Strategaethau Peillwyr

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Pwysigrwydd peillwyr

Cyd-destun polisi

Bygythiadau allweddol

Peillwyr blaenllaw yn Sir Benfro

Cysylltu â mentrau ehangach

Pwrpas y strategaethau peillwyr

Strwythur y strategaethau peillwyr

Cyfeiriadau

 

 

Strategaethau Peillwyr

 

Pwysigrwydd peillwyr

 

5.1 Mae peillwyr yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd. Maent yn cynnwys rhywogaethau megis gwenyn mêl, cacwn, gwenyn unig, gwenyn meirch parasitig, pryfed hofran, glöynnod byw, gwyfynod a rhai rhywogaethau o glêr a chwilod.

5.2 Mae peillwyr yn cynyddu amrywiaeth rhywogaethau blodau gwyllt, gan gyfrannu at well bioamrywiaeth a gwell gwytnwch ecolegol. Maent o werth cynhenid yn eu rhinwedd eu hunain fel rhan o’n treftadaeth naturiol, ac mae rhai, megis gwenyn a glöynnod byw, yn cael eu gwerthfawrogi’n eang gan y cyhoedd.

5.3 Mae’r rhywogaethau hyn yn bwysig gan eu bod yn darparu sicrwydd bwyd ar gyfer llawer o fathau o gnydau a phlanhigion sy’n bachu nitrogen sy’n bwysig wrth wella cynhyrchiant porfeydd ar gyfer pori da byw. Amcangyfrifwyd mai gwerth peillio [Gweler cyfeiriad [1]] i amaethyddiaeth yn y DU yw £690 miliwn. Felly, mae peillwyr yn gwneud ein biliau bwyd yn llawer is nag y byddent pe bai’n rhaid i ni beillio cnydau â llaw. Mae gwerth y mêl [Gweler cyfeiriad [2]] a gynhyrchir yng Nghymru yn unig hefyd yn sylweddol gyda gwerth cyfanwerthu dros £2 filiwn yn 2011.

 

Ffigur 5.1: Buddion Peillwyr

 

5.4 Cymharol hawdd yw darparu ar gyfer peillwyr, cyhyd ag y cedwir neu y diogelir y planhigion sydd eu hangen arnynt ar wahanol gyfnodau yn eu cylch bywyd. Mae angen bwyd ar beillwyr ar ffurf paill a neithdar wedi’u fforio o amrywiaeth o rywogaethau o blanhigion blodeuol; a strwythur llystyfiant amrywiol, e.e. gwrychoedd, prysgwydd a phorfa dal er mwyn cysgodi, nythu a gaeafu fel tyrchfeydd a thyllau mewn boncyffion coed. Er mwyn cynnal amrywiaeth o rywogaethau peillwyr, mae angen i ffynonellau neithdar fod ar gael o ddechrau’r gwanwyn hyd at ddiwedd yr hydref.

 

Ffigur 5.2: Peillio


Yn ôl i’r top

 

Cyd-destun polisi

 

Cenedlaethol

5.5 Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Agor mewn ffenest Newydd) yn cydnabod y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ein byd natur a’i fioamrywiaeth. Ynghyd â chwe nod arall, mae’r Ddeddf yn gosod nod ‘Cymru Gydnerth’: ‘Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).’ Bydd yn rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru weithio tuag at hwn a’r holl nodau fel sy’n ofynnol gan y Ddeddf, gan fabwysiadu’r egwyddorion a amlinellir yn y Ddeddf.

5.6 Yn ganolog i hyn, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Agor mewn ffenest Newydd) yn ganolog yn rhoi dull newydd mwy integredig ar waith o reoli ein hadnoddau naturiol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor. Cyflwynir camau ar gyfer peillwyr drwy Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol (Agor mewn ffenest Newydd), Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol (Agor mewn ffenest Newydd) a Datganiadau Ardal (Agor mewn ffenest Newydd).

5.7 Mae Cynllun Adfer Natur Cymru (2015) (Agor mewn ffenest Newydd), yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fioamrywiaeth yng Nghymru. Mae’n cynnwys amcanion ar gyfer diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o brif bwysigrwydd a gwella eu rheolaeth a mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd.

5.8 Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr yng Nghymru (Agor mewn ffenest Newydd) yn manylu ar weledigaeth ar gyfer peillwyr yng Nghymru, ac yn rhoi hynny yng nghyd-destun blaenoriaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn gosod Agenda Gweithredu – y canlyniadau a’r meysydd gweithredu sydd wedi’u nodi a sut y byddwn yn gweithio tuag atynt.

 

Rhanbarthol

5.9 Mae Datganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) yn nodi’r risgiau, y cyfleoedd a’r blaenoriaethau allweddol y mae angen i ni oll fynd i’r afael â nhw er mwyn meithrin gwytnwch ein hecosystemau a chefnogi rheolaeth gynaliadwy o’r adnoddau naturiol. Ymhlith y cyfleoedd a nodwyd mae targedu plannu rhywogaethau brodorol a chysylltu cynefinoedd cyfagos fel glaswelltiroedd, lle mae rhywogaethau yn ffynnu a lledaenu.

 

Lleol

5.10 Mae Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Sir Benfro (Agor mewn ffenest Newydd) yn cynnwys cynlluniau gweithredu a gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth yn Sir Benfro. Mae’n cynnwys gweledigaethau i gynnal a gwella nifer a dosbarthiad glöynnod byw Brith y Gors a Brithribin Brown yn Sir Benfro – dwy o rywogaethau peillwyr mwyaf nodedig y sir.
Yn ôl i’r top

 

Bygythiadau allweddol

 

5.11 Pryderir yn eang am statws peillwyr, gan fod llawer o grwpiau pryfed gan gynnwys gwenyn, glöynnod byw, gwyfynod a phryfed hofran wedi dirywio o ddifrif yn y DU ac yn fyd-eang o ran eu helaethrwydd a’u hamrywiaeth. Mae colli cynefin y ddôl ym Mhrydain wedi arwain at ddirywiad hanner y 27 rhywogaeth o gacwn [Gweler cyfeiriad [3]], a thair ohonynt eisoes wedi diflannu.  Mae tua dwy ran o dair o wyfynod yn dirywio’n hir dymor ac mae dros 70% o löynnod byw yn dirywio.

5.12 Mae’r bygythiadau allweddol sy’n wynebu peillwyr yn cynnwys colli cynefin, newid yn yr hinsawdd a defnyddio plaladdwyr.

5.13 Colli cynefin, yn enwedig dirywiad glaswelltiroedd sy’n ferw o flodau gwyllt, yw achos mwyaf sylweddol dirywiad peillwyr. Mae Cymru wedi colli 97 y cant [Gweler cyfeiriad [4]] o’i dolydd blodau gwyllt ers y 1930au.

5.14 Mae defnyddio mwy o blaladdwyr wedi arwain at effaith fawr ar beillwyr a’r planhigion y maent yn dibynnu arnynt. Mae defnyddio plaladdwyr neonicotinoid yn peri pryder arbennig, ac ymchwil [Gweler cyfeiriad [5]] yn dangos bod hyd yn oed mân olion y cemegau gwenwynig hyn ym mhaill cnydau neu flodau gwyllt yn gwneud llanastr o allu gwenyn i gael pen ffordd, gyda chanlyniadau trychinebus i oroesiad eu nythfa. Nid yw chwynladdwyr yn niweidio peillwyr yn uniongyrchol, ond gall eu defnyddio’n ormodol leihau’r cyflenwad o blanhigion blodeuol y maent yn dibynnu arnynt.

5.15 Gall amhariad ar batrymau tymhorol a newid cyfnodau blodeuo oherwydd newid yn yr hinsawdd amddifadu peillwyr o gyflenwadau bwyd holl bwysig. Mae hyn yn arbennig o wir am rywogaethau arbenigol sy’n dibynnu ar ychydig o blanhigion yn unig. Rhagwelir y bydd newid hinsawdd yn lleihau cyfoeth rhywogaethau gwenyn o wyth i 18 y cant [See reference [6]] mewn rhai ardaloedd a gwyddys hefyd fod amrediad daearyddol cacwn yn crebachu am fod eu cydamseroldeb rhwng planhigion blodeuol a’u peillwyr yn cael ei amharu.
Yn ôl i’r top

 

Peillwyr blaenllaw yn Sir Benfro

 

5.16 Yng Nghymru, mae 1500 [Gweler cyfeiriad [7]] o rywogaethau o bryfed yn beillwyr. Amlinellir isod rai o’r rhywogaethau o beillwyr sy’n genedlaethol brin ac o dan fygythiad a geir yn Sir Benfro.

 

Gwenyn

5.17 Mae dirywiad amrywiaeth o rywogaethau peillwyr a oedd yn fwy cyffredin yng Nghymru o’r blaen wedi’i hen grybwyll. Collwyd poblogaethau mewndirol nodweddiadol o’r Gardwenynen Feinlais, y Gardwenynen Lwydfrown a’r Wenynen Hirgorn [See reference [8]], er enghraifft, oherwydd bod yr ardaloedd sy’n weddill o gynefinoedd lled-naturiol iseldirol yn tueddu i fod yn fach, yn dameidiog a heb eu cysylltu’n dda, gan gyfyngu’r poblogaethau sy’n weddill i gynefinoedd arfordirol. Yng Nghymru mae o leiaf 64 o rywogaethau o wenyn yn dirywio. Ystyrir mai Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw un o’r ardaloedd mwyaf arwyddocaol ar gyfer gwenyn yng Nghymru.

 

Glöynnod Byw

5.18 Mae glöynnod byw yn dioddef dirywiad difrifol, hirdymor a pharhaus yn y DU. Awgryma’r patrwm cyffredinol fod 76% o löynnod byw preswyl a mudol y DU wedi gostwng naill ai o ran helaethrwydd neu ddigwyddiad (neu’r ddau) dros y pedwar degawd diwethaf [Gweler cyfeiriad [9]]. Yng Nghymru cafwyd gostyngiadau sylweddol mewn helaethrwydd i arbenigwyr cynefinoedd yn ôl Cynllun Monitro Glöynnod Byw’r DU [Gweler cyfeiriad [10]].

 

Gwyfynod

5.19 Mae gwyfynod hefyd yn gyfranwyr pwysig at beillio. Yng Nghymru mae dros 1700 o wyfynod [Gweler cyfeiriad [11]] yn ogystal â llawer o rywogaethau mudol. Fodd bynnag, bu dirywiad sylweddol yn helaethrwydd ac amrywiaeth gwyfynod.

5.20 Yn Sir Benfro, mae mwyafrif y poblogaethau gwyfynod yn sefydlog er y dylid eu gwarchod o hyd am eu cyfraniad tuag at beillio. Mae’r rhywogaethau o wyfynod a geir yn Sir Benfro yn cynnwys y bwrned chwe smotyn, y bwrned pum smotyn ymyl gul, y bwrned pum smotyn, gwyfyn mintys, wylun y derw, gwalchwyfyn llygeidiog, gwalchwyfyn poplys, brychan fflamgoch, cochyn rhesog, cathwyfyn, teigr cochddu, teigr y benfelen, troedwas gyddfgoch, ôl-adain goch a gwyfyn fflamysgwydd.

 

Pryfed hofran

5.21 Mae pryfed hofran wedi dirywio ledled y DU fel y dangosir o wahanol gynlluniau cofnodi data. Mae pryfed hofran yn bwydo ar neithdar a phaill yn unig, sy’n eu gwneud yn beillwyr pwysig. Gallant deithio mwy o bellteroedd [Gweler cyfeiriad [12]] na llawer o rywogaethau peillwyr eraill, sy’n ychwanegu at eu harwyddocâd o fewn cynefinoedd tameidiog. Ymysg y rhywogaethau a geir yng Nghymru mae’r pryf marmalêd, y pryf hofran rhesog, y pryf gormes a’r pryf hofran dynwared cacwn meirch.
Yn ôl i’r top

 

Cysylltu â mentrau ehangach

 

Menter Caru Gwenyn

5.22 Caru Gwenyn (Agor mewn ffenest Newydd) yw’r Cynllun Gweithredu ar gyfer cynllun y Tasglu Peillwyr i annog sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i weithredu i helpu peillwyr. Caiff yr holl beillwyr eu cynnwys: gwenyn mêl, cacwn a gwenyn unig, rhai gwenyn meirch, glöynnod byw, gwyfynod a phryfed hofran, a rhai chwilod a chlêr.

5.23 Y Pedair Nod ar gyfer Caru Gwenyn yw:

  1. Bwyd – darparu ffynonellau bwyd sy’n denu pryfed peillio yn eich ardal chi;
  2. Llety Pum Seren – darparu lleoedd i bryfed peillio fyw;
  3. Rhyddid rhag plaladdwyr a chwynladdwyr – ymrwymo i osgoi cemegau sy’n niweidio peillwyr; a
  4. Hwyl – cynnwys yr holl gymuned a dweud wrth bobl pam rydych chi’n helpu peillwyr.

 

Cynlluniau Monitro Cenedlaethol

5.24 Mae cadw golwg ar gynnydd strategaethau peillwyr yr 11 anheddiad yn sylfaenol wrth rannu a hyrwyddo llwyddiant a dysgu o gamgymeriadau posibl. Lle bo’n berthnasol, dylid cyfleu gwybodaeth i fudiadau bywyd gwyllt neu systemau wedi’u cofnodi. Awgrymir cynlluniau cofnodi a phrosiectau perthnasol yn y pwyntiau bwled isod.

Yn ôl i’r top

 

Pwrpas y strategaethau peillwyr

 

5.25 Mae gan y Strategaethau Peillwyr ar gyfer yr 11 anheddiad i gyd yr un pwrpas sylfaenol, sef:

  • Amlinellu camau blaenoriaeth a fydd yn creu, cynnal, gwella a chysylltu cynefin peillwyr;
  • Cynyddu helaethrwydd ac amrywiaeth rhywogaethau peillwyr yn y tymor hir;
  • Cyfrannu at rwydwaith peillwyr ffyniannus a gwydn ledled Sir Benfro;
  • Disgrifio camau a dulliau priodol ar gyfer rheoli a monitro; a
  • Nodi partneriaid cyflenwi posibl.

Yn ôl i’r top

 

Strwythur y strategaethau peillwyr

 

5.26 Rhennir y Strategaethau Peillwyr yn dair adran:

 

Strategaethau peillwyr cyffredinol

5.27 Bwriad yr egwyddorion peillwyr cyffredinol yw llywio dyluniad a darpariaeth y prosiectau peillwyr a nodwyd yn y Cynlluniau Rheoli Anheddiad yn ogystal â phrosiectau peillwyr newydd yn y dyfodol.

 

Llwybrau Peillwyr

5.28 Cynhyrchwyd Llwybrau Peillwyr ar gyfer yr 11 anheddiad unigol. Mae’r rhain yn cynnwys map sy’n dangos:

  • Asedau peillwyr presennol allweddol;
  • Coridorau peillwyr strategol; a
  • Phrosiectau allweddol.

5.29 Gellir croesgyfeirio’r prosiectau allweddol rhwng y Cynlluniau Rheoli Anheddiad ar gyfer pob anheddiad. Mae rhai o’r rhain wedi’u cynnwys fel y prosiectau ‘cicdanio’ ar gyfer pob anheddiad.

 

Cyflawni

5.30 Mae’r adran gyflawni yn berthnasol i bob anheddiad. Mae’n amlinellu’r mathau o ffactorau i’w hystyried wrth reoli a chynnal y gwahanol fathau o gamau sy’n gysylltiedig â pheillwyr sydd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Rheoli Anheddiad.
Yn ôl i’r top

 

Pennod nesaf:

Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan

 

 

Cyfeiriadau

 

[1] Cyfoeth Naturiol Cymru – Caru Peilliaid (Agor mewn ffenest Newydd)

[2] Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfre Pryfed Peillio (PDF) (Agor mewn ffenest Newydd)

[3] Cymru Bygwth Adroddiad Gwenyn (PDF) (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[4] Plantlife – Dolydd Godidog (Agor mewn ffenest Newydd)

[5] Ymddiriedolaethau Natur Cymru – Llywodraeth y DU yn peryglu gwenyn (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[6] Prifysgol Bryste – Beth yw effeithiau newid yn yr hinsawdd ar beillwyr ac iechyd pobl? (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[7] Pobl, llwybrau a pheillwyr (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[8] Cymru Bygwth Adroddiad Gwenyn (PDF) (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[9] Cyflwr glöynnod byw y Deyrnas Unedig 2015 (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[10] Cynllun Monitro Glöynnod Byw’r DU (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd)

[11] Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Glöynnod a Gwyfynod (Agor mewn ffenest Newydd)

[12] Peillio gan hofran yn yr Anthropocene (Saesneg yn unig) (Agor mewn ffenest Newydd).

 

Yn ôl i’r top