Egwyddorion Cyffredinol

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Egwyddorion Cyffredinol

Plannu ar gyfer y tymor hir
Sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf posibl
Cynyddu amrywiaeth a gwytnwch
Y goeden gywir, y lle cywir
Creu lleoedd ‘cyfeillgar i goed’
Gwella tirwedd a gwarchod golygfeydd

 

Egwyddorion Cyffredinol

 

2.1 Mae’r adran ganlynol yn nodi ystod o egwyddorion cyffredinol a fydd yn hysbysu’r holl blannu coed o fewn yr 11 anheddiad. Cefnogir yr egwyddorion cyffredinol gan gyfres o is-egwyddorion sy’n berthnasol i bob anheddiad a pharthau plannu coed strategol. Datblygwyd y rhain i sicrhau bod pob gwaith plannu coed trefol yn y dyfodol yn helpu i wireddu’r weledigaeth a’r amcanion ar gyfer Seilwaith Gwyrdd (SG) yn Sir Benfro.

2.2 Hysbyswyd y rhain gan yr adolygiad sylfaenol ar gyfer yr astudiaeth (gan gynnwys pwysau a sbardunau ar gyfer pob anheddiad), ymweliadau safle ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid. Datblygwyd egwyddorion plannu coed trefol hefyd i sicrhau y cydredir â’r canllawiau presennol, gan gynnwys y canllawiau Coed a Choetir (canllawiau cynllunio atodol i gynllun datblygu lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – cymeradwywyd drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus) . Mae’r ddogfen hon i fod i gael ei mabwysiadu’n ffurfiol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) (yn dilyn adroddiad o ymgynghoriadau) yn 2023.

2.3 Mae’r egwyddorion cyffredinol yn cydnabod y gall coed gynnig buddion lluosog i bobl, bioamrywiaeth a’r amgylchedd ehangach. Mae coed sy’n gallu cyrraedd aeddfedrwydd llawn, a choed sydd â chanopïau mawr, yn rhoi mwy o fuddion. Er mwyn sicrhau coed iach ac aeddfed, rhaid i goed trefol newydd sy’n cael eu plannu:

  • Gael eu dewis, eu plannu a’u cynnal yn dda.
  • Cael digon o le gwreiddio gyda phridd ffrwythlon, heb ei gywasgu; a
  • Chael y lle i gyrraedd aeddfedrwydd llawn, heb ofynion tocio gormodol.

2.4 Mae’r egwyddorion cyffredinol hefyd yn cydnabod y gallai coed fod ag anfanteision o bosibl, y gellir eu hosgoi drwy gynllunio a dewis coed yn dda.

2.5 Nodir yr egwyddorion cyffredinol o dan nifer o benawdau. Rhennir y rhain rhwng y rheini sy’n ymwneud yn bennaf â chyfnod dylunio prosiect, a’r rhai sy’n ymwneud yn bennaf â chyfnod cyflawni’r prosiect.

 

Ffigur 2.1: Egwyddorion Cyffredinol ar gyfer Plannu Coed Llwyddiannus


Yn ôl i’r top

 

Plannu ar gyfer y tymor hir

 

Dylunio

1a. Dylai prosiectau plannu coed sicrhau coed aeddfed, hirhoedlog. Bydd cyfleoedd i blannu coed canopi mawr yn cael eu blaenoriaethu.

1b. Dylai dulliau plannu a dylunio pwll coeden gael eu llywio gan safonau a chanllawiau cydnabyddedig y diwydiant.

1c. Dylid ceisio’r amgylchedd gwreiddio mwyaf posibl mewn tirwedd galed er mwyn i goed gyrraedd eu haeddfedrwydd llawn.

 

Cyflawni

1d. Dylid cytuno ar drefniadau ar gyfer cynnal a chadw parhaus a’u cadarnhau cyn plannu.

1e. Dylai coed wedi cwympo gael eu disodli ar gymhareb 1:1 o leiaf. Dylid ystyried achosion colli coed, h.y. clefyd, addasrwydd rhywogaethau, lleoliad, wrth gynllunio plannu coed newydd. Yn ddelfrydol, dylid plannu coed newydd mor agos at y coed neu goeden wreiddiol â phosibl, gyda’r nod o adfer neu gynyddu gorchudd canopi ym mhob anheddiad a bro. Yn ddelfrydol, dylai coed unigol neu grwpiau o goed sy’n cael eu plannu yn lle coed sydd wedi’u tynnu neu golli fod yn goed Tal neu Dal Trwm, oni ystyrir ei bod yn fwy priodol plannu ardaloedd mwy o goetir yn lle coed a gollwyd, a sefydlir orau efallai â stoc o goed llai (h.y. coed chwip).

 

2.6 Mae Ffigur 2.2 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Ni ddylai coed ymyrryd â symudiad traffig, cerddwyr, a beicwyr.
  • Dylid ceisio’r amgylchedd gwreiddio mwyaf posibl mewn tirweddau caled er mwyn i goed gyrraedd eu haeddfedrwydd llawn.
  • Dylai’r dewis o rywogaeth gael ei hysbysu gan y maint, taldra a siâp corun a ddymunir i’r lle a nodwyd ar gyfer y goeden. Bydd hyn yn sicrhau hirhoedledd y sbesimen ac yn lleihau risg gwrthdaro â phriffyrdd, cyfleustodau ac adeiladau.
  • Dylai dulliau plannu a dylunio pwll coeden gael eu llywio gan safonau a chanllawiau cydnabyddedig y diwydiant ar gyfer amgylcheddau tirwedd feddal a chaled.
  • Dylai plannu coed hwyluso coed hirhoedlog, aeddfed. Dylid blaenoriaethu cyfleoedd i blannu canopïau mawr.
  • Bydd dewis sbesimenau corun mawr yn rhoi cysgod ychwanegol yn ystod misoedd yr haf o fewn ardaloedd cyhoeddus.

 

Ffigur 2.2: Egwyddor 1 – Plannu ar gyfer y tymor hir


Yn ôl i’r top

 

Sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf posibl

 

Dylunio

2a. Integreiddio draeniad trefol cynaliadwy (SDC) gyda phlannu coed trefol lle bo modd.

2b. Dylai dewis rhywogaeth gael ei lywio gan argaeledd dŵr tebygol (h.y. goddef sychder neu lifogydd cyfnodol).

2c. Integreiddio rhywogaethau sy’n dda am ryng-gipio llygredd a gronynnau.

2d. Blaenoriaethu rhywogaethau sy’n darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt.

2e. Gosod coed i ddarparu cysgod lle bo angen heb rwystro golau i drigolion.

 

Cyflawni

2f. Cynnwys ymarferwyr arbenigol (fel peirianwyr llifogydd / draeniad) a chydweithio i gyflawni cynlluniau effeithiol.

 

2.7 Mae Ffigur 2.3 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Coed wedi’u hymgorffori mewn systemau draenio cynaliadwy (SDC).
  • Dewis rhywogaeth i’w lywio gan argaeledd dŵr tebygol, er enghraifft goddef sychder neu lifogydd cyfnodol.
  • Lle ar gael i’r rhywogaeth sy’n cael ei phlannu dyfu a datblygu’n llawn.
  • Integreiddio rhywogaethau sy’n dda am ryng-gipio llygredd a gronynnau o’r aer.
  • Cyfeirio dŵr wyneb tuag at blannu coed a systemau draenio cynaliadwy.
  • Defnyddio rhywogaethau sy’n dda am dynnu llygredd o ddŵr ffo wyneb.
  • Defnyddio coed o fewn mannau agored i gyfrannu tuag at storio dŵr llifogydd.
  • Blaenoriaethu rhywogaethau sy’n darparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt.

 

Ffigur 2.3: Egwyddor 2 – Sicrhau’r buddion amgylcheddol mwyaf posibl


Yn ôl i’r top

 

Cynyddu amrywiaeth a gwytnwch

 

Dylunio

3a. Cynyddu amrywiaeth rhywogaethau coed ar draws pob anheddiad i ddatblygu gwytnwch i blâu, afiechyd a newid hinsawdd.

3b. Bydd rhywogaethau coed yn cael eu llywio gan ddealltwriaeth o’r stoc goed bresennol.

3c. Ni ddylid plannu coed ar gynefinoedd presennol o werth uchel, fel glaswelltiroedd blodau gwyllt lled-naturiol neu rostir lle byddai plannu yn niweidiol i ansawdd cynefin.

 

Cyflawni

3d. Dylai plannu coed newydd a rheoli coed ddilyn mesurau bioddiogelwch cadarn.

3e. Cyrchu’r stoc blannu yn lleol ac yng Nghymru.

3f. Lle bo angen, ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch safleoedd dynodedig neu gynefinoedd gwerth uchel sy’n bodoli eisoes wrth gynllunio prosiectau plannu coed.

 

2.8 Mae Ffigur 2.4 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Cyrchu’r stoc blannu yn lleol ac yng Nghymru.
  • Rhywogaethau coed i’w llywio gan ddealltwriaeth o’r stoc goed bresennol, gan gynnwys rhywogaethau o fewn mannau preifat a chyhoeddus.
  • Defnyddio detholiad amrywiol o rywogaethau i gynyddu gwytnwch i blâu, afiechyd a newid hinsawdd.
  • Ni ddylid plannu coed ar gynefinoedd presennol o werth uchel, fel glaswelltiroedd blodau gwyllt lled-naturiol neu rostir.

 

Ffigur 2.4: Egwyddor 3 – Cynyddu amrywiaeth a gwytnwch


Yn ôl i’r top

 

Y goeden gywir, y lle cywir

 

Dylunio

4a. Dylai dealltwriaeth o gyfyngiadau safle, amodau lleol a chymeriad tirwedd hysbysu’r broses o blannu coed newydd.

4b. Dylai dewis rhywogaethau anelu at gyfyngu ar yr angen am ofynion cynnal a chadw ychwanegol diangen neu ofynion tocio gormodol.

4c. Dylai dewis rhywogaethau anelu at gyfyngu ar yr angen am ofynion cynnal a chadw ychwanegol diangen neu ofynion tocio gormodol.

4d. Dylid ystyried problemau niwsans posibl o goed, gan gynnwys priodweddau alergenig, gollwng ffrwythau a’r gawod fêl.

4e. Dylid dewis safleoedd plannu a rhywogaethau coed i leihau risg difrod i seilwaith ac eiddo.

 

Cyflawni

4f. Ymgynghori’n gynnar â’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau bod cynlluniau’n cael eu deall a bod digon o gyfle i randdeiliaid gyfrannu.

 

2.9 Mae Ffigur 2.5 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Lleiniau clustogi rhwng ardaloedd preswyl a ffynonellau llygredd.
  • Coed addurnol yn nodi pyrth i ardaloedd adeiledig.
  • Perllannau cymunedol yn hawdd i breswylwyr gael atynt.
  • Coetir presennol wedi’i glustogi a’i ehangu ag amrywiaeth ehangach o rywogaethau.
  • Canopïau pigfain wedi’u defnyddio ar hyd ffyrdd.
  • Cymeriad tirwedd wedi’i wella a golygfeydd o nodweddion sy’n tynnu sylw wedi’u sgrinio.

 

Ffigur 2.5: Egwyddor 4 – Y goeden gywir, y lle cywir


Yn ôl i’r top

 

Creu lleoedd ‘cyfeillgar i goed’

 

Dylunio

5a. Sicrhau bod cynllun a dyluniad datblygiadau a seilwaith newydd yn gallu darparu ar gyfer tyfiant coed canopi aeddfed, mawr.

5b. Sicrhau nad yw plannu coed newydd yn amharu ar seilwaith. Sicrhau bod cyfleustodau newydd yn sicrhau’r lle mwyaf posibl i goed dyfu.

 

Cyflawni

5c. Sicrhau bod plannu coed newydd yn cael ei ystyried yn rhan o bob prosiect tir y cyhoedd, seilwaith a datblygu.

5d. Sicrhau bod coed yn cael eu hystyried o ddechrau’r holl brosiectau dylunio a datblygu.

5e. Cysylltu â thimau mannau gwyrdd, adrannau cynllunio a phriffyrdd i hyrwyddo plannu coed.

 

2.10 Mae Ffigur 2.6 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Gwelededd wedi’i gynnal ar gyfer diogelwch lle bo angen.
  • Mae plannu newydd yn ystyried celfi stryd presennol, er enghraifft colofnau goleuo a phwyntiau gwefru cerbydau trydan.
  • Nid yw plannu newydd yn ymyrryd â chyfleustodau ac mae’n sicrhau’r lle mwyaf posibl i goed dyfu.
  • Cysylltu â thimau priffyrdd, cynllunio a mannau gwyrdd i hyrwyddo plannu coed.
  • Lle ar gael i’r rhywogaeth sy’n cael ei phlannu dyfu a datblygu’n llawn.
  • Sicrhau bod plannu coed newydd yn cael ei ystyried ar ddechrau prosiectau tir y cyhoedd, seilwaith a datblygu.
  • Dewis coed cul, colofnaidd lle mae prinder lle.
  • Defnyddio plannu coed i reoli a meddalu lleoedd parcio ar y stryd gan gadw’r droedffordd yn glir hefyd a lleihau ymyrraeth ag adeiladau cyfagos. Bydd hyn yn caniatáu i goed gyrraedd eu llawn botensial.

 

Ffigur 2.6: Egwyddor 5 – Creu lleoedd ‘cyfeillgar i goed’


Yn ôl i’r top

 

Gwella tirwedd a gwarchod golygfeydd

 

Dylunio

6a. Sicrhau bod plannu coed yn pwysleisio nodweddion treftadaeth neu gymeriad treflun, ac nad yw’n tynnu oddi wrthynt, nac yn effeithio’n negyddol arnynt. Bydd angen rhoi digon o ystyriaeth i Adeiladau a nodweddion Rhestredig, Henebion Cofrestredig, archaeoleg, a nodweddion Rhestredig Lleol.

6b. Defnyddir coed i fframio golygfeydd a fistâu.

6c. Cynnal golygfeydd allweddol a werthfawrogir gan y gymuned neu a warchodir gan bolisi.

6d. Sicrhau bod plannu coed mewn aneddiadau sydd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP) a gerllaw yn cael ei lywio gan Ganllawiau Coed a Choetir PCAP. Mae’r canllawiau hyn yn nodi cyfleoedd ac ystyriaethau ar gyfer lleoli coed a choetiroedd newydd, wedi’u llywio gan sensitifrwydd gwahanol fathau o dirwedd o fewn PCAP.  Mae hyn o bwysigrwydd arbennig i unrhyw goetiroedd neu leiniau cysgodi y gellir eu hystyried o fewn ardaloedd amdrefol neu wledig gerllaw’r aneddiadau dan ystyriaeth yn yr astudiaeth hon. Mae’r aneddiadau sydd wedi’u cynnwys yn y strategaeth hon sydd o fewn ffin PCAP yn cynnwys:

    • Trefdraeth
    • Tyddewi
    • Saundersfoot
    • Dinbych-y-pysgod

 

Cyflawni

6e. Sicrhau bod gwelededd priodol yn cael ei gynnal ar hyd ffyrdd a throedffyrdd er mwyn diogelwch i’r dyfodol.

6f. Dylid cynllunio’r holl gynigion plannu a gwaith rheoli coed presennol sydd o fewn Ardaloedd Cadwraeth a gerllaw mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yng Nghyngor Sir Penfro (CSP).  Ymgynghorir yn gynnar â Cadw, Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed (DAT), tirfeddianwyr a deiliaid tir er mwyn deall ystyriaethau amgylchedd hanesyddol allweddol safleoedd unigol.

 

2.11 Mae Ffigur 2.7 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer yr egwyddor hon:

  • Sicrhau bod gwelededd priodol yn cael ei gynnal ar hyd ffyrdd a throedffyrdd.
  • Cynnal golygfeydd a safbwyntiau gwerthfawr allweddol i’r arfordir.
  • Defnyddio coed i fframio golygfeydd a fistâu.
  • Mae plannu coed yn pwysleisio nodweddion treftadaeth ac nid yw’n tynnu oddi wrthynt.
  • Coed wedi’u plannu mewn grwpiau neu gyda digon o le rhyngddynt, i gynnal safbwyntiau mewn lleoliadau allweddol.

 

Ffigur 2.7: Egwyddor 6 – Gwella tirwedd a gwarchod golygfeydd

 

2.12 Mae Parthau Plannu Coed ac Is-Egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad yn adeiladu ar yr Egwyddorion Cyffredinol uchod ac yn rhoi manylion ychwanegol am gynllunio a darparu plannu coed newydd. Nodir Is-egwyddorion ar y dudalen Strategaeth Plannu Coed Trefol ar gyfer pob anheddiad.

 

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Strategaethau Plannu Coed Trefol

 

Pennod nesaf:

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan