Llanrath – Porthdy Colby

Taith Antur

Taith antur: 1.7 milltir (2.8 km).
Cymeriad: cwm coediog hardd, ar draciau llydan gan fwyaf, llethrau i fyny ac i lawr.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Bws gwasanaeth 351 (Dinbych-ypysgod – Pentywyn), nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro; 2.5 milltir i’r Gogledd Ddwyrain o bentref Saundersfoot.  Dewch ar gefnffordd yr A477.  Dim tâl am barcio.

Sylwer: Mae Gardd Goetir Colby yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.  Os ydych yn ymweld â’r ardd, i ffwrdd oddi wrth y llwybr hwn, a wnewch chi dalu’r tâl mynediad wrth y dderbynfa.
Pan fyddwch chi’n ymweld â’r ardd, gellir cerdded y daith hon o safle bws neu faes parcio Gardd Goetir Colby.
Mae bws 351 yn aros tu allan i fynedfa’r maes parcio.
I gyrraedd y maes parcio hwn trwy ddefnyddio’ch trafnidiaeth eich hun: dewch fel uchod a dilynwch yr arwyddion brown at Ardd Goetir Colby.

Mae rhan gyntaf y daith – o Llanrath i ddechrau’r coetir – yn mynd i fyny’r tyle’n raddol. Mae rhan olaf y daith yn dilyn yr un llwybr i lawr y tyle.

Mae mwyafrif gweddill y daith ar lwybrau sy’n codi ac yn disgyn yn fwy ysgafn.

Mae’r daith yn dilyn llwybrau cyhoeddus trwy Ardd Goetir Colby, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Yma, ceir un o’r casgliadau gorau o rododendrons ac asaleâu yng Nghymru, gyda chlychau’r gog a chennin Pedr yn y Gwanwyn, blodau’r enfys yn yr Haf a gwledd o liw yn yr Hydref.

A wnewch chi aros ar y llwybr a ddisgrifir, oherwydd mae’n rhaid i unrhyw un sydd ddim yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dalu tâl mynediad i ymweld â’r ardd.

Mae’r Ardd ar agor o’r Gwanwyn i’r Hydref. Mae’r daith yn pasio ystafell de’r Ardd, sydd ar agor i bawb (mynediad trwy ramp) o’r Gwanwyn i’r Hydref.

Cyfarwyddiadau

O’r safle bws: cerddwch i fyny’r heol gyferbyn â’r safle bws.

O’r maes parcio: gadewch y maes parcio gan ddefnyddio’r heol, ac anwybyddu’r ffordd bengoll (cul-de-sac) a throwch i’r chwith arno i’r heol i fyny’r tyle.

Mae’r 16 metr cyntaf yn 1:8 i fyny’r tyle.  Ble mae’r fforc yn yr heol yn nhˆ y Upper Mead, cymerwch y lôn ar y chwith (1:8 am 17 metr) a cherdded heibio i’r tai i mewn i’r coed.

Dilynwch y trac llydan, wrth y gyffordd-T (1:7 am 12 metr) cadwch at y chwith ac wrth y fforc, cymerwch y trac ar y dde. Mae yna 2 adran serth fer sy’n 1:8 ac 1:7 am 3 metr yr un.

Ewch trwy’r giât (sy’n aml ar agor) ac yn syth ymlaen. Wedi pasio’r fynedfa i’r ddôl ar y chwith mae yna raddiant croes o 1:18 am 4 metr.

Ychydig cyn cyrraedd adeiladau Porthdy Colby mae yna adran 2 fetr sy’n 1:10. Arhoswch ar y trac llydan rhwng yr adeiladau ac yna trowch i’r chwith wrth yr heol (1:8 am 5 m).

Trowch i’r chwith wrth y postyn pwyntio a dilynwch y trac ar draws pont droed (1 metr o led).

Ble mae’r llwybrau’n croesi, cadwch at y chwith arno i’r trac ag arwyneb rhwng y coed a’r ddôl islaw.

Arhoswch ar y trac hwn.  Mae yna ddwy adran serth: y cyntaf yn 1:10 am 4 metr, a’r ail hyd at 1:8 am 50 metr yn arwain at giât.

Ar ôl y giât, trowch i’r chwith arno i lwybr, sy’n anwastad, am 40 metr, gyda graddiant o hyd at 1:7 am 40 metr. Dilynwch y llwybr, ac ewch tua’r chwith at y postyn pwyntio wrth y bont dros y nant.

Wrth y postyn pwyntio, trowch i’r dde dros y bont (hyd at 1:8 am 3 metr) ac wrth y postyn pwyntio nesaf cadwch at y dde.

Dilynwch y trac ac wrth gyrraedd yr heol, cadwch at y dde arno i’r heol. Ar gyfer y safle bws: parhewch yn syth ymlaen. Ar gyfer y maes parcio: trowch i’r dde i mewn i’r maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SN157080