Aberdaugleddau

Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Aberdaugleddau

Prosiectau Cicdanio

Rhestr Hir o Brosiectau

 

Aberdaugleddau

 

Ffigur 4.1: Aberdaugleddau

 

Portread o Seilwaith Gwyrdd Aberdaugleddau

 

4.1 Tref ddiwydiannol hanesyddol yn ne Sir Benfro yw Aberdaugleddau. Mae’r anheddiad ar lan ogleddol Aberdaugleddau, un o’r porthladdoedd naturiol dyfnaf yn y byd ac sy’n rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Sir Benfro. Mae darnau sylweddol o arfordir yr aber hefyd wedi’u dynodi o dan Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Porthladd morfila oedd yno’n wreiddiol, ond mae Aberdaugleddau a’r aber ehangach wedi datblygu ers hynny’n ganolfan forgludiant o bwys cenedlaethol ar gyfer olew a nwy, gyda seilwaith mawr i’r gorllewin, i’r gogledd, ac i’r dwyrain o ffiniau’r dref. Yn sgil twf y diwydiant olew a nwy yn yr 20fed ganrif, cafwyd datblygiadau tai modern, sydd bellach yn meddiannu’r clogwyni i’r gogledd a’r gorllewin o ganol yr hen dref. Mae gan lawer o’r treflun olygfeydd ar draws y ddyfrffordd, gyda chyrn simnai o’r burfa olew yn torri’r nenlinell ar y lan ddeheuol.

4.2 Dwy gilfach lanw yw Hubberston Pill a Castle Pill sy’n ymledu o Scotch Bay ac sydd o boptu i ganol y dref. Mae coridorau o fannau gwyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn ymestyn ar hyd yr arfordir ac yn dilyn y cyrsiau dŵr hyn tua’r tir. Gosodir Castle Pill, i’r dwyrain o ganol y dref, o fewn dyffryn nant droellog ac mae’n cysylltu â Deadman’s Lake yn y gogledd. Mae Hubberston Pill a’i ddyffryn coediog yn rhannu canol y dref oddi wrth y datblygiad preswyl modern i’r gorllewin. Mae coetir trwchus, a rhywfaint ohono’n hynafol, a llwybrau beicio a cherdded ar hyd y cyrsiau dŵr yn rhoi cyfleoedd am gysylltedd rhwng yr arfordir a’r cefn gwlad o’i amgylch ar gyfer pobl a bywyd gwyllt. Daw Llwybr Arfordir Penfro heibio ar hyd yr arfordir a thrwy rannau o’r dref, cyn cael ei ddargyfeirio i fyny i Bont Ddu yn Castle Pill.

4.3 Y tu hwnt i’r mannau gwyrdd ar hyd y dŵr, ceir mannau agored cyhoeddus mwy o faint ledled y dref, a’r rheini’n bennaf mewn ardaloedd preswyl. Yn gyffredinol, mae’r rhwydwaith o fannau agored yn cynnwys caeau chwarae a defnyddiau hamdden eraill ond mae wedi’i ddatgysylltu braidd oddi wrth y rhwydwaith o hawliau tramwy cyhoeddus.

 

Ffigur 4.2: Cyfleoedd SG yn Aberdaugleddau


Yn ôl i’r top

 

Prosiectau Cicdanio

 

MIL2 – Ehangu’r rhwydwaith o ddolydd blodau gwyllt ar y Rath

4.4 Trawsnewidiwyd y man gwyrdd sy’n ffurfio tir blaen y Rath yn ddôl blodau gwyllt ar ôl llacio’r drefn torri gwair yn rhan o ‘Dim Torri Gwair ym Mis Mai’. Dangosodd yr ymyriad hwn yr hyn y gellid ei gyflawni drwy waith cynnal a chadw wedi’i dargedu.

4.5 Gan fod yr ardal hon yn cael ei nodweddu gan arglawdd llethrog, mae llawer o’r tir yn raddiant anaddas ar gyfer hamdden ac mae llwybrau palmant a meinciau wedi’u darparu i bobl gerdded a gorffwys. Prin yw’r swyddogaeth a ddarperir felly gan lawer o’r ardal hon, ac mae’n cynnig y cyfle i gael ei gwella er budd bioamrywiaeth.

4.6 Byddai parhau â’r arferion torri gwair hyn i ymyl lethrog y Rath yn darparu cynefin peillwyr y mae mawr ei angen yng nghanol y dref. Er mwyn cynyddu amrywiaeth rhywogaethau, dylid hau hadau blodau gwyllt brodorol, neu osod tyweirch blodau gwyllt. Dylid hefyd ystyried mecanweithiau i leihau ffrwythlondeb uwchbridd er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd blodau gwyllt yn sefydlu. Dylid archwilio’r defnydd o rywogaethau blodau gwyllt sy’n goddef halen oherwydd agosrwydd y safle i’r arfordir.

4.7 Gall arwyddion chwarae rhan bwysig wrth gyfleu i’r cyhoedd pam mae’r ddôl flodau gwyllt yn cael ei sefydlu. Gall hyn helpu i oresgyn canfyddiadau o ‘annibendod’ drwy gyfleu bod yr ardal yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer natur.

4.8 Ar y llethrau isaf, byddai’n briodol plannu coed ychwanegol ar raddfa fach. Fodd bynnag, dylid cadw golygfeydd ar draws Aberdaugleddau.

 

Ffigur 4.3: MIL2

 

Buddion y prosiect

4.9 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 4.4 isod, mae:

  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Gwella iechyd a lles

 

Ffigur 4.4: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

4.10 Dylid cynnwys toriadau blynyddol o ddôl blodau gwyllt yn rhaglen waith Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd Cyngor Sir Penfro (CSP).

4.11 Dylid cyflenwi dolydd blodau gwyllt a’r berllan gymunedol yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr.

4.12 Efallai y bydd gofyn lleihau ffrwythlondeb pridd er mwyn hyrwyddo sefydlu dolydd blodau gwyllt yn llwyddiannus. Gellid cyflawni hyn drwy dynnu’r 5-10 cm uchaf o bridd yn yr ardal lle byddai’r ddôl wlyb yn cael ei chreu. Yr hydref yw’r amser gorau posibl i hau hadau blodau gwyllt i ddarparu’r arddangosfa gynharaf o flodau gwyllt y flwyddyn ganlynol. Fodd bynnag, gellir plannu hadau blodau gwyllt drwy gydol y flwyddyn a byddent yn dechrau blodeuo ar ôl tua 60-80 diwrnod.

 

Partneriaid posibl
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Cyngor Tref Aberdaugleddau
  • Partneriaeth Natur Sir Benfro
  • Grŵp Dolydd Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

4.13 Fel y’i disgrifiwyd yn adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr, gall dolydd blodau gwyllt mewn gwirionedd arbed arian drwy lai o dorri gwair. Gall buddsoddi mewn peiriant torri a chasglu hefyd helpu arbedion cyffredinol ar gostau llafur o gasglu toriadau. Mae cost hadau blodau gwyllt yn debygol o fod yn isel, ond byddai’r ffigur hwn yn uwch pe byddai planhigion plwg neu dyweirch blodau gwyllt yn cael eu defnyddio yn hytrach.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = < 1 flwyddyn

4.14 Gan ddibynnu ar ffrwythlondeb pridd ac a ydy blodau gwyllt yn cael eu hau ar ôl yr Hydref, gall fod yn wir nad yw’r hadau’n blodeuo tan ar ôl eu tymor gaeaf cyntaf.

 

Cyfyngiadau posibl

4.15 Dylid ystyried sut i gasglu’r toriadau a’u gwaredu o’r ddôl flodau gwyllt er mwyn atal cyfoethogi’r pridd. Y ffordd fwyaf effeithlon o wneud hynny yw defnyddio peiriant torri a chasglu gwair ond mae angen buddsoddiad cyfalaf ar hyn. Fel arall, dylid casglu sgil-gynhyrchion yn gyntaf yn rhesi sydd wedyn yn cael eu casglu’n bentyrrau unigol. Gall hyn fod yn llafurddwys.

4.16 Gall fod canfyddiad bod dolydd blodau gwyllt yn anniben neu’n flêr, yn enwedig cyn ac ar ôl i flodau flodeuo. Gallai hynny arwain at gwynion gan y cyhoedd. Gall arwyddion i gyfleu buddion tyfu dolydd blodau gwyllt helpu i gynyddu dealltwriaeth ac addysg ynghylch pwysigrwydd peillwyr.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

4.17 Mae angen torri a chodi dôl blodau gwyllt ar ddiwedd y tymor. Fel arfer ym mis Medi y mae hyn yn digwydd. Yn ddelfrydol, dylid gadael y sgil-gynhyrchion am saith diwrnod i daflu hadau cyn cael eu gwared. Efallai y bydd angen torri a chodi eildro tua dechrau’r gwanwyn i gael gwared ar dyfiant y gaeaf. Mae angen gofal wrth dorri gwair oherwydd gall fod mamaliaid bychain, amffibiaid ac ymlusgiaid fod yn cuddio yn y glaswellt. Mae rhai adar yn nythu mewn dolydd mwy o faint, felly ni ddylid torri gwair tan ar ôl dechrau mis Awst. Dylid rheoli rhywogaethau trech fel danadl poethion a dail tafol drwy bladurio neu hofio detholus.

4.18 Dylid osgoi defnyddio gwrtaith, plaladdwyr a phryfleiddiaid.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

4.19 Dylai monitro gyd-fynd â chynlluniau cenedlaethol. Mae Cynllun Monitro Peillwyr y DU yn cynnal Cyfrifiadau Blodau-Pryfed wedi’u Hamseru (Cyfrifiadau FIT). Mae hyn yn golygu cyfrif y pryfed sy’n ymweld ag un o flodau targed y 14 rhywogaeth o flodau o fewn llain sgwâr 50cm wrth 50cm am 10 munud. Gellid annog trigolion ac ysgolion lleol i gymryd rhan yn hyn fel menter gwyddoniaeth dinasyddion. Fel arall, gellir cofnodi ‘rhywogaethau dangosydd’ planhigion o fewn sgwâr 1km i fonitro amrywiaeth rhywogaethau.

 

Camau nesaf

4.20 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Peillwyr i benderfynu ar y broses ac adolygu astudiaethau achos yn ymwneud â chreu dolydd blodau gwyllt. Ymgysylltu â Thîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP i gyfleu’r drefn torri gwair arfaethedig.

 

Ffigur 4.5: Aberdaugleddau


Yn ôl i’r top

 

MIL7 – Hyrwyddo gwyrddu ystadau tai

4.21 Mae nifer o ardaloedd preswyl ac ystadau tai yn Aberdaugleddau yn cynnwys nifer o ardaloedd bychain o fannau gwyrdd sy’n hygyrch i’r cyhoedd. Yn gyffredinol, mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys glaswelltir mwynder a dorrir yn fyr sy’n cynnig ychydig iawn o werth bioamrywiaeth. Gan gydweithio â’r gymuned leol a rhanddeiliaid ehangach, dylid plannu coed, dechrau tyfu bwyd ar raddfa fach, creu dolydd blodau gwyllt a gweithredu ymyriadau cynefin eraill er mwyn gwella gwerth hamdden a bioamrywiaeth y safleoedd hyn. Dylai hyn gynnwys pentyrrau boncyffion, gwestai pryfed a blychau adar / ystlumod o fewn ystadau tai sydd ar hyn o bryd yn cynnal ystodau eang o laswelltir mwynder a dorrir yn fyr, (e.e. Marble Hall, The Mount Estate, St Lawrence, o amgylch Nelson Avenue, ac o amgylch Woodbine Way a Haven Drive).

 

Ffigur 4.6: Lleoliadau MIL7

 

Buddion y prosiect

4.22 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 4.7 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

Ffigur 4.7: Buddion

 

Mecanweithiau cyflawni

4.23 Byddai angen rhaglen gynhwysfawr o ymgysylltu â’r cyhoedd ar draws un neu ddau o safleoedd peilot ar raddfa fach i fesur awydd cymunedol ar gyfer y prosiect. Gallai hyn gynnwys digwyddiad cymunedol am ddim i hyrwyddo’r cysyniad a magu cefnogaeth y gymuned (h.y. arolwg neu debyg). Mae’n debygol y byddai angen rôl swyddog prosiect wedi’i hariannu i ddatblygu rhaglen o brosiectau treigl gan ymgysylltu â’r gymuned dros sawl blwyddyn. Gallai hyn fod yn seiliedig ar fformat tebyg i’r un a fabwysiadwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin Cymru fel rhan o’i phrosiect ‘Natur Drws Nesa’ (Agor mewn ffenest Newydd).

4.24 Byddai’n fuddiol pe bai gwaith cychwynnol i blannu coed ar raddfa fach yn cael ei wneud gan Gyngor Sir Penfro (CSP) i ddarparu enghreifftiau o’r hyn y gellid ei gyflawni a datblygu diddordeb y gymuned mewn prosiect hirdymor.

4.25 Byddai angen asesu’n unigol y safleoedd unigol a nodwyd i’w cynnwys efallai. Dylai pob safle fod yn destun arolwg o’r safle i nodi gwasanaethau presennol, addasrwydd amodau pridd / daear ac ystyriaethau gwelededd (gan gynnwys golygfeydd o anheddau preswyl ac ati).

4.26 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Partneriaid posibl
  • Y gymuned leol;
  • Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP;
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP;
  • Busnesau lleol;
  • Ysgolion lleol; a
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

4.27 Byddai’r costau’n ddibynnol ar ddefnydd y gymuned, ymgysylltu â chynigion a’r gallu i blannu coed. Byddai costau ar gyfer ymyriadau unigol o bosibl yn eithaf isel, a’r brif gost yn debygol o ddeillio o adnoddu gan y swyddog prosiect er mwyn ymgysylltu â’r gymuned. Gallai’r cynllun hefyd gynnwys darparu adnoddau (fel coed) i drigolion er mwyn gwella gerddi preifat er mwyn byd natur yn ardaloedd y prosiect.

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cyngor Sir Penfro (CSP);
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol;
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur; a’r
  • Cyngor Coed

 

Amserlen

 

Tymor canolig = 1-5 mlynedd

4.28 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith ymgysylltu â’r gymuned, plannu coed ac ymyriadau cynefinoedd dros nifer o dymhorau plannu. Byddai llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar ymgysylltu’n effeithiol â’r gymuned o fewn nifer o ardaloedd, wedi’i gyflawni drwy rôl swyddog wedi’i hariannu.

4.29 Prin y byddai’r coed a’r llystyfiant cysylltiedig yn dal a storio carbon wedyn i ddechrau, ond byddai hyn yn cynyddu o fewn y degawd nesaf wrth i’r coed aeddfedu.

 

Cyfyngiadau posibl

4.30 Oherwydd cyd-destun trefol ardaloedd prosiect posibl, byddai gwasanaethau a chyfleustodau tanddaearol / uwchben yn cyflwyno cyfyngiad sylweddol ar gyfer plannu coed. Felly, byddai angen addasu’r math hwn o ymyriad i weddu i’r cyfyngiadau lleol (h.y. canolbwyntio ardaloedd blodau gwyllt lle ceir cyfyngiadau gwasanaeth sylweddol sy’n cyfyngu ar opsiynau plannu coed). Byddai angen i unrhyw safleoedd a nodir ar gyfer tyfu bwyd ar raddfa fach fod yn destun profion pridd manylach er mwyn cadarnhau eu haddasrwydd, gan gynnwys unrhyw faterion posibl sy’n gysylltiedig â halogiad pridd.

4.31 Byddai chwiliadau tir yn ofynnol i bennu perchnogaeth tir darnau unigol o fannau gwyrdd sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r cynllun.

4.32 Byddai plannu coed yn debygol o ddigwydd ar raddfa fechan, ond dylid gofyn am gyngor ynghylch a fyddai angen unrhyw ganiatâd neu drwydded. Mae’n debygol y byddai gofyn ymgysylltu ag Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP i nodi unrhyw gyfyngiadau priffyrdd, gan gynnwys cynnal a chadw lleiniau gwelededd priodol.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

4.33 Oherwydd cyd-destun trefol ardaloedd prosiect posibl, byddai gwasanaethau a chyfleustodau tanddaearol / uwchben yn cyflwyno cyfyngiad sylweddol ar gyfer plannu coed. Felly, byddai angen addasu’r math hwn o ymyriad i weddu i’r cyfyngiadau lleol (h.y. canolbwyntio ardaloedd blodau gwyllt lle ceir cyfyngiadau gwasanaeth sylweddol sy’n cyfyngu ar opsiynau plannu coed). Byddai angen i unrhyw safleoedd a nodir ar gyfer tyfu bwyd ar raddfa fach fod yn destun profion pridd manylach er mwyn cadarnhau eu haddasrwydd, gan gynnwys unrhyw faterion posibl sy’n gysylltiedig â halogiad pridd.

4.34 Byddai chwiliadau tir yn ofynnol i bennu perchnogaeth tir darnau unigol o fannau gwyrdd sy’n cael eu hystyried fel rhan o’r cynllun.

4.35 Byddai plannu coed yn debygol o ddigwydd ar raddfa fechan, ond dylid gofyn am gyngor ynghylch a fyddai angen unrhyw ganiatâd neu drwydded. Mae’n debygol y byddai gofyn ymgysylltu ag Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP i nodi unrhyw gyfyngiadau priffyrdd, gan gynnwys cynnal a chadw lleiniau gwelededd priodol.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

4.36 Byddai llwyddiant yn cael ei fonitro drwy nifer y preswylwyr sy’n cael eu cynnwys, nifer y coed a sefydlwyd ac amrywiaeth y nodweddion cynefin a grëwyd. Byddai sefydlu grŵp cymunedol annibynnol hefyd yn arwydd o lwyddiant y prosiect.

 

Camau nesaf

4.37 Datblygu cynnig prosiect manylach i gynnwys llywodraethu prosiectau arfaethedig a rhaglen. Dylai cwmpasu opsiynau cyllido fod yn addas ar gyfer rôl swyddog prosiect, neu fel arall drwy adnabod partneriaid cyflenwi posibl.

4.38 Dylai darnau unigol o fannau gwyrdd fod yn destun arolwg ecolegol i ganfod y safleoedd sy’n fwyaf addas i’r gwahanol ymyriadau. Dylid hefyd datblygu cynlluniau ar gyfer digwyddiad ymgysylltu cymunedol cychwynnol i fesur diddordeb y gymuned / preswylwyr o fewn ardaloedd y prosiect. Dylid nodi ardaloedd ar gyfer prosiect plannu coed peilot yn dilyn ymgysylltu cychwynnol â’r gymuned hefyd.

4.39 Dylid adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau meddal a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed llwyddiannus.

Yn ôl i’r top

 

MIL16 – Cyflwyno gwyrddu strydoedd, gerddi glaw a phalmantau athraidd yn Hakin

4.40 Mae Hakin i’r gorllewin o ganol tref Aberdaugleddau, wedi’i nodweddu gan eiddo preswyl yn bennaf. Mae ardaloedd de a de-ddwyreiniol Hakin wedi dioddef o nifer o ddigwyddiadau Gorlif Storm Cyfun (lle mae elifion budr yn cael eu rhyddhau i afonydd am fod mwy na chapasiti’r seilwaith).

4.41 Nodweddir yr ardal gan ymylon glaswelltog mawr sy’n cynnig cyfle i blannu coed o fewn yr ystâd feddal. Byddai cyflwyno palmentydd athraidd, gerddi glaw a phlannu coed yn yr ardal hon yn helpu i arafu dŵr ffo wyneb, gan helpu i leihau risg bosibl llifogydd dŵr wyneb a lleihau’r mewnbwn afonol i’r system garthffosiaeth ar adegau o law mawr. Mae hyn yn ychwanegol at gyfraniad cadarnhaol yr ymyriadau hyn at gymeriad treflun.

4.42 Gan weithio gyda’r gymuned leol, dylid nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed stryd. Mae Harbour Way yn cynnig y potensial i blannu coed, a hynny efallai ar y cyd â gerddi glaw llinol a pharciau bach cymunedol. Ar hyn o bryd, nid oes gorchudd coed o gwbl yn yr ardal chwarae yn Glebelands Road a byddai hefyd yn darged posibl ar gyfer ymyriad.

4.43 Drwy weithio gyda thrigolion lleol i adnabod lleoliadau a dewis rhywogaethau sy’n cael eu ffafrio, hyrwyddir perchnogaeth gymunedol ar y coed. Ar ben hynny, dylid ystyried gweithredu rhaglen ailgyflenwi coed i fynd i’r afael â’r stoc goed sy’n lleihau yn y dref. Ar hyn o bryd mae’r gorchudd canopi yn Aberdaugleddau ychydig o dan 10%.

 

Ffigur 4.8: Prosiect MIL16

 

Buddion y prosiect

4.44 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 4.9 isod, mae:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Mannau ar gyfer bywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Oeri trefol
  • Gwella iechyd a lles
  • Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd.

 

Ffigur 4.9: Buddion

 

Darparu atebion seiliedig ar natur a gwasanaethau ecosystemau

4.45 Byddai gweithredu gerddi glaw, plannu coed a gosod palmantau athraidd o fewn yr ardaloedd hyn yn gwella cymeriad y treflun ac yn cyflwyno dull cynaliadwy o ymdrin â dŵr glaw ffo.

4.46 Mae ymyriadau SDC yn dynwared draeniad ym myd natur lle mae gwlybaniaeth yn cael ei hamsugno i’r ddaear, wedi’i harafu gan lystyfiant. Felly mae maint ac ansawdd y dŵr sy’n cyrraedd cyrsiau dŵr lleol yn y pen draw yn cael eu gwella, gan helpu i liniaru llifogydd a lleihau gorlifoedd storm cyfun. Mae rheoli dŵr yn gynaliadwy mewn ardaloedd trefol hefyd yn sicrhau bod trefi yn fwy gwydn rhag pwysau newid hinsawdd a thwf yn y boblogaeth.

 

Mecanweithiau cyflawni

4.47 Dylid cynnal astudiaeth gychwynnol i nodi lle mae’r topograffi, y strydlun ac amodau rhwydwaith carthffosydd storm yn cyfuno i arwain at yr ymyriadau mwyaf effeithiol y gellir eu cyflawni. Dylai’r gymuned leol hefyd allu cyflwyno ceisiadau am ardd law a phlannu coed. Os yw’r lleoliad yn briodol a bod cyllid ar gael, dylid ychwanegu’r goeden at y rhaglen blannu flynyddol.

4.48 Dylid sefydlu rhaglen blannu flynyddol er mwyn cynllunio, darparu a rheoli’n llwyddiannus y gwaith o blannu coed newydd, gosod gerddi glaw ac ardaloedd o balmantau athraidd. Mae angen digon o gynllunio cyn y tymor plannu gwreiddiau moel (mis Hydref i fis Mawrth fan pellaf) i sicrhau bod archwiliadau daear / profion pridd yn cael eu cwblhau.

4.49 Dylid darparu coed yn unol ag adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol.

4.50 Dylai pyllau coed, gerddi glaw a nodweddion newydd eraill gael eu gosod a’u cynllunio fel eu bod yn gallu derbyn llwybrau llif trostir, gan ddargyfeirio llifoedd a fyddai fel arall yn mynd i rigolau storm a’r rhwydwaith carthffosydd ehangach.

 

Partneriaid posibl
  • Y gymuned Leol
  • Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir Penfro (CSP)
  • Tîm Cynnal a Chadw Amwynderau / Gofal Stryd CSP
  • Busnesau lleol
  • Wardeniaid Coed Sir Benfro
  • Dŵr Cymru
  • Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA)

 

Cost amlinellol

 

Cost isel = <£250k

4.51 Mae pris yn gallu newid gan ddibynnu ar nifer y coed a blannwyd / gerddi glaw a grëwyd / ardaloedd palmant athraidd a osodwyd. Fodd bynnag, dylid defnyddio amcangyfrif bras o ~£10,000 i sefydlu coeden o fewn ardal o dirlunio caled.

4.52 Byddai’r costau’n cynnwys rhywfaint o gyngor arbenigol cyfyngedig gan gynnwys chwiliadau cyfleustodau, ymgynghori â rhanddeiliaid a chostau plannu / cynnal a chadw.

4.53 Byddai atebion adeiladu / mwy heriol yn dechnegol fel palmantau athraidd a rhyng-gipio ac ailgyfeirio carthffosydd dŵr wyneb presennol yn ddrutach (Cost Ganolig £250k – £1m).

 

Cyfleoedd ariannu posibl
  • Cyfraniadau datblygwyr
  • CSP
  • Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
  • Rhaglen Grant Cymunedau Cydnerth
  • Cronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur
  • Y Cyngor Coed
  • Cronfa Rhwydweithiau Natur
  • Cronfa Trawsnewid Trefi
  • Grantiau CNC
  • Dŵr Cymru

 

Amserlen

 

Cam cyflym ymlaen = <1 flwyddyn

4.54 Dylid plannu coed a chreu gerddi glaw mewn ambell leoliad allweddol yn y tymor plannu nesaf.

 

Tymor canolig = <1-5 mlynedd

4.55 Dylid gwneud mwyafrif y gwaith plannu coed, creu gerddi glaw ac agweddau palmantau athraidd ar draws y pum tymor plannu nesaf er mwyn caniatáu ar gyfer digon o gynllunio ac ymgysylltu. Dylid gosod palmantau athraidd lle mae’r cyfleoedd i blannu coed a gosod gerddi glaw yn brin. Rhagwelir hefyd y bydd cyfleoedd i ryng-gipio ac ailgyfeirio llifoedd dŵr wyneb mewn carthffosydd yn mynnu llinell amser tymor canolig o 1 – 5 mlynedd.

 

Cyfyngiadau posibl

4.56 Mae cryn nifer o randdeiliaid posib i ymgysylltu â nhw ar gyfer y prosiect hwn, gyda gwahanol ddeiliaid tir a’r broses ymgysylltu yn hanfodol i lwyddiant y cynllun. Rhaid cynnwys Adran Priffyrdd a Thrafnidiaeth CSP a SWTRA yn y prosiect.

4.57 Tirwedd galed yw mwyafrif yr arwynebau o fewn ardal y prosiect posibl. Mae’n ddrutach cloddio pyllau coed o fewn tirweddau caled nag o fewn tirweddau meddal. Felly, rhaid i waith plannu coed newydd sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng cost, lle a swyddogaeth / dyluniad a ddymunir. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd llai o goed gyda mwy o gyfaint gwreiddio yn briodol.

4.58 O fewn yr amgylchedd trefol rhaid ystyried y potensial i amrywiaeth o wasanaethau a chyfleustodau fod o fewn mannau plannu posibl a bod angen osgoi’r rhain wrth gyfrif am blannu coed. Fel arfer mae angen dyfnderoedd basach o osodiadau ar erddi glaw ac felly byddent yn llai tebygol o wrthdaro â gwasanaethau. Efallai bod potensial i blannu gerddi glaw yn lle plannu coed mewn ardaloedd y nodwyd bod gwasanaethau’n debygol iawn o fod yno.

4.59 Wrth blannu coed newydd rhaid hefyd cynnal fistâu allweddol. Felly, dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd â CSP.

 

Cynnal a chadw a stiwardiaeth

4.60 Sefydlu gweithgor o breswylwyr neu bartneriaid masnachol ochr yn ochr ag Adran Gofal Stryd a Phriffyrdd CSP i gymryd perchnogaeth ar y gwaith plannu coed newydd. Gallai diwrnod hyfforddi roi’r offer a’r wybodaeth i’r gymuned i gynnal coed newydd yn llwyddiannus nes eu sefydlu, gan gynnwys dyfrio a chadw llygad ar bolion coed.

4.61 Byddai angen dyfrio a gofal sefydlu ar gyfer y cyfnod sefydlu 60 mis er mwyn sicrhau y gall y coed ddod yn annibynnol yn y dirwedd.

4.62 Byddai angen i ardaloedd palmantau athraidd gael eu mabwysiadu naill ai gan CSP neu gan y tirfeddiannwr perthnasol.

 

Monitro ar gyfer llwyddiant

4.63 Yn amodol ar argaeledd cyllid, dylid monitro llwyddiant y prosiect ar y cyd â data gan Dŵr Cymru o ran gallu carthffosydd a lleihau digwyddiadau gorlif storm cyfun.

4.64 Defnyddio’r gweithgor preswylwyr i fonitro sefydliad llwyddiannus coed a gerddi stryd newydd. Sefydlu sianel gyfathrebu ar gyfer adrodd am unrhyw faterion neu fethiannau.

 

Camau nesaf

4.65 Cynnal arolwg dichonoldeb o ardal Hakin, i benderfynu ar y lleoedd gorau i osod coed, pyllau coed a gerddi glaw newydd i dderbyn llif o ardaloedd llawr caled ac felly helpu i ddargyfeirio dŵr i ffwrdd o’r rhwydwaith carthffosydd storm.

4.66 Nodi deiliaid tir a phartneriaid masnachol ar unwaith ac ymgysylltu â rhanddeiliaid posibl, gan gynnwys SWTRA ac adrannau priodol CSP.

4.67 Adolygu adran gyflawni’r Strategaeth Plannu Coed Trefol i bennu’r broses ar gyfer plannu coed o fewn tirweddau meddal a deall y cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus.

4.68 Ymgysylltu â thrigolion a grwpiau cymunedol i nodi lleoliadau ar gyfer plannu coed a dewis rhywogaethau, gan ddefnyddio’r canllaw dewis rhywogaethau o fewn y Strategaeth Plannu Coed Trefol.

Yn ôl i’r top

 

Rhestr Hir o Brosiectau

 

MIL1 – Trawsnewid y man gwyrdd y tu cefn i Ganolfan Hamdden Aberdaugleddau i fioamrywiaeth

4.69 Ar hyn o bryd, prin iawn yw swyddogaeth y tir hwn i bobl neu fywyd gwyllt. Dylid felly ceisio cyflwyno dolydd blodau gwyllt yn ogystal â chlawdd glöynnod byw ar y gefnen ganolog. Dylid ystyried hefyd yr ardal gyfagos o goetir i annog fflora daear, a’r gofyniad i waredu clymog Japan ar yr ymyl ogleddol. Gan weithio gyda Chanolfan Ieuenctid Aberdaugleddau a Chanolfan Hamdden Aberdaugleddau, dylid edrych ar gyfleoedd i gynnig mynediad sensitif i natur drwy lwybrau cadw’n heini / llwybrau ffitrwydd i ategu’r llwybr cyd-ddefnyddio presennol sy’n croesi’r ardal.

 

MIL2 – Ehangu’r rhwydwaith dolydd blodau gwyllt ar y Rath

4.70 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

MIL3 – Gwella man gwyrdd a choetir Bae Gelliswick

4.71 Gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol lleol i hyrwyddo cefnogaeth leol, hyrwyddo gwerth bioamrywiaeth y man gwyrdd o flaen Gelliswick Road a Thraeth Gelliswick drwy hau hadau dolydd blodau gwyllt sy’n goddef halen. Dylid agor y coetir cyfagos i fyny hefyd er mwyn i olau gyrraedd yr isdyfiant ac annog fflora daear amrywiol i sefydlu.

 

MIL4 – Hyrwyddo rheolaeth well ar goedwig Hubberston Pill

4.72 Creu cynllun rheoli coetiroedd i helpu i drawsnewid coedwig Hubberston Pill yn gyflwr o reoli cadarnhaol a gweithredol. Gwella’r ystod o gynefinoedd a lloches i fywyd gwyllt gan ddefnyddio teneuo i alluogi fflora’r ddaear i ffynnu. Hyrwyddo defnyddio pren marw fel cynefin hanfodol ar gyfer nythu peillwyr a datblygiad larfae. Dylid hefyd ystyried dynodi llwybrau’n well i gysylltu â Priory Inn a gweithredu cynllun gwirfoddol i fynd i’r afael â lledaeniad Jac y Neidiwr.

 

MIL5 – Rheoli coedwig Castle Pill yn well

4.73 Creu cynllun rheoli sy’n hyrwyddo arferion rheoli cadarnhaol, gan gynnwys coedlannu a gweithredu strategaeth blannu i leihau rhywogaethau goresgynnol a lliniaru effeithiau clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus). Dylid hefyd ystyried teneuo detholus i ddarparu mwy o amrywiaeth o fflora daear. Ceir cyfle i wella mynediad a dynodi llwybrau’n well, gan wneud cysylltiadau â Llwybr Arfordir Cymru a chymunedau lleol, yn ogystal â dehongli wrth strwythurau fel argae Dead Man’s Lake. Dylid cefnogi cynigion ehangach i ddarparu llwybr troed sy’n cysylltu Coombs Road â Vicary Crescent hefyd.

 

MIL6 – Cyflwyno dyfnant werdd yn cysylltu gorsaf drenau Aberdaugleddau â’r glannau

4.74 Cyflogwyd penseiri tirwedd a datblygwyd cynigion dylunio ar gyfer creu dyfnant werdd yn y man hwn. Byddai’r cysylltiad yn mynd at gefn y siopau masnachol a’r caffis oddi ar Victoria Road. Mae’r cynigion yn rhoi’r cyfle i wella coridorau teithio llesol, ochr yn ochr â darparu cynefinoedd gwell. Ceir cyfle hefyd i adolygu ymyriadau rheoli tirwedd ac adnewyddu ardaloedd o blannu addurnol ar hyd y llwybr hwn.

 

MIL7 – Hyrwyddo gwyrddu ystadau tai

4.75 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

MIL8 – Creu coridor natur Hubberston i Hakin

4.76 Ceisio cysylltu ardaloedd o goetir i’r gogledd o Hubberston tuag at aber Aberdaugleddau gan ddefnyddio mannau gwyrdd a choridorau presennol. Dylid hefyd edrych ar y potensial i blannu coed ychwanegol a sefydlu dolydd blodau gwyllt ychwanegol ar hyd Gelliswick Road, gan gynnwys y llwybr cyd-ddefnyddio presennol. Gallai mannau gwyrdd amwynder rhwng Dale Road a Rectory Avenue hefyd gynnwys nifer o goed parcdir mawr, coed perllan a phlanhigion ffiniol. Dylid adolygu ffiniau mannau gwyrdd yng nghlwb pêl-droed Hakin United ac Ysgol Gynradd Gelliswick am welliannau cynefin i ddarparu cyswllt uniongyrchol â choetir yn Fort Hubberston.

 

MIL9 – Cryfhau’r A4076 fel coridor gwyrdd

4.77 Mae’r A4076 yn borth a mynedfa allweddol i Aberdaugleddau ac mae’n cynnal darnau mawr o fan gwyrdd amwynder a lleiniau ymyl ffordd o laswellt a dorrir yn fyr. Byddai ymylon blodau gwyllt a phlannu ychwanegol, yn enwedig ar hyd darnau Steynton Road a Hamilton Terrace o’r A4076, yn gwella profiad defnyddwyr ac yn darparu coridorau gwyrdd uniongyrchol i galon Aberdaugleddau. Lle mae lle’n brinnach, dylid gosod cafnau plannu uchel gyda phlanhigion peillwyr brodorol. Dylid datblygu cynigion ar y cyd â chynlluniau i ddarparu llwybr cyd-ddefnyddio rhwng Johnston a Steynton (yn dilyn coridor yr A4076).

 

MIL10 – Gwyrddu Mackerel Quay a Chei Nelson ymhellach

4.78 Ar hyn o bryd mae Mackerel Quay yn Aberdaugleddau yn faes parcio gydag eangderau mawr o arwyneb caled. Dylid cynnwys cafnau plannu mewn mannau eistedd, mannau y tu allan i fwytai, mannau parcio beiciau a gorsafoedd gwefru beiciau trydan i ddarparu profiad mwy croesawgar a dymunol i ymwelwyr â’r harbwr, gan fanteisio ar olygfeydd eang ar draws Aberdaugleddau. Dylid hefyd estyn y gwaith plannu coed ar hyd Cei Nelson i ddarlunio llwybr rhwng yr orsaf a’r glannau.

 

MIL11 – Gwella’r Gerddi Dŵr

4.79 Cyflwyno gwelliannau pellach i waith rheoli tirwedd y Gerddi Dŵr, gan gynnwys atgyweirio’r basnau dŵr yn y dyfodol. Dylid ystyried ailgyflwyno nodweddion dŵr yn fodd o wella apêl y safle i ymwelwyr gan ddarparu buddion bioamrywiaeth.

 

MIL12 – Cyflwyno plannu ffiniol yn y cae chwarae, Pill Lane

4.80 Gwella cymeriad y safle a’r strydlun cyfagos drwy gyflwyno plannu coed ar hyd y ffensys ffiniol a darparu llwybr cyd-ddefnyddio Pill Lane. Dylid ystyried plannu coed sbesimen ar gyfer darlunio a diffinio mynedfeydd a nodweddion porth.

 

MIL13 – Gwyrddu Charles Street ymhellach

4.81 Mae Charles Street yn ffurfio stryd fasnachol wedi’i lled-bedestreiddio gyda chilfachau parcio cyfochrog ar hyd y ddwy ochr gyda rhai coed stryd sefydledig presennol. Byddai adennill rhai mannau parcio ar gyfer nodweddion gwyrddu trefol; gan gynnwys coed stryd, parciau bach, lleoedd parcio beiciau, llogi beiciau trydan, cafnau plannu i ddenu peillwyr a seddi yn creu amgylchedd cyhoeddus mwy deniadol ac uchel ei ddefnydd, gan wella cymeriad treflun yr ardal siopa allweddol hon hefyd. Dylai uchelgeisiau tymor hwy gynnwys gosod gerddi glaw llinol i liniaru dŵr yn well.

 

MIL14 – Gwella Coedwig Gelliswick

4.82 Dylai cynigion geisio gwella mynediad i’r goedwig uwchben Gelliswick a chreu llwybr cylchol sy’n defnyddio’r hawl tramwy cyhoeddus presennol. Dylid hefyd dynodi llwybrau’n well o Hubberston Drive, Traeth Gelliswick ac Ardal Chwarae Hubberston a Hakin. Byddai creu cynllun rheoli ar gyfer y coetir i adfer y safle i gyflwr rheoli cadarnhaol yn helpu i greu mosaig mwy amrywiol o gynefinoedd; gan gynnwys teneuo detholus i ganiatáu i fflora daear ffynnu yn ogystal â sefydlu cynefinoedd torlannol yng ngwaelod y dyffryn.

 

MIL15 – Cyflwyno gwyrddu strydoedd, gerddi glaw a phalmantau athraidd yn Hakin

4.83 Cyfeirier at y Prosiectau Cicdanio.

 

MIL16 – Darparu gerddi glaw a phalmantau athraidd ym Mharc Busnes Havens Head

4.84 Effeithiwyd ar Havens Head gan lifogydd yn y gorffennol, yn enwedig yn 2018, gyda nifer o ddigwyddiadau gorlif carthffos cyfun yn effeithio ar y cyffiniau hefyd. Ceir cyfle i ôl-osod ymyriadau Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) o fewn ardaloedd mawr o lawr caled er mwyn dargyfeirio dŵr storm o garthffosydd cyfun ac arafu dŵr ffo wyneb. Byddai’r mesurau hyn yn lleihau’r pwysau ar seilwaith ac yn helpu i leihau dylanwad afonol mewn cyfnod o lifogydd.

 

MIL17 – Gweithredu ymyriadau gwyrddu trefol, gerddi glaw a phalmantau athraidd yn Castle Terrace a Great North Road

4.85 Ceir cofnod bod yr ardal o Castle Terrace tuag at Coombs Road mewn perygl oherwydd llifogydd dŵr wyneb. Cofnodwyd digwyddiad Gorlif Carthffos Cyfun hefyd ar Great North Road. Nodweddir Castle Terrace, Coombs Road a Steynton Road gan ymylon ffordd glaswellt sy’n cynnig y potensial i greu gwahanol ymyriadau SDC a phlannu coed. Dylid hefyd edrych ar ddefnyddio palmantau athraidd a gerddi glaw ar lethrau, gan gynnwys maes parcio Lidl ar Great North Road. Mae cyflawni’r ymyriadau hyn yn cynnig cyfle i gysylltu â mentrau teithio llesol ehangach, gan gynnwys llwybr cyd-ddefnyddio arfaethedig ar hyd Coombs Road i Bont Ddu.

 

MIL18 – Gwella gwerth hamdden a bioamrywiaeth y Glebelands

4.86 Archwilio cyfleoedd i wella ansawdd a gwerth y ddarpariaeth hamdden yn The Dome, Glebelands. Ac eiddo preswyl yn edrych drosto, mae’r safle’n darparu gwyliadwriaeth anffurfiol gyda’r potensial ar gyfer ymyriadau gwyrddu trefol, gan gynnwys plannu coed, i feddalu’r lleoliad trefol. Dylid hefyd ystyried gwelliannau bioamrywiaeth o fewn yr ardaloedd presennol o laswellt mwynder a dorrir yn fyr.

 

MIL19 – Hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol yn Aberdaugleddau

4.87 Ceir cyfle i weithio gyda Chyngor Sir Penfro (CSP) i ddewis safle priodol er mwyn cynyddu’r ddarpariaeth rhandiroedd yn y dref. Dylai’r ymyriad annog perchnogion lleiniau i ddefnyddio llai o blaladdwyr a chwynladdwyr, gan ddewis yn hytrach gweithio’r tir yn organig. Dylid edrych hefyd ar gyfleoedd plannu coed a pherllannau ychwanegol. Os oes modd, dylid gadael ymylon plannu heb eu torri, gosod toeau byw ar siediau ac ychwanegu bwydwyr adar i ddenu bywyd gwyllt.

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol :

Hwlffordd

 

Pennod nesaf:

Arberth

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan