Gweithgareddau teulu

Helfa Ysbrydion
Dydd Sadwrn 21 Hydref i Ddydd Sul 5 Tachwedd, 10am–4pm

Ghost Hunt

Wyddoch chi mai Castell Caeriw ydi un o adeiladau mwyaf bwganllyd Cymru? Mae ysbrydion yn llechu ym mhob cornel tywyll o’r Castell. Dewch o hyd i bob un ohonynt i dderbyn eich gwobr ddychrynllyd!

£2 y plentyn yn ogystal â thâl mynediad arferol.

 

Taith Ysbrydion Calan Gaeaf i’r Teulu Cyfan
Dydd Llun 30 Hydref a Dydd Mawrth 31 Hydref, 4pm – 5pm

Family-friendly ghost tour

Ymunwch â thaith arswydus o amgylch y Castell, sy’n addas i’r teulu cyfan. Cadwch lygad yn agored wrth ichi wrando ar hanesion am ymddangosiad ysbrydion; ’does wybod beth welwch chi…

£8.50 Oedolyn, £6.50 Plentyn. 5+ oed

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW: Archebwch Nawr

Ni roddir ad-daliadau. Nid yw’r daith yn cynnwys mynediad i’r Castell yn ystod y dydd.

Gwisgwch ddillad cynnes / sy’n dal dŵr, a dewch â thortsh gyda chi. Dylech gyrraedd 10 munud cyn y daith gerdded.

 

Digwyddiadau Arbennig

Diwrnod Gwasgu Afalau
Dydd Sadwrn 23 Medi a Dydd Sadwrn 7 Hydref, 10am-2pm

Apple pressing

Dewch â’ch afalau draw i Gastell Caeriw ble bydd Chris, un o Barcmyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn eich helpu i’w troi’n sudd blasus gyda’n gwasg afalau. Y cyfan sydd raid ichi wneud yw dod â’ch afalau, rhywbeth i ddal yr holl sudd hyfryd a rhoi tro arni!

Gweithgaredd AM DDIM. ’Does dim angen talu tâl mynediad i’r Castell.

 

Melin Arswydus: Profiad tŷ bwganllyd!
Dydd Sadwrn 21 i Ddydd Sul 6 Tachwedd

creepy mill

Mae’r Felin Heli yn ôl am ail flynedd o ddychryniadau brawychus! Ydych chi’n ddigon dewr i fentro trwy’r Felin dywyll, fwganllyd wedi ei haddurno ar gyfer Nos Galan Gaeaf? Cadwch lygad am bethau allai fod yn llechu yn y gwyll…

Wedi ei gynnwys AM DDIM yn y tâl mynediad arferol. Argymhellir ar gyfer 4+ oed (cynghorir rhieni i farnu’n ddoeth), dylid goruchwylio plant trwy’r amser.

 

Hwyl a Sbri Calan Gaeaf gyda Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig
Gweithdai am 11am a 1.30pm Dydd Mercher 1 Tachwedd

Ymunwch â Chyfeillion Tylwyth Teg y Goedwig y Calan Gaeaf hwn ar eu taith i baratoi’r goedwig ar gyfer y gaeaf. Bydd Fairy Blackberry ac Incy Wincy Spider yn cynnal gweithdy rhyngweithiol yn llawn gemau, dawnsio, adrodd straeon, canu a hwyl Calan Gaeaf ar gyfer pob oed. Ymunwch yn yr hwyl a dewch mewn gwisg ffansi. Yn cynnwys pecyn crefftau gwe corryn ar gyfer pob plentyn!

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW: Tocynnau yn dod yn fuan

£5 y plentyn yn ogystal â thâl mynediad arferol y Castell. 3+ oed.

Sylwer: mae hwn yn ddigwyddiad a drefnir gan gwmni allanol felly mae’r tâl mynediad i Gastell Caeriw yn daladwy hefyd.

 

Gweithdy Adrodd Straeon: Room on the Broom
Dydd Iau 2 a Dydd Gwener 3 Tachwedd am 10.15am, 12.15pm a 2pm

child flies as a witch to helloween with the moon in the background

Ymunwch â sesiwn adrodd straeon rhyngweithiol gyda thro yn y cynffon. Swatiwch wrth y tân wrth i wrach Caeriw ddefnyddio propiau i ddod â llyfr lluniau hudolus Julia Donaldson, ‘Room on the Broom’, yn fyw a chael pawb i ymuno yn yr hwyl! Cewch fwynhau hoff straeon eraill hefyd cyn rhoi tro ar gêm o ‘daflu’r llygoden fawr!’, creu eich hudlath eich hun a chymysgu swyn i fwrw hud go iawn! Hoffech chi allu hedfan neu droi eich brawd yn froga?! Fe ddaw’r sesiwn hon â phob dychymyg ifanc yn fyw!

Argymhellir ar gyfer 4 – 8 oed.

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW: Archebwch Nawr

£2 y plentyn. Mae hwn yn weithgaredd ychwanegol: Sylwer y bydd tâl mynediad arferol y Castell yn daladwy ar y diwrnod hefyd i bob oedolyn a phlentyn.

Sesiwn 1 awr o hyd. Rhaid i blant gael eu hebrwng gan oedolyn.

Ni chynigir ad-daliadau. Gwisgwch ddillad cynnes.

 

Teithiau Arbenigol

Te Prynhawn a Thaith o’r Castell
16 Medi 4.30pm – 7pm

High Tea

 

Dewch i fwynhau noswaith unigryw o de prynhawn ac archwilio trwy’r castell Cymreig hanesyddol hwn! Mwynhewch frechdanau a theisennau cartref ffres, wedi’u gweini â the neu goffi yng Ngardd Furiog y Castell. Ar ôl cael te, ewch ar daith unigryw o amgylch y Castell a dysgu am ei orffennol rhyfeddol wrth i straeon am ei hanes lliwgar gael eu hadrodd. Peidiwch methu’r cyfle arbennig hwn – archebwch eich tocynnau heddiw!

£20 Oedolyn, £14 Plentyn (4-16 oed)

RHAID ARCHEBU YMLAEN LLAW: Archebwch Nawr

Ni roddir ad-daliadau a bydd y perfformiad yn mynd ymlaen mewn tywydd gwlyb.