Abergwaun ac Wdig

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tadulen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Abergwaun ac Wdig

Prosiectau Cicdanio

Project Long List

 

Abergwaun ac Wdig

 

Ffigur 2.1: Abergwaun ac Wdig

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Abergwaun ac Wdig

 

2.1 Gefeilldrefi yw Abergwaun ac Wdig ar arfordir gogledd Sir Benfro ac fe’u gwahanir gan ddyffryn llydan isel sy’n cynnal Gwaun Wdig. Saif y trefi ar hyd y clogwyni ac o fewn yr harbwr isaf sy’n lapio o amgylch Bae Abergwaun. Mae’r aneddiadau’n cadw llawer o’u nodweddion morwrol sy’n deillio o’u lleoliad arfordirol hanesyddol. Wedi’u ffinio gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro i’r dwyrain ac i’r gorllewin, mae gan yr aneddiadau gysylltiadau hamdden a thrafnidiaeth cryf â’r rhanbarth ehangach, gan gynnwys Llwybr Arfordir Penfro, gorsaf drenau Abergwaun ac Wdig, a phorthladd fferi Abergwaun.

2.2 Mae ardaloedd o le agored o fewn yr aneddiadau wedi’u crynhoi’n agos at yr arfordir a rhostir isel, gyda choridorau nant yn dolennu tuag at yr harbwr o’r tir mewnol. Mae’r coridorau nant yn goediog iawn ac yn cynnwys nifer o ardaloedd o goetir hynafol neu led-naturiol. Ar draws ardal y gweundir isel rhwng y ddwy dref mae parciau cyhoeddus a gwarchodfa natur, yn ogystal â rhai ardaloedd coediog mawr. Ymhlith y mannau cyhoeddus nodedig mae Gwarchodfa Natur Rhos Wdig, Parc Lota a Pharc Phoenix. O’u hystyried gyda’i gilydd, mae’r mannau hyn yn cynnig cyfleoedd i gryfhau cysylltiadau hamdden a bywyd gwyllt rhwng y trefi a’r arfordir.

2.3 Mae clogwyni arfordirol Abergwaun ac Wdig yn cynnal asedau hamdden ac ecolegol pwysig. Mae clogwyni ar y naill ochr i Harbwr Cwm Abergwaun wedi’u dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) am eu gwerth daearegol sylweddol. Mae’r coridor arfordirol hefyd yn cynnal rhan o Lwybr Arfordir Penfro sydd 186 milltir o hyd, sy’n Llwybr Cenedlaethol a hyrwyddir. Mae’r llwybr troed hwn yn mynd drwy’r trefi ac ar hyd eu hymyl ogleddol ac yn darparu cyswllt strategol ar draws creiddiau’r aneddiadau a’r mannau agored rhyngddynt. Ceir rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a llwybrau beicio oddi ar Lwybr Arfordir Penfro sy’n dilyn coridorau’r nant goediog i mewn i’r tir i ddarparu cyfleoedd hamdden pellach.

 

Ffigur 2.2: Cyfleoedd SG yn Abergwaun ac Wdig


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

FIS8 – Gwella gwerth bioamrywiaeth mannau gwyrdd a chaeau chwarae presennol

2.4 Mewn nifer o fannau gwyrdd, y brif nodwedd yw ystodau mawr o laswelltir mwynder wedi’i dorri’n fyr y dylid ychwanegu atynt i hyrwyddo mwy o fioamrywiaeth a gwerth hamdden. Ymhlith yr enghreifftiau mae Maesgrug, caeau chwarae Stop and Call, Heol Dewi, Canolfan Hamdden Abergwaun, man mwynder ym Mhen-y-bryn, Cae’r Santes Fair, Morfa Las ac o gwmpas Dan-y-bryn.

2.5 Un o’r dulliau symlaf o gynyddu bioamrywiaeth yw torri glaswellt yn llai aml, torri gwair ar gylchdro a chasglu toriadau. Fodd bynnag, dylid ychwanegu hadau blodau gwyllt neu blanhigion plwg i wella gwerth bioamrywiaeth yn gyflymach. Dylid ystyried hau cymysgeddau hadau gyda chribell felen oherwydd ei gallu i wanhau glaswelltau grymus.

2.6 Os defnyddir mannau gwyrdd ar gyfer hamdden, mae gwella’r borderi mewn mannau heulog neu greu borderi a gwelyau blodau sy’n denu peillwyr yn cynnig y cyfle i fannau gwyrdd wasanaethu’r ddwy swyddogaeth. Ymhlith yr opsiynau eraill mae plannu gwrychoedd brodorol, sy’n darparu bwyd a lloches. Byddai darparu ardaloedd i archwilio natur, fel llwybrau a dorrir drwy ddolydd llawn rhywogaethau, yn helpu i greu lle i bobl a byd natur.

 

Ffigur 2.3: Prosiect FIS8

 

Buddion y prosiect

 

2.7 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 2.4 isod, mae:

  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 2.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

2.8 Mae cynefin dôl blodau gwyllt yn cwtogi’n sylweddol ar yr amser sy’n cael ei dreulio ar dorri glaswellt yn ystod y tymor tyfu. Dylid integreiddio toriadau blynyddol y ddôl i raglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP).

2.9 Dylid darparu cynefin peillwyr yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.

2.10 Mae cyflawni cynlluniau plannu coed llwyddiannus yn gallu bod yn heriol ac yn gostus oherwydd yr amser sydd ei angen i goed aeddfedu. Mae dyluniad pyllau coed, y dyfnder a’r pridd a ddefnyddir a’r dyfrio a’r gwaith cynnal a chadw parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau sefydlu llwyddiannus.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Cyngor Tref Abergwaun ac Wdig
  • Grŵp Gwyrddu Abergwaun
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

2.11 Mae’r gost o greu dôl blodau gwyllt yn dibynnu ar faint a graddfa’r safle. Ar gyfer ardaloedd bach, mae’n gymharol rad sefydlu dôl fechan o flodau gwyllt. Mae cost hadau (cymysgeddau lluosflwydd dôl iseldir) i orchuddio 50 metr sgwâr yn amrywio o £20 i £30.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

2.12 Gellid darparu dolydd blodau gwyllt mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf.

 

Medium-term = 1-5 mlynedd

2.13 Byddai creu gwrychoedd brodorol neu blannu coed yn cymryd mwy o amser i dyfu a sefydlu. Efallai y bydd angen gweithredu fesul dipyn ar y safle er mwyn caniatáu’r addasiadau angenrheidiol mewn trefniadau rheoli gan Dîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP.

 

Cyfyngiadau posibl

2.14 Efallai y bydd gwrthwynebiad lleol i’r prosiect os yw gwelliannau’n tynnu oddi wrth olwg daclus a threfnus y stryd. Dylai arwyddion a byrddau dehongli helpu i liniaru hyn, ond byddai angen cyfleu cynlluniau’n glir i drigolion lleol cyn eu gosod.

2.15 Daw heriau ynghlwm wrth blannu coed o ran sicrhau eu bod yn sefydlu’n llwyddiannus. Os na ellir cloddio pyllau coed i’r ddaear oherwydd gwasanaethau presennol, dylid ystyried defnyddio cafnau plannu o faint addas uwchlaw’r ddaear.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

2.16 Mae stiwardiaeth gymunedol yn arbennig o bwysig drwy gydol y blynyddoedd sefydlu cychwynnol (60 mis) i sicrhau bod coed yn cael eu dyfrio’n ddigonol yn ystod cyfnodau sych a bod y polion yn cael eu llacio pan fydd angen. Drwy sicrhau cefnogaeth grwpiau cymunedol lleol, er enghraifft Grŵp Gwyrddu Abergwaun, dylid hefyd cynyddu’r siawns y bydd coed yn sefydlu’n llwyddiannus.

2.17 Mae angen torri a chodi dôl blodau gwyllt ar ddiwedd y tymor. Fel arfer ym mis Medi y mae hyn yn digwydd. Yn ddelfrydol, dylid gadael y sgil-gynhyrchion am saith diwrnod i daflu hadau cyn cael eu gwared. Efallai y bydd angen torri a chodi eildro tua dechrau’r gwanwyn i gael gwared ar dyfiant y gaeaf.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

2.18 Gall cyfradd oroesi planhigion ac ardaloedd newydd o gynefinoedd y ddôl a sefydlwyd fod yn ddangosyddion i fonitro llwyddiant. Ar ôl i’r holl welliannau bioamrywiaeth gael eu gweithredu, gellid trefnu BioBlitz cymunedol blynyddol i gofnodi amrywiaeth y bywyd yn y mannau gwyrdd. Gall ymgysylltu â phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion fel Cynllun Monitro Peillwyr y DU neu drefnu BioBlitz cymunedol blynyddol mewn mannau gwyrdd penodol helpu i gynnwys cymunedau lleol mewn ymdrechion monitro.

 

Camau nesaf

2.19 Adolygu adrannau cyflawni’r Strategaeth Peillwyr a’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i adolygu opsiynau ar gyfer gwella gwerth bioamrywiaeth mannau gwyrdd.

2.20 Ymgynghori â Thîm Rheoli Amwynderau / Gofal Stryd CSP i gytuno ar y safleoedd a fyddai’n cael eu rheoli’n wahanol a sut.

 

Ffigur 2.5: Abergwaun and Wdig


Yn ôl i’r top

 

FIS 10 – Hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol yn Wdig

2.21 Mabwysiadu dull a arweinir gan y gymuned o hyrwyddo tyfu bwyd cynaliadwy yn Wdig. Dylai’r cyfleuster ategu’r ddarpariaeth randiroedd bresennol yn Abergwaun, gan gynnig y cyfle i ddwyn budd i les corfforol a meddyliol pobl leol yn ogystal â gwell cydlyniant cymdeithasol a chymunedol. Arweiniodd pandemig COVID-19 at ymchwydd yn y nifer sy’n tyfu bwyd gartref, gyda’r galw am randiroedd yn cyfateb i’r duedd hon. Ar ben hynny, mae nifer o safleoedd rhandiroedd Sir Benfro yn llawn a chanddynt restri aros sylweddol. Felly, dylid ystyried dulliau newydd a dyfeisgar o ddarparu arferion tyfu bwyd cynaliadwy – gan gynnwys gerddi cymunedol, rhandiroedd neu gafnau plannu cyhoeddus. Gallai hyn gynnwys cynlluniau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, prosiectau bychain a phartneriaethau newydd yn y dref ei hun.

2.22 Ceir cyfle i weithio gyda’r gymuned leol i nodi safle ar gyfer gardd gymunedol yn Wdig i ateb y galw cynyddol am dyfu yn yr awyr agored gan y gymuned. Dylid cefnogi gwaith dichonoldeb a chanfod safle presennol a wneir gan GRŴP Resilience. Dylid hefyd cyflenwi’r cyfleuster gyda mewnbwn gan Grŵp Gwyrddu Abergwaun ac Wdig a chynllun gwirfoddolwyr Wardeniaid Coed Sir Benfro. Mae sefydlu cyfleuster tyfu cymunedol yn cynnig y potensial i weithio mewn partneriaeth ag ysgolion lleol er mwyn integreiddio tyfu bwyd cynaliadwy yn rhan o’r cwricwlwm. Gan weithio yn unol ag amcanion strategaeth peillwyr y dref, dylid hefyd archwilio’r rhan y gall mannau fel rhandiroedd ei chwarae mewn darparu lloches i fywyd gwyllt drwy greu cynefinoedd ac arferion rheoli ecolegol.

 

Buddion y prosiect

2.32 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 2.6 isod, mae:

  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 2.6: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

2.24 Dyrannu tir nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol yn Wdig ar gyfer man tyfu cymunedol, fel rhan o ddarparu tai neu nodi ardaloedd o fannau gwyrdd sy’n eiddo cyhoeddus i’w dyrannu ar gyfer menter tyfu gymunedol.

 

Partneriaid posibl
  • Grwpiau tenantiaid rhandiroedd
  • GRŴP Resilience
  • Grŵp Gwyrddu Abergwaun ac Wdig
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Timau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Rhwydwaith Bwyd Bendigaid
  • Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol – Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol yng Nghymru a phrosiect Tyfu Gyda’n Gilydd
  • Gwyllt am Sir Benfro
  • Ysgolion lleol
  • Datblygwyr

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

2.25 Gellid darparu’r lle tyfu am gost gymharol isel pan fydd y tir wedi’i nodi.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Adran 106
  • Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL)
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

2.26 Gallai gwaith ymgysylltu â’r gymuned ddechrau’n gyflym, ond bydd nodi tir addas a chyflenwi’r lle tyfu yn cymryd blwyddyn neu ddwy.

 

Cyfyngiadau posibl

2.27 Byddai sicrhau buddsoddiad priodol, gwaith ar opsiynau safle, dod o hyd i safle ac ansicrwydd perchnogaeth tir yn creu heriau sylweddol wrth sefydlu’r cyfleuster tyfu bwyd cymunedol.

2.28 Oherwydd yr heriau stiwardiaeth sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau cymunedol yn y tymor hir, mae’n hanfodol bod rheoli a chynnal a chadw yn cael eu hymgorffori mewn cyllid y tu hwnt i’r cyfnod sefydlu cychwynnol. Mae paratoi tir a phrofi pridd yn briodol hefyd yn heriau allweddol wrth gyflawni.

2.29 Prin yw’r adnoddau sydd ar gael o fewn CSP a rhanddeiliaid eraill i hyrwyddo a chefnogi ymgysylltu ac ymwybyddiaeth gymunedol ar lefel leol. O ganlyniad, byddai ymgynghoriad cymunedol llwyddiannus yn hanfodol i sicrhau cefnogaeth leol a byddai’n ffurfio elfen allweddol o gyflawni’r prosiect hwn.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

2.30 Byddai’r prosiect yn dibynnu ar grwpiau cymunedol ar lefel leol i reoli a chynnal a chadw’r cyfleuster tyfu bwyd cymunedol yn y dyfodol. Ceir cyfle hefyd i reoli’r safle i wella bioamrywiaeth, gan gynnig buddion a gwelliannau sylweddol i fywyd gwyllt lleol.

2.31 Dylid darparu cymorth ychwanegol gan Dimau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i sicrhau llwyddiant parhaus y lle, a hynny’n arddwriaethol ac ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

2.32 Ceir cyfle i CSP integreiddio’r safle i ddiweddariadau i’r Cynllun Llesiant yn y dyfodol, a gynhyrchir mewn ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a monitro ei ddefnydd yn y dyfodol.

 

Camau nesaf

2.33 Dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb i nodi safle priodol a chychwyn ymgynghoriad. Dylid cynnal profion pridd hefyd i lywio’r broses o ddewis safle.

 

Ffigur 2.7: Abergwaun ac Wdig


Yn ôl i’r top

 

FIS 13 – Ôlosod gerddi glaw, coed stryd a phalmantau athraidd o fewn ardaloedd trefol presennol

2.34 Mae Sir Benfro wedi dioddef o broblemau deuol yn y gorffennol, ar ffurf digwyddiadau llifogydd dŵr wyneb a hefyd digwyddiadau lle mae carthion budr wedi gorlifo ac arwain at lifogydd (sef Gorlifoedd Storm Cyfun). Mae’r gorlifoedd hyn yn tarddu o bwysau cynyddol ar systemau carthffosydd oherwydd dŵr storm yn dod i mewn i hen systemau carthion sy’n cymryd dŵr glaw ac elifion budr. Mae ardaloedd mawr o ddefnydd tir anathraidd, sy’n cael eu draenio’n uniongyrchol trwy bibellau i’r carthffosydd ac yna’r afonydd, yn gwaethygu’r ddau fater hyn. Gallai gweithredu ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) sy’n dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun leihau’r pwysau ar seilwaith, gan helpu i leihau dylanwad afonol adeg llifogydd. Ymhlith y meysydd ar gyfer ymyrraeth bosibl mae:

  • Maes Parcio Heol y Gorllewin
  • Siop fwyd Co-op
  • Maes Parcio Parc-y-Shwt
  • Stryd Fawr, Heol y Gorllewin
  • Main Street a Stryd Hamilton
  • Y Parrog a Manor Way yn Wdig

2.35 Ar hyn o bryd, dim ond 15.9% ydy holl orchudd canopi Abergwaun. Byddai ôl-osod ymyriadau SDC, megis coed stryd a gerddi glaw, felly’n cynnig buddion fel llai o ddŵr ffo wyneb, gwelliannau i olwg yr ardal a gwell ansawdd aer.

 

Ffigur 2.8: Prosiect FIS13

 

Benefits of the project

2.36 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 2.9 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Mannau ar gyfer bywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd.

 

Ffigur 2.9: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

2.37 Mae ehangu diwydiannol a masnachol Abergwaun dros y degawdau diwethaf wedi arwain at fwy o ardaloedd o dirwedd galed. Byddai gweithredu gerddi glaw, plannu coed a phalmantau athraidd o fewn yr ardaloedd hyn yn gwella cymeriad y dreflun ac yn cyflwyno dull cynaliadwy o ymdrin â dŵr glaw ffo.

2.38 Mae ymyriadau SDC yn dynwared draeniad ym myd natur lle mae gwlybaniaeth yn cael ei hamsugno i’r ddaear, wedi’i harafu gan lystyfiant. Felly mae maint ac ansawdd y dŵr sy’n cyrraedd cyrsiau dŵr lleol yn y pen draw yn cael eu gwella, gan helpu i liniaru llifogydd a lleihau gorlifoedd storm cyfun. Mae rheoli dŵr yn gynaliadwy mewn ardaloedd trefol hefyd yn sicrhau bod trefi yn fwy gwydn rhag pwysau newid hinsawdd a thwf yn y boblogaeth.

 

Mecanweithiau cyflawni

2.39 Dylid sefydlu rhaglen blannu flynyddol er mwyn cynllunio, cyflawni a rheoli’n llwyddiannus yr ardaloedd o blannu coed, gerddi glaw a phalmantau athraidd newydd. Mae angen digon o gynllunio cyn y tymor plannu gwreiddiau moel (Hydref-Mawrth fan pellaf) i sicrhau bod archwiliadau o’r ddaear / profion pridd yn cael eu cwblhau.

2.40 Dylid cyflenwi coed yn unol ag adran gyflenwi’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Partneriaid posibl
  • Y gymuned leol
  • Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Busnesau lleol
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Dŵr Cymru
  • Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA)
  • Grŵp Cadwraeth Abergwaun a Bae Wdig

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

2.41 Mae pris yn gallu newid gan ddibynnu ar nifer y coed a blannwyd / gerddi glaw a grëwyd / ardaloedd palmant athraidd a osodwyd. Fodd bynnag, dylid defnyddio amcangyfrif bras o ~£10,000 i sefydlu coeden o fewn ardal o dirlunio caled.

2.42 Byddai’r costau’n cynnwys rhywfaint o gyngor arbenigol cyfyngedig gan gynnwys chwiliadau cyfleustodau, ymgynghori â rhanddeiliaid a chostau plannu / cynnal a chadw. Byddai costau gosod palmant athraidd yn sylweddol uwch. O ganlyniad, dylid canolbwyntio i ddechrau ar weithredu gerddi glaw a phlannu coed.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cyllid grant Transition Bro Gwaun (yn Abergwaun)
  • Cronfa Prosiect Cyfeillion – Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Dŵr Cymru
  • Cyfraniadau datblygwyr
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed
  • Cronfa Rhwydweithiau Natur
  • Cronfa Trawsnewid Trefi
  • Grantiau Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

2.43 Dylid plannu coed a chreu gerddi glaw mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf.

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

2.44 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith plannu coed, creu gerddi glaw ac agweddau palmantau athraidd ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu digon o gynllunio ac ymgysylltu.

2.45 Ar gyfer plannu cychwynnol ac adeiladu palmantau, byddai hwn yn gam cyflym ymlaen a gellid ei weithredu mewn llai na blwyddyn. Prin y byddai’r coed a’r llystyfiant cysylltiedig yn dal a storio carbon wedyn i ddechrau ond byddai hynny’n cynyddu o fewn y degawd nesaf wrth i’r coed aeddfedu.

 

Cyfyngiadau posibl

2.46 Mae cryn nifer o randdeiliaid posib i ymgysylltu â nhw ar gyfer y prosiect hwn, gyda gwahanol ddeiliaid tir a’r broses ymgysylltu yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Rhaid i Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP a SWTRA fod yn rhan o’r prosiect.

2.47 Tirwedd galed sy’n nodweddu mwyafrif yr arwynebau yn y prosiect posibl. Mae’n ddrutach cloddio pyllau coed o fewn tirweddau caled nag o fewn tirweddau meddal. Felly, wrth blannu coed newydd, rhaid sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cost, lle a swyddogaeth / dyluniad a ddymunir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd llai o goed gyda mwy o gyfaint gwreiddio yn briodol.

2.48 O fewn yr amgylchedd trefol, rhaid ystyried y posibilrwydd bod amrywiaeth o wasanaethau a chyfleustodau wedi’u gosod o fewn ardaloedd plannu posibl a bod angen osgoi’r rhain wrth gyfrif am blannu coed. Fel arfer mae angen dyfnderoedd basach o osodiadau ar erddi glaw ac felly byddent yn llai tebygol o wrthdaro â gwasanaethau. Efallai bod potensial i osod gerddi glaw yn lle plannu coed mewn ardaloedd y nodwyd bod gwasanaethau’n debygol iawn o fod yno.

2.49 Rhaid cynnal golygfeydd allweddol hefyd wrth blannu coed newydd. Felly, dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd â CSP.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

2.50 Sefydlu gweithgor o breswylwyr neu bartneriaid masnachol ochr yn ochr ag Adran Gofal Stryd a Phriffyrdd CSP i gymryd perchnogaeth ar y gwaith plannu coed newydd. Gallai diwrnod hyfforddi roi’r offer a’r wybodaeth i’r gymuned i gynnal coed newydd yn llwyddiannus nes eu sefydlu, gan gynnwys dyfrio a chadw llygad ar bolion coed.

2.51 Byddai angen dyfrio a gofal sefydlu ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis er mwyn sicrhau y gall y coed ddod yn annibynnol yn y dirwedd.

2.52 Byddai angen i ardaloedd palmantau athraidd gael eu mabwysiadu naill ai gan CSP neu gan y tirfeddiannwr perthnasol.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

2.53 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect ar y cyd â data Dŵr Cymru o ran capasiti carthffosydd a gostyngiad mewn digwyddiadau Gorlif Storm Cyfun.

2.54 Defnyddio’r gweithgor preswyl i fonitro sefydliad llwyddiannus coed a gerddi stryd newydd. Sefydlu sianel gyfathrebu ar gyfer adrodd am unrhyw faterion neu fethiannau.

 

Camau nesaf

2.55 Nodi deiliaid tir a phartneriaid masnachol ar unwaith ac ymgysylltu â rhanddeiliaid posibl, gan gynnwys SWTRA ac adrannau priodol CSP.

2.56 Arolygu’r ardal i ganfod ardaloedd sy’n fwyaf addas ar gyfer ymyrraeth.

2.57 Adolygwch adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau meddal a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.

2.58 Ymgysylltu â thrigolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed a dewis rhywogaethau, gan ddefnyddio’r canllaw dewis rhywogaethau o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Ffigur 2.10: Abergwaun ac Wdig


Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

FIS1 – Gwella Parc Lota

2.59 Cyflwyno plannu coed ychwanegol o fewn Parc Lota i wella cymeriad y dirwedd. Mae ymyriadau posibl yn cynnwys rhodfeydd coed ar hyd prif lwybrau, coed ffiniol mawr, coed parcdir sbesimen, coed perllan, coed blodeuol mewn pyrth allweddol, yn ogystal ag integreiddio coedlannau bach. Byddai plannu coed sy’n dwyn ffrwyth ar hyd llwybrau eilaidd, wedi’u hategu â phlannu plwg o amgylch gwaelodion coed, yn darparu coridor bwytadwy. Canolbwyntio ar blannu coed mewn ardaloedd sy’n dioddef o ddirlawnder. Dylid hefyd ystyried defnyddio’r arglawdd sy’n gwahanu gogledd a de’r parc fel dôl. Ceir cyfle hefyd i ategu cynigion ehangach ar gyfer cysylltiadau llwybr a rennir ar hyd y Stryd Fawr a Ropewalk, gan gynnwys cysylltiadau ehangach â Stryd y Gorllewin. Mae disgwyl i’r llwybrau hyn gael eu gweithredu drwy Gyllid Teithio Llesol.

 

FIS2 – Adolygu gwaith rheoli safleoedd coetir yn Llwybr Pencowrw, y Slâd ac Afon Gwaun

2.60 Creu cynlluniau rheoli ar gyfer y coetiroedd yn Llwybr Pencowrw, y Slâd ac Afon Gwaun i hyrwyddo eu rheoli yn y tymor hir. Dylid ystyried ymyriadau fel coedlannu i wella strwythur isdyfiant a theneuo coetir i gynnal golygfeydd / llinellau gweld. Dylid defnyddio teneuo dethol hefyd fel mecanwaith i wella datblygiad fflora daear amrywiol. Lle bo’n ymarferol, dylid plannu grwpiau coed mewn mannau eistedd presennol ac i ddarlunio mynedfeydd i Lwybr Pencowrw. Dylid ystyried gweithredu cynigion ar y cyd â gwelliannau a amlinellir ar y Map Rhwydwaith Teithio Llesol, sy’n ceisio gwella Llwybr Pencowrw a’r Slâd. Hefyd, cynigir llwybr defnydd a rennir sy’n ffinio ag Afon Gwaun er mwyn cynnig cysylltiadau rhwng Cwm Abergwaun a Llanychaer.

FIS3 – Amrywiaethu lleiniau ymyl ffordd ar hyd y Parrog

2.61 Mae’r lleiniau ymyl ffordd yn Rhos Wdig a Ffordd y Parrog yn cael eu nodweddu ar hyn o bryd gan laswellt mwynder o dywarch byr. Gan gydweithio ag Awdurdod y Priffyrdd, dylid creu dolydd blodau gwyllt sy’n goddef halen i ddarparu coridor peillwyr a gwella’r porth i Wdig. Dylid hefyd sefydlu dolydd blodau gwyllt tebyg ar ymyl ogledd-ddwyrain y Parrog, gan dorri’r borfa i greu llwybrau a llennyrch i ddarparu ar gyfer defnydd hamdden y promenâd. Ynghyd â’r ymyriad hwn, dylid plannu grwpiau coed bychain ac adnewyddu llwyni presennol a blannwyd. Dylid hyrwyddo a chynnal golygfeydd i Fae Wdig a Rhos Wdig.

 

FIS4 – Creu llwybr peillwyr yn Llwybr Pencowrw

2.62 Dynodi llwybrau’n well yn Llwybr Pencowrw, gan gynnwys arwyddion ar hyd y Slâd i ddarparu cysylltiadau uniongyrchol o ganol tref Abergwaun i Harbwr Cwm Abergwaun. Mewn ardaloedd o laswelltir amwynder agored a mannau gorffwys, dylid gosod cafnau plannu yn ogystal â chloddiau glöynnod byw ardaloedd o ddaear foel. Gallai’r llwybr gael ei hyrwyddo’n lleol fel llwybr peillwyr cylchol 3km. Dylai uchelgeisiau’r dyfodol gynnwys estyn y llwybr a’r potensial i sicrhau Statws Caru Gwenyn yn debyg i Dyddewi.

 

FIS5 – Gwyrddu Ffordd yr Efail ymhellach

2.63 Ceir nifer o ardaloedd gwyrdd yn y system un ffordd newydd (gan gynnwys llwybrau troed i gerddwyr a llwybr cyd-ddefnyddio) gerllaw’r Co-op. Dylid archwilio ymyriadau sy’n amrywiaethu plannu ac yn gwella ardaloedd o laswelltir a dorrir yn fyr ochr yn ochr ag uwchraddio llinellau awydd yn llwybrau ffurfiol. Mae cyfleoedd posib hefyd yn cynnwys rheoli ardaloedd sy’n disgwyl cael eu datblygu fel ‘mannau yn y cyfamser’, gan wella eu gwerth i beillwyr trwy blannu blodau gwyllt. Dylid ystyried cyflwyno cafnau plannu uchel yn yr orsaf fysiau a defnyddio toeau gwyrdd ar gysgodfannau bysiau / blociau toiled.

 

FIS6 – Hyrwyddo gwyrddu coridor yr A487

2.64 Plannu coed ychwanegol o fewn lleiniau glaswellt presennol ar hyd yr A487 ar y ddynesfa dde-orllewin tuag at Abergwaun yn ogystal ag ar dir i’r de o Ddyffryn. Y nod ddylai fod darparu gwell cysylltedd â’r cefn gwlad ehangach a chreu porth i’r aneddiadau. Dylid ystyried plannu plygiau o amgylch gwaelod coed yn fodd o ddarparu diddordeb gweledol a pheillwyr ychwanegol.

 

FIS7 – Gwyrddu Parc Phoenix a Ffordd y Wern ymhellach

2.65 Cyflwyno plannu ffiniol gerllaw’r cae chwarae ac ar hyd ffyrdd / ymylon ffordd i ddarparu clustogfa ffisegol rhwng y man agored a’r cyd-destun diwydiannol. Byddai’r llystyfiant hwn hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth leddfu’r canfyddiad negyddol o lygredd sŵn o gerbydau sy’n pasio. Dylid meddalu ardal y maes parcio i’r dwyrain drwy blannu coed a phantiau llinol, gyda phwyntiau mynediad allweddol wedi’u darlunio drwy blannu coed ychwanegol.

 

FIS8 – Gwella gwerth bioamrywiaeth mannau gwyrdd a chaeau chwarae presennol

2.66 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

FIS9 – Cryfhau’r rhwydwaith o goetiroedd sydd ar yr ymyl drefol

2.67 Dylid archwilio cynigion sy’n atgyfnerthu’r patrwm a’r rhwydwaith presennol o goetir ar draws ardaloedd sy’n union gerllaw ardaloedd trefol, gan gynnwys sefydlu plannu ar hyd cyrsiau dŵr a rhwydweithiau draenio.

FIS10 – Hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol yn Wdig

2.68 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

FIS11 – Gwella gwerth bioamrywiaeth y cae chwarae i’r de o Ros Wdig

2.69 Ceir cyfle i wella ymylon glaswelltir y cae hwn, a ddefnyddir ar hyn o bryd fel cae chwarae. Dylai cynigion i wella’r safle ar gyfer peillwyr gynnwys llacio’r drefn torri gwair, a hau hadau blodau gwyllt. Dylid ymgynghori â thirfeddianwyr cyfagos gyda’r nod o greu rhwydwaith cysylltiedig o ymylon glaswelltir i hyrwyddo cysylltiadau strategol ehangach tuag at Ros Wdig.

 

FIS12 – Gwella Rhos Wdig

2.70 Gan adeiladu ar welliannau diweddar i fynediad cyhoeddus yn Rhos Wdig, dylai cynigion anelu at wella’r ystod o beillwyr. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy gyflenwi pentyrrau o bren marw, rheoli rhywogaethau goresgynnol a gwella gwerth ecolegol ymylon cynefinoedd.

 

FIS13 – Ôl-osod gerddi glaw, coed stryd a phalmantau athraidd o fewn ardaloedd trefol presennol

2.71 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

FIS14 – Adolygu arferion rheoli tirwedd i sicrhau cadw golygfeydd o’r môr

2.72 Dylid adolygu arferion rheoli tirwedd er mwyn adfer argaeledd golygfeydd môr, wrth gydbwyso ystyriaethau ecolegol a thirwedd. Mae’r lleoliadau allweddol yn cynnwys y llethrau sy’n wynebu’r de-ddwyrain sy’n edrych dros Gei Wdig, rhannau o Lwybr Pencowrw, Rhos Wdig, yn ogystal ag ardaloedd o fan agored cyhoeddus gerllaw Penslâd a’r Slâd. Mae gweithrediadau teneuo coetir dethol hefyd yn cynnig cyfle i sicrhau bod llwybrau mynediad i gerddwyr a seddi’n cael eu cadw a’u hadfer lle bo angen. Er mwyn cyflawni’r prosiect hwn yn effeithiol, byddai angen ymgynghori ag Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) a Thîm Cynnal a Chadw Mwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP).

 

FIS15 – Hyrwyddo coridor hamdden ar hyd Afon Gwaun

2.73 Archwilio’r cyfle i greu coridor hamdden strategol sy’n estyn o Lwybr Arfordir Cymru yn Abergwaun tuag at Gwm Gwaun, gan ddilyn llwybr Afon Gwaun yn fras. Dylid cysylltu rhannau tameidiog o Hawliau Tramwy Cyhoeddus presennol i ddarparu coridor integredig i gerddwyr.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Cyflwyniad

 

Pennod nesaf:

Haverfordwest

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan