Strategaethau Plannu Coed Trefol

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Cyflwyniad: Strategaethau Plannu Coed Trefol

Cydrannau Strategaeth Plannu Coed Trefol Sir Benfro

Prif fuddion coed trefol

Cyfeiriadau

 

Cyflwyniad

 

Strategaethau Plannu Coed Trefol

1.1 Mae coed a choetiroedd yn elfen hanfodol o’n hamgylchedd trefol ac yn allweddol i dwf a datblygiad cynaliadwy. Mae gan ‘goedwig drefol’ iach sy’n cael ei rheoli’n dda y potensial i gyflawni amrywiaeth o swyddogaethau amgylcheddol a dwyn buddion niferus i bobl a byd natur.

1.2 Mae strategaeth plannu coed trefol Sir Benfro yn hyrwyddo dull strategol o blannu a rheoli coed ar draws 11 anheddiad yn Sir Benfro. Bydd hyn yn sicrhau y bydd plannu ychwanegol yn dwyn y buddion mwyaf ac yn helpu i ddiogelu a gwella cymeriad unigryw aneddiadau’r sir i’r dyfodol.

1.3 Er bod yna oblygiad adnoddau ynghlwm wrth gynyddu’r coed trefol ledled Sir Benfro, mae’r buddion y gellir eu sicrhau o’r buddsoddiad cadarnhaol hwn yn niferus ac amrywiol. Mae cynyddu ‘gorchudd canopi’ coed yn flaenoriaeth i lywodraethau Cymru a’r DU ac mae’n biler canolog yn yr ymdrechion i gyrraedd allyriadau sero-net. Cynyddu gorchudd coetir yw un o egwyddorion sylfaenol cynllun gweithredu Coetiroedd i Gymru 2022 Llywodraeth Cymru (PDF) (Agor mewn ffenest Newydd):

1.4 ‘Gwneud y gorau o’r buddion cynaliadwy y gallai coedwigaeth, coetiroedd a choed eu darparu ar draws ardaloedd gwledig, amdrefol, a threfol i ddiwallu anghenion pobl a chymunedau lleol.’ (Cynllun gweithredu Coetiroedd i Gymru, Cymru 2022).

1.5 Mae lliniaru effeithiau hinsawdd sy’n newid ac addasu i’r effeithiau hyn yn themâu sy’n gysylltiedig â llawer o fuddion posibl coed.

Yn ôl i’r top

 

Cydrannau Strategaeth Plannu Coed Trefol Sir Benfro

1.6 Mae strategaeth plannu coed trefol Sir Benfro yn hyrwyddo dull strategol o blannu a rheoli coed ar draws 11 anheddiad yn Sir Benfro.

1.7 Datblygwyd strategaethau unigol i blannu coed trefol ar gyfer pob un o’r 11 anheddiad sy’n ymddangos yn y strategaeth.

 

Egwyddorion Cyffredinol

1.8 Yn sail i’r holl strategaethau anheddiad unigol mae cyfres o egwyddorion cyffredinol. Bydd yr egwyddorion cyffredinol yn llywio dyluniad a dull cyflawni pob prosiect plannu coed ar draws yr anheddiad.

 

Is-egwyddorion a Pharthau Plannu Coed ar gyfer 11 Anheddiad

1.9 Datblygwyd strategaeth ofodol ar gyfer plannu coed ym mhob anheddiad. Mae hyn yn cynnwys parthau plannu coed strategol sydd wedi’u sefydlu ar gyfer pob anheddiad. Mae gan bob parth plannu coed gyfres o is-egwyddorion cyfatebol, sy’n meithrin yr egwyddorion cyffredinol ymhellach ac yn ymhelaethu ar ble a sut y bydd angen i brosiectau plannu coed gael eu datblygu ym mhob parth.

1.10 Datblygwyd cyfres o deipoleg plannu coed. Rhoir gwybod ble y gellir defnyddio’r deipoleg blannu a’r argymhellion rhywogaethau i ddatblygu cynlluniau prosiect yn rhan o’r parthau plannu coed ar gyfer pob anheddiad.

 

Cyflawni

1.11 Darperir fframwaith a chanllawiau pellach ar gyflawni hefyd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Y camau allweddol sydd eu hangen i ddatblygu prosiectau plannu coed;
  • Trosolwg o safonau ar gyfer plannu a chynnal a chadw; ac
  • Argymhellion rhywogaethau a fframwaith ar gyfer dewis rhywogaethau.

Yn ôl i’r top

 

Prif fuddion coed trefol

1.12 Mae coed yn darparu ystod eang o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol, iechyd a lles.

1.13 Ymhlith buddion y prosiect, fel y’u darlunnir yn Ffigur 1.1 isod, mae:

  • Darparu cysgod naturiol ac oeri trefol.
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn.
  • Lleihau risg llifogydd a gwella ansawdd dŵr.
  • Gwerth esthetig ac atgyfnerthu ymdeimlad o le.
  • Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd.
  • Helpu i greu lleoedd cymdeithasol ac efallai cynyddu ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Lle i fioamrywiaeth a gwell gwytnwch.
  • Buddion economaidd a gwell profiad i ymwelwyr.

 

Ffigur 1.1: Prif fuddion coed trefol

Mae coed yn gwella ein hamgylchedd

1.14 Mae coed yn darparu cysgod naturiol ac aer oer iach.

  • Mae coed yn darparu lloches ac yn lleihau cyflymder y gwynt. Dangoswyd bod coed yn cael effaith oeri a’u bod yn cwtogi hyd at 12 gradd ar dymheredd yr arwyneb yn rhai o ddinasoedd Ewrop mewn rhai rhanbarthau. Ar y llaw arall, mae mannau gwyrdd heb goed yn cael effaith ddibwys ar dymheredd yr arwyneb. [Gweler cyfeiriad [1]] Canfuwyd bod coed yn lleihau risg morbidrwydd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwres ac yn gwella cysur thermol mewn mannau awyr agored [Gweler cyfeiriad [2]].

1.15 Mae coed yn rhyddhau’r ocsigen a anadlwn ac yn amsugno carbon deuocsid.

  • Gall coeden aeddfed storio 22 cilogram o garbon bob blwyddyn. Bydd coeden gyffredin yn cymryd tua thunnell o CO2 yn ystod ei hoes. [Gweler cyfeiriad [3]]

1.16 Mae coed yn darparu lloches a bwyd i fywyd gwyllt.

  • Gall lleiniau cysgodi, rhodfeydd a strydoedd coediog ddarparu coridorau bywyd gwyllt llinol pwysig a ddaw’n rhan o’r lleoliad trefol. Gall coed ddarparu amrywiaeth o gynefinoedd o safleoedd nythu i fwyd fel neithdar, hadau ac aeron. Gall un dderwen aeddfed gynnal dros 280 o wahanol rywogaethau o infertebratau.

1.17 Mae coed yn lleddfu effeithiau llifogydd ac yn lleihau llygredd dŵr storm.

  • Os dewisir eu safle a’u rhywogaeth yn briodol, gall coed leihau dŵr ffo daear a rhyng-gipio llygredd. Gall hyn, yn ei dro, leihau difrifoldeb llifogydd a helpu i ddiogelu ansawdd dŵr afonol a morol a bywyd dyfrol. Amcangyfrifwyd y gall cynnydd o 5% mewn gorchudd canopi coed gwtogi 2% ar ddŵr ffo [Gweler y cyfeirnod [4]]. Dangoswyd bod coed llydanddail yn rhyng-gipio tua 38% o wlybaniaeth gros, gan arafu llif y dŵr yn ystod digwyddiadau glaw. [Gweler cyfeiriad [5]]

1.18 Mae coed yn gwella cymeriad y dirwedd ac yn gallu meddalu’r amgylchedd adeiledig.

  • Mae’r holl fathau o blannu, gan gynnwys coed stryd, coed parcdir, gwrychoedd, perllannau cymunedol neu goetir, i gyd yn gallu atgyfnerthu ymdeimlad o le a darparu gwerth esthetig os cânt eu plannu yn y mannau cywir.

 

Mae coed yn dwyn buddion cymdeithasol, iechyd a lles

1.19 Mae coed yn rhyng-gipio gronynnau ac yn gwella ansawdd aer.

  • Gall coed helpu i ryng-gipio a thynnu nifer o lygryddion o’r atmosffer – gan gynnwys nitrogen ocsid, oson a gronynnau. Gall lefelau gronynnau fod hyd at 60% yn llai ar strydoedd coediog nag ar y rheini sydd heb goed.

1.20 Cysylltwyd presenoldeb coed mewn ardaloedd trefol â lefelau troseddu is.

  • Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod gan ardaloedd sydd â choed canopi uchel gyfraddau troseddu is o’u cymharu ag ardaloedd â llystyfiant is fel glaswellt wedi’i dorri [Gweler cyfeiriad [6]]. Mae mannau cyhoeddus sydd â choed hefyd yn tueddu i gael eu defnyddio mwy, a bydd llif o bobl yn cynyddu gwyliadwriaeth anffurfiol ac ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Gallai presenoldeb coed leihau lefelau troseddu gymaint â 7%. Canfu un astudiaeth, a gynhaliwyd yn UDA, fod blociau fflatiau yng nghanol coed aeddfed wedi bod yn destun 52% yn llai o droseddau a adroddwyd na’r rhai heb wyrddni [Gweler cyfeiriad [7]]. Canfu adolygiad o lenyddiaeth gan Wolf et al. [Gweler cyfeiriad [8]] fod coed yn gallu lleihau amledd gwahanol fathau o droseddau, er y gallai fod ffactorau yn dylanwadu fel maint coed, eu lleoliad a statws iechyd cyffredinol coed mewn ardal.

1.21 Mae coed yn helpu i greu mannau cymdeithasol a meithrin cynhwysiant cymdeithasol.

  • Dangosodd un astudiaeth berthynas gadarnhaol rhwng gorchudd canopi coed uwch a mwy o ‘gyfalaf cymdeithasol’, cysylltiad a chymdeithas wedi’u hunan-grybwyll ymysg unigolion. [Gweler cyfeiriad [9]]

1.22 Mae coed yn helpu i leihau llygredd sŵn.

  • Dangoswyd y gall llain gysgodi 30 metr o goed leihau lefelau sŵn ryw bump i ddeg desibel. [Gweler cyfeiriad [10]]

1.23 Gall coed ddwyn buddion economaidd.

  • Canfuwyd bod pobl sy’n ymweld ag ardaloedd busnes ar y cyfan yn barod i dalu mwy am nwyddau a gwasanaethau mewn ardaloedd wedi’u tirlunio o’u cymharu ag ardaloedd heb eu tirlunio. Gall ansawdd y tirlunio ar lwybrau dynesu at ardaloedd busnes ddylanwadu’n gadarnhaol ar ganfyddiadau ymwelwyr. [Gweler cyfeiriad [11]]  [Gweler cyfeiriad [12]]

 

Pennod nesaf:

Egwyddorion Cyffredinol

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan

 

Yn ôl i’r top

 

Cyfeiriadau

[1] Schwaab et al. (2021) The role of urban trees in reducing land surface temperatures in European cities. Nature Communications, 12, 6763

[2] Wolf et al. (2020) Urban Trees and Human Health: A scoping Review. International Journal of Environmental Research and Public Health 2020, 17, 4371

[3] Green Blue Urban. (2015) A guide to the benefits of urban trees (PDF) (Agor mewn ffenest Newydd)

[4] Coder, KD. (1996) Identified Benefits of Community Trees and Forests, University of Georgia Cooperative Extension Service – Forest Resources Publication FOR96-39

[5] Smets, V. et al. (2019) The importance of city trees for reducing net rainfall: comparing measurements and simulations. Hydrology and Earth System Sciences, 23, 3865-3884

[6] Kuo, FE and Sullivan, WC, (2001(a)), Environment and Crime in the Inner City. Does Vegetation Reduce Crime Environment and Behaviour 33(3), pp 343 – 367

[7] Green Blue Urban. (2015) A guide to the benefits of urban trees (PDF) (Agor mewn ffenest Newydd)

[8] Wolf et al. (2020) Urban Trees and Human Health: A scoping Review. International Journal of Environmental Research and Public Health 2020, 17, 4371

[9] Holtan, M.T., Dieterlen, S.L., Sullivan, W.C. (2015) Social life under cover: Tree canopy and social capital in Baltimore, Maryland. Environmental Behaviour 47, 502-525

[10] Parliamentary Office of Science & Technology (2016) Green Space and Health

[11] Wolf, K, (2000) Community Image – Roadside Settings and Public Perceptions, University of Washington College of Forest Resources, Factsheet #32

[12] Wolf, K, (2003) Public Response to the Urban Forest in Inner-City Business Districts, Journal of Arboriculture 29(3) pp 117 – 126

Yn ôl i’r top