Tyddewi

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Tyddewi

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Tyddewi

 

Ffigur 11.1: Tyddewi

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Tyddewi

 

11.1 Dinas fechan, wledig yng ngogledd-orllewin Sir Benfro yw Tyddewi, ychydig i mewn i’r tir ar Benrhyn Tyddewi ac o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gorwedd craidd hanesyddol y ddinas o fewn Ardal Gadwraeth, sy’n cynnwys nifer o strwythurau rhestredig Gradd I a II. Mae nifer o Henebion Cofrestredig sy’n gysylltiedig ag Eglwys Gadeiriol a Llys Esgob Tyddewi, sy’n adeiladau rhestredig Gradd I, wedi’u crynhoi i’r gorllewin o graidd yr anheddiad.

11.2 Daw Afon Alun heibio ar hyd ymyl orllewinol Tyddewi gan ddarparu coridor bywyd gwyllt coediog gyda Hawliau Tramwy Cyhoeddus ysbeidiol a thir mynediad agored ar hyd ei lwybr. I’r gogledd-ddwyrain o’r ddinas mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Tiroedd Comin Gogledd-orllewin Penfro, sef un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n cynnal coetir, rhostir a glaswelltir o bwysigrwydd biolegol, ac sydd hefyd wedi’i dynodi’n dir mynediad agored. O fewn craidd y ddinas sydd wedi’i anheddu’n ddwys, cymharol brin yw’r mannau agored a’r gorchudd coed.

11.3 Cryfheir cysylltedd cyffredinol o amgylch y ddinas gan y rhwydwaith o Hawliau Tramwy Cyhoeddus a grynhoir i’r gogledd ac i’r de o graidd yr anheddiad. Mae’r rhain yn cysylltu’r ddinas i lawr at Lwybr Arfordir Sir Benfro yn y de ac ACA Tiroedd Comin Sir Benfro yn y gogledd. Mae nifer o lwybrau beicio hamdden a llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) hefyd yn cysylltu’r ddinas â’r arfordir a’r traethau cyfagos. Fodd bynnag, mae cysylltiadau rhwng y llwybrau cerdded a beicio presennol hyn braidd yn ddigyswllt ac mae cyfleoedd i wella cysylltedd ar gyfer bywyd gwyllt a phobl ar draws y ddinas.

 

Ffigur 11.2: Cyfleoedd SG yn Nhyddewi


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

STD2 – Cyflwyno gwyrddu trefol o fewn ardaloedd preswyl presennol

11.4 Mae strydoedd yn ffurfio agwedd bwysig ar le cyhoeddus. Gall atyniad strydoedd gael effaith sylweddol ar les trigolion, gyda strydoedd gwyrddach a choed ar eu hyd yn darparu gwell lleoliadau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, chwarae anffurfiol a balchder lleol.

11.5 Mae nifer o ardaloedd preswyl Tyddewi yn cynnal lleiniau ymyl ffordd glaswellt, palmentydd eang a lle segur ar ffyrdd cerbydau sy’n cynnig y cyfle i gynnal mwy o amrywiaeth o ymyriadau gwyrddu trefol. Ymhlith y cymdogaethau mae’r ardal o gwmpas Heol Dewi, Mount Gardens a Maes Dyfed yng ngogledd Tyddewi, ac o amgylch Heol y Bryn, Maes yr Hedydd, Pen y Garn, Brynteg a Ffynnon Wen yn ne’r ddinas. Perchenogaeth breifat sydd ar rai o’r mannau hyn sy’n wynebu’r stryd, a byddai angen ymgysylltu â thrigolion i’w hannog a’u cefnogi i ymgymryd â rhai gweithgareddau gwyrddu ychwanegol fel plannu coed, llwyni a blodau lluosflwydd.

11.6 Lle nodir mannau, dylid sefydlu coed stryd ychwanegol, coed sbesimen, gerddi glaw a dolydd blodau gwyllt. Gellid grymuso trigolion hefyd i wyrddu eu mannau preifat eu hunain sy’n wynebu’r stryd, gan ganolbwyntio’n benodol ar blannu’r ‘goeden gywir yn y lle cywir’, dewis planhigion sy’n denu peillwyr a darparu cynefinoedd ar raddfa fach ar gyfer bywyd gwyllt. Dylid annog trigolion i weld yr argymhellion ac egwyddorion rhywogaethau a nodir yn y Strategaeth Plannu Coed Trefol a’r Strategaeth Peillwyr. Gallai ymyriadau preswylwyr hefyd ddefnyddio cafnau plannu uchel, palmantau athraidd a nodweddion dŵr ar raddfa fechan o fewn eu mannau preifat eu hunain sy’n wynebu’r stryd. Dylid hau lleiniau mwy o ymyl ffordd laswellt â blodau gwyllt i gysylltu â llwybr peillwyr Tyddewi, er enghraifft ar hyd Heol y Bryn a Brynteg.

 

Ffigur 11.3: STD2

 

Buddion y prosiect

11.7 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 11.4 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 11.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

11.8 Gallai cyflwyno dolydd blodau gwyllt, ar ôl eu sefydlu, leihau’r gofynion amser ar gyfer torri glaswellt yn ystod y tymor tyfu. Gallai toriadau blynyddol o ddolydd gael eu hintegreiddio yn rhaglen waith bresennol Tîm Gofal Stryd / Cynnal a Chadw Amwynderau Cyngor Sir Penfro (CSP).

11.9 Dylid darparu ymyriadau fel plannu coed mewn cydweithrediad â thrigolion lleol, a gellid cysylltu hyn â diwrnod plannu coed yn y gymuned. Trwy ganiatáu i drigolion gael dweud eu dweud ym mha rywogaethau yr hoffent eu gweld y tu allan i’w cartrefi, ac ymhle yr hoffent eu plannu, anogir mwy o stiwardiaeth o’r sbesimenau drwy gydol y cyfnod sefydlu a’r tu hwnt. Mae dyluniad pyllau coed, y dyfnder a’r pridd a ddefnyddir a’r dyfrio a’r gwaith cynnal a chadw parhaus yn hanfodol er mwyn sicrhau sefydlu llwyddiannus.

11.10 Lle bo’n bosib, dylid cyrchu coed a deunydd plannu yn lleol.

11.11 Dylai arferion plannu ddilyn y canllawiau cyflenwi sydd wedi’u nodi o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol a’r Strategaeth Peillwyr.

11.12 Drwy’r gweithgareddau hyn i ymgysylltu â’r gymuned, gellid dosbarthu gwybodaeth sy’n addysgu trigolion am y pethau pellach y gallent fod yn eu gwneud yn eu mannau preifat eu hunain, gan gynnwys gerddi blaen a chefn.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • EcoDewi
  • The Bug Farm
  • Cyngor Dinas Tyddewi
  • Gwyllt am Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

11.13 Byddai costau’n gallu newid gan ddibynnu ar nifer yr ymyriadau. Dylid ystyried gwaith cynnal a chadw a sefydlu parhaus wrth bennu costau.

11.14 Mae’r gost o greu dôl yn dibynnu ar faint a graddfa’r safle a’r opsiynau o ran hadau sydd ar gael. Ar gyfer ardaloedd bach, mae’n gymharol gost-effeithiol sefydlu dôl fechan o flodau gwyllt. Mae cost hadau (cymysgeddau lluosflwydd dôl iseldir) i orchuddio 50 metr sgwâr yn amrywio o £20 i £30.

11.15 Byddai cost y coed yn amrywio gan ddibynnu ar faint y goeden sydd ei hangen a’r rhywogaeth, ond byddai’n llawer rhatach plannu mewn tirluniau meddal nag i arwynebau caled.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Codi arian yn y gymuned
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP)
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Nawdd busnes

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

11.16 Gellid gweithredu ymyriadau’n eithaf cyflym, cyhyd â’u bod yn cael eu cynnal ar adeg gywir y flwyddyn e.e. mae’r tymor plannu coed gwreiddiau moel yn para o fis Hydref i fis Mawrth. Gellir efelychu ac ailadrodd ymyriadau llwyddiannus fel y daw’r cyllid ar gael, neu wrth i awydd y gymuned dyfu.

 

Cyfyngiadau posibl

11.17 Efallai y bydd gwrthwynebiad lleol i’r prosiect os yw gwelliannau’n tynnu oddi wrth olwg daclus a threfnus y stryd. Gallai arwyddion a byrddau dehongli helpu i liniaru rhag hyn, ond rhaid cyfleu ymyriadau yn glir i drigolion lleol cyn eu gosod.

11.18 Byddai’r prosiect hwn yn gofyn am gefnogaeth y gymuned i sicrhau bod yr ymyriadau’n boblogaidd, a hynny ar dir cyhoeddus a phreifat. Mae’n hanfodol bod y gymuned yn cymryd rhan yn y prosiect ar gyfer stiwardiaeth barhaus plannu newydd, yn enwedig plannu coed newydd o fewn y cyfnod sefydlu 60 mis.

11.19 Byddai angen adnoddau ychwanegol gan Dîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP ar y sefydlu cychwynnol. Fodd bynnag, ar ôl i ddolydd gael eu sefydlu a phan ddaw coed yn annibynnol yn y dirwedd, dylai ymyriadau leihau gofynion amser rheoli.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

11.20 Dylai Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP fod yn gyfrifol yn y pen draw am sefydlu dolydd a choed sydd ar dir cyhoeddus. Fodd bynnag, byddai cynnwys y gymuned a’i galluogi i gymryd perchnogaeth ar y prosiectau yn gwneud stiwardiaeth hirdymor yn fwy tebygol, yn enwedig o ran dyfrio coed, cadw llygad ar bolion ac adrodd am unrhyw broblemau.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

11.21 Gall cyfradd oroesi planhigion newydd ac ardal newydd o gynefinoedd y ddôl a sefydlwyd fod yn ddangosyddion monitro ar gyfer llwyddiant. Gellid trefnu BioBlitz cymunedol blynyddol i gofnodi’r amrywiaeth o fywyd o fewn ardaloedd ymyrraeth. Gall cysylltu â phrosiectau gwyddoniaeth dinasyddion fel Cynllun Monitro Peillwyr y DU neu drefnu BioBlitz cymunedol blynyddol mewn mannau gwyrdd penodol helpu i gynnwys cymunedau lleol mewn ymdrechion monitro.

 

Camau nesaf

11.22 Adolygu adran gyflawni Strategaeth Peillwyr a Strategaeth Plannu Coed Trefol Sir Benfro i adolygu opsiynau ar gyfer gwella gwerth bioamrywiaeth lleoedd gwyrdd.

11.23 Ymgysylltu â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i benderfynu pa safleoedd y gellid eu rheoli’n wahanol a sut.

11.24 Ymgysylltu â Chyngor Dinas Tyddewi a thrigolion.

 

Ffigur 11.5: Tyddewi

 

Yn ôl i’r top

 

STD4 – Darparu cyswllt teithio llesol i Draeth Mawr

11.25 Mae Traeth Mawr yn draeth poblogaidd ymhlith ymwelwyr a thrigolion. O ganlyniad, gall y B4583 ffurfio coridor prysur yn ystod cyfnod prysur yr haf. Dylid edrych ar gyfleoedd i greu cyswllt beicio a cherdded diogel ac uniongyrchol rhwng Tyddewi a Thraeth Mawr (tua 10 munud i’w feicio a 40 munud i’w gerdded). Gallai’r llwybr ddefnyddio lonydd bychain presennol a’u blaenoriaethu ar gyfer cerddwyr a beicwyr; er enghraifft, gellid dynodi naill ai Feidr Chwech-Erw neu Ben Rhiw (sy’n cynnal Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) 4 ar hyn o bryd) yn lonydd tawel lle mae cyflymder cerbydau wedi’i gyfyngu i 20mya neu cânt eu defnyddio ar gyfer mynediad yn unig. Byddai creu darn oddi ar y ffordd ar hyd y B4583 yn creu llwybr diogel rhwng Tyddewi a’r traeth. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen archwilio ac ymgysylltu ymhellach â thirfeddianwyr i benderfynu sut y gellid gwahanu’r llwybr o’r ffordd ac efallai y bydd angen cymryd rhywfaint o dir.

11.26 Byddai’r llwybr i Draeth Mawr yn rhan o’r cam cychwynnol i gysylltu Tyddewi yn well â Llwybr Arfordir Penfro a chreu llwybrau cerdded arfordirol cylchol i ymwelwyr a thrigolion eu mwynhau i’r gogledd, i’r de, i’r dwyrain a’r gorllewin o’r ddinas. Gellid gwneud hyn ynghyd ag ystod newydd o arwyddion a chelfi stryd i helpu pobl i gael pen eu ffordd o gwmpas Penrhyn Tyddewi ar droed ac ar gefn beic, yn ogystal â dehongli rhai o’r asedau bioamrywiaeth a threftadaeth o bwys cenedlaethol.

 

Ffigur 1.6: STD4

 

Buddion y prosiect

11.27 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 11.7 isod, mae:

  • Darparu cyfleoedd teithio llesol
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 11.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

11.28 Byddai angen cais am grant i sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith cyfalaf sy’n gysylltiedig â’r prosiect hwn. Byddai angen i’r llwybr gael ei nodi ar y Map Rhwydwaith Integredig i gael ei ystyried yn gymwys i gael cyllid.

 

Partneriaid posibl
  • Y tîm Teithio Llesol, sy’n rhan o’r Uned Strategaeth Trafnidiaeth yng Nghyngor Sir Penfro (CSP)
  • Cyngor Dinas Tyddewi
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP)
  • Tirfeddianwyr perthnasol

 

Cost amlinellol

 

Cost uchel = <£1 miliwn

11.29 Byddai’r costau i drawsnewid naill ai Feidr Chwech-Erw neu Ben Rhiw yn lonydd tawel yn gymharol fach, ar yr amod nad oes mynediad na chamerâu cyflymder yn cael eu gosod. Byddai angen buddsoddiad cyfalaf sylweddol ar waith cyfalaf ar gyfer rhan o lwybr oddi ar y ffordd ar hyd y B4583.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Grant Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru
  • CSP
  • Trafnidiaeth Cymru

 

Amserlen

 

Tymor hir = >5 mlynedd

11.30 Byddai amserlenni’n debygol o fod yn hir am fod angen casglu tyniant y tu ôl i’r prosiect, cysylltu â rhanddeiliaid a pherchnogion tir allweddol, cynnal arolygon, codi arian a gwneud y gwaith cyfalaf.

 

Cyfyngiadau posibl

11.31 Byddai’r prosiect yn debygol o fod yn gymhleth oherwydd nifer o ofynion a chyfyngiadau sy’n cystadlu â’i gilydd. Byddai llawer o hyn yn deillio o’r ffaith bod gofyn cyllid allanol sylweddol ac ymrwymiad gan dirfeddianwyr lleol. Byddai rhan o’r llwybr yn gofyn am ymrwymiad tirfeddiannwr os oes rhannau oddi ar y ffordd am gael eu darparu, er enghraifft ar hyd y B4583, neu gellid archwilio Gorchmynion Prynu Gorfodol.

11.32 Os cytunir ar ateb oddi ar y ffordd, byddai angen clirio llystyfiant lleol, ond dylid gwneud cyn lleied â phosibl o hyn a dylai’r llwybrau gofleidio’r ffordd gerbydau bresennol gymaint â phosibl. Byddai angen asesiad ecolegol ar y prosiect er mwyn llywio gwaith opsiynau llwybr. Byddai angen gwneud unrhyw waith adeiladu y tu allan i’r tymor nythu adar ac mewn cyswllt ag ecolegydd neu Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

11.33 Yn ddelfrydol, dylai rhannau ar hyd y B4583 gael eu gwahanu o’r ffordd gan y gallai’r llwybr fod yn anniogel i feicwyr a cherddwyr yn ystod cyfnodau brig prysur yr haf. Gall hyn gael ei waethygu gan barcio amhriodol.

11.34 Mae rhai rhannau o’r llwybr yn eithaf serth ac felly ni fyddai’n hygyrch i bob defnyddiwr.

11.35 Er mwyn cyflawni meini prawf Grant Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, rhaid i ddyluniad y cynllun sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a Chanllawiau ategol y Ddeddf Teithio Llesol. Rhaid i gynlluniau sy’n cynnwys gwella priffyrdd, adeiladu, neu reoli traffig ddangos sut maent yn cydymffurfio’n benodol ag Adran 9 o’r Ddeddf (Darpariaeth i gerddwyr a beicwyr wrth arfer rhai swyddogaethau).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

11.36 Byddai angen cynnal a chadw blynyddol parhaus ar unrhyw arwyneb caled ar hyd y llwybr, gan gynnwys unrhyw glirio llystyfiant er mwyn cadw’r llwybr yn hygyrch. Dylid cadw llinellau gweld bob amser ar draws y llwybr cyfan.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

11.37 Ceir cyfle i osod synwyryddion neu rifyddion i fonitro’r defnydd o’r llwybr fel rhan o’r rhwydwaith teithio llesol ehangach o fewn y sir. Byddai’r dull hwn yn helpu i fesur llwyddiant y buddsoddiad sylweddol ac yn llywio strategaeth hirdymor a chyflawni prosiectau tebyg yn y dyfodol.

 

Camau nesaf

11.38 Cynnal astudiaeth ddichonoldeb ac ymarfer gwaith opsiynau i benderfynu ar y llwybr arfaethedig.

11.39 Datblygu strategaeth celfi ac arwyddion stryd ar gyfer y llwybr y gellid ei chyflwyno fesul dipyn ledled Tyddewi a’r cyffiniau.

11.40 Dylid ymgysylltu’n gynhwysfawr â’r gymuned a thirfeddianwyr i fesur awydd am y prosiect.

11.41 Dylid ymgysylltu’n agos â thirfeddianwyr penodol y mae’r llwybr yn debygol o effeithio arnynt cyn unrhyw gyhoeddiadau cyhoeddus.

11.42 Dylid cynnal asesiad ecolegol i archwilio unrhyw effeithiau tebygol gwaith clirio llystyfiant sydd ei angen i gefnogi’r llwybr.

 

Ffigur 11.8: Tyddewi


Yn ôl i’r top

 

STD15 – Creu gwlyptiroedd wrth ymyl Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Tyddewi

11.43 Byddai troi tir diffaith gerllaw Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Tyddewi yn wlyptir yn gweithredu fel clustogfa ar gyfer gollyngfa garthffosiaeth mewn cyfnodau o gyfaint uchel. Byddai cynefin gwlyptir yn creu cynefin newydd i fywyd gwyllt ac yn cynorthwyo stripio maetholion o’r ollyngfa. Byddai hyn yn helpu i leddfu’r llwyth maethol sy’n cael ei ryddhau ar hyn o bryd i Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Penfro i lawr yr afon ym Mhorthclais, sy’n broblem barhaus. Yn 2021, digwyddodd mwy na 1,573 awr o orlifoedd storm cyfun (lle mae elifion budr heb eu trin yn cael eu gollwng i’r afon am eu bod yn fwy na chapasiti’r seilwaith) yng Ngorsaf Pwmpio Carthion Tyddewi. Byddai’r ymyriad hwn yn helpu i storio llifddwr yn ogystal â gwella ansawdd dŵr, lleihau risg llifogydd a lleihau risg siltio cyrff dŵr cyfagos.

 

Ffigur 11.9: STD15

 

Buddion y prosiect

11.44 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 11.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 11.10: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

11.45 Gall gwlyptiroedd gynorthwyo i liniaru llifogydd, gan storio dŵr gormodol mewn cyfnodau o law trwm, yn ogystal â’u prif swyddogaeth sef stripio ac ailgylchu maetholion. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn darparu nifer o fanteision bioamrywiaeth.

11.46 Gall gwlyptiroedd wedi’u hadeiladu, os cânt eu dylunio’n gywir, drin elifion yn gynaliadwy mewn modd sy’n gostwng crynodiad halogyddion sy’n debyg i fecanweithiau cemegol neu fecanyddol mwy cymhleth. Fel arfer mae’r elifion o gyfleusterau trin carthion yn llawn maetholion a gellir defnyddio gwlyptiroedd i helpu i leddfu’r mater hwn mewn ardaloedd sensitif fel ACA Forol Sir Benfro.

 

Mecanweithiau cyflawni

11.47 Byddai cydweithrediad a chyfranogiad Dŵr Cymru yn hanfodol i lwyddiant y prosiect hwn, ac felly’r cam cyntaf fyddai ymgysylltu â hwy a llunio astudiaeth ddichonoldeb, gan edrych ar y cyfraddau trwylif gofynnol, y lle sydd ar gael a’r opsiynau sy’n gysylltiedig â dylunio gwlyptir.

11.48 Dylid ymgynghori â pheiriannydd dylunio priodol i ddarparu dyluniad o’r gwlyptiroedd. Dylid cyfrifo’r ardal bosibl ar gyfer y gwlyptiroedd a’i chytuno â thirfeddianwyr perthnasol. Dylid ymgynghori â’r gymuned leol er mwyn ei chynnwys gyda’r cynlluniau. Dylid cyflogi contractwyr y mae eu hangen i gwmpasu’r topograffi a chloddio ardaloedd dethol. Dylid hefyd ystyried deunyddiau sydd eu hangen i greu’r gwlyptiroedd fel deunyddiau swbstrad a llystyfiant mor lleol â phosib.

11.49 Dylid defnyddio gwaith monitro gwyddoniaeth dinasyddion a monitro gorlif storm cyfun i helpu i lywio a monitro’r prosiect. Er bod astudiaethau gwyddonol y tu allan i gwmpas y cyfnod hwn o waith, byddai croeso hefyd i unrhyw wybodaeth a geir gan wyddoniaeth dinasyddion sy’n ymwneud ag iechyd yr amgylchedd morol lleol i gefnogi’r prosiect hwn. Dylid cynnal asesiad ecolegol o safleoedd posib cyn eu dewis.

 

Partneriaid posibl
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru
  • Fforwm Arfordirol Sir Benfro
  • Dŵr Cymru
  • Grŵp Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion

 

Cost amlinellol

 

Cost isel i ganolig = <£250k to £1 miliwn

11.50 Byddai’r costau’n cynnwys prynu neu rentu tir, dylunio’r gwlyptiroedd gan beiriannydd arbenigol, caffael planhigion a chostau sy’n gysylltiedig â chloddiad a gosod y gwlyptiroedd.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Dŵr Cymru
  • Prosiect Pedair Afon LIFE
  • Credydau maetholion gan ddefnyddio cytundeb Adran 106
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Arloesi Ofwat

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

11.51 Rhagwelir y bydd y rhaglen hon yn cynnwys amser i ddylunio’r gwlyptir, dod i gytundebau gyda thirfeddianwyr, gwneud gwaith adeiladu a phlannu’r gwlyptir.

 

Cyfyngiadau posibl

11.52 Un o’r cyfyngiadau allweddol ar gyfer y prosiect fyddai sicrhau cytundebau tirfeddianwyr. Byddai’n hanfodol hefyd sicrhau bod y gwlyptiroedd gerllaw’r seilwaith trin carthion er mwyn osgoi ail-lwybro gollyngfeydd carthion a fyddai’n cynyddu amser a chostau’r prosiect. Mae bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau yn cronni mewn gwlyptiroedd yn bryder a dylid ystyried hyn wrth ddylunio’r gwlyptiroedd.

11.53 Byddai angen cynllunio’r gwlyptir mewn modd sensitif oherwydd cyfyngiadau gofodol y safle.

11.54 Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

11.55 Nid oes angen rhyw lawer o waith cynnal a chadw ar wlyptiroedd ac nid oes ganddynt fawr iawn o gostau gweithredu, os o gwbl, gan nad oes angen pŵer arnynt ac maent yn systemau hunanaddasu dibynadwy ar y cyfan. Fodd bynnag, byddai angen cynnal a chadw ychydig o weithiau’r flwyddyn i dynnu malurion o unrhyw ollyngfeydd, ailosod unrhyw bibellau sydd wedi’u difrodi, cael gwared ar unrhyw rywogaethau planhigion goresgynnol a allai fod yn drech na’r planhigion gwlyptir, lleihau croniad gwaddodion a chadw llygad ar uniondeb strwythurol agweddau strwythurol y dyluniad. Byddai cytundebau parhaus gyda Dŵr Cymru neu ddeiliaid tir ar gyfer mynediad yn hanfodol.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

11.56 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml. Gallai technegau gynnwys monitro ansawdd dŵr gan ddefnyddio offer llaw syml, neu osod mesurydd ffrwd syml i fonitro llif ffrwd. Dylid hefyd edrych ar ymgysylltu â Dŵr Cymru er mwyn creu system fonitro i asesu dal a storio maetholion a digwyddiadau gorlif storm cyfun / amser gollwng.

 

Camau nesaf

11.57 Byddai cydweithio Dŵr Cymru yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y prosiect hwn, ac felly’r cam cyntaf fyddai dechrau trafodaeth gyda Dŵr Cymru ac ymrwymo i gytundeb cydweithio. Gall hyn hefyd fod yn fodd o gael cyllid ar gyfer y prosiect, naill ai gyda Dŵr Cymru neu fel rhan o Gronfa Arloesi Ofwat.

11.58 Ymgysylltu â thirfeddianwyr i ymrwymo i gytundebau i brynu neu rentu eu tir. Ymgysylltu â’r gymuned leol i greu cefnogaeth ac ymrwymiad i’r prosiect.

Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

STD1 – Cyflenwi rhandiroedd / lle tyfu cymunedol newydd ar Ffordd Glasfryn

11.59 Er mwyn bodloni’r galw mawr am randiroedd yn Nhyddewi, ceir cyfle i ddefnyddio gweddill y cae sydd heb ei ddatblygu ar Heol Glasfryn fel lle tyfu cymunedol. Gellid rheoli’r safle fel gardd gymunedol mewn partneriaeth ag Ysgol Penrhyn Dewi. Ceir cyfleoedd da i gael mynediad drwy lwybrau teithio llesol a gwelliannau ychwanegol i gynefinoedd, gan gynnwys cyflwyno ymylon caeau, coridorau peillwyr, pyllau, gwrychoedd a ffosydd.

 

STD2 – Cyflwyno gwyrddu trefol o fewn ardaloedd preswyl presennol

11.60 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

STD3 – Gwella cysylltiadau â Llwybr Arfordir Penfro

11.61 Dylid dynodi llwybrau’n well a gwella cyflwr arwynebau llwybrau ar hawliau tramwy cyhoeddus presennol rhwng Pen-y-Garn a Santes Non. Ceir cyfle i ddynodi llwybrau’n well a hyrwyddo’n lleol y llwybr beicio presennol rhwng Heol y Bryn a Heol yr Afr fel cyswllt beicio diogel rhwng Santes Non a Thyddewi (cylch 4 munud). Dylid ystyried gosod gorsafoedd gwefru beiciau trydan mewn lleoliadau ar hyd y llwybr. Dylid cefnogi hefyd ddefnyddio Ffordd Porth Clais fel llwybr beicio diogel ac uniongyrchol i lawr i Harbwr Porthclais (5 munud ar feic, 20 munud ar droed). Dylai arwyddion dynodi llwybrau fod yn glir a chynnwys pellteroedd ac amseroedd cerdded / beicio.

 

STD4 – Darparu cyswllt teithio llesol i Draeth Mawr

11.62 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

STD5 – Gwella mynediad sensitif i ACA Tiroedd Comin Gogledd-orllewin Sir Benfro a Thir Comin Dowrog

11.63 Dylid gweithredu llwybr beicio oddi ar y ffordd, gydag arwyddion a dynodi llwybrau tuag at ochr dde-orllewin Tir Comin Dowrog (yn Waun Fawr). Dylid hefyd sefydlu a hyrwyddo llwybr cylchol o amgylch perimedr y tir mynediad agored hwn hyd at y lôn ym Mynydd Du. Fel cynefin rhostir gwarchodedig Ewropeaidd, dylai’r cynigion ymgorffori uwchraddiadau llwybr sensitif ac arwyddion addysgol i sicrhau bod cŵn yn cael eu cadw ar dennyn ac y cyfyngir ar weithgareddau sy’n cynyddu risg tanau awyr agored.

 

STD6 – Gwella safle Eglwys Gadeiriol a Llys Esgob Tyddewi i beillwyr

11.64 Nodweddir tiroedd Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Llys yr Esgob gan leiniau ymyl ffordd o laswellt a dorrir yn fyr y gellid eu gwella ar gyfer peillwyr trwy lacio’r drefn torri gwair a hau hadau blodau gwyllt. Dylid hefyd ystyried sefydlu dolydd blodau gwyllt ar lethrau serth sy’n anhygyrch i beiriant torri gwair. Ar ben hynny, mae ardaloedd tawelach o gwmpas y tiroedd yn cynnig y cyfle i gyflwyno ardaloedd nas aflonyddir arnynt ar gyfer pentyrrau boncyffion.

 

STD7 – Datblygu darpariaeth peillwyr yng Nghanolfan Groeso ac Oriel y Parc

11.65 Gellid gwella’r cloddiau presennol i ddarparu ardaloedd pridd moel ar gyfer peillwyr a chloddiau glöynnod byw. Byddai gwella’r ardaloedd hyn yn creu cynefin gwerth uchel i beillwyr ym mhob cyfnod bywyd, gan gynnwys darparu ffynonellau bwyd larfaol. Gellid hefyd gwella nifer o gloddiau a waliau cerrig sychion a llystyfiant ar eu pennau o fewn y maes parcio cyfagos i ddarparu mwy o amrywiaeth o blanhigion blodeuol. Yr ardal hon hefyd yw man cychwyn y llwybr peillwyr a byddai ei gwella ymhellach yn cryfhau statws caru gwenyn yr ardal.

 

STD8 – Gwella potensial cynefin caeau chwarae yn Ysgol Penrhyn Dewi

11.66 Ceir potensial i blannu coed o amgylch perimedr y safle i wella cysylltedd cynefinoedd, yn enwedig ar hyd yr A487. Dylid hefyd edrych ar blannu coed ar ymylon caeau i ddarparu cysgod a strwythur ychwanegol i’r tiroedd. Yn ogystal, dylid hau hadau blodau gwyllt, paratoi’r ddaear yn briodol a llacio’r drefn torri gwair gyda’r nod o greu ardaloedd ‘gwylltach’ ar gyfer peillwyr ar ymylon caeau.

 

STD9 – Cyfoethogi’r cynefin presennol ym Maes Parcio Merivale / Llys yr Esgob

11.67 Dylid gwarchod a gwella’r cynefin presennol yn y lleoliad hwn ar gyfer peillwyr trwy blannu ychwanegol, llacio’r drefn torri gwair a rheoli ymylon coetir. Dylid gwella’r rhannau presennol o ferddwr hefyd i ymgorffori lagwnau pryfed hofran.

 

STD10 – Mynd i’r afael â’r bylchau yn Llwybr Peillwyr Tyddewi

11.68 Mae’r llwybr peillwyr y rhoddwyd statws ‘Caru Gwenyn’ i Dyddewi o’i herwydd wedi dirywio ers ei achrediad a cheir cyfle i adfywio’r rhwydwaith o gafnau plannu uchel. Er mwyn ailgyflawni’r statws hwn, dylid gwella The Meadow, Quality Cottages a Wild About Pembrokeshire trwy waith i uwchraddio’r cafnau plannu gyda blodau lluosflwydd sy’n denu peillwyr.

 

STD11 – Gwyrddu Heol Non ymhellach

11.69 Mae’r clawdd glaswellt ar y troad rhwng Heol Non a Mount Gardens yn cynnig cyfle i sefydlu grwpiau coed. Ymhellach ar hyd Heol Non lle mae graddiant y llain laswellt yn cynyddu, dylid hau’r ardal â dôl blodau gwyllt i greu cynefin peillwyr ychwanegol a chynyddu diddordeb esthetig. Dylid hefyd edrych ar sefydlu coed stryd ychwanegol yn yr arwynebau caled sy’n gwahanu’r ffordd gerbydau a’r cilfachau parcio ger y gyffordd â Heol Newydd.

 

STD12 – Hyrwyddo cyfleoedd i dyfu bwyd cymunedol yn lleol

11.70 Mae Gardd Gymunedol Erw Dewi yn esiampl o’r ffordd y gall garddio sy’n denu bywyd gwyllt gynnal bioamrywiaeth a sicrhau cyfleoedd i dyfu bwyd cymunedol. Dylai’r lle hwn barhau i gael ei reoli a’i hyrwyddo’n lleol er budd bywyd gwyllt a’r gymuned.

 

STD13 – Cyflwyno rhwydwaith o goed stryd ar Heol Newydd a Stryd Fawr yr A487

11.71 Archwilio’r cyfle i gyflwyno rhwydwaith o goed stryd cadarn yn amgylchedd y cyhoedd ar Heol Newydd a Stryd Fawr yr A487. Oherwydd cyfyngiadau gofodol, gallai’r opsiynau gynnwys defnyddio coed wrth fynedfa’r stryd i fframio golygfeydd yn ogystal â defnyddio ffurfiau canopi pigfain i gynnal gwelededd da a sicrhau digon o uchder clirio i gerddwyr.

 

STD14 – Creu gwlyptiroedd wrth ymyl Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Tyddewi

11.72 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

STD15 – Ailgysylltu gorlifdiroedd a phlannu coed

11.73 Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi nodi nifer o ardaloedd i fyny’r afon o Dyddewi ar hyd Afon Alun, lle mae potensial i gysylltu ardaloedd hanesyddol o orlifdir â sianel bresennol yr afon. Nod y gwaith hwn fyddai darparu storfa llifddwr a lleihau risg llifogydd i lawr yr afon. Ar ben hynny, mae’r potensial yn bodoli i gyfuno ailgysylltiad y gorlifdir ag ardaloedd o blannu coed i liniaru effaith llifogydd yn well. Dylid hefyd plannu coed mewn ardaloedd o orlifdir heb goed yn fodd o helpu i leddfu glawiad a lleihau risg llifogydd, gan ddarparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt.

 

STD16 – Creu cyswllt i gerddwyr sy’n cysylltu Tyddewi a Phorthclais wrth ymyl Afon Alun

11.74 Gweithio gyda thirfeddianwyr lleol i sefydlu llwybr strategol i gerddwyr sy’n cysylltu’r ardal o fynediad agored yn Pit Street gyda Phorth Clais, drwy goridor Afon Alun. Cynigia’r llwybr y potensial i gysylltu â’r rhannau presennol o’r rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, gan gynnwys llwybr ceffylau sy’n croesi Afon Alun wrth y Waun Isaf. Byddai’r coridor yn cynnig gwerth hamdden ac yn cynnig cysylltiadau ehangach gyda Llwybr Arfordir Penfro.

 

STD17 – Datblygu rhwydwaith o lwybrau cerdded cylchol ar y tir o amgylch Llys yr Esgob

11.75 Archwilio cyfleoedd i greu teithiau cerdded cylchol sy’n dyrannu’r ardal o dir mynediad agored i’r de-orllewin o Lys yr Esgob, gan groesi coridor Afon Alun a ffurfio cysylltiadau ehangach â Merry Vale. Ceir cyfle hefyd i ddefnyddio’r ardal o goetir i’r gogledd o Lys yr Esgob i ailsefydlu llwybrau coetir ar gyfer buddion hamdden lleol.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Saundersfoot

 

Pennod nesaf:

Dinbych-y-pysgod

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan