Gwiriwch amserlenni'r llanw ar gyfer y ddau fan croesi llanwol er mwyn osgoi gorfod cymryd y llwybr hirach ar yr heol. Erbyn hyn, nid oes unrhyw sticlau ar yr adran hon, ac eithrio un ychydig i’r de o Herbrandston ar y llwybr i’w dilyn pan fydd y llanw’n uchel.

1. Dale i Musselwick (Llwybr Llanw Isel) 1.6 Miles (3.22Km)

0.6 milltir ar heol sy’n aml yn brysur ac heb unrhyw balmant. 0.4 milltir yn sarn garegog. 0.6 milltir ar draeth tywodlyd sy’n eithaf anodd ei gerdded. 4 sticil yn Fferm Musselwick. Cerrig camu yng Nghroesfan Gann.

Cymeriad y daith: Dim sticlau neu resi o staerau, graddiannau llai na 1:6.

Car Park / Public Transport Access
Maes Parcio Dale (Grid ref: SM81110584)

Safle bysiau ar lan y môr yn Dale. (Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau). Maes parcio canolig Cyngor Sir Penfro, codir tâl yn ystod y tymor. Toiled yn y pentref.

Car Park / Public Transport Access
Maes Parcio Pickleridge (Grid ref: SM80860663)

Pâl Gwibio – gwasanaeth stopio a theithio – siwrnai ddychwelyd dair gwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau. Maes parcio canolig, rhad ac am ddim.

Walking Access Point
Y Gann / Pickleridge – adran i gadeiriau olwyn (Grid ref: SM80860660)

Mynediad ar hyd tafod o dir sy’n gwahanu lagwnau heli oddi wrth yr aber. Ffurfiwyd y lagwnau wrth gloddio am raean ar gyfer agregau a ddefnyddiwyd ym meysydd awyr Dale a Thalbenni. Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a wnewch chi gadw eich cŵn dan reolaeth dynn rhag ofn i chi darfu ar fywyd gwyllt. Arwyneb gwastad, garw o raean naturiol, gyda cherrig mwy o faint mewn mannau (250m). Efallai y bydd tyfiant ar yr ochrau am y 50m cyntaf. Efallai y bydd cadeiriau traws gwlad yn gallu teithio 300m pellach. Toiled yn Dale. Cadeiriau Olwyn 250m; Antur 300m.

Beach
Traeth y Gann / Pickleridge (Grid ref: SM81050665)

Traeth gwastad, cysgodol, helaeth o dywod, silt a graean bras. Poblogaidd ymhlith y rheiny sy’n palu am abwyd i bysgota.

Information
SoDdGA Pyllau’r Gann (Grid ref: SM81160721)
I’r gogledd o Dale, mae gwrym hir o raean bras yn nodi ymyl dyddodiad helaeth o dywod a graean. Fe gronnodd ar hyd ymyl deheuol haenen iâ Môr Iwerddon, a oedd yn toddi, tua 17,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiwyd y dyddodion i ddarparu defnyddiau ar gyfer meysydd awyr Dale a Thalbenni. Mae’r pyllau a’r dyffryn, sydd wedi eu boddi erbyn hyn, bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n bwysig oherwydd yr adar sy’n dod yma dros y gaeaf.

Caution
Croesfan y Gann (Grid ref: SM81330709)

Dim ond dair awr a hanner bob ochr i ddŵr isel y gallwch chi fod yn siŵr o groesi’r groesfan lanwol yn y Gann. Mae yna groesfan lanwol arall 4 milltir i’r dwyrain yn Sandy Haven. Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu croesi’r ddwy groesfan, ceisiwch gyrraedd y cyntaf wrth i’r llanw ddisgyn – hanner ffordd rhwng llanw uchel ac isel, ac yna fe fydd digon o amser gennych (5 awr) i gyrraedd yr ail groesfan.

Walking Access Point
Cilffordd Llwybr y Gann (Grid ref: SM81330700)

Llwybr arall pan fydd y llanw’n uchel, os na fydd y llanw’n rhy uchel (mae llanwau’r gwanwyn yn dueddol o foddi’r llwybr). Llwybr o gerrig sy’n llawn ceudyllau. Yn aml, mae yna bentwr o wymon wedi’i ddyddodi, sy’n pydru wrth y gyffordd gyda’r isffordd, ac nid oes modd mynd heibio iddo. Isffordd yw’r lleiaf o’r priffyrdd y mae cerbydau cyhoeddus â hawl i deithio arni, ond prin y bydd ceir cyffredin yn gallu teithio ar hyd y llwybr hwn ac nid oes hawl i barcio arno. Fodd bynnag, mae’n llwybr traws gwlad i feiciau neu geffylau.

Walking Access Point
Llwybr Ceffylau’r Gann (Grid ref: SM81330700)

Mae llwybr ceffylau’n cysylltu Fferm Musselwick a’r Gann, rhan o’r llwybr llanw uchel. Mae hefyd yn opsiwn arall yn lle cerdded ar hyd y traeth. Mae hefyd yn cysylltu â’r isffordd fechan heibio i Drewarren ac yn cynnig llwybr traws gwlad i feiciau neu geffylau.

Walking Access Point
Fferm Musselwick (Grid ref: SM81950665)

Cyffordd ddwyreiniol gyda llwybrau i’w dilyn pan fydd y llanw’n uchel. Gallwch hefyd ddilyn y llwybr ceffylau os nad ydych chi am gerdded ar hyd y traeth.


2. Pickleridge i Musselwick (Llwybr Lanw Uchel) 3.2 Miles (4.83Km)

Gellir ond bod yn siŵr o gerdded ar draws y man croesi’r llanw yn y Gann dair awr a hanner bob ochr i’r cyfnod dŵr isel. Mae’r llwybr ar gyfer adegau o lanw uchel yn 1.6 milltir o heol brysur a chul heb unrhyw balmant. Hefyd, 1.6 milltir o lwybrau ar draws tir fferm ble mae gwartheg yn aml yn pori. 1 sticil garreg wrth y grid gwartheg, 8 giât (a 3 giât yn Musselwick).

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.


3. Musselwick i Fae Wenall 1.8 Miles (3.22Km)

Bryn serth i’r gorllewin o Monk Haven ac i’r dwyrain o Monk Haven Folly. 2 giât (nid yw’r giât yn Monk Haven Folly yn un hygyrch). Sticil arno i’r heol yn Musselwick.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Car Park / Public Transport Access
Maes Parcio Monk Haven (Grid ref: SM83090677)
Mae’r safle bysiau ym mhentref Llanisan-yn-rhos wrth Dafarn y Brook, 0.8 milltir o’r arfordir. Mae’n faes parcio bach a mwdlyd, ger yr eglwys, 0.36 milltir tua’r tir.

Walking Access Point
Mynediad Hwylus Monk Haven (Grid ref: SM82830648)

Monk Haven, Llanisan-yn-rhos. SM830067 i SM828064. Dilynwch y llwybr troed at yr arfordir, o’r maes parcio bach ger yr eglwys. Mae’r llwybr yn dilyn cwm coediog sy’n cael ei gysgodi rhag ewyn yr heli gan forglawdd uchel. Golygfeydd o Gaer Dale. Mae’r arwyneb yn hen drac o gerrig, yn rhannol, a chafodd ei wella’n ddiweddar gyda cherrig wedi’u rholio. Graddiannau i safon Fieldfare BT. Dim seddau. Toiled ger cae chwarae Llanisan-yn-rhos. Cadeiriau olwyn 520m.

Beach
Traeth Monk Haven (Grid ref: SM82820639)

Traeth bach o dywod a graean bras, wedi’i gysgodi rhag y gwynt yn aml.

Information
Monk Haven (Grid ref: SM82820639)

Daw’r wal ar hyd pen uchaf y traeth o’r 18fed ganrif, ac roedd yn nodi ffin ystad Trewarren. Adeiladwyd y tŵr ar ochr ddwyreiniol y cildraeth tua 1860. Mae’r cwm tu ôl i Monk Haven yn arwain at bentref Llanisan-yn-rhos. Oherwydd y cysgod, mae’r llystyfiant a’r coetir ym Monk Haven yn ffynnu.

Caution
Clogwyni Llanisan-yn-rhos (Grid ref: SM83000636)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Information
Trwyn Watch House (Grid ref: SM83420631)

Mae gan Drwyn Watch House, gyda’i adeiladau milwrol adfeiliedig, olygfeydd da dros yr Aber. Defnyddiwyd y safle fel lleoliad i ymladd yn erbyn awyrennau yn ystod y rhyfel.

Caution
Clogwyni Llanisan-yn-rhos (Grid ref: SM84050674)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.


4. Bae Wenall i Sandy Haven 2.2 Miles (3.22Km)

Graddiannau ysgafn a golygfeydd eang o’r Daugleddau pan fyddwch chi’n dod o gyfeiriad Llanisan-yn-Rhos. Mae’r holl risiau, giatiau a bryniau ger Sandy Haven. 4 giât wiced, 1 giât mochyn, 25 o risiau.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Facilities
Llanisan-yn-rhos (Grid ref: SM83420728)

Tafarn y Brook, 0.6 milltir o Lwybr yr Arfordir. Siop y pentref.

Facilities
Toiled Caeau Chwarae Llanisan-yn-rhos (Grid ref: SM83860713)

Toiled hygyrch. Parcio cyfyngedig iawn wrth ymyl yr heol. Safle picnic.

Walking Access Point
Llwybr Mynediad Hwylus Bae Lindsway (Grid ref: SM84050674)

Bae Lindsway, Llanisan-yn-rhos, tuag at Drwyn y Castell Mawr. Prosiect sy’n canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gadeiriau olwyn, ond nid yw’n darparu arwyneb arbennig ar yr arfordir. Mae llwybr tarmac yn arwain at safle picnic ac yna at gopa’r clogwyn. Mae’r unig fan serth (1:10) o’r heol i’r toiled (20m). Mae gweddill y llwybr at yr arfordir ychydig yn fwy serth na gwastad. Nid oes goledd i’r ochr. O gopa’r clogwyn mae’r llwybr yn dilyn Llwybr Arfordir Sir Benfro at Drwyn y Castell Mawr, am i lawr ryw ychydig yr holl ffordd tua’r dwyrain (i’r gorllewin gwaredwyd 5 sticil, ond ar ôl 0.5km mae’r graddiannau’n cynyddu i 1:3 gyda goledd i’r ochr). Mae proffil y llwybr wedi’i erydu ychydig yn y canol; efallai y caiff ei lenwi maes o law. Posibilrwydd o ddychwelyd ar hyd llwybr ceffylau ac isffordd, ond am nawr efallai y bydd yn ymarferol i’r cadeiriau mwyaf gwydn yn unig. Mae’r adran sy’n llwybr ceffylau yn llwybr mynediad i fferm, mae’n arw mewn mannau gyda rhai goleddau; efallai y bydd yn addas i gadeiriau antur. Toiled ger cae chwarae Llanisan-yn-rhos.
Mynediad hwylus 0.75 km at yr ail sedd ar Lwybr yr Arfordir, a hefyd hyd at 0.8 o Lwybr Mynediad Hwylus ar Lwybr yr Arfordir, 1 km o lwybr ceffylau, 1 km o heol ar y ffordd yn ôl.
Cyfanswm y llwybr cylch posib 3.55 km.

Caution
Clogwyni Lindsway (Grid ref: SM84050674)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau eithaf hir o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.

Walking Access Point
Llwybr Troed Bae Lindsway (Grid ref: SM8430668)

Mae’r llwybr troed hwn yn disgyn yn serth iawn i’r traeth i lawr nifer o risiau cerrig.

Beach
Bae Lindsway (Grid ref: SM84320658)

Bae canolig tywodlyd gyda llwybr mynediad serth.

Walking Access Point
Llwybr Ceffylau Trwyn y Castell Mawr (Grid ref: SM84710617)

Cysylltiad trwy lwybr ceffylau at isffordd yr arfordir, sy’n cynnig taith gylch hirach o amgylch Monk Haven neu Lanisan-yn-rhos.

Caution
Hen Lwybr Trwyn y Castell Bach (Grid ref: SM84710671)

Nid yw’r llwybr troed a welir ar y rhan fwyaf o fapiau ar gael, oherwydd mae’n dangos llwybr cynharach Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n dilyn yn agosach ar yr arfordir erbyn hyn.

Caution
Clogwyni Trwyn y Castell Bach (Grid ref: SM85520660)

Ymylon y clogwyni heb eu gwarchod ac yn erydu. Cadwch at y llwybr. Byddwch yn ofalus mewn tywydd gwyntog. Adrannau byr o’r llwybr yn weddol agos at ymyl y clogwyn.


5. Sandy Haven (Llwybr Llanw Uchel) 3.9 Miles (6.44Km)

Os fyddwch chi’n gwneud camgymeriad wrth ddarllen tablau’r llanw, yna mae’n rhaid cymryd y llwybr 4 milltir hwn yn lle. Mae ar yr heol yn bennaf, ac mae o leiaf hanner yr heol yn heol fawr brysur. Mae llawer o’r heol yn gul, ac nid oes palmant. 6 giât, 1 sticil.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Caution
Y Brif Heol (Grid ref: SM85930871)

2 filltir o heol gul a phrysur heb balmant.

Car Park / Public Transport Access
Safle Bysiau Herbrandston (Grid ref: SM86900798)

Safle bysiau’r Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd deirgwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau.

Facilities
Tafarn y Taberna (Grid ref: SM8680792)

Gwely a brecwast, cwrw a bwyd.

Facilities
Pentref Herbrandston (Grid ref: SM86970776)

Siop a thafarn.


6. Sandy Haven i Gelliswick 3.5 Miles (6.44km)

Mae Cilfach Sandy Haven yn gilfach lanwol heddychlon. Roedd cwch fferi yma ar un adeg, ond gellir ei chroesi tros bont droed a cherrig camu erbyn hyn pan fydd y llanw’n uchel. Os nad yw’r sarn o dan ddŵr mae’n bosib cerdded ar y traeth i’r man ble mae’r nant nesaf yn llifo ar draws y traeth (Mun’s Mouth), ac ailymuno â Llwybr yr Arfordir yn y fan yma. Nid yw’r graddiannau ar Lwybr yr arfordir uwchlaw’r traeth yn rhy llym. 0 sticil, dau gyfres o risiau concrit yng Nglanfa (Jetty) South Hook gyda 95 o risiau, 2 giât wiced, 2 giât mochyn ac 1 giât mochyn gul ar South Hook Road. Er gwaethaf y ffaith fod yr Hen Dywodfaen Coch yn ymddangos yn galed, mae’r adran i’r gorllewin o Muns Mouth ag un o’r cyfraddau erydu cyflymaf ar yr arfordir. Ailaliniwyd y Llwybr Cenedlaethol tua’r tir rhyw bedair gwaith ers 1989. Mae’r adran i’r Dwyrain o Muns Mouth yn adran hynod o wyllt o Lwybr yr Arfordir nad ydyw’n cael ei defnyddio’n aml o ystyried ei bod yn agos at dref fawr.

Cymeriad y daith: Sticlau, resi o staerau neu fryniau serth.

Caution
Croesfan Sandy Haven (Grid ref: SM85560749)

Dim ond dwy awr a hanner bob ochr i ddŵr isel y gellir bod yn siŵr o groesi’r groesfan lanwol yn Sandy Haven. Mae yna groesfan lanwol arall 4 milltir i’r gorllewin yn y Gann. Er mwyn sicrhau bod modd i chi groesi’r ddwy groesfan, ceisiwch gyrraedd yr un gyntaf wrth i’r llanw ostwng – hanner ffordd rhwng llanw uchel ac isel, ac yna fe fydd digon o amser gennych (5 awr) i gyrraedd yr ail groesfan.

Car Park / Public Transport Access
Maes Parcio Sandy Haven (Grid ref: SM85780738)

Darperir maes parcio canolig, rhad ac am ddim, ar ochr ddwyreiniol y groesfan, gan y Cyngor Cymuned. Nid oes llefydd parcio ar y glannau gorllewinol. Safle bysiau ger ysgol y pentref, 1 milltir tua’r tir. Dim toiledau.

Beach
Sandy Haven (Grid ref: SM85830714)

Traeth tywodlyd mawr, gwastad.

Walking Access Point
Llwybr Troed o Mun’s Mouth i Herbrandston (Grid ref: SM86330707)

Llwybr troed sy’n aml yn fwdlyd, sydd bellach yn dechrau o ochr orllewinol y gilfach. Y llwybr troed hwn yw’r cysylltiad byrraf i Herbrandston wrth gerdded tua’r gorllewin. Os yw’r llanw bron â bod i mewn, defnyddiwch y llwybr hwn i fynd at y llwybr amgen, oherwydd fe fydd y cawsai o dan y dŵr (neu arhoswch yn y dafarn tan i’r llanw gilio – 0.8 milltir).

Beach
Traeth Kilroom
(Grid ref: SM86790599)
Traeth bach tywodlyd, diarffordd. Ysgafellau serth. Mynediad yn anodd.

Information
Caer Stack Rock (Grid ref: SM86430494)

Un o sawl caer a adeiladwyd ar hyd yr Aber yn y 1850au – 1860au, pan yr oedd Prydain yn ofni goresgyniad gan Ffrainc o dan Napoleon III. Roedden nhw wedi eu lleoli er mwyn edrych ar ôl ei gilydd, gan sicrhau bod cychod y gelyn yn cael eu saethu’n barhaus. I ddechrau, tŵr gyda thri dryll oedd yma, ond ehangwyd Caer Stack i roi lle i 23 dryll ac 168 dyn. Roedd y caerau’n amddiffyn yr Iard Longau Frenhinol yn Noc Penfro.

Information
Trwyn De Hook (Grid ref: SM86900545)

Daw diwydiant ac archeoleg yn agos at y Llwybr. Mae’r ffens ddiogelwch tua’r tir yn nodi perimedr purfa olew (Esso) a ddatgymalwyd, ac mae’r safle wedi dod yn lloches i fywyd gwyllt.
Ar Ynys Stack Rocks mae olion magnelfa bwerus o ganonau mawr, a adeiladwyd yng nghanol y 1800au. Tua’r tir mae Baracs De Hook ac amddiffynfeydd gwrthawyrennau mwy diweddar.

Information
Glanfa De Hook / Little Wick (Grid ref: SM87430542)
Mae rhan o hen safle Esso yn cael ei hailddatblygu gan Exxon fel ffatri ailnwyeiddio Nwy Naturiol Hylif. Mae’n brosiect sylweddol sy’n gofyn am ailadeiladu’r lanfa sy’n croesi’r Llwybr Cenedlaethol, yn ogystal â phiben, 1.2m mewn diamedr, i Loegr. Mae’r tanciau enfawr tua’r tir ar gyfer storio’r Nwy Naturiol Hylif.

Caution
Glanfa De Hook / Little Wick (Grid ref: SM87430542)
Efallai y bydd angen cau Llwybr yr Arfordir am gyfnodau byr er mwyn trwsio’r lanfa, am resymau diogelwch. A wnewch chi ddilyn yr arwyddion a’r cyfarwyddiadau ar y safle.

Beach
Traeth Little Wick (Grid ref: SM87430542)

Traeth bach tywodlyd a ddominyddir gan lanfa goncrit.

Information
Ffin y Parc Cenedlaethol (Grid ref: SM87430542)

Nid yw adran ddiwydiannol arfordir Penfro yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r ffin ar draws yr Aber o Draeth Little Wick i Fae Bullwell. Fodd bynnag, rheolir y Llwybr Cenedlaethol cyfan gan Staff y Parc Cenedlaethol.

Walking Access Point
Heol De Hook (Grid ref: SM88420546)

Mae’r adran hanner milltir i’r gorllewin o Fae Gelliswick yn heol breifat sydd wedi gordyfu. Taith hamddenol ar droed, gyda golygfeydd o’r môr. Disodlwyd y giât mochyn cul â rhwystr gwrth-feic modur a ddylai ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn heb ddrychau adenydd. Golygfeydd dros y Jetty LNG, y Ddyfrffordd a Barics South Hook.


7. Gelliswick i Fferm Venn 3 Miles (4.83Km)

Nid oes gan y Llwybr Cenedlaethol hwn lwybr dynodedig trwy’r trefi mwy o faint. Mae’r llwybr sydd wedi’i argymell wedi’i farcio gydag arwyddion trwy’r trefi. Mae yna arwydd mesen ar byst golau ac arwyddion ffyrdd, fel arfer yn uchel i fyny, ond mae’r rhain yn dioddef o ganlyniad i fandaliaid a phaent newydd. Mae’r mapiau a’r tywyslyfrau’n dangos llwybrau amrywiol ond fe all y cerddwr ddewis y llwybr fwyaf addas gan ddibynnu ar eu hangen am lety a chyflenwadau.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Information
Dyfrffordd Aberdaugleddau (Grid ref: SM88510431)

Roedd hwn yn ddyffryn afonydd ar un adeg, ac fe’i cerfiwyd ar hyd llinell ffawt bwysig a oedd yn ymestyn o Dale i Ddinbych-y-pysgod. Cafodd ei foddi wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd Oes yr Iâ, tua 10,000-5,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae’r ceinciau llanwol ar hyd y ddwy lan yn cynnal cyfoeth o fywyd y môr ac adar. Mae’r Aber yn llwybr pwysig i’r cychod, ac fe’i defnyddir hefyd ar gyfer cychod pleser a chwaraeon dŵr. Mae Awdurdod y Porthladd wedi gweithio gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol, a chyrff cadwraeth eraill, i ddatblygu cynllun parthau gweithgaredd, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar fywyd gwyllt a thrigolion.

Car Park / Public Transport Access
Gorsaf Drenau Aberdaugleddau (Grid ref: SM88510431)

Trenau rheolaidd i Hwlffordd a gorsafoedd tuag at Lundain. Mae’n bosib dal trên i Benfro (ond trwy Hendy-gwyn) gan osgoi’r adrannau ar yr heol. Safle bysiau yn Tesco gyferbyn (Pâl Gwibio – siwrnai ddychwelyd deirgwaith y dydd – Tyddewi i Aberdaugleddau.)

Information
Aberdaugleddau (Grid ref: SM90650606)

Sylfaenwyd y dref ym 1790 gan Syr William Hamilton, llysgennad Prydain yn llys Naples, ar dir a etifeddodd gan ei wraig gyntaf, Catherine Barlow. Roedd y Llyngesydd Nelson, cariad ail wraig Syr William, Emma, yn ymwelydd rheolaidd. Datblygodd Hamilton a’i nai, Charles Greville, borthladd pwysig gyda gwasanaeth fferi i Iwerddon, Iard Longau Lyngesol Frenhinol a fflyd o gychod morfila. Buan y daeth yn un o’r porthladdoedd pysgota mwyaf ym Mhrydain. Unwaith yr adeiladwyd y rheilffordd, roedd modd cludo pysgod yn gyflym i’r dinasoedd mawr. Roedd y diwydiant pysgota wedi dirywio erbyn y 1950au ond mae gan Aberdaugleddau fflyd o dreillongau a marchnad bysgod o hyd. Erbyn hyn, mae yna amgueddfa, bwytai a marina ar gyfer cychod hwylio yn y dociau.

Facilities
Aberdaugleddau (Grid ref: SM90650606)

Tref ddiymhongar gyda’r holl wasanaethau: archfarchnadoedd, banciau, gwestai ayb.

Walking Access Point
Llwybr Mynediad Hwylus Dociau Aberdaugleddau (Grid ref: SM90410578)

Llwybr amgen. Dociau Aberdaugleddau SM 902058 i Castle Pill SM 912054. Llwybr beicio ag arwyneb asffalt ar hen reilffordd, graddiannau bach iawn. Parcio ar y dociau. Cyngor Sir Penfro sy’n ei gynnal. Llwybr Mynediad Hwylus 1.2km.

Caution
Adran Beryglus ar yr Heol  (Grid ref: SM91610610)
ae’r adran ar yr heol ychydig i’r gorllewin o Aberdaugleddau yn adran arbennig o gas. Mae traffig yn cymudo ar yr heol hon ac yn teithio’n gyflym ac mae yna droeon llym. Mae’n gul ac nid oes palmant. Y llwybr byrraf a mwyaf diogel fyddai’r llwybr trwy’r tai ymhellach tuag at y môr o’r heol, ond mae’n fynediad preifat. Mae yna lwybr troed arall, hirach, i gyfeiriad y tir o’r heol. Nid oes marciau ffordd ar un o’r llwybrau hyn i ddangos eu bod yn opsiynau eraill yn lle Llwybr yr Arfordir. Mae’r ymdrechion i sicrhau llwybr mwy arfordirol yn parhau.


8. Fferm Venn i Hazelbeach 2.6 Miles (4.83km)

Llwybr ar draws caeau a choetir. Golygfeydd gwych o Waith Nwy Hylifedig Naturiol Dragon a Storfa Tanc Waterston. 10 o risiau, 11 giât wiced. Bellach mae 4 tyrbin gwynt mawr yn dominyddu’r gorwel i ochr ddwyreiniol yr adran hon; Mae 2 yn agos iawn i Lwybr yr Arfordir.

Cymeriad y daith: Sticlau, rhesi o staerau, graddiannau hyd at 1:1.

Information
Purfeydd olew (Grid ref: SM9340501)

Mae Aberdaugleddau yn un o’r ychydig ddyfrffyrdd cysgodol yn y Deyrnas Unedig sy’n ddigon dwfn i danceri olew mawr. Agorwyd sawl purfa, a’r gosodiadau cysylltiedig, yma yn y 1960au, gan sbarduno ffyniant economaidd dros dro. Ers hynny, lleihaodd graddfa’r diwydiant, ond mae yna dair purfa ar waith o hyd ac mae yna ddatblygiadau newydd sylweddol sy’n gysylltiedig â mewnforion nwy. Roedd argyfwng gollwng olew’r Sea Empress ym 1996 yn atgof o’r gwrthdaro posib rhwng buddiannau’r diwydiant a chyflogaeth leol ar un llaw, a chadwraeth a thwristiaeth ar y llaw arall.

Facilities
Tafarn y Ferry House (Grid ref: SM4750478)

Gwely a brecwast, cwrw a bwyd.


9. Hazelbeach i Neyland 1.6 Miles (3.22km)

Graddiannau ysgafn yn unig ar yr adran hon sydd ar yr heol. Mae hanner yn heol gul, gweddol dawel, heb unrhyw balmant, a hanner ar y palmant ar lan y môr.

Cymeriad y daith: Ffordd.

Car Park / Public Transport Access
Parcio yn Hazelbeach (Grid ref: SM9473904823)
Maes parcio bach. Toiled.

Information
Neyland (Grid ref: SM96630482)
Dewiswyd y safle hwn gan Isambard Kingdom Brunel fel y derfynfa ar gyfer Rheilffordd De Cymru. I ddilyn, gwelwyd datblygiadau cyflym, gyda gwaith gosod ar y rheilffordd ac yn y porthladd, gwasanaeth cychod fferi i Iwerddon, gweithdai trwsio cychod a fflyd bysgota fechan. Ym 1906, symudwyd terfynfa’r fferi i Abergwaun a symudwyd y fflyd bysgota i Aberdaugleddau. Caewyd y rheilffordd yn hwyr yn y 1960au. Heddiw, mae Neyland fwyaf adnabyddus am ei marina, sy’n darparu ar gyfer cychod hwylio a chychod pŵer.

Car Park / Public Transport Access
Maes Parcio Cei Brunel (Grid ref: SM96630482)
Maes parcio rhad ac am ddim, maint canolig, â golygfeydd o’r traffig ar ddyfroedd yr Aber.

Facilities
Tref Neyland (Grid ref: SM96220538)
Tref fechan â gwasanaethau cyfyngedig: Tafarn, bwyd parod ac ambell siop.

Gweld yr Adran Hon ar Street View

Dale (Cyfeirnod Grid: SM811058)

Dilynwch Côd Diogelwch Llwybr yr Arfordir

  • Cymerwch ofal ar Lwybr yr Arfordir – mae'n dir garw, naturiol
  • Cadwch at y llwybr, i ffwrdd oddi wrth ymylon y clogwyni a throsgrogau
  • Goruchwyliwch blant ar bob adeg, yn enwedig ger ymylon y clogwyni
  • Mae arwynebau cerdded yn gallu amrywio'n sylweddol yn ôl y tywydd. Gwisgwch esgidiau cryfion gyda gafael dda a chynhalwyr pigyrnau bob amser
  • Gwisgwch ddillad cynnes sy'n dal dŵr, neu dewch â hwy gyda chi
  • Mae'n gallu bod yn beryglus cerdded at gopa clogwyni mewn gwyntoedd uchel
  • Byddwch yn ofalus wrth dorri ar draws traethau i arbed amser - efallai y gallai'r llanw eich ynysu. Mae nofio'n gallu bod yn beryglus hefyd
  • Peidiwch ag eistedd o dan glogwyni na'u dringo
  • Cadwch eich cŵn dan reolaeth agos
  • Rheolir Llwybr yr Arfordir ar gyfer cerddwyr; nis yw'n ddiogel nac yn gyfreithlon marchogaeth na beicio ar hyd mwyafrif Llwybr yr Arfordir
  • Gadewch y clwydi a'r eiddo fel y cawsoch nhw
  • Cofiwch nad yw signal ffôn symudol yn ddibynadwy ar yr arfordir.

Darganfyddwch fwy am Lwybr yr Arfordir