Nadolig yng Nghastell Caeriw
Camwch i mewn i Nadolig Tuduraidd
5 a 6 Rhagfyr a 12 a 13 Rhagfyr, 10am tan 4pm
Profwch hud y Nadolig yng Nghastell Caeriw wrth i’r ystafelloedd hanesyddol gael eu trawsnewid ar gyfer dau benwythnos arbennig iawn gyda phlanhigion bythwyrdd, canghennau cusanu traddodiadol o oes y Tuduriaid, goleuadau chwinciad hudolus a thanllwyth o dân.
Dewch i gwrdd â Siôn Corn yn ei groto clyd ynghudd o fewn muriau’r Castell, mwynhau perfformiadau Nadoligaidd drwy gydol y dydd, darganfod traddodiadau Nadolig Tuduraidd a chymryd rhan mewn gweithgareddau i’r teulu o amgylch y Castell.
Wedi’i gynnwys ym mhris mynediad y Castell:
- Ystafelloedd y Castell wedi’u haddurno’n hardd
- Perfformiadau byw gan gorau, cerddorion a chwedleuwyr lleol drwy gydol y dydd
- Gweithgareddau crefft Nadolig Tuduraidd am ddim i blant
- Crwydro’r Castell ar Lwybr ‘Deuddeg Diwrnod y Nadolig’
- Siopa Nadolig yn Siop Anrhegion y Castell
- Bwyd a diodydd Nadoligaidd yn Ystafell De Nest, gan gynnwys ein Siocled Poeth Moethus enwog
Codir tâl mynediad arferol i’r Castell, archebwch yma.

Llwybr Deuddeg Diwrnod y Nadolig
Mae pawb yn gwybod y gân Nadolig enwog… ond ydych chi erioed wedi meddwl pam fod eich gwir gariad wedi rhoi’r pethau hynny i chi?
Dilynwch ein helfa drysor Nadoligaidd o amgylch Castell Caeriw, gan chwilio am durturod, modrwyau aur a phob math o bethau Nadoligaidd. Ydych chi’n gallu chwilio am y deuddeg anrheg a dysgu’r stori y tu ôl i’r gân?
Cymerwch ran gyda ffôn clyfar, yn cynnwys gwobr.
£2.50 i blant.

Groto Siôn Corn
Bydd Siôn Corn yn croesawu plant i’w groto hudolus sydd ynghudd o fewn muriau’r Castell rhwng 10am a 4pm. Bydd pob plentyn yn mwynhau amser gyda Siôn Corn ac yn cael anrheg Nadolig.
Tocyn Groto Plentyn: £12.00
Mae eich tocyn Groto yn cynnwys:
- Cwrdd â Siôn Corn a’i gorrach
- Anrheg Nadolig
- Mynediad i Gastell Caeriw
- Mynediad AM DDIM i un oedolyn sy’n dod gyda’r plentyn
Rhaid archebu lle ymlaen llaw. Archebwch eich Tocyn i’r Groto yma.
Prisiau Mynediad i’r Castell
Os yw ymwelwyr heb docyn dilys wedi’i archebu i’r Groto, neu os ydynt yn aelodau ychwanegol o’r teulu heblaw’r oedolyn sy’n cael dod am ddim, bydd angen iddyn nhw gael tocyn mynediad safonol i’r Castell.
Oedolyn £8.00
Plentyn £6.00
Teulu (2 oedolyn a 2 blentyn neu 1 oedolyn a 3 phlentyn) £25.50
Prynwch docynnau mynediad i’r Castell yma.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen tocyn ar bawb?
Oes. Rhaid i bawb sy’n ymweld â’r Castell gael tocyn dilys.
- Mae angen Tocyn Groto Plant ar blant sy’n cyfarfod â Siôn Corn.
- Mae pob tocyn Groto yn cynnwys un oedolyn am ddim.
- Bydd angen tocyn mynediad safonol i’r Castell ar unrhyw oedolyn neu blentyn ychwanegol.
- Deiliaid Tocyn Blynyddol, trigolion Plwyf Caeriw a Jeffreyston, pobl sy’n defnyddio cadair olwyn a gofalwyr hanfodol, gweler y polisi mynediad yma, does dim angen archebu.
Oes rhaid i chi archebu lle?
Oes. Rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer Groto Siôn Corn, ac argymhellir yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw ar gyfer y Castell.
Ydy’r Groto’n hygyrch?
Ydy. Mae Groto Siôn Corn ar lawr gwaelod y Castell ac mae’n hygyrch i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn.
A fydd yr Ystafell De ar agor?
Bydd. Bydd Ystafell De Nest yn gweini cacennau Nadoligaidd, ein Siocled Poeth Moethus enwog, gwin cynnes a danteithion tymhorol eraill drwy gydol y dydd.
Beth fydd yn digwydd os byddwn yn colli ein slot amser yn y Groto?
Cofiwch gyrraedd mewn da bryd cyn eich slot.
Yn anffodus, allwn ni ddim gwarantu mynediad os byddwch yn cyrraedd yn hwyr.
Mae gan Siôn Corn amserlen brysur iawn ar gyfer y Nadolig, felly rydyn ni’n gwerthfawrogi eich dealltwriaeth.
Allwn ni newid ein harcheb Groto?
Gallwch chi fynd i’r wefan archebu os ydych chi eisiau newid dyddiad/amser eich slot yn y Groto. Dewiswch Rheoli’r Archeb. Does dim angen i chi gael cyfrif i wneud hyn. Dim ond pan fydd slotiau amser eraill ar gael y bydd modd newid slotiau amser.
Telerau Archebu
- Ni roddir ad-daliad am archebion.
- Gofynnir am brawf o’ch archebion pan fyddwch yn cyrraedd. Cofiwch ddangos y cod QR os oes angen.
- Caniatewch ddigon o amser i gerdded o’r Ganolfan Ymwelwyr a’r Siop i’r Castell cyn eich slot yn y Groto.
