Dinbych-y-pysgod

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Dinbych-y-pysgod
Prosiectau Cicdanio
Rhestr Hir o Brosiectau

 

Tenby

 

 Ffigur 12.1: Dinbych-y-pysgod

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Dinbych-y-pysgod

 

12.1 Tref gaerog ganoloesol ar arfordir de Sir Benfro yw Dinbych-y-pysgod. Wedi’i hadeiladu ar hyd y clogwyn ac wedi’i hamgylchynu gan draethau tywodlyd, mae’r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid. Mae Muriau Tref hynafol Dinbych-y-pysgod yn amgylchynu’r craidd hanesyddol sydd wedi ei ddynodi’n Ardal Gadwraeth. Mae strydoedd cul y craidd hanesyddol, strydoedd cefn sy’n cydgysylltu a nifer o adeiladau rhestredig yn helpu’r dref i gadw cymeriad morwrol unigryw. Mae Castell Dinbych-y-pysgod o’r 12fed ganrif ac Ynys Catrin a chaer ar ei phen o’r 19eg ganrif yn cynnig elfennau penodol yng nghymeriad morlun Dinbych-y-pysgod. Mae Dinbych-y-pysgod o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

12.2 Er bod llawer o forlin y dref wedi’i drefoli, mae Dinbych-y-pysgod yn gartref i fwy nag un traeth cyhoeddus sy’n ffinio â’r dref i’r gogledd ac i’r de. Mae’r darn poblogaidd hwn o forlin hefyd yn gartref i Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Penfro sy’n cysylltu Dinbych-y-pysgod â thirwedd ehangach Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Yn gyffredinol, mae mannau agored cyhoeddus eraill yn Ninbych-y-pysgod i’r gorllewin o ganol y dref, gyda mannau gwyrdd yn y craidd hanesyddol wedi’i anheddu’n ddwys wedi’u cyfyngu’n bennaf i fynwent eglwys y Santes Fair. I’r de-orllewin o ganol y dref, mae Afon Rhydeg a’i gorlifdir isel llydan yn llifo i gyfeiriad y dwyrain tua’r môr. Mae’r ddyfrffordd gorsiog hon yn cynnig ardaloedd ychwanegol o gyfle hamdden oherwydd nifer o hawliau tramwy cyhoeddus. Mae lleiniau o goetir hynafol a Ffen Rhydeg, a ddynodwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), yn gwneud y dyffryn hwn yn goridor bywyd gwyllt pwysig. Caiff amgylchedd morol Dinbych-y-pysgod ei gydnabod yn rhyngwladol ac yn genedlaethol trwy ei ddynodiad o dan Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Dynesfeydd Môr Hafren, ACA Bae Caerfyrddin a’i Aberoedd, Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) Bae Caerfyrddin, SoDdGA Clogwyni Dinbych-y-pysgod ac Ynys Catrin, ynghyd â SoDdGA Penrhyn Lydstep i Dwyni Dinbych-y-pysgod. Ar y cyfan, prin yw’r gorchudd coed o fewn craidd yr anheddiad, a llawer o’r coetir wedi’i leoli ar ymylon y dref, neu ar hyd coridorau’r rheilffordd ac afonydd.

12.3 Mae gan Ddinbych-y-pysgod gysylltiadau trafnidiaeth a hamdden cryf â’r rhanbarth ehangach drwy ei gorsaf drenau, llwybrau cerdded a hyrwyddir a chysylltiadau beicio. Mae cysylltiadau llwybr troed yn cysylltu Dinbych-y-pysgod â chefn gwlad ehangach y gogledd, y de a’r gorllewin, yn ogystal â Llwybr Arfordir Penfro. Daw’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (NCN) 4 hefyd trwy’r dref a defnyddia lonydd oddi ar y ffordd a llwybrau arfordirol i’r gogledd a’r de.

 

Ffigur 12.2: Cyfleoedd SG yn Ninbych-y-pysgod


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

TEN12 – Cryfhau cysylltiadau gwyrdd strategol ar y tir rhwng Ystâd Ddiwydiannol Salterns ac Afon Rhydeg

12.4 Ar hyn o bryd, mae’r tir rhwng y Salterns a Lower Park Road / Quarry Road yn cynnal mosaig o laswelltir gwlyb, coed a chynefin corstir. Mae’r tir, sy’n eiddo i Gyngor Sir Penfro (CSP), yn ffinio ag Afon Rhydeg i’r dwyrain ac mae’n ffurfio cysylltiad pwysig o’r gogledd i’r de rhwng y coridor rheilffordd coediog, Clwb Golff Dinbych-y-pysgod a choetir yn y twyni, gydag ardaloedd strategol o fannau gwyrdd o amgylch Ysgol Greenhill, Marsh Road a Heywood Lane. Ar hyn o bryd, nid yw’r lle’n cael ei reoli ryw lawer ac mae’n cynnig y potensial i greu mosaig mwy amrywiol o gynefin torlannol. Gellid hefyd edrych ar gyfleoedd i gael mynediad sensitif i lan yr afon i gefnogi rhyngweithio lleol â natur, llwybrau anffurfiol a nodweddion chwarae naturiolaidd. Dylid cyflwyno nodweddion cynefin, megis pentyrrau boncyffion a thai infertebratau, hefyd i ddarparu cyfleoedd ychwanegol i archwilio natur.

12.5 Eistedda’r safle o fewn ardal lle mae risg uchel o lifogydd, gyda’r man gwyrdd, yr unedau diwydiannol cyfagos ar Ystâd Ddiwydiannol Salterns a rhai tai cyfagos yn perthyn i Barth Llifogydd 3. Dylid ystyried creu gwalau gwlyptir ychwanegol, plannu coed priodol a defnyddio mannau storio llifogydd naturiol fel ateb seiliedig ar natur i lifogydd. Mae lleoliad strategol y lle’n golygu y gellid ei ddarparu mewn partneriaeth â busnesau, trigolion ac ysgolion cyfagos. Ar ben hynny, mae’r lle’n rhoi cyfle i wella cysylltiad teithio llesol allweddol rhwng canol y dref a’r orsaf drenau. Dylid cadw llinellau gweld clir i mewn ac allan o’r lle ar gyfer gwyliadwriaeth anffurfiol, yn ogystal â llinellau gweld o eiddo cyfagos.

 

Ffigur 12,3: TEN12

 

Buddion y prosiect

12.6 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 12.4 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Darparu cyfleoedd teithio llesol
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 12.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

12.7 Mae angen ymdrech gychwynnol sylweddol i gael y lle i gyflwr rheoli cadarnhaol, a hynny’n fwyaf tebygol ar y cyd â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP, grwpiau cymunedol neu grwpiau cadwraeth eraill fel yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt. Yna dylid ymgorffori gwaith rheoli parhaus y safle mewn rhaglenni cynnal a chadw blynyddol.

12.8 Wrth blannu coed newydd, dylid darparu gofal a rheolaeth barhaus ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis ar ôl plannu i sicrhau eu hannibyniaeth lwyddiannus o fewn y dirwedd. Dylai hyn gynnwys dyfrio yn ystod tymhorau sych, llacio’r polion coed ac edrych yn rheolaidd am goed a ddadwreiddiwyd gan y gwynt.

12.9 Gallai rhan o’r cynllun, er enghraifft plannu coed ac unrhyw ardaloedd bywyd gwyllt neu fylbiau, gael ei chyflawni trwy raglen Tyfu Mannau Gwyrdd Trefol 2022 – 2023.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Wardeniaid coed Sir Benfro
  • Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod
  • Cymdeithas Cadwraeth Mannau Gwyrdd Dinbych-y-pysgod
  • Ysgolion lleol
  • Busnesau lleol

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

12.10 Gan ddibynnu ar y graddau y caiff y gymuned ei chynnwys mewn ymgyrchoedd rheoli cychwynnol a gwaith cynnal a chadw parhaus, byddai’r prosiect yn gymharol gost-effeithiol yn y tymor hir. Byddai cyflwyno llwybrau anffurfiol, seddi a nodweddion chwarae naturiol yn cyflwyno cost cyfalaf pe byddai’r rhain yn cael eu ceisio.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cronfa Rhwydweithiau Natur
  • Rhaglen Tyfu Mannau Gwyrdd Trefol 2022 – 2023

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

12.11 Gellid cyflawni ymdrechion cychwynnol i gael y man gwyrdd i gyflwr rheoli cadarnhaol yn gymharol gyflym. Fodd bynnag, byddai angen parhau i reoli’r lle yn gadarnhaol drwy gydol ei oes.

 

Cyfyngiadau posibl

12.12 Mae lleoliad y safle a’r prinder gwyliadwriaeth naturiol yn cyflwyno risg ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trwy agor llinellau gweld a golygfeydd ar draws Afon Rhydeg o eiddo cyfagos, gellir lleihau hyn.

12.13 Er mwyn cynnal a chadw’r lle’n barhaus i sicrhau bod y mosaig cynefinoedd yn cael ei gadw, byddai angen mewnbynnau adnoddau parhaus bob blwyddyn. Gall hyn fod yn anodd i Dîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP ymgorffori yn eu rhaglen reoli heb gymorth ychwanegol gan wirfoddolwyr.

12.14 Gellir canfod bod mannau ‘gwyllt’ yn anniben neu’n flêr. Gellir defnyddio arwyddion i gyfleu pwysigrwydd gadael mannau i fyd natur er mwyn cynyddu addysg a dealltwriaeth.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

12.15 Byddai angen cynnal a chadw blynyddol parhaus ar y lle drwy gydol tymhorau gwahanol. Byddai angen i unrhyw goed newydd a blannir gael gofal rheolaidd ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis ar ôl eu plannu. Dylai hyn gynnwys dyfrio yn ystod misoedd sychach yr haf, llacio polion wrth iddynt dyfu, archwilio’r coed a’r gardiau am ddifrod yn dilyn gwyntoedd cryfion.

12.16 Byddai angen rheoli rhywogaethau trech a goresgynnol yn rheolaidd a’u torri’n ôl, er enghraifft mieri a Jac y Neidiwr. Gall hyn fod yn eithaf llafurus ond gallai timau gwirfoddol wneud y gwaith hwn.

12.17 Dylid osgoi defnyddio gwrtaith, plaladdwyr a phryfleiddiaid, yn enwedig yn agos at y cwrs dŵr.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

12.18 Gellid defnyddio cynllun Gwyddoniaeth Dinasyddion i fonitro llwyddiant y man bywyd gwyllt newydd, er enghraifft, trwy ddiwrnodau cyfrif infertebratau neu fonitro ansawdd dŵr Afon Rhydeg.

 

Camau nesaf

12.19 Cynnal arolwg ecolegol / cynefin Cam 1 o’r cynefin presennol yn y lle.

12.20 Cysylltu â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i drafod opsiynau rheoli ac i ba raddau y byddai angen cymorth grŵp cymunedol neu gadwraeth.

 

Ffigur 12.5: Dinbych-y-pysgod


Yn ôl i’r top

 

TEN16 – Cyflenwi lle tyfu yn Ysgol Gynradd Teilo Sant

12.21 Gweithio gydag Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant i ddarparu perllan gymunedol a lle tyfu yn ardal y glaswellt amwynder i’r gogledd o’r ysgol yn St. John’s Hill. Byddai cyflwyno coed perllan yn y man hwn yn cefnogi peillwyr a bywyd gwyllt arall, gan hefyd ddarparu ffynonellau ffrwythau ‘coeden i blât’ uniongyrchol. Byddai blodau yn ystod y gwanwyn a chysgod yn ystod yr haf hefyd yn helpu i greu lle mwy chwareus a swyddogaethol. Mae gwelyau llysiau, cynwysyddion uwch, cafnau plannu a dringwyr fertigol yn cynnig cyfle i ddarparu detholiad amrywiol o ffrwythau a llysiau ar gyfer tyfu a bwyta trwy gydol y flwyddyn.

12.22 Byddai nodweddion cynefin ychwanegol fel gwestai pryfed, pentyrrau boncyffion, blychau adar ac ardaloedd o sefydlu dôl yn cynnig cyfleoedd ychwanegol ar gyfer addysg ecolegol a rhyngweithio â natur. Mae sefydlu’r cyfleuster tyfu hefyd yn cynnig y potensial i weithio mewn partneriaeth â’r ysgol i integreiddio tyfu bwyd cynaliadwy fel rhan o’r cwricwlwm. Gan weithio yn unol ag amcanion y Strategaeth Peillwyr ar gyfer y dref, dylid hefyd archwilio’r rhan y gall y mannau hyn ei chwarae wrth ddarparu lloches i fywyd gwyllt drwy greu cynefinoedd ac arferion rheoli ecolegol, gan sicrhau bod digon o le yn cael ei gadw ar gyfer lle chwarae a dysgu awyr agored.

 

Ffigur 12.6: TEN16

 

Buddion y prosiect

12.23 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 12.7 isod, mae:

  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 12.7:  Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

12.24 Byddai angen cyflawni mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant. Gallai llawer o’r gwaith sefydlu cychwynnol gael ei gwblhau mewn partneriaeth â’r ysgol, gan gynnwys plannu coed ac adeiladu eitemau fel gwestai infertebratau. Mae’n bosib y bydd angen ychydig o gyngor garddwriaethol a rheoli tirwedd gan Gyngor Sir Penfro (CSP) i oruchwylio hyn. Gallai’r ysgol wneud y tyfu a’r cynnal a chadw parhaus i raddau helaeth gyda rhywfaint o gymorth gan Dimau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP.

 

Partneriaid posibl
  • Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant
  • Timau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Warden coed gwirfoddol Dinbych-y-pysgod (Wardeniaid Coed Sir Benfro)
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod
  • Cymdeithas Cadwraeth Mannau Gwyrdd Dinbych-y-pysgod
  • Rhwydwaith Bwyd Bendigaid
  • Groundwork UK
  • Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
  • Ffederasiwn Ffermydd Dinas a Gerddi Cymunedol – Gwasanaeth Cynghori Tir Cymunedol yng Nghymru a phrosiect Tyfu Gyda’n Gilydd
  • Gwyllt am Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

12.25 Gall ymyriadau fod yn weddol syml a chost isel. Dylid cynnwys sefydlu a rheoli yn y costau.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Cyfraniadau datblygwyr

 

Amserlen

 

Tymor cyflym = 1-5 mlynedd

12.26 Mae’n debygol y bydd y prosiect yn cymryd blwyddyn neu ddwy i fynd ar lawr gwlad oherwydd yr angen i ymgysylltu a chodi arian.

 

Cyfyngiadau posibl

12.27 Mae’r prosiect yn gofyn am ymrwymiad gan yr ysgol gan y bydd yn gaffaeliad sylweddol, ond gwerth chweil, i ymgymryd ag ef. Byddai sicrhau buddsoddiad priodol ar gyfer y lle tyfu yn hanfodol er mwyn ei gyflawni’n llwyddiannus. Ar ben hynny, bydd digon o adnoddau i helpu yn y sefydlu cychwynnol a’r cynnal a chadw parhaus yn hanfodol ar gyfer llwyddiant parhaus y lle tyfu, yn enwedig y rhai sydd â rhywfaint o wybodaeth arddwriaethol a rheoli tirwedd.

12.28 Bydd angen paratoi’r ddaear yn briodol a phrofi’r pridd cyn y cyflenwi.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

12.29 Bydd y prosiect yn dibynnu ar gael yr ysgol yn bennaf gyfrifol am stiwardiaeth barhaus y lle tyfu. Gellid ymgorffori hyn mewn trefnau cynnal a chadw presennol, yn ogystal â thrwy ddysgu awyr agored a gweithgareddau ymarferol i’r plant. Dylid darparu cymorth ychwanegol gan Dimau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i sicrhau llwyddiant parhaus y lle, a hynny’n arddwriaethol ac ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

12.30 Gallai’r safle gael ei gynnwys o fewn Cynllun Llesiant CSP. Gellid mesur mesurau trosolwg o ymateb y plant i’r lle tyfu, er enghraifft, amser a dreulir yn yr awyr agored, gwybod o ble mae bwyd yn dod, parodrwydd i roi cynnig ar ffrwythau a llysiau newydd, dealltwriaeth o beillwyr a phwysigrwydd bioamrywiaeth ac ati.

 

Camau nesaf

12.31 Ymgynghori ag Ysgol Gynradd Gatholig Teilo Sant i farnu’r awydd am y prosiect.

12.32 Ymgysylltu â Thimau Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP.

12.33 Cynnal profion pridd ar y safle er mwyn sicrhau y byddai’r lle yn addas ar gyfer tyfu eitemau bwytadwy.

 

Ffigur 12.8: Dinbych-y-pysgod


Yn ôl i’r top

 

TEN21 – Ailgysylltu’r gorlifdir a’r amgylchedd torlannol ar lannau afonydd

12.34 O fewn Parth Llifogydd 3, mae tir ger Afon Rhydeg mewn perygl o ymchwyddiadau arfordirol a llifogydd afonol. Ceir cyfle i ailgysylltu amgylcheddau gorlifdir a thorlannol, gan adfer tir fferm âr ar hyd glan yr afon yn ôl i’w gyflwr naturiol.

12.35 Byddai ailgysylltu’r gorlifdir, plannu coed a chynyddu’r rhwydwaith o gynefin torlannol ar hyd glannau Nant Knightston ac Afon Rhydeg yn helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb yn yr ardal yn y dyfodol, gan helpu i adeiladu gwytnwch rhag yr hinsawdd. Ar ben hynny, byddai trosi tir amaeth âr yn gynefin gwlyptir yn cynyddu gwerth bioamrywiaeth yr ardal ymhellach yn ogystal â darparu cyfleoedd twristiaeth neu bysgota. Byddai’r ymyriad hwn hefyd yn helpu i wella ansawdd dŵr, gan leihau costau trin dŵr a echdynnwyd i lawr yr afon.

 

Ffigur 12.9: TEN21

 

Buddion y prosiect

12.36 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 12.10 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 12.10: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

12.37 Mae twf yn y boblogaeth a’r galw am dai wedi arwain at newid llawer o orlifdiroedd ledled y DU at ddefnyddiau tir preswyl, masnachol neu amaethyddol. Trowyd llawer o orlifdir Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod yn dir âr, gan ostwng y gorchudd coed a draeniad y tir er mwyn sicrhau bod y tir ffermio mor effeithlon â phosibl. Mae hyn wedi arwain at leihau cynefinoedd, a cholli gwlyptiroedd a chynefinoedd daearol gwlyb cysylltiedig. Fodd bynnag, mae risg llifogydd wedi cynyddu. Mae’r dirwedd bellach yn gallu amsugno llawer llai o ddŵr glaw ac felly’n cynnig llai o gapasiti i arafu a lleihau maint y dŵr sy’n llifo i lawr afonydd – mae’r dirwedd, felly, yn darparu llai o glustogfa mewn digwyddiadau glawiad maith. Mae lleihau cynefinoedd gwlyptir ac amgylcheddau torlannol hefyd yn arwain at lai o ddal a storio carbon o fewn yr ardal.

12.38 Mae ailgyflwyno cynefinoedd gwlyptir a thorlannol yn creu storfa ar gyfer gormodedd o ddŵr ffo wyneb, gan leihau risg llifogydd, a chynyddu ansawdd dŵr a dal a storio carbon ar y safle. Byddai ail-wlychu’r priddoedd gwlyptir hefyd yn cynyddu eu gallu i amsugno a chloi carbon. Mae ailgysylltu gorlifdiroedd yn creu cynefinoedd hanfodol i rywogaethau fel adar dŵr a meysydd magu pysgod ifainc, gan gyfrannu at fioamrywiaeth ehangach yr ardal.

 

Mecanweithiau cyflawni

12.39 Byddai angen nodi safleoedd dethol gerllaw Afon Rhydeg a nant Knightston a’u cwmpasu ar gyfer eu haddasrwydd. Byddai angen asesiad ecolegol o bob safle. Gallai’r gwaith cwmpasu ac asesu hwn gael ei wneud gan wyddonwyr dinasyddion hyfforddedig, staff Cyngor Sir Penfro (CSP) neu ymgynghorwyr hyfforddedig. Byddai angen ymgysylltu â thirfeddianwyr a deiliaid / porwyr tir er mwyn cyflwyno’r cyfle hwn a thrafod eu heffeithiau ar ddefnydd tir presennol.

12.40 Rhagwelwn y gallai’r ymyriadau a’r newidiadau ffisegol arfaethedig i reoli tir gael eu darparu gan y tirfeddianwyr eu hunain, neu gan gontractwyr amaethyddol allanol.

 

Partneriaid posibl
  • Deiliaid tir
  • PLANED – Rhwydwaith Amaethyddiaeth Gynaliadwy Sir Benfro (PSAN)
  • Cymdeithas Cadwraeth Mannau Gwyrdd Dinbych-y-pysgod
  • Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

12.41 Byddai’r costau’n cynnwys ychydig o ffioedd cyngor arbenigol a ffioedd asiant tir cyfyngedig, costau tirlunio meddal a phlannu coed. Byddai adeiladu gwalau gwlyptir yn gofyn am gontractwyr a pheiriannau. Byddai angen i asesiad ecolegol o’r safle gael ei gynnal gan ecolegydd gyda’r holl waith safle’n cael ei oruchwylio o bosibl gan Glerc Gwaith Ecolegol (ECoW).

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP)
  • Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru sy’n dod i’r amlwg
  • Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed
  • Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)
  • Grantiau CNC
  • Cronfa Rhwydweithiau Natur

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

12.42 Y prif gyfyngiadau i’r rhaglen ar gyfer y prosiect hwn fyddai cael cytundeb tirfeddianwyr. Gallai hyn fod yn broses hirfaith, ond pe bai’n dod i ben yn gyflym yna gallai’r gweithredu fod yn gymharol gyflym. Byddai angen i raglen ganiatáu amser i wneud gwaith modelu hydrolegol o’r dalgylch a chael y trwyddedau a’r caniatâd angenrheidiol er mwyn ymgymryd â’r gwaith. Gellid darparu ymyriadau ffisegol o fewn un tymor haf, gan ddibynnu ar argaeledd contractwyr.

12.43 Un peth allweddol anhysbys i’r prosiect fyddai’r amser sydd ei angen i ennill cytundeb / caniatâd y tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr.

 

Cyfyngiadau posibl

12.44 Un cyfyngiad allweddol ar gyfer y prosiect fyddai cytundebau tirfeddiannwr / deiliad tir / porwr, gan y gallai fod risg canfyddedig i hyfywedd fferm sy’n gysylltiedig â cholli rhywfaint o dir i amgylcheddau torlannol a chynefinoedd gwlyptir. Dylid gwrthddadlau’r pryderon hyn ag argaeledd taliadau amaethyddol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol, ac felly mae’r oedi cyn lansio Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn gyfyngiad posibl yn hyn o beth.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

12.45 Byddai angen cynnal a chadw’r gwaith meddal a’r ardal o wlyptir fel rhan o’r cyfnod sefydlu 60 mis, gan gynnwys ailblannu coed aflwyddiannus.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

12.46 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect drwy wyddoniaeth dinasyddion syml, gyda chymorth addas.

 

Camau nesaf

12.47 Ymgynghori â CSP a CNC i nodi a allai’r prosiect gydredeg â phrosiect yr Achos Amlinellol Strategol ar gyfer Afon Rhydeg sydd wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru.

12.48 Ymgysylltu â thirfeddianwyr / deiliaid / porwyr ac ymrwymo i gytundebau i ddarparu ymyriadau ar eu tir. Ymchwilio i’r potensial ar gyfer credydau maethol i wrthbwyso costau’r prosiect.

 

Ffigur 12.11: Dinbych-y-pysgod


Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

TEN1 – Hyrwyddo gwyrddu’r Hyb Trafnidiaeth

12.49 Gwyrddu’r maes parcio aml-lawr ymhellach gyda wal werdd a gynhelir gan geblau (gan gynnwys rhaffau dur, rhwyll a phlanhigion dringo) i ddarparu lle i infertebratau ac adar, yn ogystal â thrapio mygdarthau gwacau. Dylid gwella safleoedd bws hefyd drwy ddefnyddio cafnau plannu uwch a’u hôl-osod â thoeau gwyrdd, gan sicrhau nad yw cynigion yn rhwystro mynediad i’r rhai sydd â nam ar eu symudedd. Lle mae digon o le, gellid codi llechfeini i ddarparu gerddi glaw hefyd. Ar ben hynny, dylid edrych ar blannu bylbiau a phlygiau o dan goed yn yr ardal o laswellt amwynder wrth ymyl y safle bws, yn ogystal â phlannu planhigion ychwanegol sy’n denu peillwyr yng Ngardd Cofeb Ryfel Dinbych-y-pysgod.

 

TEN2 – Gwella safle Gorsaf Dinbych-y-pysgod

12.50 Cyflwyno nodweddion gwyrddu trefol wrth fynedfa Gorsaf Dinbych-y-pysgod i greu porth mwy croesawgar. Ail-ffurfweddu’r ddarpariaeth barcio bresennol wrth y fynedfa i greu cafnau plannu uwch, plannu coed stryd a lloches parcio beiciau diogel gyda tho gwyrdd. Drwy ddynodi llwybrau’n well a gwella arwyddion, dylid hyrwyddo cysylltiadau â chanol y dref, Castell Dinbych-y-pysgod, Traeth y Castell a Harbwr Dinbych-y-pysgod ar hyd Warren Street, yn ogystal â thraeth De Dinbych-y-pysgod ar hyd Heol yr Orsaf. Dylai cynigion hefyd edrych i ymgorffori llwybr teithio llesol sy’n cysylltu’r Maes Glas â Gorsaf Dinbych-y-pysgod. Gan weithio gyda thrigolion ar hyd Warren Street, gellid hefyd nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed stryd bychain.

 

TEN3 – Cyflenwi ymyriadau gwyrddu ym Mur y Dref

12.51 Ar un adeg, roedd Rhodfa’r De yn cynnal rhes o goed castan a gafodd eu heintio a’u tynnu oherwydd pryderon diogelwch. Dylid gosod coridor gwyrdd newydd sy’n cyflwyno gerddi glaw llinol yn ehangder gwreiddiol y pyllau coed blaenorol. Ni ddylai dyluniadau effeithio ar sefydlogrwydd y wal na sgrinio golygfeydd o’r ased treftadaeth. Byddai blodau lluosflwydd, llwyni bach a rhywogaethau coed i gyd yn darparu coridor peillwyr deniadol a chyfoethog. Dylid cynnal adolygiad o blanhigion eraill ar hyd Rhodfa’r De a Rhodfa St Florence hefyd i greu cynllun ar gyfer adnewyddu plannu llwyni.

 

TEN4 – Hyrwyddo gwyrddu’r Stryd Fawr a St Julian’s Street

12.52 Archwilio opsiynau i ad-drefnu’r gyffordd rhwng y Stryd Fawr, Stryd yr Eglwys a St Julian’s Street i adennill rhywfaint o ddarpariaeth parcio ar gyfer plannu coed a llwyni. Ar hyn o bryd, mae’r lle wedi’i led-bedestreiddio yn anniben â dodrefn stryd, gan gynnwys nifer fawr o folardiau, meinciau ac arwyddion. Ceir cyfle i gael gwared ar rai mannau parcio (gan gadw mannau i’r anabl, ar gyfer llwytho a mannau 20 munud) ar St Julian’s Street er mwyn cyflwyno parciau bach, cafnau plannu uwch, lle ychwanegol i gaffis a mannau eistedd cymdeithasol.

 

TEN5 – Cyflwyno llwybr cerdded cylchol i Dŷ Scotsborough

12.53 Heneb Gofrestredig yw adfeilion Tŷ Scotsborough o’r 17eg ganrif ac mae’n eistedd o fewn ardal o goetir hynafol tawel i’r gorllewin o Ddinbych-y-pysgod. Mae hawl tramwy cyhoeddus presennol yn cysylltu Dinbych-y-pysgod â’r ased treftadaeth hwn o Scotsborough View a Serpentine Road. Ceir cyfle i ddynodi llwybrau’n well yn ogystal â chreu cyswllt hawl tramwy cyhoeddus hamdden rhwng y ddau lwybr troed sy’n rhedeg yn gyfochrog â’r dyffrynnoedd nant coediog.

 

TEN6 – Gwella gerddi Battery Gardens i beillwyr

12.54 Ar hyn o bryd mae Battery Gardens yn darparu nifer werthfawr o blanhigion blodeuol sy’n denu peillwyr. Fodd bynnag, byddai hyn yn cael ei wella ymhellach drwy dynnu rhai rhywogaethau addurnol a gosod yn eu lle blanhigion brodorol sy’n denu peillwyr a chyflwyno dôl blodau gwyllt ar gyrion y parc lle mae lleiniau o laswelltir amwynder yn bresennol.

 

TEN7 – Annog planhigion blodeuog sy’n denu peillwyr i sefydlu yng Ngerddi Jiwbilî

12.55 Ar hyn o bryd mae’r parc chwarae a’r parc sgrialu yng Ngerddi Jiwbilî wedi’u ffinio gan ymylon glaswelltog serth neu wynebau creigiog. Byddai torri gwair yn llai aml yn y lleoliadau hyn ac ychwanegu planhigion plwg sy’n goddef halen yn gwella atyniad y parc, heb gyfaddawdu ei swyddogaeth hamdden. Byddai hyn hefyd yn darparu cysylltedd pwysig i beillwyr.

 

TEN8 – Cynyddu bioamrywiaeth yn Eglwys y Santes Fair

12.56 Mae Eglwys y Santes Fair yn darparu nifer o gyfleoedd i ddarparu cynefin peillwyr ychwanegol yng nghanol hen dref Dinbych-y-pysgod. Ceir cyfle i wirfoddolwyr / grwpiau lleol helpu gyda’r gwaith o blannu blodau, creu pentyrrau coed marw a chloddiau pridd. Mae eglwysi yn aml yn rhoi cyfle i holl gylchoedd bywyd peillwyr ac er bod y lle yng nghanol Dinbych y Pysgod, mae’n elwa ar gyn lleied â phosibl o aflonyddwch.

 

TEN9 – Cyflwyno planhigion brodorol ar hyd y Promenâd

12.57 Ar hyn o bryd mae pocedi o blanhigion addurnol yn bodoli yn y Promenâd, yn benodol yng ngerddi Atlantic Beach. Dylid gwella hyn i gynnwys mwy o rywogaethau blodeuol brodorol. Mae lleoliad cafnau plannu ychwanegol yng nghanol y dref yn cynnig cyfle i ddarparu cynefin peillwyr mwy addas. Byddai gwelliannau ar hyd y Promenâd hefyd yn ategu mentrau tebyg sy’n digwydd ar hyd hen Fur y Dref.

 

TEN10 – Darparu hafan i beillwyr yng Nghastell Dinbych-y-pysgod

12.58 Drwy gydweithio â Thimau Cynnal a Chadw Amwynderau Cyngor Sir Penfro (CSP), dylid estyn dolydd blodau gwyllt a chloddiau pridd ar gyfer peillwyr yn Castle Hill a Chastell Dinbych-y-pysgod i wella’r ddarpariaeth o gynefin peillwyr. Dylid cadw llinellau gweld yn y lleoliad hwn ar gyfer gwyliadwriaeth anffurfiol.

 

TEN11 – Gwella a hyrwyddo Golygfa Allen

12.59 Gan weithio gyda Chymdeithas Ddinesig Dinbych-y-pysgod, cyflwyno arferion rheoli sy’n amrywiaethu’r fflora daear coetir yn y safbwynt bryngaer coediog hwn. Ystyried dynodi llwybrau i hyrwyddo’r man cyhoeddus o Lwybr Arfordir Penfro a chefnogi cynigion ehangach i ddarparu cysylltiad teithio llesol o The Croft i faes parcio Traeth y Gogledd.

 

TEN12 – Cryfhau cysylltiadau gwyrdd strategol ar y tir rhwng Ystâd Ddiwydiannol Salterns ac Afon Rhydeg

12.60 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

TEN13 – Hyrwyddo mecanweithiau teithio llesol a llwybrau diogel i ysgolion

12.61 Archwilio’r cyfle i ddefnyddio rhaglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru a chyllid Teithio Llesol i gyflwyno ymyriadau gwyrddu fel rhan o gynlluniau teithio llesol yn y dref, yn arbennig ar hyd Heywood Lane.

 

TEN14 – Gwella dynodi llwybrau ac arwyneb NCN

12.62 Archwilio’r cyfle i osod arwyneb newydd ar lwybr 4 NCN wrth iddo fynd heibio i Fynwent Dinbych-y-pysgod i gynyddu hygyrchedd y llwybr i feicwyr. Gorwedda’r llwybr yn agos i safle’r datblygiad arfaethedig ym Mryn Hir a byddai’n darparu cyswllt teithio llesol allweddol â chanol y dref. Dylid hefyd dynodi llwybrau’n wel rhwng canol y dref, Bryn Hir a’r parc gwyliau yn New Hedges. Dylai cynigion eraill ystyried gosod llwybr teithio llesol sy’n cysylltu Slippery Back gyda Maes Parcio Traeth y Gogledd ac ymlaen tuag at Ddinbych-y-pysgod drwy The Croft.

 

TEN15 – Creu clawdd peillwyr yn Ysgol Greenhill

12.63 Gweithio mewn partneriaeth ag Ysgol Greenhill i archwilio cyfleoedd ar gyfer clawdd peillwyr i’r de o’r prif gampws sy’n ffinio â Marsh Road. Mae defnyddio’r ardal i’r gorllewin o’r llwybr troed presennol yn cynnig cyfle i greu ardal nas aflonyddir arni ar gyfer sefydlu dôl blodau gwyllt. Ceir cyfle hefyd i blannu coed ffiniol ychwanegol ar hyd Heywood Lane yng ngogledd y campws. Byddai hyn yn ategu’r coed aeddfed presennol o fewn y caeau chwarae.

 

TEN16 – Cyflenwi lle tyfu yn Ysgol Gynradd Teilo Sant

12.64 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

TEN17 – Cyflwyno plannu coed mewn ardaloedd preswyl

12.65 Gweithio gyda chymunedau i adnabod ardaloedd o laswellt amwynder o fewn ardaloedd preswyl sy’n addas i blannu coed. Annog perchnogaeth gymunedol ar y coed hyn i sicrhau eu sefydliad hirdymor e.e. dyfrio, llacio polion a thaenu gwellt. Er mwyn gwella’r ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol, dylai trigolion fod yn rhan o’r broses o ddewis rhywogaethau a phlannu. Ymhlith y strydoedd addas mae Heywood Court, Rosemount Gardens, Newell Hill, The Gleve, Churchill Close a Tudor Way.

 

TEN18 – Hyrwyddo gwyrddu trefol llwybrau allweddol

12.66 Cefnogi defnyddio egwyddorion dylunio cydymdeimladol i gyflwyno mesurau gwyrddu trefol o fewn mannau caeth, megis o amgylch Eglwys y Santes Fair ac Upper Frog Street. Yn ogystal, archwilio’r cyfle i gryfhau cysylltiadau gwyrdd strategol allweddol, gan gynnwys y llwybr teithio llesol arfaethedig o Benalun i mewn i Ddinbych-y-pysgod.

 

TEN19 – Cyflwyno pwll, gwalau a seilwaith Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) ger y Corsydd

12.67 Mae’r ardal hon â risg uchel o lifogydd ac mae wedi dioddef llifogydd mawr yn y gorffennol. Byddai creu cyfres o byllau a gwalau yn yr ardal yn helpu i wella bioamrywiaeth yn ogystal â gweithredu i gadw gormodedd llifddwr efallai yn ystod digwyddiadau ymchwydd.

 

TEN20 – Creu ardaloedd gwlyptir ger Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Dinbych-y-pysgod

12.68 Mae Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Dinbych-y-pysgod yn rheoli dŵr gwastraff o Ddinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar hyn o bryd. Byddai creu gwlyptir ar dir gerllaw’r gwaith yn fodd o storio llifddwr a lleihau risg llifogydd i lawr yr afon. Byddai’r cynefin gwlyptir yn gweithredu fel clustogfa ar gyfer gollyngfa garthion mewn cyfnodau o gyfaint uchel ac yn cynorthwyo stripio maetholion. Byddai’r ymyriad hefyd yn helpu i leddfu rhyddhau llwythau maethol ymhellach i lawr yr afon.

TEN21 – Ailgysylltu’r gorlifdir a’r amgylchedd torlannol ar lannau afonydd

12.69 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

TEN22 – Hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol yn Ninbych-y-pysgod

12.70 Ceir cyfle i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i ddewis safle priodol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth rhandiroedd o fewn y dref. Dylai’r ymyriad annog perchnogion lleiniau i ddefnyddio llai o blaladdwyr a chwynladdwyr, gan ddewis yn hytrach gweithio’r tir yn organig. Dylid edrych hefyd ar gyfleoedd plannu coed a pherllannau ychwanegol. Os oes modd, dylid gadael ymylon plannu heb eu torri, gosod toeau byw ar siediau ac ychwanegu bwydwyr adar i ddenu bywyd gwyllt.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Tyddewi

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan