Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol

Cyfeiriadau

 

Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol

 

6.1 Mae’r adran ganlynol yn nodi ystod o Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol a fydd yn llywio’r broses o ddylunio a chyflawni camau diogelu, gwella a chysylltu cynefinoedd peillwyr o fewn yr 11 Anheddiad. Cefnogir yr Egwyddorion Peillwyr Cyffredinol gan gyfres o Is-egwyddorion sy’n berthnasol i bob Anheddiad. Bydd clicio ar is-benawdau pob Is-egwyddor yn ehangu testun esboniadol pellach.

6.2 Hysbyswyd yr Egwyddorion Peillwyr gan yr adolygiad sylfaenol o bwysau a bygythiadau tuag at beillwyr, ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid.

 

Ffigur 6.1: Cynefinoedd Llwyddiannus i Beillwyr

 

1. Creu rhwydweithiau natur

 

1a. Diogelu a gwella cynefin peillwyr presennol

6.3 Mae peillwyr fel arfer ar eu helaethaf mewn mannau lle ceir ardaloedd presennol o laswelltir sy’n llawn blodau gwyllt, rhostir, a choetiroedd lle mae’r rhain wedi’u cysylltu’n dda er enghraifft gan wrychoedd neu ymylon llawn blodau. Bydd gwarchod a gwella’r safleoedd presennol hyn er mwyn eu gwneud yn fwy ac yn well yn helpu i’w clustogi yn erbyn pwysau defnydd tir cyfagos ac yn darparu mwy o wytnwch i’r hinsawdd.

 

1b. Creu cynefin peillwyr newydd, yn enwedig ar argloddiau a llethrau

6.4 Mae angen mwy o gynefin peillwyr i greu poblogaethau mawr a sefydlog. Mae argloddiau a llethrau yn gamau cyflym ymlaen o ran creu cynefin newydd gan nad yw’r ardaloedd hyn mewn defnydd hamdden, nid yw’r glaswellt yno’n cael ei dorri mor aml ac nid ydynt wedi’u tirlunio’n ffurfiol. Gall hadau cribell felen helpu i leihau tyfiant glaswellt a helpu i sefydlu blodau gwyllt.

6.5 Bydd arolygu safle posib o fis Mawrth i fis Hydref yn helpu i ddeall cyfyngiadau safle a phresenoldeb peillwyr presennol i sicrhau bod gwaith creu cynefinoedd yn briodol yn lleol ac wedi’i dargedu tuag at anghenion peillwyr penodol. Yn aml, y lle gorau i greu cynefin i beillwyr yw llecyn heulog cysgodol.

 

1c. Cryfhau cysylltedd drwy greu cynefin cerrig sarn a choridor

6.6 Mae darnau llai o gynefin sy’n denu peillwyr, gan gynnwys gwrychoedd, lleiniau ymyl ffordd, ffosydd a chloddiau yn helpu peillwyr i symud ar draws y dirwedd lle nad oes llawer o goridorau llinellol. Mae gwneud y gorau o swyddogaeth mannau llai o faint yn yr ardal drefol yn arbennig o bwysig er mwyn cynyddu’r athreiddedd i rywogaethau symud o gwmpas. Gall hyn fod drwy dyfu planhigion ar ddellt neu ffrâm ddringo, mewn basgedi crog neu flychau ffenestri.

 

2. Cynyddu amrywiaeth

 

2a. Dewis planhigion brodorol sy’n llawn neithdar a phaill

6.7 Dros y blynyddoedd mae peillwyr wedi datblygu ochr yn ochr â phlanhigion brodorol sydd wedi’u haddasu’n dda i’r tymor tyfu, yr hinsawdd, a’r priddoedd lleol. Mae llawer o beillwyr yn bwydo ar blanhigion penodol am fod rhai mathau o flodau yn well ganddynt.

6.8 Gall planhigion brodorol hefyd atgyfnerthu cymeriad lleol ac ymdeimlad o le, er enghraifft cennin Pedr Dinbych-y-pysgod. Mewn trefi arfordirol, bydd angen planhigion sy’n gallu goddef halen. Mae’n bosibl y bydd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt neu Grŵp Dolydd lleol yn gallu darparu hadau o darddiad lleol. Dylid teilwra cyfansoddiad y gymysgedd hadau i’r math o bridd a’r lleoliad. Ar gyfer ardal fawr, gellid defnyddio gwair gwyrdd lleol fel ffynhonnell hadau.

 

2b. Darparu ar gyfer mwy na gwenyn yn unig

6.9 Mae ystod amrywiol o beillwyr sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein hecosystemau. Yn ogystal â gwenyn mêl, cacwn a gwenyn unig, mae peillwyr yn cynnwys rhai gwenyn meirch, glöynnod byw, gwyfynod a phryfed hofran, a rhai chwilod a chlêr. Drwy ddarparu’r cynefinoedd a’r amodau sy’n ofynnol i ystod ehangach o beillwyr, crëir mwy o wytnwch wrth ddarparu gwasanaethau peillio.

 

2c. Darparu ar gyfer peillwyr drwy gydol eu cylch bywyd

6.10 Y tu hwnt i flodau llawn paill a neithdar sydd ar gael rhwng mis Mawrth a diwedd mis Medi, mae angen ar beillwyr gynefinoedd sy’n helpu gyda chyfnodau bywyd eraill, gan gynnwys lleoedd i gysgodi a magu eu hifainc. Er enghraifft, gall coesynnau a phennau hadau marw ddarparu lloches yn y gaeaf. Gall cloddiau pridd, pridd moel, bylchau mewn waliau, pentyrrau o gerrig a boncyffion ddarparu safleoedd nythu a gaeafgysgu. Dylid creu safleoedd nythu wrth ymyl blodau, gan gofio nad yw amrediad fforio rhai peillwyr yn fwy nag ychydig fetrau.

 

2d. Osgoi defnyddio plaladdwyr os oes modd a pheidio byth â chwistrellu blodau agored

6.11 Mae plaladdwyr yn lladd pryfed defnyddiol yn ogystal â phlâu. Dylid osgoi eu defnyddio yn arbennig ar blanhigion blodeuol lle mae peillwyr yn bresennol neu’n agos at nythod. Gellir rheoli llawer o blâu, chwyn a chlefydau heb ddefnyddio plaladdwyr, fel chwynnu â llaw yn lle chwistrellu. Bydd addysgu’r gymuned leol am blaladdwyr a chwynladdwyr i’w defnyddio yn eu gerddi eu hunain o fudd i beillwyr.

 

3. Sicrhau buddion ehangach i bobl a bywyd gwyllt

 

3a. Darparu bwyd a lloches i dacsonau eraill

6.12 Gall creu ystod amrywiol o fathau a strwythurau cynefin fod o fudd i rywogaethau eraill hefyd. Er enghraifft, mae caniatáu i lystyfiant dyfu’n hir yn darparu bwyd a lloches i adar, infertebratau ac ymlusgiaid eraill. Gall ystyried anghenion tacsonau eraill wrth ddylunio cynefin peillwyr helpu i gynnal bioamrywiaeth ffyniannus gyffredinol.

 

3b. Integreiddio cynefin sy’n denu peillwyr i seilwaith gwyrdd ehangach

6.13 Gall cynefin sy’n denu peillwyr gael ei ôl-osod i’r datblygiad presennol a/neu ei ddylunio i ddatblygiad newydd naill ai fel cynefin annibynnol neu wedi’i integreiddio i asedau seilwaith gwyrdd eraill. Er enghraifft, os cânt eu dylunio a’u rheoli’n briodol, gall ymylon glaswelltir o amgylch SDC annog rhywogaethau sy’n denu peillwyr neu flodau gwyllt sy’n goddef dŵr i’w hychwanegu at amrywiaeth y rhywogaethau. Gellir cyfuno plannu mwy o lwyni yng nghanol trefi â mesurau eraill fel rhwystrau neu fesurau lleddfu traffig i bedestreiddio strydoedd ac annog teithio llesol.

 

4. Hybu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd peillwyr

 

4a. Cyfleu ‘aflerwch’ canfyddedig

6.14 Yn aml, ystyrir efallai bod dolydd blodau gwyllt, lleiniau ymyl ffordd a choed marw yn agweddau sydd wedi tyfu’n wyllt neu heb eu rheoli. Gall arwyddion gwybodaeth helpu i egluro bod ardal yn cael ei rheoli ar gyfer peillwyr. Drwy gydweithio â grwpiau bywyd gwyllt ac amgylchedd lleol ac arddangos gwybodaeth ychwanegol am rywogaethau planhigion a pheillwyr a allai gael eu gweld gerllaw, gellir helpu trigolion ac ymwelwyr i ddysgu am y fioamrywiaeth leol a magu cysylltiad â’u hamgylchoedd naturiol.

6.15 Gall ymgyrchoedd cenedlaethol a lleol, fel ymgyrch ‘Iddyn Nhw’ Llywodraeth Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) neu brosiect ‘Dolydd Bychain’ EcoDewi (Agor mewn ffenest Newydd) gynyddu cydnabyddiaeth a dealltwriaeth ledled Sir Benfro.

 

4b. Ystyried achrediad ‘Caru Gwenyn’

6.16 Mae achrediad Caru Gwenyn yn cynnig cyngor ac arweiniad gan ‘Hyrwyddwyr Caru Gwenyn’ rhanbarthol ac yn cyfeirio at ffynonellau ariannu y gellid eu defnyddio i weithredu rhaglenni a chamau gweithredu sy’n denu peillwyr.

6.17 Bydd sefydliadau a chymunedau sy’n llwyddo yn eu cais am achrediad yn gallu defnyddio logo Caru Gwenyn ar eu deunydd cyhoeddusrwydd i gadarnhau eu bod yn rhan o’r cynllun. Gweler ‘Mentrau Ehangach’ i gael gwybod rhagor am y cynllun.

 

4c. Creu llwybrau hygyrch i hyrwyddo archwilio natur

6.18 Mewn parciau a mannau agored, gellir torri llwybrau bach a llwybrau cylchol drwy ddolydd blodau gwyllt sy’n adlewyrchu ‘llinellau awydd’ defnyddwyr y parc. Gall cyflwyno seddi, meinciau a boncyffion i eistedd arnynt i fwynhau’r golygfeydd a’r synau helpu pobl i gysylltu â byd natur. Drwy farcio llwybrau cerdded yn amlwg mewn dolydd ac ardaloedd o goetir, gellir helpu i adael ardaloedd sydd heb aflonyddu arnynt ar gyfer byd natur.

 

5. Sicrhau rheoli tymor hir

 

5a. Ymgysylltu ag ysgolion a grwpiau cymunedol

6.19 Mae perthynas dda â phobl leol yn hanfodol ar gyfer canlyniadau cadarnhaol ac ymdeimlad o berchnogaeth leol. Mae gweithio gyda grwpiau cymunedol a/neu ysgolion yn ffordd allweddol o ymgysylltu â phobl leol a’u cynnwys wrth ddylunio a chyflawni camau i warchod a chreu cynefin peillwyr, ac i ehangu cyfranogiad.

 

5b. Gweithio gyda thirfeddianwyr mawr i roi camau rheoli peillwyr ar waith

6.20 Mae dros 70% o’r tir yn y DU yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd, felly mae’r ffordd y caiff ei reoli’n cael effaith enfawr ar beillwyr a bioamrywiaeth. Mae’r newidiadau yn ein cefn gwlad dros y degawdau diwethaf, gan gynnwys colli 97% [Gweler cyfeiriad [1]] o’n dolydd blodau gwyllt, wedi golygu bod gwenyn a pheillwyr eraill yn dibynnu fwyfwy ar gnydau blodeuol a’r cymysgeddau blodau gwyllt a blannir gan ffermwyr.

6.21 Gall annog ac addysgu tirfeddianwyr i greu nodweddion cynefin sy’n denu peillwyr a defnyddio opsiynau eraill effeithiol [Gweler cyfeiriad [2]] yn lle plaladdwyr a chwynladdwyr cemegol, gan gynnwys annog ysglyfaethwyr naturiol a chymar-gnydau, oll fod o fudd i beillwyr.

 

5c. Gwneud gwaith ar adeg addas o’r flwyddyn

6.22 Mae angen gwneud gwaith plannu a rheoli ar adegau addas o’r flwyddyn er mwyn sicrhau bod cynefinoedd yn sefydlu ac i osgoi tarfu ar rywogaethau neu eu niweidio. Er enghraifft, y gaeaf yw’r adeg orau i blannu bylbiau a choed, ond yr hydref neu’r gwanwyn sydd orau ar gyfer plannu hadau dôl. Dylid osgoi torri gwrychoedd yn ystod y prif dymor bridio i adar sy’n nythu, sydd fel arfer yn para drwy gydol mis Mawrth i fis Awst bob blwyddyn. Gall hyn fod yn ddibynnol ar y tywydd, ac efallai bydd rhai adar yn nythu y tu allan i’r cyfnod hwn, felly mae’n bwysig chwilio’n ofalus bob amser am nythod gweithredol cyn torri.

 

5d. Torri a chasglu sgil-gynhyrchion

6.23 Mae’n bwysig cael gwared ar sgil-gynhyrchion o laswelltiroedd sy’n llawn blodau gwyllt er mwyn atal cyfoethogi’r pridd, sy’n ffafrio planhigion bras a chystadleuol. Mae hyn hefyd yn cadw darnau o dir moel yn hygyrch i wenyn sy’n nythu ar y ddaear. Os oes modd, dylid gadael y sgil-gynhyrchion yn eu lle am ychydig ddyddiau er mwyn i’r hadau gael cyfle i ollwng i’r ddaear. Mae gohirio torri tan yr Hydref a gwaredu llystyfiant tan ar ôl i fwyafrif y planhigion flodeuo yn helpu i estyn yr amser y mae bwyd ar gael i beillwyr. Fel arall, gallai ardaloedd gwahanol gael eu torri o ganol mis Gorffennaf ymlaen gan newid pa ardal sy’n cael ei thorri’n gyntaf bob blwyddyn.

 

5e. Rheoli a dileu rhywogaethau goresgynnol

6.24 Mae rhywogaethau goresgynnol yn creu cystadleuaeth ar gyfer lle, golau ac adnoddau i adfer cynefinoedd fforio a nythu ar gyfer peillwyr. Oherwydd eu natur, mae rhywogaethau goresgynnol yn ymledu’n hawdd, felly mae angen rhoi mesurau bioddiogelwch ar waith er mwyn gwaredu rhywogaethau goresgynnol. Gall hyn fod yn llafurus ac yn gostus, er bod cyfle i gynnwys y gymuned gyda’r gwaredu. Mae’n annhebygol iawn y bydd llawer o rywogaethau goresgynnol yn cael eu dileu’n llwyr, a hynny’n aml oherwydd eu bod yn tyfu mewn mannau anhygyrch, neu lle nad yw rheoli cemegol a/neu reoli â llaw yn opsiwn.

 

6. Monitro cynnydd

 

6a. Casglu data monitro ac addasu dulliau rheoli yn briodol

6.25 Mae gwybodaeth yn allweddol i bobl allu gweithredu’n effeithiol i ddiogelu a chynnal poblogaethau peillwyr. Bydd gwell dealltwriaeth o niferoedd y boblogaeth ac ymhle mae camau’n cael effaith yn golygu bod modd cynllunio a gweithredu mesurau cadwraeth yn well.

 

6b. Cyflwyno data monitro i gynllun cenedlaethol

6.26 Drwy gyfrannu data monitro at gynlluniau cenedlaethol (fel y rhai a restrir yn ‘Mentrau Ehangach’) mae modd olrhain newidiadau hirdymor mewn dosbarthiadau a helpu i gefnogi polisi a gweithredu cadarn ar sail tystiolaeth. Canfu un astudiaeth [Gweler cyfeiriad [3]] fod costau gweithredu cynlluniau monitro ledled y wlad dros 70 gwaith yn is na gwerth gwasanaethau peillio i economi’r DU.
Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Strategaethau Peillwyr

 

Pennod nesaf:

Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan

 

 

Cyfeiriadau

 

[1] Cyfeillion y Ddaear – Gwenyn Ffermio (Agor mewn ffenest Newydd)

[2] Cyfeillion y Ddaear – Gwenyn Ffermio (Agor mewn ffenest Newydd)

[3] Canolfan Ecoleg a Hydroleg y DU – Monitro peillwyr yn fwy nag sy’n talu amdano’i hun (Agor mewn ffenest Newydd)

Yn ôl i’r top