
Llwybr Geiriau Cymru
Dyddiol o Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf – Dydd Llun 31 Awst, 10am – 4pm
Archwiliwch neuaddau a thyrau Castell Caeriw gan chwilio am eiriau a darganfod straeon. Chwiliwch am hiraeth, cynefin a chariad – geiriau Cymraeg sy’n llawn ystyr a chof. Mae pob darganfyddiad yn eich cysylltu â’r iaith, y chwedlau a’r tirweddau sy’n llunio Cymru.
Yn cynnwys gwobr.
Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar. Gweithgaredd hunan-dywys.
£2.50 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.
Mynediad: gyda grisiau
Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

Dolydd Rhyfeddol
Dydd Llun 24 Awst, 11.30am – 3pm
Ymunwch â’r Parcmon Tymhorol Molly i ddarganfod dolydd blodau gwyllt hardd Castell Caeriw. Cymerwch ran mewn helfa blodau gwyllt hwyliog wrth i chi grwydro tir y castell. Eich cenhadaeth yw gweld ac adnabod rhai o’r rhywogaethau blodau gwyllt arbennig sy’n ffynnu yng Nghastell Caeriw. Dewch i fwynhau crefftau creadigol ar thema dolydd, gan gynnwys gwneud masgiau pili-pala. Mae’r gweithgaredd teuluol rhad ac am ddim hwn yn ffordd wych o archwilio natur, bod yn greadigol, a dysgu mwy am fywyd gwyllt Castell Caeriw yn ystod gwyliau’r haf.
Gweithgaredd galw heibio am ddim – dim angen archebu.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Lansio’r Trebuchet Enfawr
Dydd Mawrth 18 a Dydd Mawrth 25 Awst am 2.30pm
Ymunwch â ni wrth i ni gyfri i lawr a lansio ein Trebuchet Enfawr, catapwlt canoloesol enfawr a oedd yn cael ei ddefnyddio i ymosod ar Gestyll. Gwyliwch wrth i’r arf gwarchae dyfeisgar a phwerus hwn gael ei ddefnyddio, a gweld grym peirianneg ganoloesol ar waith. Dysgwch sut roedd cerrig enfawr yn cael eu taflu gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf. Ymhlith y pethau eraill a gafodd eu taflu roedd cyrff wedi’u heintio â’r pla, cyrff anifeiliaid wedi pydru, a thar yn llosgi!
Dewch â’r teulu cyfan i gael profiad addysgol, llawn hwyl.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol
Mynediad: arwynebau anwastad
Iaith: Saesneg

Diwrnodau Antur Canoloesol
Rhwng 19 Gorffennaf a 27 Awst o ddydd Sul i ddydd Iau
Mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl canoloesol i bob oed. Yn ogystal â dangos eich sgiliau fel Marchog yn ein Llwybr Maes Arbrofi RHAD AC AM DDIM, mae llawer o weithgareddau eraill i bobl ifanc eu mwynhau!
Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn ym mhob gweithgaredd.
Mynediad: dim grisiau – cofiwch gysylltu os bydd tywydd garw oherwydd gallai gweithgareddau gael eu symud.
Iaith: Saesneg
11am Hanesion Hyll
Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
11.30am Ysgol Marchogion
Ymunwch â’n Hysgol Marchogion AM DDIM; dysgwch sgiliau ymladd cleddyfau a sut i ddychryn y gelyn! Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich urddo’n farchog fel amddiffynnydd Castell Caeriw.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
11.30am – 3pm Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth
Mireiniwch eich sgiliau bwa gyda Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth! Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Codir tâl ychwanegol am saethyddiaeth, yn ogystal â chostau mynediad arferol. Talwch arian parod i’r saethwyr neu talwch gyda cherdyn yn Siop y Castell.
3pm Canfod yr Allwedd!
Mae allweddi wedi’u cuddio o amgylch y Castell…ond dim ond un o’r allweddi sy’n datgloi’r gist drysor! A fyddwch chi’n dod o hyd i’r allwedd lwcus i agor y gist a datgelu eich gwobr?
Dewch i gwrdd â’ch tywysydd gyferbyn â’r llain saethyddiaeth am 3pm cyn iddyn nhw eich anfon chi i chwilio am yr allweddi coll. Pob lwc!
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
3.30pm Ysgol Marchogion
Ymunwch â’n Hysgol Marchogion AM DDIM; dysgwch sgiliau ymladd cleddyfau a sut i ddychryn y gelyn! Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich urddo’n farchog fel amddiffynnydd Castell Caeriw.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

Hanesion Hyll
Bob dydd o ddydd Sul 19 Gorffennaf – dydd Gwener 28 Awst, 11am
Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Mynediad: heb risiau – cofiwch gysylltu os bydd tywydd garw oherwydd gallai gweithgareddau gael eu symud.
Iaith: Saesneg

Taith Ysbrydion
Dydd Mercher 19 Awst am 7pm a Dydd Mawrth 25 Awst am 6.45pm
Dysgwch am ochr dywyllach bywyd y Castell wrth i chi ymuno â thaith dywys i fyd yr ysbrydion. Bydd ein tywysydd gwybodus yn adrodd straeon am yr ysbrydion, yr arswydo a’r digwyddiadau a brofwyd yn y Castell.
£9 oedolion, £7 plant (4-16)
RHAID ARCHEBU LLE: Archebwch yma
Nid oes posib cael arian yn ôl am docynnau
Mynediad: gyda grisiau
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg

The Storymaster’s Quests: Tŵr y Gwaaaaaaaae!
Dydd Llun 17 Awst am 1pm
Nid digwyddiad adrodd straeon cyffredin yw hwn, ond profiad heb ei ail, lle bydd y gynulleidfa’n rheoli tyngednyr arwr y byddent yn ei greu. Wedi’i lunio gan yr awdur llwyddiannus a’r crëwr gemau Oliver McNeil, bydd y gweithgaredd aml-gyfrwng hwn yn trochi pob oedran mewn byd o ddreigiau, maglau, trysorau a chymeriadau bythgofiadwy.
Addas ar gyfer plant o 6 oed i oedolion, yn para tua awr. Tocynnau £8 y person, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Argymhellir archebu tocynnau, sicrhewch eich lle nawr yn www.storymasterstales.com/live.
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Dewch o hyd i’r Allwedd!
Bob dydd 0 19 Gorffennaf – 28 Awst, 3pm
Ust… mae llawer o allweddi’n cuddio yn y Castell, ond dim ond un fydd yn agor y gist drysor! Allwch chi fod yr anturiaethwr clyfar sy’n dod o hyd i’r allwedd lwcus ac yn datgelu’r wobr hudolus tu mewn?
Dewch i gwrdd â’ch tywysydd wrth borthdy’r Castell am 3pm, yna ewch i hela ac archwilio ar hyd a lled y Castell ar yr antur gyffrous hon. Mae eich trysor yn aros…
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Gwneud Printiau Botanegol
Dydd Iau 20 Awst
Mae’r sesiynau’n dechrau am 11am, 12pm, 1pm a 2pm
Darganfyddwch gelfyddyd argraffu natur, wedi’i ysbrydoli gan y blodau, y dail a’r glaswellt sy’n tyfu yng nghynefin cyfagos Castell Caeriw. Mwynhewch sesiwn greadigol ymarferol yn arbrofi gyda phlatiau geli, paent acrylig, rholeri, papur meinwe a cherdyn i ddylunio eich printiau A5 unigryw eich hun i’w cymryd adref.
Mae sesiynau’n para tua 45 munud, does dim angen archebu lle, galwch heibio i ddechrau gwneud crefftau!
£7 y pen i dalu cost y deunyddiau.
Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser a mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Penwythnos o Ryfelwyr a Arfau
Dydd Sadwrn 29 i ddydd Llun 31 Awst, 10am-4pm
Ymunwch â phenwythnos gŵyl y banc llawn cyffro o hanes byw, arfau a rhyfela, wrth i Historia Normannis fynd â Chastell Caeriw yn ôl i’r 12fed ganrif! Mae’n cynnwys gwersyll Canoloesol sy’n arddangos sgiliau traddodiadol, arddangosfeydd ymladd ac arfau rhyfeddol a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth.
11am: Sioe Ffasiwn Ganoloesol
11.30am – 3pm Rhoi tro ar Saethyddiaeth
12pm: Hyfforddi’r Milisia
1pm: Llys Sirol
2pm: Ymarfogi’r Marchog
3pm: Twrnamaint
Penwythnos wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol i’r Castell. (Ffi fechan ar gyfer Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth)
Mynediad: heb risiau yn bennaf, mae angen grisiau ar gyfer un gweithgaredd.
Iaith: Saesneg