Cyflawni – Strategaethau Peillwyr

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Cyflawni – Strategaethau Peillwyr

Ystyriaethau rheoli a chynnal a chadw

Cyfeiriadau

 

Cyflawni – Strategaethau Peillwyr

 

8.1 Mae’r Llwybrau Peillwyr Anheddiad yn cynnwys amrywiaeth o gamau gweithredu i greu, adfer, gwella a chysylltu cynefinoedd peillwyr. Darperir ystyriaethau cynnal a chadw a rheoli ar gyfer y mathau canlynol o gynefinoedd ac ymyriadau peillwyr:

  • Dolydd blodau gwyllt a lleiniau ymyl ffordd;
  • Cafnau blodau a basgedi crog;
  • Gerddi preifat;
  • Gerddi a pherllannau cymunedol;
  • Gwrychoedd sy’n llawn o rywogaethau sy’n blodeuo a dwyn ffrwyth;
  • Cloddiau gwenyn a glöynnod byw;
  • Lagwnau pryfed hofran;
  • Fflora daear coetir; ac
  • Ymylon caeau âr.

8.2 Dylai’r broses o gyflenwi’r prosiectau allweddol a amlygwyd o fewn y llwybrau peillwyr hefyd gydredeg ag egwyddor peillwyr gyffredinol 5: ‘Sicrhau rheoli tymor hir’.

Yn ôl i’r top

 

Ystyriaethau rheoli a chynnal a chadw

 

Dolydd blodau gwyllt a lleiniau ymyl ffordd

8.3 Gall dolydd blodau gwyllt drawsnewid amgylcheddau adeiledig a mannau gwyrdd blinedig o bob lliw a llun. Mae’r cynefinoedd hyn yn addas ar gyfer: gerddi; parciau; mannau cymunedol; caeau; neu waelodion gwrychoedd a waliau cerrig. Mae lliw ac amrywiaeth blodau gwyllt yn ychwanegu diddordeb gweledol o’r gwanwyn hyd at yr haf.

8.4 Mae’r ffordd o greu dôl blodau gwyllt yn dibynnu ar yr ardal, sef a yw ardal bresennol sy’n llawn blodau yn cael ei gwella neu a yw’r ardal yn brin o rywogaethau. Y naill ffordd neu’r llall, drwy blannu neu hau amrywiaeth o flodau gwyllt sydd â gwahanol amseroedd blodeuo, gallwn helpu peillwyr i gael ystod fwy amrywiol o baill a neithdar i fwydo arnynt drwy gydol y flwyddyn.

8.5 Mae rheoli dolydd yn allweddol i gael dôl sy’n blodeuo yn y gwanwyn neu’n blodeuo yn yr haf. Bydd cael y ddau beth yn rhoi cyfleoedd ychwanegol i beillwyr fwydo am fwy o amser. Er bod dolydd blodau gwyllt yn gynefinoedd sy’n cael eu rheoli, nid oes angen llawer o waith cynnal a chadw arnynt. Mae Cyngor Sir Dorset yn arbed tua £93,000 y flwyddyn [Gweler cyfeiriad [1]] trwy dorri lleiniau ymyl ffordd gwledig dim ond pan fydd angen ac mae Cyngor Bwrdeistref Burnley yn amcangyfrif ei fod yn arbed £58,000 y flwyddyn o reoli dolydd [Gweler cyfeiriad [2]]. Amcangyfrifa Cyngor Sir Fynwy ei fod yn arbed tua £35,000 bob blwyddyn o gwtogi ar dorri gwair ymylon priffordd [Gweler cyfeiriad [3]] ac mae Rotherham yn dweud eu bod yn arbed £25,000 y flwyddyn [Gweler cyfeiriad [4]] o ostwng ffioedd torri gwair.

8.6 Wrth ddatblygu ardal blodau gwyllt, y canllaw gorau bob amser yw cael gwared ar yr holl doriadau. Mae hyn yn helpu i gadw ffrwythlondeb pridd ar leiafswm sy’n annog tyfiant blodau gwyllt. Mae gadael sgil-gynhyrchion yn ychwanegu ffrwythlondeb at y pridd ac yn annog glaswelltau grymus i dyfu sy’n drech na’r blodau gwyllt yn y storfa hadau yn y pridd. Er mwyn rheoli’n briodol, mae gofyn prynu peiriant torri a chasglu gwair unwaith.

8.7 Gall rhai gredu bod dolydd blodau gwyllt yn anniben neu wedi tyfu’n wyllt. Mae arwyddion yn bwysig er mwyn rhoi gwybod i bobl beth sy’n cael ei wneud a pham. Ar gyfer dolydd mwy o faint, mae’n aml yn syniad da torri gwair llwybrau troellog drwyddynt. Dylai’r llwybrau hyn ystyried llinellau awydd a phwyntiau o ddiddordeb ar hyd y ffordd. Gall llwybrau o’r fath helpu i annog pobl i archwilio a mwynhau’r bywyd gwyllt sydd ynddo.

 

Canllawiau pellach

 

Cafnau blodau a basgedi crog

8.8 Plannwyd rhywogaethau addurnol eisoes mewn llawer o ardaloedd yn yr amgylchfyd cyhoeddus. Nid yw dewis planhigion mwy amrywiol sy’n frodorol neu’n wydn i’r hinsawdd yn creu unrhyw waith rheoli ychwanegol ond mae’n cynyddu’r gwerth bioamrywiaeth yn fawr. Gall prynu cafnau blodau neu fasgedi crog neu greu gwelyau blodau ddarparu cost ymlaen llaw ond bydd hyn yn cael ei gydbwyso gan leoedd mwy deniadol – gan annog ymweliadau hirach, profiadau gwell, a mwy o wariant.

8.9 Wrth blannu gwrychoedd, coed a llwyni, mae’n bwysig dewis rhywogaethau brodorol, yn ddelfrydol rhywogaethau blodeuol sydd o fudd i beillwyr.

8.10 Gall cynnal a chadw basgedi a chafnau ychwanegu at y gost, ond yn aml gall y rhain gael eu noddi a gall busnesau a grwpiau cymunedol ofalu amdanynt mewn partneriaeth â’r cyngor. Mae angen eu dyfrio’n rheolaidd yn uniongyrchol i’r pridd yn hytrach na thros y planhigion/blodau eu hunain, hyd yn oed os yw’n bwrw glaw, tuag unwaith yr wythnos, a bydd hyn yn cynyddu yn ystod yr haf. Mewn rhai achosion, bydd angen defnyddio bwyd planhigion.

8.11 Mae llawer o flodau y gellir eu plannu sy’n hunanlanhau ac ni fydd angen tynnu blodau sydd wedi marw; hwn yw’r opsiwn gorau i arbed costau cynnal a chadw ychwanegol.

 

Canllawiau pellach

 

Gerddi preifat

8.12 Nid oes angen llawer o le i ddechrau gardd peillwyr. Gall erw neu ddwy neu ddim ond gardd falconi ddarparu cynefin cerrig sarn pwysig ar gyfer peillwyr a phryfed eraill. Dylid gadael rhan o’r ardd wedi’i thrin yn llai dwys ac yn fwy anffurfiol, i ddarparu safleoedd nythu addas.

8.13 Mae’r rhan fwyaf o blanhigion i’w plannu allan (h.y. fel y’u gwerthir mewn stribedi polystyren mewn canolfannau garddio a siopau DIY), planhigion blodau ‘dwbl’ [Gweler cyfeiriad [5]], a newyddbethau garddwriaethol eraill wedi’u cymysgrywio’n fawr yn llai addas ar gyfer peillwyr a dylid plannu blodau brodorol yn eu lle (gweler ‘Dewis rhywogaethau’).

8.14 Ni ddylid defnyddio plaladdwyr, chwynladdwyr na phryfladdwyr o unrhyw fath yn yr ardd peillwyr nac o’i chwmpas.

 

Canllawiau pellach

 

Gerddi a pherllannau cymunedol

8.15 Gall gerddi cymunedol ddarparu cynefin rhagorol i beillwyr ond hefyd gwasanaethu’r gymuned leol ar gyfer cyfleoedd fforio a defnydd hamdden, er enghraifft, perllannau. Maent yn fuddiol i’r amgylchedd, ac i iechyd a lles [Gweler cyfeiriad [6]] aelodau’r gymuned. Gallant leihau effaith tlodi bwyd mewn ardaloedd incwm isel a chaniatáu i drigolion gael mwy at fwyd maethlon.

8.16 Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi cynhyrchu rhestr o’r 50 o blanhigion bwytadwy gorau ar gyfer peillwyr (Agor mewn ffenest Newydd). Mae hyn yn cynnig dewis o goed ffrwythau, llysiau sy’n blodeuo a pherlysiau i’w tyfu am fwyd wrth ddenu peillwyr. Ymhlith y rhywogaethau y gellid eu plannu mae afalau, gellyg, mwyar, cyrens duon, ceirios ac eirin.

8.17 Mae gofyn rheoli dwys ar erddi cymunedol a choridorau bwytadwy i’w hatal rhag mynd yn ddiffaith a digariad. Mae hunandrefnu rhwng aelodau o’r gymuned yn cyfrannu at gynllun rheoli hirdymor da. Cynnwys gwirfoddolwyr a sicrhau parhad yw rhai o’r elfennau allweddol i sicrhau llwyddiant yr ardd.

8.18 Gall yr ardd gymunedol gynnig cyfleoedd i hyfforddi gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol mewn garddwriaeth a magu’r hyder sydd ei angen arnynt i barhau. Mae’n fuddiol creu grŵp llywio o aelodau’r gymuned ac aelodau o’r cyngor lleol i hwyluso cyfathrebu rheolaidd mewn perthynas â’r ardd neu’r coridor. Mae ymchwil gan 12 prosiect gardd gymunedol yng Ngogledd Iwerddon wedi rhoi gwybodaeth am sut i gynnal eich gardd gymunedol [Gweler cyfeiriad [7]].

8.19 Gan fod gerddi cymunedol fel arfer yn cael eu rheoli gan y gymuned leol a gwirfoddolwyr, mae hyn yn lleddfu’r pwysau ar y cyngor lleol i wario arian ar waith cynnal a chadw ychwanegol. Mae datblygu a chynnal gardd yn llai costus nag ardal o barcdir, a hynny’n rhannol am nad oes angen llawer o dir ar erddi a bod angen arnynt 80% o’u cost llafur  [Gweler cyfeiriad [8]]. Gall cynghorau lleol ddarparu daliadau tir i’r gymuned a darparu’r offer sydd eu hangen arnynt i greu gardd gymunedol lwyddiannus.

 

Canllawiau pellach ac astudiaethau achos

 

Gwrychoedd sy’n llawn o rywogaethau sy’n blodeuo a dwyn ffrwyth

8.20 Gwrychoedd yw un o’r cynefinoedd pwysicaf i fywyd gwyllt yn y DU [Gweler cyfeiriad [9]] ac os cânt eu rheoli’n gywir byddant yn cynnal amrywiaeth o beillwyr. Gall coed gwrych sy’n blodeuo fel ceirios gwyllt, helyg neu fasarn bach neu goed afalau surion sydd wedi tyfu’n rhy fawr ddarparu cynefin gwerthfawr i beillwyr. Gall coed gwrych hefyd gynnig cynefin pwysig i larfae peillwyr. Gall y dail fod yn ffynhonnell fwyd i wyfynod a glöynnod byw llysysol. Pydredd y galon a thyllau pydredd o’r awyr yw’r safleoedd bridio ar gyfer gwahanol bryfed hofran, a gall unrhyw ganghennau neu foncyffion marw yn yr haul fod yn safle bridio ar gyfer amrywiaeth o wenyn unig a gwenyn meirch, gan gynnwys y saerwenynen goch – sy’n peillio coed ffrwythau.

8.21 Mae cynefinoedd gwrych hanfodol pellach yn cynnwys cloddiau gwrych, ffosydd ac ymylon. Trwy reoli gwrychoedd i ddarparu’r nodweddion a’r rhywogaethau hyn gallwn gynnal y rhwydwaith cynefinoedd ledled Sir Benfro ar gyfer peillwyr. Mae yna lu o ganllawiau ar reoli cynefinoedd ar gael. Mae hyn yn cynnwys archwilio’r stoc bresennol o rywogaethau ac ychwanegu mwy os oes angen, torri gwrychoedd ar gylchdroadau tair i bedair blynedd a chaniatáu i ymylon gwrychoedd blodeuog ddatblygu.

 

Canllawiau pellach

 

Cloddiau gwenyn a glöynnod byw

8.22 Er mwyn creu lle Clawdd Gwenyn a Glöynnod byw, mae angen llafur a deunyddiau ymlaen llaw. Felly byddai hyn yn fwyaf addas i brosiect cymunedol, fel ysgolion neu wirfoddolwyr lleol, ond gyda chymorth gan ymddiriedolaethau bywyd gwyllt lleol neu gynghorau lleol. Ar ôl ei sefydlu, prin yw’r gwaith cynnal a chadw a chanolbwyntir ar sicrhau nad yw llystyfiant yn ymsefydlu arno, nac yn cysgodi’r ardaloedd a grëwyd.

8.23 Dylai’r rheolwyr glirio hanner y clawdd yn ôl bob blwyddyn ym mis Chwefror er mwyn lleihau aflonyddwch a chreu cynefinoedd amrywiol, neu ar sail gylchdro os oes nifer o gloddiau. Gall plannu o gwmpas ymyl y cynefin hwn neu ychwanegu nodweddion coed marw hefyd ddarparu cynefin nythu ychwanegol ar gyfer rhywogaethau eraill o beillwyr.

 

Canllawiau pellach

 

Lagwnau pryfed hofran

8.24 Mae lagwnau pryfed hofran yn ffordd gyflym a hawdd o ychwanegu cynefin bywyd gwyllt at barciau neu erddi. Gallant ddarparu gweithgaredd gwych ar gyfer grwpiau ysgol a chymunedol drwy greu lagŵn yn syml mewn boncyff coeden neu o gynwysyddion plastig a mân ddeiliach. Y lle gorau i’r rhain fydd ardaloedd cysgodol lle mae anweddiad yn is. Mae nifer o larfae pryfed hofran yn byw mewn pren sy’n pydru, gyda boncyffion gwlyb sy’n pydru yn cael eu ffafrio. Bydd cyflwyno cynefinoedd coed marw sy’n amgylchynu pyllau yn darparu noddfeydd i bryfed hofran.

8.25 Fel rheol, dylid rheoli cynefinoedd i gynnal amrywiaeth strwythurol a rhywogaethau i ddarparu ar gyfer peillwyr cyffredinol ac arbenigol trwy gydol eu cylch bywyd.

 

Canllawiau pellach

 

Fflora daear coetir

8.26 Mae ymylon sy’n wynebu’r dwyrain a’r de sy’n cael yr haul ac sy’n cynhesu gyntaf yn y bore yn ddefnyddiol i’r nifer o beillwyr sy’n fforio yn gynnar yn y dydd, ac maen nhw’n tueddu hefyd i ddarparu gwell lloches rhag y prifwyntoedd. Serch hynny, gall ymylon cysgodol sy’n wynebu’r gogledd fod yn ddefnyddiol i beillwyr yn ystod sychder neu gyfnodau poeth. Drwy reoli llennyrch rhodfeydd yn ofalus, gellir creu llennyrch sy’n dal yr haul o fore tan nos.

8.27 Wrth reoli coetiroedd, mae’n bwysig ystyried clefydau coed [Gweler cyfeiriad [10]], yn arbennig mewn llarwydd (Phytophthora ramorum) ac ynn (Clefyd coed ynn) a fu’n effeithio ar safleoedd yn y DU a’r tu hwnt. Gall canfod coed ifanc sydd wedi’u heintio yn gynnar, a’u gwaredu’n gynnar, arafu colled coed ynn a choetir. Dylai gwaith rheoli coetir ddilyn mesurau bioddiogelwch.

8.28 Mae rheoli coetir fel hyn yn cyd-fynd â Chynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (2020-2024) sydd â pholisïau ar warchod a gwella tirweddau a morluniau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys coetiroedd lled-naturiol.

 

Canllawiau pellach

 

Ymylon caeau âr

8.29 Mae ymylon caeau âr yn darparu cysylltedd amrywiaeth o gynefinoedd ledled y DU sy’n eu gwneud yn ardaloedd allweddol ar gyfer peillwyr. Gall ymylon glaswellt sy’n llawn blodau gwyllt ddenu peillwyr sy’n bwydo ar neithdar fel cacwn a phryfed hofran.

8.30 Mae gan Sir Benfro gyfran uchel o blanhigion âr prin o ganlyniad i’r amrywiaeth o swbstrad, gyda phlanhigion âr ymhlith y grwpiau o blanhigion sydd dan fygythiad mwyaf yng Nghymru. Mae llawer o’r rhywogaethau planhigion âr nodedig hyn yn ffynonellau hynod werthfawr o neithdar a phaill i nifer o rywogaethau peillwyr er enghraifft, llysiau’r-gwrid y tir âr, pabïau coch a glas yr ŷd.

8.31 Gellir creu ymylon cae grawnfwyd (Agor ffenest Newydd) sef lleiniau o dir sy’n gorwedd rhwng cnydau grawnfwyd a ffin y cae, wedi’u rheoli’n fwriadol i greu amodau sydd o fudd i beillwyr, a bywyd gwyllt arall. Mae hyn yn cynnwys creu ‘llain bywyd gwyllt’ 6m o led ger cnwd grawnfwyd, ynghyd ag 1m o ‘lain ddi-haint’ rhwng y llain bywyd gwyllt a’r cnwd. Nod y llain ddi-haint yw atal chwyn âr rhag lledaenu a lleihau mewnbynnau gan blaladdwyr.

8.32 Bydd darparu amrywiaeth o gynefinoedd yn denu rhagor o bryfed a pheillwyr, a gall cynefinoedd gynnwys gwrychoedd hynafol, cloddiau glaswelltog, coetiroedd neu gynefin lled-naturiol arall. Yn ogystal, gall ymylon caeau âr ddarparu cyfleoedd [Gweler cyfeiriad [11]] i greu cloddiau chwilod, pentiroedd cadwraeth, annog llystyfiant amrywiol, llawn blodau a chynnal cynefin olynol cynnar ac ati.

 

Canllawiau pellach

 

Dewis rhywogaethau

8.33 Mae egwyddor peillwyr gyffredinol 2a yn pwysleisio pwysigrwydd dewis planhigion brodorol. Mae cyfnewid planhigion addurnol llai defnyddiol i’w plannu allan am rywogaethau brodorol sy’n denu mwy o beillwyr yn ffordd hawdd o gynyddu cynefin peillwyr. Mae rhestr o enghreifftiau o blanhigion a argymhellir gan Ymddiriedolaeth Gwarchod y Cacwn (Agor mewn ffenest Newydd)Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) i’w gweld isod ynghyd â manylion amseroedd blodeuo a rhywogaethau maen nhw’n eu denu.

8.34 Os oes modd, dylid plannu rhywogaethau o darddiad lleol er mwyn cynnal cymeriad y dirwedd a’r treflun. Mae Menter Caru Gwenyn (Agor mewn ffenest Newydd) wedi llunio rhestr o rywogaethau sy’n frodorol i Gymru neu wedi’u cynefino yng Nghymru sy’n rhoi budd i löynnod byw, gwyfynod, gwenyn gwyllt a pheillwyr eraill. Ceir rhagor o wybodaeth am ddewis rhywogaethau ar gyfer coed yn y Strategaeth Plannu Coed Trefol.

8.35 Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am randdeiliaid i ddweud eu dweud yn Tyfu Mannau Gwyrdd Trefol (2022-2023) (Agor mewn ffenest Newydd) (2022-2023). Mae CSP yn hyrwyddo ardaloedd plannu bylbiau a blodau gwyllt, gan gynnwys plannu bylbiau brodorol, i sicrhau’r buddion mwyaf posibl i fyd natur e.e. cennin Pedr Dinbych-y-pysgod, clychau’r gog, eirlysiau, brithegion a sêr y gwanwyn.
Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Llwybrau Peillwyr ar gyfer 11 Anheddiad

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan

 

Cyfeiriadau:

 

[1] Cyngor Sir Dorset (Agor mewn ffenest Newydd)

[2] Buglife – Cefnogaeth gyhoeddus enfawr i gynghorau leihau torri gwair i achub ein gwenyn (Agor mewn ffenest Newydd)

[3] Cyngor Sir Dorset (Agor mewn ffenest Newydd).

[4] Sut mae ymylon blodau gwyllt hardd Rotherham (Agor mewn ffenest Newydd)

[5] Beth yw blodau dwbl: deall blodau gyda petalau ychwanegol (Agor mewn ffenest Newydd)

[6] Manteision cymuned tyfu, mannau gwyrdd a Addysg Awyr Agored (Agor mewn ffenest Newydd)

[7] Cynnal eich gardd gymunedol (Agor mewn ffenest Newydd)

[8] Manteision lluosog garddio cymunedol (Agor mewn ffenest Newydd)

[9] Rheoli gwrychoedd ar gyfer peillwyr (Agor mewn ffenest Newydd)

[10] Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – Rheoli Coetiroedd

[11] Ymylon caeau grawnfwyd (Agor mewn ffenest Newydd)

 

Yn ôl i’r top