Telerau ac Amodau Digwyddiadau a Gweithgareddau

  • Nid yw tocynnau a brynir ar gyfer digwyddiadau a gynhelir gyda’r nos neu y tu allan i oriau agor arferol y Castell / y Felin (gweler ein tudalen Cynllunio eich Ymweliad am amserau) yn cynnwys mynediad yn ystod y dydd i’r Castell / y Felin. Bydd angen prynu tocynnau dydd ar wahân.
  • Mae tocyn i ddigwyddiad gyda’r nos yn cynnwys mynediad ar amser y digwyddiad, a dim ond ar gyfer y digwyddiad a archebwyd. Sylwer – mae’n bosibl y cyfyngir ar fynediad i’r castell yn ystod digwyddiadau â thocyn, ac mae’n bosibl na fydd yr un mynediad a’r un amwynderau sy’n agored i ymwelwyr yn ystod y dydd ar gael.
  • Wrth brynu tocynnau ar-lein, eich cyfrifoldeb chi fydd gwirio eich archeb a chadarnhad eich archeb trwy gydol y broses brynu; ni ellir cywiro camgymeriadau bob amser.
  • Os nodir bod ARCHEBU’N HANFODOL ar gyfer digwyddiad, bydd angen ichi brynu tocyn trwy’n gwefan cyn y digwyddiad.
  • Bydd angen i ymwelwyr anabl cofrestredig brynu tocyn digwyddiad. Os yn berthnasol, bydd un gofalwr sy’n dod yn gwmni yn derbyn mynediad am ddim. Bydd angen i ofalwyr gyflwyno tystiolaeth o’u statws; gweler ein tudalen Cynllunio eich Ymweliad am restr o ddogfennau a dderbynnir. Cysylltwch â’r Castell os nad yw’r opsiwn Tocyn Gofalwr ar gael ar-lein.
  • Dylai ymwelwyr wirio amserau a dyddiadau digwyddiadau’n ofalus cyn eu hymweliad. Ni ellir ein dal yn gyfrifol am gyflwyno ad-daliad neu i ddarparu lle mewn sesiynau eraill os bydd ymwelwyr yn cyrraedd ar yr amser neu’r dyddiad anghywir.
  • Nid yw Tocyn Blwyddyn yn caniatáu mynediad i ddigwyddiadau â thocynnau, teithiau tywys gyda’r nos neu unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd sy’n codi tâl ychwanegol.
  • Mae pris y digwyddiad ar gyfer y dyddiad yr ydych wedi ei brynu, mae Castell Caeriw’n cadw’r hawl i newid pris unrhyw ddigwyddiadau dilynol.
  • Ni ellir cynnig tocyn at ddibenion hyrwyddol heb dderbyn caniatâd ffurfiol ymlaen llaw oddi wrth Gastell Caeriw.
  • Mae’r prisiau i gyd mewn punnoedd sterling £ gan gynnwys y raddfa Treth ar Werth (TAW) gyfredol a godir yn y DU (ble fo’n gymwys).

Gwahanol fathau o fynediad i ddigwyddiadau / gweithgareddau

  • Mae digwyddiadau / gweithgareddau a restrir fel gweithgareddau ychwanegol yn galw am brynu tocyn mynediad dydd arferol i’r Castell / y Felin ar gyfer pob oedolyn a phlentyn. Yna, gellir prynu’r digwyddiadau / y gweithgareddau ychwanegol ar wahân os dymunir.
  • Mae digwyddiadau / gweithgareddau a restrir fel rhai sydd wedi eu cynnwys am ddim gyda’r tâl mynediad arferol yn galw am brynu tocyn mynediad dydd arferol i’r Castell / y Felin ar gyfer pob oedolyn a phlentyn, ond ni chodir tâl ychwanegol am y gweithgaredd hwnnw.
  • Ble y nodir bod digwyddiad / gweithgaredd yn weithgaredd rhad ac am ddim. Ni chodir tâl mynediad i’r Castell; cynhelir y gweithgaredd hwn y tu allan i’r giât dalu i’r Castell / y Felin. Ni chaniateir mynediad i’r Castell / y Felin oni bai eich bod yn prynu tocyn mynediad.
  • Ble y nodir bod digwyddiadau / gweithgareddau yn codi tâl ond nid yw’n cynnwys mynediad i’r Castell; codir tâl am y gweithgaredd hwn ac fe’i cynhelir y tu allan i’r giât dalu i’r Castell / y Felin. Ni chaniateir mynediad i’r Castell / y Felin oni bai eich bod yn prynu tocyn mynediad ar wahân.
  • Mae’n bosibl y bydd ambell ddigwyddiad / gweithgaredd yn gofyn ichi brynu tocynnau ar gyfer y plant yn ogystal â’r oedolion sy’n eu hebrwng. Cofiwch ddarllen yr hysbyseb ar gyfer digwyddiadau unigol yn ofalus.

Cyn mynychu digwyddiad

  • Bydd hysbysebion ein digwyddiadau’n eich cynghori am unrhyw ddillad neu offer y byddwch eu hangen. Cofiwch wneud nodyn o hyn. Gallant gynnwys, ond fod heb eu cyfyngu i ddillad cynnes sy’n dal dŵr, tortsh, esgidiau addas ar gyfer y tywydd.
  • Nid ydym yn darparu cadeiriau ar gyfer perfformiadau Theatr Awyr Agored. Cofiwch ddod â seddi addas fel carthen neu gadair cefn isel. Nodwch y cynhelir sioeau theatr ar y glaswellt, ac y gallai fod yn wlyb.
  • Bydd pob tocyn ar ffurf e-docyn yn unig. Bydd cwsmeriaid yn derbyn cadarnhad trwy e-bost. Ni does angen argraffu copi ar bapur. Cyflwynwch eich enw llawn wrth y giât ar gyfer digwyddiad ac agor y cadarnhad ar e-bost ar eich dyfais rhag ofn i’r staff ofyn i’w weld.
  • Ar gyfer ein holl sesiynau gweithgareddau neu deithiau tywys, cofiwch sicrhau eich bod yn cyrraedd o leiaf ddeg munud cyn yr amser dechrau.
  • Sylwer – mae’n cymryd tua phump i ddeng munud i gerdded i’r Castell o un o’n meysydd parcio. Mae’n bosibl y cewch eich cyfeirio i barcio yno ar gyfer digwyddiadau mwy o faint neu’n ystod adegau prysur. Cofiwch ganiatáu digon o amser i barcio a chyrraedd y digwyddiad / gweithgaredd.
  • Mae rhaid i blant dan 16 mlwydd oed gael eu hebrwng gan oedolyn bob amser (mae rhaid i oedolyn fod dros 18 oed).
  • Ni fydd ein staff yn goruchwylio plant yn ystod gweithgareddau / digwyddiadau. Cyfrifoldeb rhiant / gwarcheidwaid fydd hynny.

Ad-daliadau a chanslo

  • Ni ellir rhoi ad-daliadau am docynnau i ddigwyddiadau / gweithgareddau ac ni ellir eu copïo na’u hailwerthu i bobl eraill.
  • Bydd perfformiadau Theatr Awyr Agored yn mynd rhagddynt mewn tywydd gwlyb. Cofiwch baratoi ar gyfer hyn.
  • Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i ni ganslo digwyddiadau neu newid yr amser. Os ydych wedi prynu tocyn digwyddiad, fe wnawn bob ymdrech resymol i gysylltu gyda chi ymlaen llaw i’ch hysbysu am y newidiadau hyn, gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych wrth archebu.
  • Ni ellir cynnig ad-daliad am unrhyw docyn. Nid ydym yn cynnig ad-daliadau oherwydd y tywydd, amserau aros, newidiadau i’r rhaglen weithgareddau dyddiol neu gau’r Castell / y Felin yn rhannol. Os ceir amodau tywydd gwael, mae’n bosibl y bydd ardaloedd o’r castell ar gau er diogelwch ein hymwelwyr. Ni roddir ad-daliadau dan yr amodau hyn. Os ydych yn bryderus ynghylch y tywydd, hoffem awgrymu ichi edrych ar ein dalen Facebook neu alw’r Castell ar 01646 651 782 cyn ymweld â ni.
  • Os bydd amodau tywydd peryglus yn ein gorfodi i ganslo digwyddiad y gwerthir tocynnau ar ei gyfer (a / neu gau’r Castell), yna mae’n bosibl y gallwn gynnig amser neu ddyddiad gwahanol ichi. Os nad yw hynny’n bosibl yna rhoddir ad-daliad llawn. Os bydd ad-daliad yn ddyledus, fe gysylltwn gyda chi gan ddefnyddio’r manylion cyswllt a ddarparwyd gennych wrth archebu.