Llanismel i Benrhyn y Castell Mawr

Taith Fynediad Hwylus/Taith Antur

Taith fynediad hwylus: 0.6 milltir (1.0 km).
Taith antur: 1.9 milltir (3.1 km).
Cymeriad: golygfeydd gwych tros ddyfrffordd Aberdaugleddau tuag at Angle. Mae’r llwybr at yr arfordir yn wastad gydag arwyneb; mae’r gweddill yn arwynebau naturiol gyda rhai graddiannau.
Toiledau: ar ddechrau’r daith (tymhorol).
Cyfleusterau pellach: mae yna le chwarae i blant ac ardal bicnic ar ddechrau’r daith.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Bws gwasanaeth 316 a’r Pâl Gwibio (nid yw’r rhain yn hygyrch i gadeiriau olwyn).
Eich trafnidiaeth eich hun: De Orllewin Sir Benfro; 3 milltir i’r Gorllewin o dref Aberdaugleddau. Dewch ar gefnffordd yr A4076 ac isffordd Herbrandston/Llanismel. Mae yna fan parcio bach ar ddechrau’r daith.

Mae rhan gyntaf y daith hon, o’r maes parcio i’r olygfan gyntaf ar Lwybr yr Arfordir, wedi cael ei tharmacio.

Mae’r daith ar hyd Llwybr yr Arfordir ar arwynebau naturiol, er, mae’r graddiannau a’r graddiannau croes yn finimal.

Ar hyd y llwybr, mae yna olygfeydd gwych o ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’r ddyfrffordd yn harbwr naturiol trawiadol sydd wedi bod yn brysurdeb o gychod dros lawer o ganrifoedd.

Roedd masnachwyr canoloesol yn arfer hwylio oddi yma i borthladdoedd yn Lloegr a Ffrainc; adeiladwyd cychod ar gyfer y Llynges Frenhinol yn Aberdaugleddau ac, yn nes ymlaen, yn Noc Penfro, ac roedd yn fan ymffurfio ar gyfer confois yr Iwerydd yn yr Ail Ryfel Byd.

Yn Sir Benfro, mae aneddiadau o’r Oes Haearn yn aml yn mynd law yn llaw gyda golygfeydd da, fel yr un ym Mhenrhyn y Castell Mawr.

Credir bod y gaer yn fwy na 2,000 mlwydd oedd ac roedd yn nodwedd amddiffynnol, yn anheddiad, neu efallai’r ddau beth yma.

Wrth i chi gerdded, chwiliwch am adar y môr ac am rywogaethau tir fferm fel y bras melyn – aderyn melyn, maint aderyn y to, sydd i’w weld yn aml yn yr Haf yn canu nerth ei galon o frig y clawdd.

Cyfarwyddiadau

Ewch drwy’r giât wrth ochr y toiledau cyhoeddus a dilynwch y llwybr trwy giât arall i mewn i’r caeau chwarae. Ble mae’r llwybr yn troi i’r dde, mae yna raddiant o 1:10 am 6 metr.

Arhoswch ar y llwybr ag arwyneb hyd nes cyrraedd yr olygfan.  Dyma ddiwedd y Daith Fynediad Hwylus, ewch yn ôl yr un ffordd at y man cychwyn.

Ar gyfer y Daith Antur, trowch i’r chwith arno i Lwybr yr Arfordir a’i ddilyn. Wrth y fynedfa i’r traeth (serth gyda grisiau) mae yna raddiant o 1:8 i 1:6 i lawr am 8 metr a graddiant o 1:9 i 1:7 i fyny am 3 metr.

Yn nes ymlaen mae’r graddiannau’n 1:10 am 6 metr ac yn 1:10 i 1:7 am 9 metr; ac mae’r adran hon yn anwastad hefyd.

Mae yna raddiant byr o 1:6 am 2 fetr ble mae’r llwybr yn ymuno â thrac.

Trowch i’r dde arno i’r trac a’i ddilyn at olion rhagfuriau’r Bryngaer o’r Oes Haearn. Ewch yn ôl yr un ffordd at y man cychwyn.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyferinod Grid: SM838071