Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Llwybr Peillwyr Abergwaun ac Wdig

Llwybr Peillwyr Hwlffordd

Llwybr Peillwyr Aberdaugleddau

Llwybr Peillwyr Arberth

Llwybr Peillwyr Trefdraeth

Llwybr Peillwyr Neyland

Llwybr Peillwyr Penfro

Llwybr Peillwyr Doc Penfro

Llwybr Peillwyr Saundersfoot

Llwybr Peillwyr Tyddewi

Llwybr Peillwyr Dinbych-y-pysgod

Coridorau peillwyr strategol

 

Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad

 

7.1 Mae’r llwybrau peillwyr yn meithrin yr egwyddorion peillwyr cyffredinol ymhellach drwy amlinellu’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu ym mhob anheddiad.

 

Llwybr Peillwyr Abergwaun ac Wdig

 

7.2 Mae Llwybr Peillwyr Abergwaun ac Wdig yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.3 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.4 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.5 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.6 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’  

7.7 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.8 Ceir mwy o wybodaeth am gwmpas pob prosiect allweddol yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Abergwaun ac Wdig.

 

Ffigur 7.1: Llwybr Peillwyr Abergwaun ac Wdig


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Hwlffordd

 

7.9 Mae Llwybr Peillwyr Hwlffordd yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.10 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.11 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.12 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.13 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.14 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.15 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Hwlffordd.

 

Ffigur 7.2: Llwybr Peillwyr Hwlffordd


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Aberdaugleddau

 

7.16 Mae Llwybr Peillwyr Aberdaugleddau yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.17 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.18 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1c ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.19 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.20 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.21 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.22 Mae mwy o wybodaeth am gwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Aberdaugleddau.

 

Ffigur 7.3: Llwybr Peillwyr Aberdaugleddau


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Arberth

 

7.23 Mae Llwybr Peillwyr Arberth yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.24 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.25 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch. Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.26 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.27 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.28 Mae mwy o wybodaeth am gwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Arberth.

 

Ffigur 7.4: Llwybr Peillwyr Arberth


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Trefdraeth

7.29 Mae Llwybr Peillwyr Trefdraeth yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.30 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.31 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.32 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.33 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.34 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.35 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Trefdraeth.

 

Ffigur 3.5: Llwybr Peillwyr Trefdraeth


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Neyland

 

7.36 Mae Llwybr Peillwyr Neyland yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.37 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.38 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch. Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.39 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.40 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.41 Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Neyland.

 

Ffigur 7.6: Llwybr Peillwyr Neyland


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Penfro

 

7.42 Mae Llwybr Peillwyr Penfro yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.43 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.44 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.45 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.46 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.47 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.48 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Penfro.

 

Ffigur 7.7: Llwybr Peillwyr Penfro


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Doc Penfro

 

7.49 Mae Llwybr Peillwyr Doc Penfro yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.50 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.51 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch. Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.52 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.53 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.54 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol ar gael yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Doc Penfro.

 

Ffigur 7.8: Llwybr Peillwyr Doc Penfro


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Saundersfoot

 

7.55 Mae Llwybr Peillwyr Saundersfoot yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.56 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.57 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.58 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.59 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.60 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.61 Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Saundersfoot.

 

Ffigur 7.9: Llwybr Peillwyr Saundersfoot


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Tyddewi

 

7.62 Mae Llwybr Peillwyr Tyddewi yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.63 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.64 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.65 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.66 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.67 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.68 Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Tyddewi.

 

Ffigur 7.10: Llwybr Peillwyr Tyddewi


Yn ôl i’r top

 

Llwybr Peillwyr Dinbych-y-pysgod

 

7.69 Mae Llwybr Peillwyr Dinbych-y-pysgod yn cynnwys:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol
  • Coridorau peillwyr strategol
  • Prosiectau allweddol

7.70 Caiff y tair agwedd hyn eu llywio gan yr adolygiad sylfaenol, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

7.71 Gan adlewyrchu Egwyddor Peillwyr Gyffredinol 1a ‘Gwarchod a gwella cynefin peillwyr presennol’, darperir y cynefin peillwyr presennol allweddol hefyd ar gyfer pob anheddiad. Er nad yw’r rhain yn ffocws i brosiect allweddol efallai, maent yn amhrisiadwy serch hynny yn rhan o’r llwybr peillwyr ac mae gofyn eu diogelu rhag difrod neu aflonyddwch.

7.72 Mae’r cynefin peillwyr presennol allweddol yn cynnwys dynodiadau statudol, man gwyrdd lleol neu lle mae prosiectau neu fentrau peillwyr presennol yn digwydd. Nid yw’r ardaloedd a gynhwysir yn gynhwysfawr a bydd tir arall o werth uchel ar gyfer peillwyr, er enghraifft tir mewn tirfeddiannaeth breifat.

7.73 Disgrifir y gwahanol fathau o goridorau peillwyr strategol yn ‘Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad’.

7.74 Dangosir y Rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus i annog archwilio natur rhwng yr asedau peillwyr allweddol ac ar hyd y coridorau strategol.

7.75 Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwmpas pob prosiect allweddol i’w gweld yng Nghynllun Rheoli Seilwaith Gwyrdd Dinbych-y-pysgod.

 

Ffigur 7.11: Llwybr Peillwyr Dinbych-y-pysgod


Yn ôl i’r top

 

Coridorau peillwyr strategol

 

7.76 Ar gyfer pob un o’r 11 anheddiad, mae coridorau peillwyr strategol wedi’u nodi. Mae’r coridorau hyn yn elfen allweddol o rwydweithiau ecolegol ehangach, gan gysylltu ardaloedd peillwyr craidd a chynefinoedd cerrig sarn. Maen nhw’n galluogi rhywogaethau i symud, gwasgaru, mudo ac atgynhyrchu a dod yn fwy gwydn i fygythiadau fel newid yn yr hinsawdd a cholli cynefin.

7.77 Mae’r coridorau hyn hefyd yn adlewyrchu ardaloedd cyfle ffocws ar gyfer gwella cysylltedd i beillwyr, er enghraifft llain laswellt barhaus eang sy’n cael ei thorri’n fyr ar hyn o bryd ond sydd â photensial i’w gwella. Nodwyd y rhain gan ddefnyddio modelu addasrwydd cynefinoedd peillwyr a setiau data Blines, yn ogystal ag ymweliadau safle a delweddau o’r awyr.

7.78 Amlinellir camau generig i gryfhau swyddogaeth a pharhad y coridorau hyn isod.

7.79 Efallai y bydd gan ardaloedd y tu allan i’r coridorau strategol bwysigrwydd posibl o hyd ar gyfer peillwyr a dylid eu hystyried o hyd fel rhan o gynigion ar gyfer creu, gwella a chysylltu cynefinoedd peillwyr.

 

Coridorau coetir

7.80 Mae adnoddau blodeuog ar gyfer peillwyr yn aml yn brin tua dechrau’r flwyddyn cyn prif gyfnod blodeuo planhigion llysieuol mewn lleiniau ymyl ffordd, ffiniau caeau a dolydd. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae llwyni a choed blodeuol mewn coedwigoedd, yn ogystal â fflora daear coetir fel clychau’r gog, blodau’r gwynt a fioledau yn gallu darparu ffynonellau gwerthfawr o neithdar a phaill.

7.81 Bydd creu ychydig fetrau o gynefin heb ei drin na’i dorri ar hyd ymylon coetir lle bydd efwr, gorthyfail, ysgall, y bengaled, llysiau’r gingroen a rhai mieri yn gallu tyfu o fudd i beillwyr. Gall rhodfeydd a llennyrch estyn y cynefin agored hwn sy’n cefnogi’r amodau cynnes a heulog sydd orau gan beillwyr. Gall creu ardaloedd o goedlan, pren marw, platiau gwreiddiau wedi’u dinoethi, topograffi amrywiol a choetir gwlyb hefyd ddarparu cynefin i beillwyr ar wahanol gyfnodau o’u cylch bywyd.

 

Coridorau bwytadwy

7.82 Gall gerddi cymunedol a choridorau bwytadwy ddarparu cynefin rhagorol i beillwyr ond hefyd gwasanaethu’r gymuned leol ar gyfer cyfleoedd fforio a defnydd hamdden. Gallant leihau effaith tlodi bwyd mewn ardaloedd incwm isel a galluogi trigolion i gael at fwy o fwyd maethlon.

7.83 Bydd plannu coed ffrwythau, llysiau a pherlysiau sy’n blodeuo, plannu rhywogaethau brodorol sy’n dwyn ffrwyth, aeron neu gnau yn lle gwrychoedd addurnol neu i lenwi bylchau mewn gwrychoedd yn darparu ar gyfer pobl a pheillwyr. Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cynhyrchu rhestr o’r 50 o blanhigion bwytadwy gorau ar gyfer peillwyr (Agor mewn ffenest Newydd). Mae hyn yn cynnig dewis o goed ffrwythau, i’w tyfu am fwyd wrth ddenu peillwyr. Ymhlith y rhywogaethau y gellid eu plannu mae afalau, gellyg, mieri, gwern, eirin a chnau cyll.

 

Coridorau morol neu wlyptir

7.84 Mae nodweddion gwlyb fel camlesi a chronbyllau gyda chors ymylol, ynghyd â ffosydd yn cynnal blodau gwlyptir fel gold y gors, briwlys y gors, erwain a helyglys pêr, sydd i gyd yn ffynonellau da o baill a neithdar.

7.85 Mae angen ‘lagwnau pryfed hofran’ ar lawer o bryfed hofran ar gyfer eu cyfnod bywyd larfaol dyfrol. Gall pyllau dŵr neu gynefin gwlyb gynnal larfae peillwyr megis pryfed drôn a gallant hefyd ddarparu nodweddion blodeuol os defnyddir y planhigion cywir e.e. mintys y dŵr, llysiau’r-milwr coch, llysiau’r angel a briwlys y gors sydd o fudd i beillwyr eraill hefyd.

7.86 Gan amlaf, coridorau morol yw’r rhai ar ben wynebau clogwyn neu ar lan y môr lle bydd planhigion yn llawer mwy agored i lwch halen yn yr aer a chronni halen yn y pridd. Dylid plannu planhigion brodorol sy’n goddef halen er mwyn sicrhau sefydliad llwyddiannus. Gan fod llawer o’r aneddiadau yn arfordirol, bydd goddef halen hefyd yn ffactor i’w ystyried ar gyfer rhai coridorau glaswelltir a nodwyd.

 

Coridorau glaswelltir

7.87 Mae glaswelltiroedd llawn blodau gwyllt yn hanfodol i lawer o bryfed sy’n peillio. Gall glaswelltiroedd ar briddoedd llai ffrwythlon fod yn hynod o gyfoethog o flodau, gyda rhywogaethau fel pys-y-ceirw, briallu Mair, llygad llo mawr, briwydd a thegeirianau.

7.88 Un o’r ffordd hawsaf i hyrwyddo coridor peillio yw drwy newid y drefn torri gwair. Gall lleiniau ymyl ffordd, argloddiau, llethrau a pherimedrau neu gorneli mannau agored i gyd gael eu torri’n llai aml er mwyn caniatáu i blanhigion flodeuo. Dylai’r drefn torri gwair anelu at gydbwysedd rhwng diogelwch, mwynder ac anghenion peillwyr/bywyd gwyllt.

7.89 Mae glaswelltiroedd corsiog, fel dolydd gwellt y gweunydd a geir yn ACA Tiroedd Comin Gogledd-orllewin Sir Benfro, hefyd yn hynod werthfawr i beillwyr. Bydd angen cynnal trefn bori briodol er mwyn cyflawni cymuned tywarchen sy’n llawn rhywogaethau sy’n cynnal nifer amrywiol o beillwyr.

 

Coridorau amaethyddol

7.90 Mae ymylon caeau âr yn lleoliadau delfrydol ar gyfer cynyddu cynefin peillwyr a chysylltedd i gefn gwlad ehangach. Yn aml maent yn llai ffrwythlon, yn llai cynhyrchiol neu’n anhygyrch i beiriannau fferm modern, ac felly’n cael eu hystyried yn llai gwerthfawr ar gyfer cynhyrchu cnydau. Gall sefydlu cymysgedd o lysiau a blodau gwyllt brodorol mewn lleiniau neu stribedi mewn caeau âr neu o’u cwmpas ddarparu ffynonellau da o baill a neithdar i bryfed peillio o fis Mawrth hyd at fis Hydref.

7.91 Bydd yr ymylon yn gweithio orau ar y cyd â gwaith rheoli gwrychoedd sensitif i ddarparu ffynonellau cynnar o baill a neithdar o flodau’r ddraenen wen a’r ddraenen ddu. Mae gwrychoedd yn darparu blodau, cysgod rhag gwynt, planhigion bwyd ar gyfer larfae peillwyr a safleoedd gaeafu yng ngwaelodion y gwrychoedd.

7.92 Bydd gan y rhan fwyaf o dir amaethyddol botensial i adfer neu wella nodweddion cynefin peillwyr. Yn aml, bydd angen ymgysylltu â thirfeddianwyr preifat ar gyfer hyn. Bwriad y coridorau hyn yw dynodi athreiddedd cyffredinol i’r matrics amaethyddol yn hytrach na choridor a ddiffinnir yn benodol yn ofodol.

 

Coridorau mosaig cynefin

7.93 Weithiau, bydd coridorau naturiol drwy’r dirwedd e.e. coridorau afonydd, yn cynnwys llawer o wahanol fathau o gynefinoedd, megis mosaigau o wlyptir, glaswelltir gwlyb, glaswelltir llawn rhywogaethau, cymunedau perlysiau tal, prysgwydd, rhostir a phocedi gwasgaredig o goetir. Gellir gwella a chreu amrywiaeth o nodweddion sy’n cynnal peillwyr, megis pren marw, daear foel, pentyrrau cynefin, tyweirch glaswellt amrywiol, deiliach marw, rhedyn agored a phrysgwydd.

 

Cerrig sarn trefol

7.94 Os yw lle’n brin, gall ychwanegu mwy o gafnau plannu, gwelyau blodau a basgedi crog amrywiol at yr amgylchedd cyhoeddus a’r ystadau tai ddarparu ffynonellau da o baill a neithdar o’r gwanwyn i’r hydref, mannau diogel i fridio a gaeafu a hedfan i ffwrdd. Gall waliau a phontydd gynnal dringwyr blodeuol brodorol megis Iorwg a Gwyddfid. Mae gan hen waith brics a gwaith maen ei gynefin blodeuol ei hun hefyd gyda chreulys Rhydychen, triaglog goch, trwyn-y-llo dail eiddew ac Ysgaw.

7.95 Gallant hefyd ddarparu amrywiaeth o fuddion eraill, gan gynnwys gwella ansawdd aer drwy hidlo llygryddion a gwella iechyd meddwl a chorfforol drwy ddod â phobl yn agosach at fyd natur drwy greu mannau gwyrdd deniadol. Gallant hefyd gynyddu buddion economaidd am fod ychwanegu planhigion, blodau a llwyni yn helpu i feithrin amgylchedd cadarnhaol gan ddenu mwy o gwsmeriaid i drefi ac efallai cynyddu gwerthoedd eiddo.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol

 

Pennod nesaf:

Cyflawni – Strategaethau Peillwyr

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan