Nid yw'r rhan fwyaf o'r llwybr yn y Parc Cenedlaethol oherwydd agosatrwydd y diwydiant sy'n gysylltiedig â'r hafan. Mae'n dal i fod yn daith ddiddorol iawn sy'n gyfoeth o ddiddordeb hanesyddol, amgylcheddol ac amaethyddol. Mae'n werth ymweld â Phenfro a'i chastell. Oherwydd y cysgod rhag gwyntoedd yr arfordir, mae'n cynnwys llawer o adrannau trwy goetir.

1. Neyland trwy Ddoc Penfro 4.1 Milltir (6.44km)

Adran sydd ar yr heol yn bennaf, gyda golyfeydd da o’r aber. Palmantydd neu lwybr beiciau trwy gydol yr adran. Dau fryn eithaf serth, 13 o risiau yng Ngoed Neyland, dim sticlau na giatiau.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Marina Neyland (Cyfeirnod Grid: SM96740528)

Marina Neyland SM967048 i Johnston SM934105. Llwybr beicio ag arwyneb asffalt ar hen reilffordd, trwy gwm coediog, y mae rhan ohono’n warchodfa natur. Seddau hwnt ac yma. Parcio cyfyngedig ar y naill ben a’r llall. Toiled ger y Marina. Graddiant bach i ganolig tuag i lawr o Johnston. Cyngor Sir Penfro sy’n ei gynnal. Antur 7km.

Rhybudd
Llwybr Amgen Marina Neyland (Cyfeirnod Grid: SM96740528)

Mae rhai o’r mapiau a’r tywyslyfrau’n dangos llwybr sy’n dilyn y llwybr beicio ar hyd y Marina – llwybr answyddogol ond dymunol. Mae’r llwybr hwn hefyd yn golygu dringo tyle serth iawn a chroesi priffordd brysur a chyflym.

Rhybudd
Pont y Cleddau (Cyfeirnod Grid: SM97390496)

Mae Llwybr yr Arfordir yn croesi’r bont uchel. Yn ystod gwyntoedd garw, mae’r bont ar gau i unrhyw draffig – gan gynnwys cerddwyr!

Gwybodaeth
Pont Cleddau i Benfro – Llwybr Amgen (Cyfeirnod Grid: SM97570433)

Mae rhai mapiau a thywyslyfrau yn dangos y llwybr fel petai’n dilyn y brif ffordd rhwng y Dollbont a Phenfro. Ond, mae’r llwybr swyddogol yn dilyn nodweddion diddorol Doc Penfro.

Rhybudd
Llwybrau trwy drefi (Cyfeirnod Grid: SM97000379)

Nid oes gan y Llwybr Cenedlaethol hwn ffordd ddynodedig drwy’r trefi mwyaf. Mae’r mapiau a’r arweinlyfrau yn dangos gwahanol ffyrdd y maent yn eu hargymell, ond fe fydd cerddwyr yn dewis y llwybr sy’n addas ar eu cyfer hwy, yn dibynnu ar eu gofynion o ran llety a nwyddau. Mae llwybr drwy’r trefi wedi ei nodi ag arwyddion mesen sydd wedi eu glynu ar byst lamp ac arwyddion ffyrdd, a hynny fel arfer yn uchel i fyny, ond y maent serch hynny ar drugaredd fandaliaid a phaent newydd. Yr ydym yn argymell eich bod yn defnyddio map. O’r Pasg 2009 fe fydd arwyddion brown gyda’r fesen arnynt yn cael eu hychwanegu at arwyddion strydoedd ac ati. Chwiliwch am y rhain yn y lle cyntaf drwy Ddoc Penfro. Chwiliwch am symbol y fesen hefyd ar arwyddion llwybrau cerdded gwyrdd y Cyngor Sir.

Gwybodaeth
Parc Llanion (Cyfeirnod Grid: SM97160411)

Adeilad trawiadol o friciau coch a oedd yn arfer bod yn bencadlys garsiwn y fyddin. Nawr, mae’n gartref i Awdurdod y Parc Cenedlaethol (a Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn lleol, sy’n rhan-ariannu’r Llwybr Cenedlaethol). Os oes unrhyw sylwadau gennych (positif neu negyddol) ynglŷn â defnyddio’r Llwybr Cenedlaethol, mae croeso i chi alw i mewn a’u gadael gyda thîm y dderbynfa, a fydd yn sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo at y person iawn.

Gwybodaeth
Doc Penfro (Cyfeirnod Grid: SM96710338)

Tyfodd y dref newydd o amgylch ei hiard longau lyngesol, a sefydlwyd ym 1814. Daeth Doc Penfro i fod yn un o iardiau adeiladu cychod mwyaf datblygedig y byd, gan gyflwyno technoleg flaengar a chyflogi 3,000 o ddynion. Adeiladwyd dros 260 o gychod rhyfel a phob cwch hwylio brenhinol yma, ac eithrio’r Britannia, ac roedd garsiwn filwrol yn gwarchod yr iard longau. Roedd cau’r iard longau ym 1926 yn destun caledi economaidd sylweddol. Mae yna gysylltiad â phob un o’r tri gwasanaeth arfog – roedd garsiwn o gatrodau enwog y Fyddin yma ac roedd awyrennau môr y Llu Awyr Prydeinig yn gweithredu o’r dyfroedd cysgodol, gan helpu ennill Brwydr yr Iwerydd. Adlewyrchir hanes milwrol unigryw’r dref mewn amgueddfa mewn tŵr drylliau oddi ar Stryd Front. Mae’r dref yn borthladd ar gyfer cychod fferi i Iwerddon.

Cyflesterau
Doc Penfro (Cyfeirnod Grid: SM96710338)

Tref ddiymhongar gydag amrywiaeth eang o wasanaethau. Digon o siopau, archfarchnadoedd, banciau, tafarndai, bwytai a llety.

Gwerth Edrych
Tŵr Drylliau ‘Martello’ (Cyfeirnod Grid: SM96400383)
Tŵr Martello, strwythur amddiffynnol (a adeiladwyd o galchfaen lleol).

Gwerth Edrych
Yr Iard Longau Lyngesol Frenhinol (safle) (Cyfeirnod Grid: SM96130357)
Waliau uchel ac adeiladau imperialaidd trawiadol o galchfaen lleol, a fu’n gartref i’r iard longau ac, yn ddiweddarach, sgwadron yr awyrennau môr.

Gwerth Edrych
Y Barics Amddiffynadwy (Cyfeirnod Grid: SM9060308)
Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd heibio i ddrws ffrynt y gaer sgwat drawiadol hon a oedd yn arfer bod yn gartref i finteioedd y magnelfeydd drylliau a amddiffynnai’r dociau.


2. Doc Penfro i Benfro 1.6 Milltir (3.22km)

Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd ar draws dir fferm, yn aml gyda gwartheg, weithiau’n fwdlyd. Ceir ambell olygfa ddyrchafedig o Afon Penfro, a Chastell gwych Penfro. Graddiannau gweddol, 1 sticil, 5 giât mochyn, 2 giât wiced, 4 o risiau.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Lôn Imble (Cyfeirnod Grid: SM97300228)
Mae llwybr ceffylau’n ymuno yma, ac yn arwain at isffordd, gan gynnig taith gylch o amgylch Doc Penfro.


3. Penfro i Felin Coetan 1.3 Milltir (1.61km)

Adran ar yr heol. Palmantydd trwy Benfro a Chil-maen. Adran fer o heol fach iawn heb unrhyw balmant ym Melin Coetan, gorlifo o ganlyniad i lanw’r Gwanwyn.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Cyflesterau
Tref Penfro (Cyfeirnod Grid: SM98300148)
Tref ddiymhongar ag amrywiaeth eang o wasanaethau. Digon o siopau, banciau, tafarndai, bwytai a llety.

Gwerth Edrych
Tref Penfro (Cyfeirnod Grid: SM98300148)
Mae tref Penfro’n ymestyn ar hyd cribyn calchfaen cul, a amddiffynnwyd ar dair ochr gan ddŵr yn y gorffennol. Gwelodd y Normaniaid ei photensial amddiffynnol ac adeiladasant gastell pren yma yn hwyr yn yr 11eg ganrif. Ailadeiladwyd y castell o garreg, gyda gorthwr godidog, a daeth yn sedd iarllaeth Penfro. Yma y ganed Harri Tudur, a ddaeth yn Harri VII, ym 1457. Penfro oedd prif leoliad y Senedd yng ngorllewin Cymru yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr, hyd nes i’w amddiffynwyr newid eu teyrngarwch yn annisgwyl. Ildiasant i Oliver Cromwell ar ôl gwarchae o chwe wythnos, ym 1648. Mae yna dai Georgaidd a Fictoraidd coeth ar y Stryd Fawr ac erys adrannau o waliau canoloesol y dref.

Gwybodaeth
Melin Lanw (Cyfeirnod Grid: SM98330164)
Safle melin ddŵr sy’n cael ei phweru gan gerhyntau llanw. Mae yna enghraifft gyflawn yng Nghairew.

Gwerth Edrych
Castell Penfro (Cyfeirnod Grid: SM98150163)
Canolfan grym yn y cyfnod canoloesol ac yn fwy diweddar.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Castell Penfro (Cyfeirnod Grid: SM98320160)
Castell Penfro SM983016 i SM981015. Graddiannau i safon BT; dim llawer o oledd croes. Tarmac, seddau. 1.6km pellach o amgylch pwll y felin. Toiledau hygyrch yn The Commons (ar ochr arall y dref, ger y Ganolfan Croeso). Cadeiriau olwyn 0.6 km. Mae llifogydd mewn adran fer adeg llanwau’r gwanwyn.


4. Melin Coeta i Bwllcrochan 5.1 Milltir (8.05km)

Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn llwybrau ar hyd ymyl caeau a thrwy goetiroedd gydag adrannau byr ar heolydd bach iawn. Graddiannau ysgafn gan fwyaf, heblaw am lwybrau serth ac weithiau mwdlyd trwy goetiroedd rhwng Goldborough a Lambeeth. 4 sticil (Nid yw’r sticlau’n darparu ar gyfer mynediad i gŵn), 5 giât mochyn, 20 giât wiced, 2 giât cae, 10 o risiau. Golygfeydd dyrchafedig da ar draws tirwedd sydd ddim yn cael ei dominyddu gan yr osraf bŵer fawr sydd wedi’i phweru gan olew bellach – fe’i dymchwelyd yn ddiweddar. Ond maen nhw’n adeiladu gorsaf bŵer newydd wedi ei phweru gan nwy!

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Walking Access
Trwyn Bentlass (Cyfeirnod Grid: SM96160137)
Cyffordd gydag isffordd fechan iawn, dim parcio, mynediad ar yr heol i Hundleton.

Mynediad i Lwybr Cerdded
West Grove (Cyfeirnod Grid: SM95750138)
Cyffordd gydag isffordd fechan iawn, dim parcio, mynediad ar yr heol i Hundleton (0.5 milltir i fyny’r tyle).

Cyflesterau
Gwesty’r Highgate Inn, Hundleton (Cyfeirnod Grid: SM95970054)
Gwely a brecwast, bwyd a chwrw.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Safle Bysiau Hundleton (Cyfeirnod Grid: SM96100066)
Safle Bysiau (Gwibfws yr Arfordir – siwrnai ddychwelyd deirgwaith y dydd – Penfro – Freshwater East – Bosherston – Angle – Penfro). Nid oes meysydd parcio rhwng Penfro a safle’r Orsaf Bŵer, mae’n anodd iawn cyrraedd Llwybr yr Arfordir trwy yrru.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Brownslate (Cyfeirnod Grid: SM95550068)
Cyffordd gydag isffordd fechan iawn, dim parcio, mynediad ar yr heol i Hundleton (0.3 milltir, gwastad). Gellir defnyddio’r heol hon fel opsiwn arall i deithio i Fae Angle (Dwyrain) mewn tywydd gwael.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Maes Parcio’r Orsaf Bŵer (Cyfeirnod Grid: SM92540231)
Cyffordd gydag isffordd fechan iawn at safle gorsaf bŵer. Maes parcio mawr, anffurfiol, rhad ac am ddim – gordyfiant yno erbyn hyn.


5. Pwllcrochan i Fort Popton 2.1 Milltir (3.22km)

Mae Llwybr yr Arfordir yn ymestyn ar draws godiroedd coediog iawn, sy’n serth mewn mannau. Mae’r llwybr yn croesi Bae Bullwell, sef traeth caregog sy’n gorlifo am ychydig yn ystod llanwau uchaf y Gwanwyn. 3 sticil, 0 grisiau. Dominyddir yr adran hon gan Burfa Olew Valero a dyma’r llwybr sy’n pasio agosaf at ardal weithredol y tanceri olew. Mae’n rhoi cyfle i chi wylio symudiadau’r cychod anferth hyn. Golygfeydd gwych aml draw at Aberdaugleddau ac i fyny ac i lawr y ddyfrffordd.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.


6. Fort Popton i Bentref Angle 3.6 Milltir (6.44km)

Mae’r adran ddwyreiniol yn dilyn heol lydan, breifat at burfa, sydd fel arfer yn dawel. Mae’r adran ganolog yn lwybr ar hyd clogwyni isel gyda llawer o giatiau. Mae’r adran orllewinol ar heol ystâd breifat, dawel iawn. 12 giât wiced, 0 sticlau na grisiau.

Cymeriad y daith: Dim rhwystrau gwneuthuredig i gadeiriau olwyn, mae cyflwr y ddaear yn amrywio.

Gwerth Edrych
Caer Popton a’r Fagnelfa (Cyfeirnod Grid: SM89370374)
Mae Caer Popton yn Gaer Fictoraidd arall, ac mae yna fagnelfa ychydig bach oddi ar y Llwybr tuag at y Trwyn.

Maes Parcio / Cludiant Cyhoeddus
Parcio Rhoscrowther (Cyfeirnod Grid: SM89760205)
Parcio ar gyfer hyd at 6 car. Yn aml, mae’r gât ar ddiwedd yr heol breifat yn cael ei chloi heb rybudd – peidiwch â gyrru tuag at Popton. Nid oes cysylltiad bws.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Rhoscrowther (Cyfeirnod Grid: SM89760205)
Rhoscrowther i Gaer Popton. Fel arfer, mae’n heol breifat, dawel iawn, ond weithiau mae’n brysur â thraffig adeiladu. Tyle serth i fyny at Gaer Popton.

Walking Access
Point Lodge, Bae Angle (Cyfeirnod Grid: SM87530216)
Dim parcio. Cyffordd gyda diwedd isffordd, cysylltwch hwn trwy Bangeston a llwybr troed cyhoeddus Cartws Roced at Freshwater West i gynnig taith gylch o ddiwrnod llawn o amgylch Penrhyn Angle.

Mynediad i Lwybr Cerdded
Llwybr Cadeiriau Olwyn Neuadd Angle (Cyfeirnod Grid: SM86900270)

Neuadd Angle, SM869027 – SM875021. Heol breifat mewn cyflwr da gyda thraffig achlysurol yn unig. Dim graddiannau na graddiannau croes o bwys. 1 sedd. Golygfeydd ar draws y Bae. Yn y tywydd sychaf efallai y bydd rhai cadeiriau traws gwlad yn gallu teithio Llwybr yr Arfordir ar hyd ymyl y cae i’r dwyrain (byddai angen help gyda’r dwsin o giatiau). Toiledau yn Freshwater West (nid yw’r rhain gerllaw). Llwybr cadeiriau olwyn 800m.

Gweld yr adran hon ar Street View

Neyland (Cyfeirnod Grid: SM966048)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir