heblaw am fan-tynnu-i-mewn ar y brif ffordd).

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Cei Solfach (Cyfeirnod Grid: SM805243)

Cei Solfach SM 805243. O faes parcio Gwaelod Solfach i’r Clwb Cychod. Rhan yn drac cerrig llyfn, rhan yn asffalt, ar wal fôr diamddiffyn. Graddiannau safonol i Fieldfare; dim goleddf croes o bwys. Seddau. Toiled Radar yn y maes parcio. Cadeiriau Olwyn 0.8 km.

Cyflesterau
Solfach (Cyfeirnod Grid: SM805243)

Maes Parcio rhad ac am ddim y Parc Cenedlaethol, siopau pentref, llety, tafarndai ayb.

Cyflesterau
Harbour Inn (Cyfeirnod Grid: SM806243)

Cwrw a bwyd gyda seddau tu allan ar gyfer yr Haf, a thân iawn ar gyfer y Gaeaf.

Gwybodaeth
Solfach (Cyfeirnod Grid: SM806244)

Solfach, gyda’i bythynnod, siopau a thafarndai lliwgar, yw un o bentrefi prydferthaf Sir Benfro. Heddiw, mae’n ganolfan boblogaidd i gychod, ond o ddechrau’r 17eg ganrif, roedd yn borthladd masnachol prysur. Erbyn 1900, roedd rhyw 30 o gychod wedi cofrestru yma ac roedd yna naw warws ar gyfer cargo. Mewnforiwyd carreg galch ac fe’i proseswyd yn yr odynau. Dirywiodd y masnachu ar ôl 1850, wedi i’r rheilffordd gyrraedd Sir Benfro. Cerfiwyd cwm Solfach a chwm Gwadn drws nesaf, gan ddŵr tawdd rhewlifol yn ystod Oes yr Iâ. Wedi i’r iâ gilio ac wedi i lefel y môr godi, boddwyd y ddau gwm. Mae’r Gwadn wedi siltio. Gwahenir y cymoedd gan y Gribin, crib finiog gyda chaer o’r Oes Haearn ar ei chopa.

Gweld yr adran hon ar Street View

Porth Mawr (Cyfeirnod Grid: SM734271)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir