Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Abergwaun ac Wdig
Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Hwlffordd
Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Aberdaugleddau
Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Arberth
Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Trefdraeth
Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Neyland
Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Penfro
Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Doc Penfro
Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Saundersfoot
Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Tyddewi
Parthau Plannu Coed ac Is- Egwyddorion Dinbych-y-pysgod

Teipoleg Plannu Coed

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad

 

3.1 Sefydlwyd Parthau Plannu Coed Strategol ar gyfer pob anheddiad a gellir eu cyrchu trwy’r dolenni isod. Mae gan bob Parth Plannu Coed Strategol gyfres o Is-egwyddorion cyfatebol, sy’n meithrin yr Egwyddorion Cyffredinol ymhellach ac yn rhoi manylion ychwanegol i hysbysu prosiectau plannu coed yn y dyfodol.

3.2 Datblygwyd teipoleg plannu coed hefyd, gan amlinellu argymhellion rhywogaethau a chanllawiau plannu coed ar gyfer amodau amgylcheddol penodol.

  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Abergwaun ac Wdig.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Hwlffordd.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Aberdaugleddau.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Arberth.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Trefdraeth.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Neyland.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Penfro.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Doc Penfro.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Saundersfoot.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Tyddewi.
  • Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Dinbych-y-pysgod.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Abergwaun ac Wdig

 

3.3 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Abergwaun ac Wdig ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Creiddiau hanesyddol Abergwaun ac Wdig
    • Plannu coed er mwyn meddalu cymeriad trefol presennol patrwm cul y strydoedd o fewn y ddwy dref, gan fanteisio ar eu safle arfordirol.
  • Pen Cw a Ffordd y Cei
    • Cyflwyno rhywogaethau plannu coed sy’n ategu graddiant serth y tir sy’n edrych dros Harbwr Abergwaun, gan gadw golygfeydd arfordirol uwch yn lleol.
  • Bae Abergwaun a glan y môr
    • Cyflwyno rhywogaethau coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau glan y dŵr er mwyn sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd agored ar draws Harbwr Abergwaun.
  • Cwr Maesgwyn
    • Cyflwyno rhywogaethau plannu coed sy’n ategu’r lleoliad gwledig ar gyrion Abergwaun.
  • A487 diwydiannol a masnachol
    • Meddalu’r cyd-destun diwydiannol a masnachol ar dir sy’n ffinio â’r A487.
  • Ardaloedd preswyl Abergwaun ac Wdig
    • Gwella lleoliad ardaloedd preswyl wrth ategu topograffi lleol ac amgylcheddau arfordirol. Hybu derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor

 

Ffigur 3.1: Parthau Plannu Coed Strategol Abergwaun ac Wdig

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.4 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth (AG) Abergwaun, AG Wdig ac AG Cwm Abergwaun yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a choed presennol yn y dynodiad. Dylid cynllunio’r holl gynigion plannu a gwaith rheoli coed presennol o fewn a gerllaw Ardaloedd Cadwraeth mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yn CSP.

 

Creiddiau hanesyddol Abergwaun ac Wdig
  • Adolygu arferion rheoli tirwedd er mwyn sicrhau cadw golygfeydd panoramig ar lan yr harbwr mewn lleoliadau allweddol ar hyd y Slâd a Phenslâd yn Abergwaun. Dylid hefyd adfer golygfeydd pellter hirach tuag at y morlin ehangach, bryniau Dinas a Threfdraeth i’r Gogledd mewn lleoliadau strategol ar hyd y droedffordd.
  • Hyrwyddo integreiddio plannu coed, yn enwedig mewn lleoliadau lle nad oes llawer o bresenoldeb coed i hyrwyddo cyfraniad cadarnhaol at gymeriad treflun. Er nad yw coed yn nodwedd ddiffiniol ar yr ardaloedd trefol hanesyddol a chanol y dref (fel Stryd Fawr / Stryd y Gorllewin Abergwaun), dylid ceisio cyfleoedd i feddalu’r amgylchedd adeiledig. Dylai plannu coed bwysleisio safle asedau treftadaeth a’r patrwm stryd nodedig yn Ardaloedd Cadwraeth Abergwaun ac Wdig ac nid tynnu oddi wrthynt. Dylai cynigion plannu coed ystyried cyfeiriadaeth y nodweddion adeiledig presennol. Mae hyn yn cynnwys ymateb i batrwm y strydlun o ran baeau a ‘nodau’ sy’n ymrannu’r ffasâd.
  • Oherwydd natur arbennig y topograffi yn Abergwaun, dylid integreiddio cynigion plannu coed mewn modd sensitif ar hyd y Stryd Fawr a Stryd Kensington er mwyn cadw’r golygfeydd pellter hir. Yn yr un modd, mae lleoliad Wdig ar lechwedd yn cyfrannu’n sylweddol at gymeriad a lleoliad y dref a dylid gwarchod golygfeydd pellter hir. Yn gyffredinol, bydd plannu coed ar hyd strydoedd cul yn amhriodol. Y lleoedd gorau i osod coed fydd mynedfeydd allweddol, cyrion a chyffyrdd lletach cyfagos sy’n arwain at ffiniau’r Ardal Gadwraeth, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul i gynnal llinellau gweld lle bo angen.
  • Dylid defnyddio plannu coed i ychwanegu diddordeb ac amrywiaeth at fan gwyrdd achlysurol unrhyw ardal o fewn ardaloedd adeiledig (megis wrth system un ffordd Abergwaun). Dylid blaenoriaethu plannu nifer o goed parcdir mawr ychwanegol o fewn Parc Lota fel cyfle allweddol, gan amrywio’r ystod o rywogaethau.

 

Bae Abergwaun a glan y môr
  • Plannu coed i fframio llwybrau yn ôl ac ymlaen o Abergwaun ac Wdig, yn y Parrog.
  • Dylai plannu newydd gynnwys adnewyddu ardaloedd plannu addurnol presennol a grwpiau o goed presennol, gan gynnwys coed addurnol i ddarparu diddordeb esthetig ac amrywio’r ystod o rywogaethau.
  • Sicrhau bod coed yn cael eu dewis a’u rheoli i gynnal golygfeydd i’r bae ac er mwyn diogelwch, gan godi canopïau lle bo hynny’n briodol.
  • Defnyddio coed i nodi llwybrau a mynedfeydd tuag at gyfleusterau allweddol a mannau eistedd, fel yr ardal chwarae, yr acwariwm a’r maes parcio.
  • Sicrhau bod rhywogaethau coed yn cael eu dewis yn briodol i wrthsefyll y lleoliad agored.
  • Lle bo’n bosib, gosod coed i sgrinio golygfeydd o isadeiledd ac adeiladau diwydiannol sy’n gysylltiedig â’r porthladd fferi.

 

Cwr Maesgwyn
  • Plannu coed i nodi’r fynedfa i Abergwaun o’r gogledd, gan ddefnyddio lleiniau ymylon ffyrdd agored ar gyfer plannu coed â dwysedd isel ar hyd ymylon tir amaethyddol cyfagos.
  • Plannu coed i feddalu’r rhyngwyneb rhwng ardaloedd gwledig cyfagos a’r cyrion trefol, gan chwilio am gyfleoedd i gynnwys tirfeddianwyr lleol.
  • Cysylltu a chlustogi lleiniau cysgodi presennol a darnau bach o goetir drwy lenwi bylchau a thewychu ffiniau caeau presennol; creu coridorau rhwng y goedwig drefol a’r dirwedd ehangach.

 

Ardaloedd preswyl Abergwaun ac Wdig
  • Plannu coed i wella lleoliad strydoedd preswyl ac ategu golygfeydd mewn ardaloedd uwch. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint canopi yn y pen draw a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Rhoi blaenoriaeth i blannu coed mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, fel ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd (e.e. o gwmpas Stop and Call).
  • Plannu coed i glustogi a sgrinio coridorau llwybr prysur gerllaw ardaloedd preswyl (e.e. yr A487), gan ddefnyddio lleiniau ymyl ffordd ar gyfer rhodfeydd coed neu grwpiau bach o goed lle bo hynny’n briodol. Lle bo’n bosibl, ymgorffori coed mewn Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy neu bantiau i leihau dŵr ffo wyneb o’r ffyrdd.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd, llwybrau troed neu hawliau tramwy cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Hybu perchenogaeth gymunedol ar gynigion plannu coed i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Pen Cw a Ffordd y Cei
  • Dylai’r coed a blannir mewn ardaloedd preswyl uwch, bryniog fod yn rhai dwysedd isel, gan ganolbwyntio ar leoli coed unigol neu grwpiau bach yn briodol i ategu’r topograffi lleol. Dylid cynnal golygfeydd allweddol tuag at y cei, yr harbwr ac asedau treftadaeth leol.
  • Plannu coed i wella’r cyrion trefol a helpu i leihau effaith weledol datblygiad adeiledig. Creu cysylltiadau a chlustogi ardaloedd cynefin cyfagos a choetiroedd amdrefol, gan gynnwys tirfeddianwyr amgylchynol lle bo hynny’n bosibl.

 

A487 diwydiannol a masnachol
  • Plannu coed mewn modd sy’n sgrinio a meddalu ardaloedd diwydiannol a masnachol.
  • Blaenoriaethu plannu mewn ardaloedd lle ceir y lleiaf o gyfyngiadau ac mewn lleoliadau ‘cam cyflym ymlaen’, gan gynnwys ffiniau mannau agored cyfagos (e.e. Parc Phoenix, Ffordd y Wern).
  • Ymgorffori plannu coed ym Maes Parcio Phoenix Road, gan ddefnyddio ymylon perimedr a gwyrddu’r ehangder o dirwedd galed. Dylid osgoi coed sy’n dwyn ffrwythau mewn ardaloedd lle gallai hyn achosi niwsans.

Yn ôl i’r top

 

Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Hwlffordd

 

3.5 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-Egwyddorion ar gyfer Hwlffordd ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Hwlffordd ac ardal breswyl Pont Fadlen
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.
  • Coridor yr A40
    • Meddalu coridorau llwybrau amlwg i wella’r ddynesfa at Hwlffordd.
  • Cwr gwledig Hwlffordd
    • Cyflwyno rhywogaethau plannu coed sy’n ategu’r lleoliadau gwledig ar gyrion y dref.
  • Y Craidd Hanesyddol a Choridor Cleddau Wen
    • Plannu coed i feddalu’r craidd hanesyddol cryno, a cheisio hyrwyddo Cleddau Wen fel un o asedau gorau’r dref. Dylai cynigion osgoi unrhyw effeithiau negyddol ar safle asedau o bwysigrwydd hanesyddol.

 

Ffigur 3.2: Parthau Plannu Coed Strategol Hwlffordd

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.6 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Hwlffordd yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Dylid felly cysylltu â CSP cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Hwlffordd.

 

Hwlffordd ac ardal breswyl Pont Fadlen
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd sydd â’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd, gan gynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd llethr / maint bach ac ati.
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Ymgorffori plannu coed ar draws safleoedd tai cymdeithasol, gan integreiddio coed parcdir a digon o le rhyngddynt os oes modd. Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal er diogelwch. Osgoi creu ardaloedd o blannu trwchus a allai annog ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan flaenoriaethu coed canopi uchel a digon o le rhyngddynt, neu rywogaethau pigfain cul. Ymgynghori â thrigolion cyfagos, a’u cynnwys, drwy gydol y broses i gynyddu tebygolrwydd llwyddiant yn y tymor hir. Sicrhau digon o le rhwng coed a blannir ac anheddau preswyl er mwyn cynnal golygfeydd a mynediad at olau.
  • Gwella gorchudd canopi coed o fewn parciau a mannau agored fel blaenoriaeth a chyfle allweddol i ymgorffori coed mwy o faint yn y cyd-destun trefol.

 

Coridor yr A40
  • Plannu coed i glustogi a sgrinio coridorau llwybr prysur, diwydiant ac adeiladau masnachol, gan ddefnyddio lleiniau ymyl ffordd ar gyfer rhodfeydd coed neu grwpiau bach o goed lle bo hynny’n briodol. Lle bo’n bosibl, ymgorffori coed mewn Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy neu bantiau i leihau dŵr ffo wyneb o’r ffyrdd a helpu i wella ansawdd y cyrsiau dŵr cyfagos.
  • Plannu coed i nodi mannau mynediad allweddol i Hwlffordd. Blaenoriaethu defnyddio rhywogaethau sydd ag ansawdd esthetig megis blodau’r gwanwyn wrth ardaloedd porth allweddol.
  • Sicrhau bod ailblannu coed presennol (e.e. ar gylchfannau) yn ofyniad parhaus, i gynnal neu gynyddu gorchudd canopi.
  • Rheoli a gwarchod coetir presennol cyfagos yn gadarnhaol (e.e. Coetir Scotchwell) fel ased allweddol; darparu buddion amgylcheddol lluosog a sgrinio gweledol o’r ffordd.

 

Cwr gwledig Hwlffordd
  • Gwella’r rhyngwyneb rhwng cyrion yr ardal drefol a’r ardal wledig o’i chwmpas. Cryfhau ac adfer ffiniau caeau drwy blannu ychwanegol ac ymgorffori coed tal.
  • Creu cysylltiadau ychwanegol rhwng yr ardal drefol ac ardaloedd darniog bach o goetir o’i hamgylch.

 

Y Craidd Hanesyddol a Choridor Cleddau Wen
  • Sicrhau bod cynigion plannu coed yn gwella safle’r craidd trefol cryno ac yn atgyfnerthu’r patrwm strydoedd unigryw o fewn Ardal Gadwraeth Hwlffordd. Dylai cynigion osgoi effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth. Dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yn CSP.
  • Plannu coed i fframio golygfeydd a chysylltu lleoliad trefol Ardal Gadwraeth Hwlffordd â’r dirwedd wledig o’i hamgylch.
  • Dylid ceisio cyfleoedd i integreiddio plannu coed er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad a golwg y treflun. Mae cyfleoedd penodol yn cynnwys plannu coed mewn nodau allweddol yn rhwydwaith y strydoedd ac mewn mannau cyhoeddus.
  • Adolygu ac ad-drefnu’r ddarpariaeth barcio yng nghanol y dref (e.e. Dew Street) i ymgorffori coed o fewn yr amgylchedd trefol dwys, lle mae’r cyfle’n codi. Gellid ail-ffurfweddu darnau bach o leoedd parcio ar y stryd i ddarparu mwy o led ac amgylchedd gwreiddio ar gyfer tyfiant coed stryd addas.
  • Marcio mannau mynediad i ardal y craidd hanesyddol drwy blannu coed a pharhau i gynyddu gorchudd coed, gan gynnwys SDC wedi’u dylunio, ar hyd yr afon (e.e., Canolfan Siopa Glan-yr-afon gerllaw).

Yn ôl i’r top

 

Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Aberdaugleddau

 

3.7 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-Egwyddorion ar gyfer Aberdaugleddau ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Hubberston a Hakin
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.
  • Y Marina a Mackerel Quay
    • Cyflwyno rhywogaethau coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau glan dŵr er mwyn sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd agored ar draws Aberdaugleddau.
  • Ystâd ddiwydiannol Thornton
    • Meddalu’r cyd-destun diwydiannol a masnachol ar dir yn ystâd ddiwydiannol Thornton.
  • Patrwm grid Canol y Dref a’r craidd trefol dwys
    • Plannu coed i wella’r patrwm grid a gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymeriad canol y dref.
  • The Rath a Castle Pill
    • Cyflwyno rhywogaethau plannu coed sy’n ategu lleoliad Castle Pill a chadw golygfeydd uwch yn lleol ar draws Aberdaugleddau.

 

Ffigur 3.3: Parthau Plannu Coed Strategol Aberdaugleddau

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.8 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Aberdaugleddau yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a choed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â CSP cyn cychwyn gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Aberdaugleddau.

 

Hubberston a Hakin
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd sydd â’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd, gan gynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd llethr / maint bach ac ati.
  • Plannu mewnlenwad ar strydoedd gyda choed presennol a lle mae bylchau, i gryfhau’r coridorau coed presennol, sy’n fach ac yn dameidiog.
  • Ymgorffori plannu coed ar draws ystadau tai, gan integreiddio coed parcdir a digon o le rhyngddynt os oes modd. Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal er diogelwch. Osgoi creu ardaloedd o blannu trwchus a allai annog ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan flaenoriaethu coed canopi uchel a digon o le rhyngddynt, neu rywogaethau pigfain cul. Ymgynghori â thrigolion cyfagos, a’u cynnwys, drwy gydol y broses i gynyddu tebygolrwydd llwyddiant yn y tymor hir. Sicrhau digon o le rhwng coed a blannir ac anheddau preswyl er mwyn cynnal golygfeydd a mynediad at olau.
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Gwella gorchudd canopi coed o fewn parciau a mannau agored. Blaenoriaethu plannu coed canopi mawr lle mae digon o le.

 

Ystâd ddiwydiannol Thornton
  • Plannu coed mewn modd sy’n sgrinio a meddalu ardaloedd diwydiannol a masnachol.
  • Sicrhau bod cynigion plannu coed yn ategu graddfa’r ffurf adeiledig bresennol. Lle mae digon o le, ceir potensial i gynnwys coed mawr o fewn y lleoliad diwydiannol a masnachol.

 

Y Marina a Mackerel Quay
  • Integreiddio plannu coed ychwanegol yn y Marina a’r Cei gyda rhywogaethau addas i greu ardaloedd â chysgod, tra hefyd yn cynnal athreiddedd gweledol a golygfeydd allan i’r môr. Ystyried ymgorffori coed ychwanegol wrth adnewyddu ardaloedd a blannwyd eisoes.
  • Sicrhau bod gwaith rheoli tirwedd a phlannu coed yn y dyfodol yn cynnal golygfeydd i’r arfordir o ardaloedd uwch (e.e. safbwyntiau allweddol o Hamilton Terrace).
  • Defnyddio coed i farcio a diffinio gwahanol barthau sy’n arwain at y Marina a’r Cei, e.e. o fynedfeydd i’r glannau o lwybrau beicio, Cei Nelson ac yn arwain i lawr o Victoria Road.
  • Ystyried integreiddio coed i ymrannu ardal y maes parcio eang, gan sicrhau nad yw’r lleoliad yn ymyrryd â’r defnyddiau presennol. Integreiddio coed mewn clystyrau bach i greu microhinsawdd i wella amodau tyfu, a chaniatáu ymgorffori pyllau tyfu / lle gwreiddio a rennir.
  • Plannu coed mewn tirwedd galed i wella lleoliad cyfleusterau a bwytai lleol, a sgrinio nodweddion sy’n tynnu sylw fel y maes parcio ar Gei Nelson.

 

Patrwm grid Canol y Dref a’r craidd trefol dwys
  • Estyn a chysylltu plannu coed stryd presennol mewn canolfannau allweddol (h.y. Charles Street) i greu llwybrau gwyrdd a gwella’r strydlun. Sicrhau bod y coed a blannir yn ategu patrwm grid nodedig yr ardal drefol ac nad ydynt yn tynnu oddi wrtho. Ymgorffori coed gerllaw cyffyrdd lletach ac i nodi mynedfeydd i’r prif ardaloedd siopa, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul lle bo angen er mwyn cynnal llinellau gweld.
  • Plannu coed er mwyn meddalu rhannau mwy o dirwedd galed fel ardaloedd parcio ceir (e.e. Robert Street). A nodweddion eraill sy’n tynnu sylw’n weledol.
  • Ad-drefnu lleoedd parcio ar y stryd lle mae cyfle’n codi i ddarparu lle ychwanegol ar gyfer pyllau coed a lled ar gyfer tyfiant coed.

 

The Rath a Castle Pill
  • Ymgorffori’n sensitif blannu coed dwysedd isel ychwanegol neu grwpiau bach o goed ar laswelltir yn The Rath. Sicrhau bod coed yn cael eu plannu mewn mannau sy’n cynnal athreiddedd gweledol i’r arfordir o ardaloedd preswyl, mannau eistedd a safbwyntiau eraill.
  • Dylid lleoli coed yn is i lawr ar ardaloedd llethrog, gan ystyried eu taldra a’u ffurf yn y pen draw. Dylid rhoi sylw penodol i ddewis rhywogaethau a all wrthsefyll yr amlygiad, gan sylwi ar rywogaethau sy’n tyfu gerllaw.
  • Clustogi ac ehangu coetir presennol yn Castle Pill / Deadman’s Lake a chwilio am gyfleoedd i wella triniaethau ymyl coetir ar dir amaethyddol cyfagos.

 

Coridor yr A4076 a’r Cwr Preswyl
  • Plannu coed er mwyn clustogi a sgrinio coridorau llwybr prysur, gan ddefnyddio lleiniau ymyl ffordd ar gyfer rhodfeydd coed neu grwpiau bach o goed lle bo hynny’n briodol.
  • Defnyddio rhywogaethau coed addurnol i nodi pyrth a mynedfeydd allweddol tuag at Aberdaugleddau.
  • Cryfhau cysylltiadau ag ardaloedd mwy o goetir gerllaw Deadman’s Lake, gan ymgorffori plannu ychwanegol mewn man gwyrdd mwynder cyfagos (e.e. Steynton Road / Mount Pleasant Way)
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd sydd â’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd, gan gynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd llethr / maint bach ac ati.
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Gwella cymeriad mannau agored lleol a chyfleusterau chwaraeon gyda choed ffiniol, gan ymgorffori coed parcdir canopi mwy o faint lle mae digon o le. Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal i ddarparu ymdeimlad o ddiogelwch.

Yn ôl i’r top

 

Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Arberth

 

3.9 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Arberth ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Canol Tref Arberth
    • Plannu coed er mwyn meddalu’r strydlun presennol yng nghanol y dref a fframio fistâu’r treflun.
  • Cwr Preswyl Arberth
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Ffigur 3.4: Parthau Plannu Coed Strategol Arberth

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.10 Mae’r tir sydd wedi ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Arberth yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a choed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â CSP cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Arberth.

 

Canol Tref Arberth
  • Sicrhau bod y coed a blannir yn ategu cymeriad unigryw’r treflun ac nad ydynt yn tynnu oddi wrtho.
  • Cyfyngir yn fawr ar gyfleoedd plannu coed o fewn ardaloedd cyhoeddus yng nghanol y dref. Y lleoedd gorau i osod coed fydd mynedfeydd allweddol, cyrion a chyffyrdd lletach, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul i gynnal llinellau gweld lle bo angen.
  • Lle mae digon o le, dylid defnyddio rhywogaethau o goed addurnol i ddiffinio pyrth a mynedfeydd allweddol tuag at ganol tref Arberth (megis Cyffordd yr A478 / B4314).
  • Plannu coed i feddalu ardaloedd tirwedd galed a chreu ymdeimlad o gyrraedd hybiau ymwelwyr allweddol (fel Maes Parcio Townsmoor a’r llwybr tuag at ganol y dref).
  • Lle mae coed yn cael eu tynnu neu golli, dylai ailosod coed wedi’u lleoli’n briodol fod yn flaenoriaeth o fewn canol y dref.

 

Cwr Preswyl Arberth
  • Ceisio cyfleoedd i blannu coed gerllaw cyrsiau dŵr a ffosydd ar gyrion yr ardal drefol. Efallai mai’r ffordd orau o wneud hyn fydd fel lleiniau cysgodi eang a choridorau coetir sy’n cryfhau patrymau caeau presennol.
  • Gwella cymeriad mannau agored lleol a chyfleusterau chwaraeon gyda choed ffiniol, gan chwilio am gyfleoedd i blannu coed parcdir canopi mwy o faint fel blaenoriaeth (megis ym Mharc Townsmoor). Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal i ddarparu ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd heb fawr iawn o werth hamdden oherwydd maint bach (megis rhai o’r ardaloedd ymyl ffordd ehangach ar hyd Cox Hill).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.

Yn ôl i’r top

 

Parthau plannu coed ac is-egwyddorion Trefdraeth

 

3.11 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Trefdraeth ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Coridor yr A487 a Chanol y Dref
    • Plannu coed i feddalu strydlun presennol canol y dref a fframio fistâu treflun ar hyd yr A487.
  • Cwr Preswyl Trefdraeth a Choridor Ffordd Parrog
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Ffigur 3.5: Parthau Plannu Coed Strategol Trefdraeth

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.12 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu yn ardal gadwraeth Trefdraeth yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin ardal gadwraeth Trefdraeth.

3.13 Mae Trefdraeth o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP). Wrth ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer plannu coed a choetir yn y dyfodol, dylid ystyried Canllawiau Coed a Choetir PCAP. Nid yw asesiad manwl o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd ‘trefol’ (megis Trefdraeth) wedi’i gynnwys yng nghanllawiau PCAP, oherwydd y prinder cyfleoedd i blannu coetir newydd yn yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, byddai’r canllawiau generig o fewn y ddogfen hon yn berthnasol o hyd.

 

Coridor yr A487 a Canol y Dref
  • Defnyddio rhywogaethau coed addurnol i ddiffinio pyrth a mynedfeydd allweddol tuag at Drefdraeth.
  • Cryfhau’r cysylltiadau â choetir presennol ar hyd ymyl yr anheddiad, megis ardaloedd o goetir gerllaw Castell Trefdraeth, Gall hyn gynnwys cryfhau ffiniau caeau presennol drwy ddatblygu lleiniau cysgodi a choridorau coetir.
  • Cyfyngir yn fawr ar gyfleoedd plannu coed o fewn ardaloedd cyhoeddus yng nghanol y dref. Y lleoedd gorau i osod coed fydd mynedfeydd allweddol, cyrion a chyffyrdd lletach, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul i gynnal llinellau gweld lle bo angen.
  • Lle mae coed yn cael eu tynnu neu golli, dylai ailosod coed wedi’u lleoli’n briodol fod yn flaenoriaeth. Lle mae digon o le, dylid ceisio cyfleoedd i ymgorffori coed ychwanegol mewn hybiau gweithgaredd allweddol (e.e. ger Maes Parcio Stryd Hir).
  • Hyrwyddo plannu coed bychain o fewn gerddi preswyl, gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae’r cyfle lleiaf i blannu ar dir y cyhoedd.

 

Cyrion Preswyl Trefdraeth a Choridor Ffordd y Parrog
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd sydd heb fawr iawn o werth hamdden oherwydd eu maint bach (megis rhai o’r ardaloedd ymyl ffordd lletach ar hyd y Parrog).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Gwella cymeriad mannau agored lleol a chyfleusterau chwaraeon gyda choed ffiniol, gan ymgorffori coed parcdir canopi mwy o faint lle mae digon o le (megis y man agored gerllaw Parc Sglefrio Trefdraeth). Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal i ddarparu ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Plannu coed i feddalu ardaloedd tirwedd galed a nodweddion a allai amharu ar fwynhad o’r dirwedd ehangach. Fel ardaloedd parcio ceir (e.e. Maes Parcio Ffordd y Parrog). Wrth blannu coed newydd dylid sicrhau bod golygfeydd allweddol i’r afon a’r arfordir yn cael eu cynnal.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Neyland

 

3.14 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Neyland ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Y Promenâd, Cei Brunel a’r Marina
    • Cyflwyno rhywogaethau coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau arfordirol er mwyn sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd agored ar draws Aberdaugleddau.
  • Cwr Preswyl Neyland
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.
  • Great Honeyborough
    • Gwella lleoliad Honeyborough Green a’r cyd-destun cyfagos. Sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddewis rhywogaethau, gan gynnwys maint y canopi terfynol.
  • Parc Busnes Honeyborough
    • Meddalu’r cyd-destun diwydiannol a masnachol ar dir ym mharc busnes Honeyborough

 

Ffigur 3.6: Parthau Plannu Coed Strategol Neyland

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.15 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Neyland ac Ardal Gadwraeth Honeyborough yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a choed presennol yn yr ardaloedd dynodedig. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn cychwyn gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin y naill ardal gadwraeth neu’r llall.

 

Y Promenâd, Cei Brunel a’r Marina
  • Ystyried integreiddio coed i feddalu’r ardaloedd parcio eang a gwella safle pwyntiau cyrraedd allweddol, wrth sicrhau nad yw lleoliad coed newydd yn ymyrryd â’r defnyddiau presennol. Integreiddio coed mewn clystyrau bychain i greu microhinsawdd i wella amodau tyfu a chaniatáu ymgorffori pyllau tyfu / lle gwreiddio a rennir mewn tirwedd galed.
  • Sicrhau bod gwaith rheoli tirwedd a phlannu coed yn y dyfodol yn cynnal golygfeydd allweddol, megis o’r promenâd a’r mannau eistedd ar hyd Station Road. Dylid cyflawni hyn drwy ddefnyddio coed a digon o fwlch rhyngddynt gyda boncyffion clir / canopïau uchel. Gall grwpiau bach o goed a digon o le rhyngddynt hefyd fod yn briodol ar ymylon ardaloedd bychain o fannau gwyrdd wedi’u gosod yn ôl o lan y môr.
  • Plannu coed i feddalu a sgrinio ardaloedd diwydiannol a llwybrau gwyrdd ar hyd Station Road a Gaddam Reach.

 

Great Honeyborough
  • Plannu mewnlenwad a phlannu coed blodeuol newydd ar hyd Honeyborough Road, gan wella llwybr allweddol tuag at ganol Neyland.
  • Cynnal neu gynyddu gorchudd canopi coed yn Honeyborough Green. Sicrhau bod dwysedd plannu a ffurf / maint coed yn cynnal cymeriad gwyrdd y pentref.
  • Diogelu a gwella lleiniau i goed weithredu fel clustog a sgrin ar gyfer yr A477 a’r ardal ddiwydiannol gyfagos.

 

Y Stryd Fawr a Chanol y Dref
  • Sicrhau bod y coed a blannir yn ategu cymeriad unigryw’r treflun ac nad ydynt yn tynnu oddi wrtho.
  • Sicrhau nad yw golygfeydd o lwybrau allweddol (fel y Stryd Fawr) yn cael eu cuddio drwy blannu coed amhriodol. Y lleoedd gorau i osod coed fydd mynedfeydd allweddol, cyrion a chyffyrdd lletach, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul i gynnal llinellau gweld lle bo angen. Cynnal golygfeydd hir o gyrion yr ardal o safbwyntiau uwch (megis yn Cambrian Road).
  • Defnyddio coed sbesimen bach i feddalu ardaloedd o dirwedd galed a chreu ymdeimlad o gyrraedd wrth hybiau ymwelwyr Atkey (fel Maes Parcio’r Stryd Fawr).
  • Diogelu, a chynyddu os oes modd, y gorchudd canopi mewn ardaloedd achlysurol o fannau gwyrdd sy’n arwain oddi ar y Stryd Fawr i gynnal a gwella cymeriad treflun (e.e. yn Windsor Gardens, Lawrenny Street, Railway Terrace).

 

Cwr Preswyl Neyland
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd llydan. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd maint bach.
  • Lle bo’n bosibl, cysylltu ac estyn rhesi tameidiog presennol o goed stryd o fewn lleiniau glaswellt ymyl ffordd (e.e. ar hyd Riverside Avenue).
  • Gwella cymeriad mannau agored lleol, cyfleusterau chwaraeon a chymunedol gyda choed ffiniol, gan chwilio am gyfleoedd i blannu coed parcdir canopi mwy fel blaenoriaeth (megis Hyb Cymunedol Askeland). Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal i ddarparu ymdeimlad o ddiogelwch.

 

Parc Busnes Honeyborough
  • Cynyddu gorchudd coed i feddalu’r golygfeydd tuag at ddatblygiad diwydiannol. Gallai hyn gynnwys lleiniau ymyl ffordd ehangach wrth fynedfeydd allweddol (fel cylchfan yr A477).
  • Sicrhau gwyrddu strydoedd drwy blannu coed, yn enwedig lle cynhelir unrhyw waith uwchraddio ffyrdd mynediad neu feysydd parcio. Plannu coed i sgrinio adeiladau i ardaloedd preswyl cyfagos a’r dirwedd ehangach. Sicrhau bod plannu coed newydd yn ofynnol yn rhan o ddatblygiad diwydiannol yn y dyfodol.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Penfro

 

3.16 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Penfro ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Pwll Melin Penfro
    • Gwella lleoliad y Pwll Melin a phrofiad y cyhoedd ohono drwy gadw a phwysleisio plannu coed i’r ymyl ogleddol. Sicrhau nad yw cynigion yn arwain at effeithiau niweidiol ar furiau terfyn y tir bwrdais i’r de.
  • Cwr Preswyl Penfro
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.
  • Dynesfa Canol y Dref a’r Castell
    • Gwella coridorau llwybr amlwg ar ddynesfa ac allanfa Penfro a fframio fistâu treflun.
  • Y Tir Comin
    • Plannu coed i wella lleoliad y treflun hanesyddol, gan gadw cymeriad agored y Tir Comin. Dylai cynigion hefyd ystyried rôl y safle mewn lliniaru llifogydd a chyfleoedd i gael mwy o fioamrywiaeth.

 

Ffigur 3.7: Parthau Plannu Coed Strategol Penfro

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.17 Mae’r tir sydd wedi’i gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Penfro yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Penfro.

 

Pwll Melin Penfro
  • Cynnal a gwella gorchudd coed ar hyd ymyl ogleddol y Pwll Melin fel ased amgylcheddol, cynefin a mwynder gweledol allweddol.
  • Yn gyffredinol, bydd plannu coed yn agos at wal y tir bwrdais yn amhriodol. Ni ddylai plannu coed ychwanegol effeithio’n negyddol ar olygfeydd a chyfanrwydd strwythurol y nodwedd dreftadaeth hon. Bydd angen datblygu unrhyw gynigion plannu coed mewn ymgynghoriad â’r ymgyngoreion statudol perthnasol.

 

Cwr Preswyl Penfro
  • Plannu coed er mwyn fframio golygfeydd a fistâu ar draws toeau amrywiol canol tref Penfro. Dylid ystyried maint canopi terfynol coed wrth nodi rhywogaethau.
  • Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydlu hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd sydd â’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o leiniau ymyl ffordd a glaswelltir mwynder, gan gynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd llethr / maint bach ac ati. (e.e. Long Mains a Bush Hill).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl. Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.

 

Dynesfa Canol y Dref a’r Castell
  • Dylai cynigion plannu coed ystyried llinellau adeiladau presennol a chyfeiriadedd datblygiad presennol ar hyd Main Street. Mae hyn yn cynnwys ymateb i batrwm y strydlun o ran baeau, ‘nodau’ a gerddi clos sy’n ymrannu’r ffasâd.
  • Plannu coed er mwyn lleihau effaith weledol ceir sydd wedi’u parcio ar y strydlun yn ogystal â lleoliad tirwedd strydoedd ac adeiladau hanesyddol.
  • Plannu coed i farcio llwybrau a mynedfeydd i Main Street. Sicrhau nad yw plannu newydd yn rhwystro amrywiaeth defnyddiau’r ardal, gan gynnwys digwyddiadau.
  • Plannu coed er mwyn meddalu rhannau mwy o dirwedd galed fel ardaloedd parcio ceir (e.e. ger West Street / Common Road). Ymgorffori Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) wedi’u peiriannu yn rhan o ddyluniad pyllau coed i sicrhau’r capasiti storio dŵr mwyaf posibl a lleihau dŵr ffo wyneb i gyrsiau dŵr cyfagos.

 

Y Tir Comin
  • Sicrhau bod dewis rhywogaethau yn parhau i wella amrywiaeth y coed ar y Tir Comin, sef elfen allweddol sy’n cyfrannu at ddiddordeb a chymeriad arbennig Ardal Gadwraeth Penfro.
  • Amddiffyn a chynnal y boblogaeth bresennol o goed. Ymgymryd â rhaglen blannu wedi’i chynllunio i sicrhau stoc o goed ifanc a datblygol. Plannu mewnlenwad i wella’r rhesi a’r rhodfeydd coed presennol.
  • Cyflwyno coed addurnol, bychain wrth rai o’r mynedfeydd allweddol fel marcwyr ac i wella’r ymdeimlad o gyrraedd.
  • Plannu coed yn nwyrain y Tir Comin i sgrinio golygfeydd yn rhannol tuag at ddatblygiad diweddaraf i helpu i gynnal cymeriad hanesyddol yr ardal

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Doc Penfro

 

3.18 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Doc Penfro ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Patrwm Grid Hanesyddol
    • Plannu coed er mwyn gwella’r patrwm grid fel nodwedd sy’n diffinio’r ardal, a darparu cyfraniad cadarnhaol at gymeriad Ardal Gadwraeth Doc Penfro.
  • Parc Busnes Pont Cleddau ac Ystâd Ddiwydiannol Waterloo
    • Meddalu’r cyd-destun diwydiannol a masnachol ar dir i’r dwyrain o’r A477 Waterloo Road
  • Yr Iard Longau Frenhinol a Hobbs Point
    • Hyrwyddo hanes milwrol a morwrol y dref, gan sicrhau nad yw cynigion plannu coed yn effeithio’n negyddol ar safle asedau arwyddocaol hanesyddol.
  • Llanreath a Llanion Hill
    • Cyflwyno rhywogaethau plannu coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau arfordirol i sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd uwch lleol allan tuag at Aberdaugleddau.
  • Cwr Preswyl Pennar a Llanion
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor
  • Coridorau Ffyrdd Prifwythiennol a Dynesfa Pont Cleddau
    • Gwella coridorau llwybrau amlwg ar ddynesfa ac allanfa Doc Penfro a fframio fistâu treflun.

 

Ffigur 3.8: Parthau Plannu Coed Strategol Doc Penfro

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.19 Mae’r tir sy’n cael ei gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Doc Penfro yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Doc Penfro.

 

Tref Patrwm Grid Hanesyddol
  • Sicrhau bod cynigion plannu coed yn gwella safle’r patrwm grid hanesyddol nodedig ac nad ydynt yn arwain at effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth. Dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yn CSP.
  • Er nad yw coed yn nodwedd arbennig ar ardal y patrwm grid, dylid chwilio am gyfleoedd i blannu coed i gyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad a golwg y treflun. Dylid ystyried cyflwyno hierarchaeth o blannu coed i gadw ac atgyfnerthu’r patrwm grid unigryw. Amlinellir categorïau arfaethedig o fewn yr hierarchaeth isod.

 

  1. Stryd lle mae angen rhaglen ailgyflenwi ar gyfer rhodfa goed bresennol (naill ai strategaeth amnewid tymor hir ar gyfer sbesimenau aeddfed neu fel ymateb i glefyd coed ynn);
  2. Stryd datganiad lle gellid gwneud lle i rodfeydd coed (o fewn llain ganolog bresennol neu o fewn palmentydd eang);
  3. Stryd lle gellid cynnwys plannu coed o fewn ‘nodau’ drwy ad-drefnu lleoedd parcio presennol yn rhannol ac ati; a
  4. Stryd sy’n gul ac wedi’i chyfyngu’n drwm lle byddai plannu coed yn gyfyngedig i sbesimenau porth (i fframio fista neu geisio cadw golygfeydd allweddol).

 

  • Dylai cynigion plannu coed ystyried llinellau adeiladau presennol a chyfeiriadedd datblygiad presennol. Mae hyn yn cynnwys ymateb i batrwm y strydlun o ran baeau a ‘nodau’ sy’n ymrannu’r ffasâd.
  • Plannu coed er mwyn lleihau effaith weledol ceir sydd wedi’u parcio ar y strydlun yn ogystal â lleoliad tirwedd strydoedd ac adeiladau hanesyddol.
  • Ystyried maint canopi terfynol y coed er mwyn cynnal golygfeydd a fistâu allweddol tuag at adeiladau allweddol o fewn Ardal Gadwraeth Doc Penfro.
  • Hyrwyddo amrywiad yn strwythur oedran plannu coed o fewn Memorial Park, yn enwedig ar hyd yr ymyl ac fel rhan o’r pwynt echelinol canolog, fel mecanwaith rhagweithiol o reoli coed yn y tymor hir.
  • Hyrwyddo plannu coed (gan ddefnyddio rhywogaethau priodol) o fewn gerddi cefn i wneud mwy o gyfraniad at wyrddni trefol o fewn strydlun y patrwm grid.

 

Yr Iard Longau Frenhinol a Hobbs Point
  • Plannu coed i wella lleoliad Ardal Gadwraeth Doc Penfro a sicrhau nad ydynt yn arwain at unrhyw effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth. Dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd â’r Swyddog Cadwraeth Adeiladu Hanesyddol a’r Swyddog Tirwedd yn CSP.
  • Gwella’r lleoliad treflun ac ategu’r llwybrau presennol o goed aeddfed sydd ar Meyrick Owen Way. Plannu coed er mwyn gwarchod y fista wedi’i fframio o hen fynedfa’r Iard Longau Frenhinol i Ganolfan Dreftadaeth Doc Penfro.
  • Meddalu strydlun caled a meddal llwybrau prifwythiennol fel yr A4139 Western Way.
  • Archwilio cyfleoedd i gynyddu’r rhwydwaith o goed stryd ar Fort Road er mwyn dylunio’r llwybr fel coridor allweddol sy’n arwain at Dŵr Gynnau Martello a’r glannau.
  • Amrywiaethu strwythur y coetir presennol ar Carriage Drive / The Terrace i ganiatáu golau i dreiddio i’r fflora daear a chynnal rhywogaethau peillwyr.

 

Pennar a Llanion
  • Plannu coed er mwyn gwella lleoliad strydoedd preswyl ac ategu’r topograffi, gan sicrhau bod digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddewis rhywogaethau, maint canopi terfynol a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydlu hirdymor.
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl;
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Hybu perchenogaeth gymunedol ar gynigion plannu coed i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Coridorau Ffyrdd Prifwythiennol a Dynesfa Pont Cleddau
  • Sicrhau y pennir rhywogaethau uchel eu corun er mwyn sicrhau bod lleiniau gwelededd priodol ar gael a mynediad i gerddwyr o fewn y tramwyfeydd presennol.
  • Lle bo’n briodol, ystyried defnyddio rhywogaethau mawr gyda gorchudd canopi eang i’w defnyddio i ddarparu cysgod. Osgoi coed sy’n dwyn ffrwyth mewn ardaloedd lle mae darpariaeth eistedd neu lwybrau i gerddwyr yn cael eu cynnig.

 

Parc Busnes Pont Cleddau ac Ystâd Ddiwydiannol Waterloo
  • Sicrhau bod cynigion plannu coed yn ategu graddfa’r ffurf adeiledig bresennol. Lle mae digon o le, ceir potensial i gynnwys coed mawr o fewn y lleoliad diwydiannol a masnachol.

 

Llanreath a Llanion Hill
  • Cadw fistâu presennol drwy osgoi torri ar draws golygfeydd môr o eiddo preswyl sy’n ffinio.
  • Sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ddewis rhywogaethau (gan gynnwys maint canopi terfynol a gofynion cynnal a chadw) a chynnwys rhywogaethau sy’n oddefgar o halen oherwydd agosrwydd y glannau.
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Saundersfoot

 

3.20 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Saundersfoot ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Harbwr a Glan Môr Saundersfoot
    • Cyflwyno rhywogaethau coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau glan dŵr er mwyn sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd agored ar draws Bae Saundersfoot.
  • Y Stryd Fawr a Chraidd yr Anheddiad
    • Plannu coed i feddalu strydlun presennol canol y dref a fframio fistâu’r treflun.
  • Ardaloedd Preswyl Saundersfoot
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Ffigur 3.9: Parthau Plannu Coed Strategol Saundersfoot

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.21 Mae’r tir sydd wedi’i gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Saundersfoot yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Saundersfoot.

3.22 Mae Saundersfoot o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP). Wrth ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer plannu coed a choetir yn y dyfodol, dylid ystyried Canllawiau Coed a Choetir PCAP.

 

Harbwr a Glan Môr Saundersfoot
  • Integreiddio plannu coed ychwanegol wrth yr harbwr a glan y môr gyda rhywogaethau addas i greu ardaloedd sydd ag ymdeimlad o gysgod, wrth hefyd gynnal athreiddedd gweledol a golygfeydd allan i’r môr. Ystyried ymgorffori coed ychwanegol wrth adnewyddu ardaloedd a blannwyd eisoes.
  • Defnyddio coed i farcio a diffinio gwahanol barthau sy’n arwain i’r harbwr, megis ger y rhyngwyneb rhwng yr harbwr a’r Strand.
  • Ystyried integreiddio coed i ymrannu ardal y maes parcio eang, gan sicrhau nad yw’r lleoliad yn ymyrryd â’r defnyddiau presennol. Integreiddio coed mewn clystyrau bach i greu microhinsawdd i wella amodau tyfu, a chaniatáu ymgorffori pyllau tyfu / lle gwreiddio a rennir.

 

Y Stryd Fawr a Chraidd yr Anheddiad
  • Sicrhau bod cynigion plannu coed yn gwella safle’r craidd cryno ac nad ydynt yn arwain at effeithiau niweidiol ar asedau treftadaeth na ffabrig hanesyddol yr anheddiad. Dylid paratoi pob cynnig plannu ar y cyd ag APCAP.
  • Adolygu arferion rheoli coed er mwyn sicrhau bod golygfeydd a fistâu ar gael tuag at yr arfordir a’r dyffryn cysgodol sy’n ffurfio cefndir gwledig.
  • Dylid ceisio cyfleoedd i integreiddio plannu coed er mwyn cyfrannu’n gadarnhaol at gymeriad y treflun a safle Ardal Gadwraeth Saundersfoot.
  • Cryfhau cysylltiadau rhwng craidd yr anheddiad a’r coetir cyfagos trwy wella a chysylltu ffiniau caeau a lleiniau cysgodi i’r gogledd. Dylid hefyd ystyried plannu ochr yn ochr â chyrsiau dŵr cyfagos i leihau dŵr ffo wyneb a gwella ansawdd dŵr.
  • Gwella llwybrau i mewn i graidd yr anheddiad a thrwyddo, gan chwilio am gyfleoedd i ymgorffori plannu coed o fewn ardaloedd tirwedd galed, gan gynnwys y B4316, a maes parcio Brooklands Close. Integreiddio dylunio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) yn rhan o byllau coed lle bo hynny’n bosibl.

 

Ardaloedd Preswyl Saundersfoot
  • Plannu coed i wella lleoliad strydoedd preswyl ac ategu golygfeydd mewn ardaloedd uwch. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl. Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Plannu coed er mwyn nodi’r dynesfeydd at Saundersfoot ar hyd coridorau llwybr amlwg (e.e. y B4316), gan ddefnyddio lleiniau ymyl ffordd ar gyfer rhodfeydd coed neu grwpiau bach o goed lle y bo modd. Hybu perchenogaeth gymunedol ar gynigion plannu coed i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor. Cefnogi diddordeb y gymuned mewn pocedi o goetir trefol (e.e.
  • Planhigfa Saundersfoot) i gynnwys y gymuned yn niddordeb ehangach gofalu am goed a’u rheoli.
  • Plannu coed ar gyrion ardaloedd preswyl i helpu i sgrinio datblygiad twristiaeth, sy’n aml yn nodwedd allweddol sy’n tynnu sylw ar y dirwedd.
  • Cryfhau ffiniau caeau a lleiniau cysgodi, drwy lenwi bylchau a phlannu coed newydd, ar y cyrion trefol i gysylltu’r goedwig drefol â choetiroedd dyffryn presennol.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion Tyddewi

 

3.23 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Tyddewi ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Masnachol Ffordd Glasfryn
    • Meddalu’r cyd-destun masnachol ar dir yn Ffordd Glasfryn
  • Canolfan Groeso a Gwesty
    • Plannu coed i wella’r ymdeimlad o gyrraedd y ddinas ar gyfer ymwelwyr a thrigolion
  • Cwr Preswyl Tyddewi
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.
  • Canol Dinas Tyddewi
    • Plannu coed er mwyn gwella patrwm stryd ganoloesol dwys y ddinas, gan sicrhau nad yw cynigion plannu coed yn effeithio’n negyddol ar safle asedau hanesyddol arwyddocaol.

 

Ffigur 3.10: Parthau Plannu Coed Strategol Tyddewi

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.24 Mae’r tir sydd wedi’i gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Tyddewi yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Tyddewi.

3.25 Mae Tyddewi o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP). Wrth ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer plannu coed a choetir yn y dyfodol, dylid ystyried Canllawiau Coed a Choetir PCAP. Nid yw asesiad manwl o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd ‘trefol’ (megis Tyddewi) wedi’i gynnwys yng nghanllawiau PCAP, oherwydd y prinder cyfleoedd i blannu coetir newydd yn yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, byddai’r canllawiau generig o fewn y ddogfen hon yn berthnasol o hyd.

 

Masnachol Ffordd Glasfryn
  • Plannu coed mewn modd sy’n sgrinio a meddalu ardaloedd diwydiannol a masnachol
  • Oherwydd natur agored a golygfeydd eang o dir fferm o gwmpas, bydd plannu coetir ar raddfa fawr yn debygol o fod yn amhriodol. Dylai sgrinio a chlustogi ffyrdd, adeiladau diwydiannol a masnachol ddigwydd drwy gryfhau ffiniau caeau a lleiniau cysgodi presennol.

 

Canolfan Groeso a Gwesty
  • Cynnal gorchudd canopi presennol a phlannu coed ychwanegol i nodi cyrraedd Tyddewi a mynedfeydd i hybiau allweddol, lle mae digon o le.
  • Gwella’r ymdeimlad o gyrraedd a sgrinio’r maes parcio yn rhannol ymhellach â choed a digon o le rhyngddynt, gan gynnal teimlad agored o hyd.

 

Cwr Preswyl Tyddewi
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Sicrhau bod llinellau gweld yn cael eu cynnal er mwyn diogelwch, osgoi creu ardaloedd o blannu trwchus a allai annog ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan flaenoriaethu coed canopi uchel a digon o le rhyngddynt, neu rywogaethau pigfain cul.
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd sydd â’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd, gan gynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd llethr / maint bach ac ati.
  • Plannu coed er mwyn clustogi a sgrinio ardaloedd preswyl o goridorau llwybr a marcio’r ddynesfa at Dyddewi (e.e. yr A487), gan ddefnyddio lleiniau ymyl ffordd ar gyfer rhodfeydd coed neu grwpiau bach o goed lle bo hynny’n briodol. Gall hyn gynnwys ymgorffori grwpiau o goed ar leiniau glaswellt lletach ymyl ffordd ar hyd Heol Non.

 

Canol Dinas Tyddewi
  • Sicrhau bod amnewid coed presennol (os cânt eu colli neu dynnu) yn ofyniad parhaus i gynnal gorchudd canopi a’i gynyddu yn ddelfrydol. Er bod cymharol ychydig o goed yn ardaloedd adeiledig yr ardal gadwraeth, mae sawl grŵp o goed collddail sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at y strydlun.
  • Mae nifer o strydoedd yng nghanol y ddinas yn gul, heb fawr iawn o gyfle i blannu coed stryd ychwanegol. Y lleoedd gorau i osod coed fydd mynedfeydd allweddol, cyrion a chyffyrdd lletach, gan ddefnyddio coed sydd â ffurf gul i gynnal llinellau gweld lle bo angen.

Yn ôl i’r top

 

Parthau Plannu Coed ac Is- Egwyddorion Dinbych-y-pysgod

 

3.26 Dangosir Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer Dinbych-y-pysgod ar y map ac isod. Maent yn cynnwys:

  • Y Dref Gaerog a’r Canol Hanesyddol
    • Plannu coed er mwyn gwella canol y dref hanesyddol, gan sicrhau nad yw’r cynigion plannu coed yn effeithio’n negyddol ar safle asedau hanesyddol arwyddocaol.
  • Diwydiannol a Masnachol y Salterns
    • Meddalu’r cyd-destun diwydiannol a masnachol ar dir yn Ystâd Ddiwydiannol Salterns.
  • Y Promenâd a’r Harbwr
    • Cyflwyno rhywogaethau coed sy’n addas ar gyfer amgylcheddau glan dŵr er mwyn sicrhau athreiddedd gweledol a chadw golygfeydd o’r môr.
  • Cwr Preswyl Dinbych-y-pysgod
    • Gwella safle ardaloedd preswyl a hyrwyddo derbyn cynigion plannu coed gyda’r gymuned leol i gynyddu tebygolrwydd sefydlu hirdymor.

 

Ffigur 3.11: Parthau Plannu Coed Strategol Dinbych-y-pysgod

 

Parthau ac Is-egwyddorion

3.27 Mae’r tir sydd wedi’i gwmpasu o fewn Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod yn cynnwys y mannau rhwng adeiladau a’r coed presennol yn y dynodiad. Felly, dylid cysylltu â Chyngor Sir Penfro (CSP) cyn dechrau gwaith ar goed presennol sy’n destun Gorchymyn Cadw Coed (GCC) neu’r rhai sydd o fewn ffin Ardal Gadwraeth Dinbych-y-pysgod.

3.28 Mae Dinbych-y-pysgod o fewn ffin Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (PCAP). Wrth ddatblygu cynlluniau manwl ar gyfer plannu coed a choetir yn y dyfodol, dylid ystyried Canllawiau Coed a Choetir PCAP. Nid yw asesiad manwl o Ardaloedd Cymeriad Tirwedd ‘trefol’ (megis Dinbych-y-pysgod) wedi’i gynnwys yng nghanllawiau PCAP, oherwydd y prinder cyfleoedd i blannu coetir newydd yn yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, byddai’r canllawiau generig o fewn y ddogfen hon yn berthnasol o hyd.

 

Y Dref Gaerog a’r Canol Hanesyddol
  • Sicrhau bod y coed a blannir yn ategu cymeriad unigryw’r treflun ac nad ydynt yn tynnu oddi wrtho. Dylai cynigion plannu coed ystyried llinellau adeiladau presennol a chyfeiriadedd datblygiad presennol. Mae hyn yn cynnwys ymateb i batrwm y strydlun o ran baeau a ‘nodau’ sy’n ymrannu’r ffasâd.
  • Dylid cynnal golygfeydd tuag at wal y dref ac ar ei hyd, gan sicrhau nad yw unrhyw blannu coed newydd yn rhwystro golygfeydd na gwrthdaro ag asedau treftadaeth / archaeoleg danddaearol yn sylweddol.
  • Plannu coed er mwyn lleihau effaith weledol ceir sydd wedi’u parcio ar y strydlun yn ogystal â lleoliad tirwedd strydoedd ac adeiladau hanesyddol.
  • Lle bydd cyfle a lle bo hynny’n briodol, ystyried ailddefnyddio rhannau bach o le parcio ar y stryd er mwyn gwneud lle i blannu coed o fewn tirwedd galed (e.e. rhannau lletach ar hyd y Stryd Fawr a St Julian’s Street).
  • Efallai mai’r lle gorau i blannu coed mewn llawer o leoliadau fydd cyffyrdd lletach ac ardaloedd i gerddwyr, gan ddefnyddio coed o ffurf gul i gynnal golygfeydd lle bo angen.

 

Diwydiannol a Masnachol y Salterns
  • Cynyddu gorchudd coed i feddalu’r golygfeydd tuag at ddatblygiad diwydiannol. Gallai hyn gynnwys ffiniau’r mannau parcio (fel maes parcio The Green).
  • Cynnal a chynyddu gorchudd canopi yn The Green, gan ddiogelu’r safle fel ased gwyrdd allweddol a helpu i liniaru nodweddion sy’n tynnu sylw ac adeiladau masnachol.
  • Sicrhau gwyrddu strydoedd drwy blannu coed, yn enwedig lle mae unrhyw waith uwchraddio ffyrdd mynediad neu feysydd parcio yn digwydd. Sicrhau bod plannu coed newydd yn ofynnol yn rhan o ddatblygiad diwydiannol yn y dyfodol.

 

Y Promenâd a’r Harbwr
  • Sicrhau bod gwaith rheoli tirwedd a phlannu coed yn y dyfodol yn cynnal golygfeydd allweddol, megis o’r promenâd a’r mannau eistedd ar hyd Battery Road. Dylid cyflawni hyn gan ddefnyddio coed a digon o fwlch rhyngddynt gyda boncyffion clir / canopïau uchel. Gall grwpiau bach o goed a digon o le rhyngddynt hefyd fod yn briodol ar ymylon ardaloedd bychain o fannau gwyrdd wedi’u gosod yn ôl o lan y môr.
  • Plannu coed ar raddfa fach i feddalu a hidlo effaith weledol nodweddion fel Maes Parcio Glan y Môr. Efallai mai’r lle gorau i blannu coed mewn niferoedd bach fydd er mwyn nodi mynedfeydd a chanolbwyntio ar gyfleusterau presennol fel blociau toiledau a ger y parc sglefrio / parc chwarae.
  • Integreiddio coed mewn clystyrau bychain i greu microhinsawdd i wella amodau tyfu o fewn lleoliadau agored, a chaniatáu ymgorffori pyllau tyfu / lle gwreiddio a rennir mewn tirwedd galed.

 

Cyrion Preswyl Dinbych-y-pysgod
  • Plannu coed er mwyn gwella safle ardaloedd preswyl, gan greu strydoedd coediog lle bo modd. Dylid rhoi digon o ystyriaeth i ddewis rhywogaethau, maint terfynol canopi a gofynion cynnal a chadw i hyrwyddo sefydliad hirdymor a lleihau ymyrraeth ag adeiladau a gwasanaethau (e.e. leiniau telegraff / colofnau goleuo).
  • Blaenoriaethu plannu coed mewn ardaloedd lle mae’r cyfyngiadau lleiaf ar y safle, megis ardaloedd mwy o laswelltir mwynder a lleiniau ymyl ffordd llydan. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd heb fawr o werth hamdden oherwydd eu maint bach (e.e. Heywood Court, The Glebe)
  • Osgoi cynigion sy’n gwrthdaro â phwyntiau mynediad i gerbydau preifat ar strydoedd preswyl.
  • Dylai cynigion plannu coed osgoi rhwystro priffyrdd a Hawliau Tramwy Cyhoeddus o fewn y cyd-destun preswyl.
  • Integreiddio coed blodeuol ar leiniau ymyl ffordd a chyffyrdd lletach ar hyd Heol Arberth i ddarlunio llwybrau allweddol tuag at Ddinbych-y-pysgod.

Yn ôl i’r top

 

Teipoleg Plannu Coed

 

3.29 Dylai’r broses o ddewis rhywogaethau gael ei hysbysu gan ddealltwriaeth drylwyr o’r safle a’r elfennau allweddol eraill a drafodir uchod. Datblygwyd cyfres o deipoleg plannu coed a rhestri o rywogaethau a awgrymir y gellir cyfeirio atynt wrth ddatblygu cynlluniau plannu coed. Nid yw’r rhestri’n nodi pob opsiwn posibl a byddai angen gwaith pellach i bennu addasrwydd ar gyfer unrhyw safle penodol. Bydd angen i’r dewis terfynol o rywogaethau ystyried argaeledd stoc a chyllideb prosiect. Dylid cyfeirio hefyd at y Canllaw ar Ddewis Coed a Llwyni yn Sir Benfro (Agor mewn ffenest Newydd)), fel y’i cyhoeddwyd gan Bartneriaeth Natur Sir Benfro. Dylid cadw at egwyddor allweddol ‘coeden gywir, lle cywir’ bob amser.

  • Coed ar gyfer amgylcheddau palmantog a choridorau trafnidiaeth
  • Parcdir
  • Coetir a lleiniau cysgodi
  • Coed ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC)
  • Coed ar gyfer lleoliadau arfordirol

3.30 Argymhellir cyfeirio at ganllawiau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth baratoi rhestri rhywogaethau ar gyfer prosiectau plannu coed. Dylid cydnabod y gallai fod yn briodol mewn rhai lleoliadau ystyried plannu rhywogaethau estron, lle maent yn addas iawn i’r amodau amgylcheddol ac nid ydynt yn oresgynnol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ystyried heriau disgwyliedig yn y dyfodol i amodau tyfu o ganlyniad i newid hinsawdd. Mae’n debygol y bydd hyn yn ystyriaeth benodol wrth blannu o fewn yr ardal drefol ac o fewn lleoliadau tirwedd galed. Yn ddelfrydol, rhywogaethau brodorol ddylai fod prif elfen cynlluniau plannu coetir. Dylid ystyried effaith dewis rhywogaethau ar gymeriad y dirwedd hefyd, yn enwedig o fewn y Parc Cenedlaethol.

3.31 Mae Sir Benfro bellach yn destun effeithiau clefyd coed ynn (Hymenoscyphus fraxineus), sef clefyd ffwngaidd sy’n effeithio ar yr onnen (Fraxinus excelsior). O ganlyniad, nid yw plannu coed ynn wedi’i gynnwys yn yr argymhellion rhywogaeth.

 

Coed ar gyfer amgylcheddau palmantog a choridorau trafnidiaeth

3.32 Gall amgylcheddau palmantog ac ardaloedd o dirwedd galed gyflwyno cyfyngiadau sylweddol ar amgylchedd gwreiddio coed. Fodd bynnag, mae amryw o atebion dylunio y gellir eu gweithredu i wella llwyddiant plannu coed o fewn y lleoliadau hyn. Mae’r cyfyngiadau allweddol ar amgylchedd gwreiddio a thyfiant coed mewn amgylcheddau palmantog yn cynnwys cyfaint gwreiddio cyfyngedig ac arwyneb anathraidd sy’n cyfyngu ar ymdreiddiad dŵr a chyfnewid nwyon. Mae coed a blannwyd ar hyd coridorau trafnidiaeth hefyd yn debygol o ddioddef lefelau uchel o lygredd aer a dŵr ffo o ffyrdd (fel halen o raeanu ffyrdd). Bydd llawer o leoliadau plannu posibl o fewn amgylcheddau palmantog hefyd yn galw am goed cul neu bigfain eu ffurf oherwydd cyfyngiadau lle uwchben y ddaear.

3.33 Mae’r rhywogaethau coed a argymhellir isod yn cwrdd â’r gofynion canlynol:

  • Yn gymedrol oddefgar o leiaf o amodau sychder; a
  • Heb achosi problemau difrifol gyda ‘sbwriel ffrwythau’ a fyddai’n achosi problemau cynnal a chadw neu ddiogelwch amlwg.

3.34 Datblygwyd is-gategorïau sy’n bodloni’r meini prawf uchod, ond sydd hefyd yn bodloni meini prawf eraill ar gyfer senarios penodol:

  • Coed cul neu bigfain eu ffurf
  • Coed a allai oddef rhywfaint o halen ffo o fewn yr amgylchedd gwreiddio, neu oddef llygredd aer
    • Masarn bach (Acer campestre)
    • Castanwydd y meirch (Aesculus hippocastanum)
    • Masarn Capadocia (Acer cappadocicum)
    • Gwern yr Eidal (Alnus cordata)
    • Mefuswydd (Arbutus unedo)
    • Ceirios y cwyros (Cornus mas)
    • Mwyar y llwyfen (Celtis australis)
    • Cyll Twrci (Corylus colurna)
    • Helyg y môr (Hippophae salicifolia)
    • Yswydd Japan (Ligustrum japonicum)
    • Gludwydd melys (Liquidambar styraciflua)
    • Ffawydd hopys Ewropeaidd (Ostrya carpinifolia)
    • Coed haearn Persia (Parrotia persica)
    • Pinwydd ddu (Pinus nigra)
    • Pinwydd yr Alban (Pinus sylvestris)
    • Coed ceirios coch Ewropeaidd (Prunus fruticosa)
    • Ceirios Sargent (Prunus sargentii)
    • Derw digoes (Quercus patraea)
    • Cerddin gwynion (Sorbus aria)
    • Cerddin gwylltion (Sorbus torminalis)
    • Pisgwydd arian (Tilia tomentosa)
  • Coed cul, colofnog neu bigfain eu ffurf ar gyfer amgylcheddau palmantog
  • Masarn bach Lienco (Acer campestre ‘Lienco’)
  • Oestrwydd pigfain (Carpinus betulus ‘Fastigiata’)
  • Ginco (Ginkgo biloba ‘Fastigiata’)
  • Helyg y môr (Hippophae salicifolia ‘Streetwise’)
  • Gludwydd melys (Liquidambar styraciflua ‘Slender Silhouette’)
  • Criafol (Sorbus aucuparia ‘Streetwise’)
  • Pisgwydd dail bach (Tilia cordata ‘Greenspire’)
  • Coed sy’n addas ar gyfer coridorau trafnidiaeth
  • Masarn bach (Acer campestre)
  • Masarn coch (Acer rubrum)
  • Danadlwydd Ewropeaidd (Celtis australis)
  • Melddrain (Gleditsia triacanthos)
  • Helyg y môr (Hippophae salicifolia)
  • Gludwydd melys (Liquidambar styraciflua)
  • Pinwydd du (Pinus nigra)
  • Planwydd Llundain (Platanus x hispanica)
  • Coed coeg-geirios (Prunus cerasifera)
  • Coed gellyg Callery (Pyrus callleryana)
  • Derw digoes (Quercus patraea)
  • Cerddin Sweden (Sorbus intermedia)
  • Pisgwydd arian (Tilia tomentosa)

 

Parcdir

3.35 Bydd parciau, mannau agored ac ardaloedd sy’n addas ar gyfer plannu coetiroedd yn debygol o gyflwyno rhai o’r amgylcheddau o’r ansawdd uchaf ar gyfer tyfu coed. Gall parciau ddarparu cyfleoedd i blannu coed sbesimen canopi mawr, tra bo cyfleoedd yn llai aml mewn mannau eraill efallai (e.e. mewn amgylcheddau palmantog).

3.36 Parcdir: coed sy’n frodorol i Sir Benfro

  • Gwern (Alnus glutinosa)
  • Bedw arian (Betula pendul)
  • Bedw llwyd (Betula pubescens)
  • Cyll (Corylus avellana)
  • Drain Gwynion (Crataegus monogyna)
  • Celyn (Ilex aquifolium)
  • Aethnenni (Populus tremula)
  • Ceirios gwyllt (Prunus avium)
  • Derw digoes (Quercus petraea)
  • Helyg deilgrwn (Salix caprea)
  • Criafol (Sorbus aucuparia)
  • Yw (Taxus baccata)
  • Cerddin gwylltion (Sorbus torminalis)
  • Llwyfenni llydanddail (Ulmus glabra)

3.37 Mae’r bedw arian a’r bedw llwyd yn absennol o Ben Maen Dewi. Peidiwch â’u plannu yma na ger rhostir iseldirol lle gall fod yn oresgynnol iawn.

3.38 Mae gan gerddin gwylltion ddosbarthiad cyfyngedig, a hwnnw’n bennaf o gwmpas aber afon Cleddau.

3.39 Parcdir, coed sbesimen: blodeuo yn yr haf

  • Castanwydd-y-meirch India (Aesculus indica)
  • Castanwydd pêr (Castanea sativa)
  • Catalpâu’r Gogledd (Catalpa speciosa)
  • Melddrain (Gleditsia triacanthos)
  • Coed cnau Ffrengig (Juglans regia)
  • Coeden law aur (Koelreuteria paniculata)
  • Coed tiwlip (Liriodendron tulipifera)
  • Magnolias (Magnolia grandiflora)
  • Coeg-acasiâu (Robinia pseudoacacia)
  • Pisgwydd dail bach (Tilia cordata)
  • Pisgwydd Ewropeaidd (Tilia x europaea)
  • Pisgwydd arian (Tilia tomentosa)

3.40 Parcdir, coed sbesimen: blodeuo yn y gwanwyn

  • Masarn onennaidd (Acer negundo)
  • Masarn Norwy (Acer platanoides)
  • Sycamorwydd (Acer pseudoplatanus)
  • Castanwydd y meirch (Aesculus hippocastanum)
  • Gwern yr Eidal (Alnus cordata)
  • Oestrwydd (Carpinus betulus)
  • Coed Katsura (Cercidiphyllum japonicum)
  • Magnolias (Magnolia acuminata)
  • Ceirios gwyllt (Prunus avium)
  • Ceirios yr adar (Prunus padus)
  • Ceirios Sargent (Prunus sargentii)
  • Derw digoes (Quercus petraea)
  • Derw coesynnog (Quercus robur)
  • Helyg gwynion (Salix alba)
  • Cerddin gwylltion (Sorbus torminalis)

3.41 Gerddi domestig bach a safleoedd cyfyngedig iawn:

  • Criafol (Amelanchier canadensis)
  • Merysbren gwyn (Amelanchier lamarkii)
  • Mefuswydd (Arbutus unedo)
  • Prennau bocs (Buxus sempervirens)
  • Kousa (Cornus kousa)
  • Cyll (Corylus avellana)
  • Drain Gwynion (Crataegus monogyna)
  • Piswydd (Euonymus europaeus)
  • Tresi aur (Laburnum anagyroides)
  • Yswydd Japan (Ligustrum japonicum)
  • Magnolias (Magnolia x loebneri)
  • Coed afalau surion (Malus sylvestris)
  • Merysbrennau (Mespilus germanica)
  • Merwydd (Morus spp.)
  • Coed coeg-geirios (Prunus cerasifera)
  • Coed eirin gwyllt (Prunus domestica)
  • Siwmac (Rhus typhina)

 

Coetir a lleiniau cysgodi

3.42 Argymhellir bod rhywogaethau brodorol priodol yn ffurfio elfen sylweddol o brosiectau plannu coetir ar raddfa fwy. Dylid cyfeirio at feini prawf lle mae cais i gynllun cyllid grant creu coetir yn cael ei ystyried. Argymhellir cyfeirio at ganllawiau presennol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wrth baratoi rhestri rhywogaethau ar gyfer prosiectau plannu coed. Dylid cydnabod hefyd y gallai fod angen edrych y tu hwnt i restri rhywogaethau brodorol i ddatblygu gwytnwch o fewn poblogaethau ar raddfa tirwedd. Dylid ystyried effaith dewis rhywogaethau ar gymeriad y dirwedd hefyd, yn enwedig o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

3.43 Coetiroedd a lleiniau cysgodi: coed canopi (dim mwy na 50% o un rhywogaeth o fewn cymysgedd. Yn ddelfrydol dylid cynnwys o leiaf pum rhywogaeth allweddol, a phob un yn ffurfio o leiaf 10% o’r holl gymysgedd).

3.44 Rhywogaethau llydanddail:

  • Sycamorwydd (Acer pseudoplatanus)
  • Gwern (Alnus glutinosa)
  • Bedw arian (Betula pendula)
  • Bedw llwyd (Betula pubescens)
  • Castanwydd pêr (Castanea sativa)
  • Drain Gwynion (Crataegus monogyna)
  • Ffawydd (Fagus sylvatica)
  • Aethnenni (Populus tremula)
  • Ceirios gwyllt (Prunus avium)
  • Ceirios sur (Prunus cerasus)
  • Derw digoes (Quercus petraea)
  • Derw coesynnog (Quercus robur)
  • Criafol (Sorbus aucuparia)
  • Pisgwydd dail bach (Tilia cordata)
  • Pisgwydd (Tilia x europaeus)
  • Pisgwydd dail mawrion (Tilia platyphyllos)

3.45 Rhywogaethau conifferaidd:

  • Cedrwydd Himalaya (Cedrus deodara)
  • Cedrwydd Libanus (Cedrus libani)
  • Pinwydd polion (Pinus contorta)
  • Pinwydd yr Alban (Pinus sylvestris)
  • Cochwydd Califfornia (Sequoia sempervirens)
  • Cedrwydd coch (Thuja plicata)

3.46 Llwyni coediog (y bydd angen yn gyffredinol iddynt ffurfio 30% neu lai o’r gymysgedd rhywogaethau):

  • Cyll (Corylus avellana)
  • Piswydd (Euonymus europaeus)
  • Rhafnwydd gwernaidd (Frangula alnus)
  • Meryw (Juniperus communis)
  • Yswydd (Ligustrum vulgare)
  • Helyg Mair (Myrica gale)
  • Drain duon (Prunus spinosa)
  • Rhafnwydd (Rhamnus cathartica)
  • Helyg deilgrwn (Salix caprea)
  • Helyg llwyd (Salix sinerea)
  • Helyg gwiail (Salix virminalis
  • Ysgaw (Sambucus nigra)
  • Gwifwrnwydd (Viburnum lantana)
  • Corswig (Viburnum opulus)

 

Coed ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC)

3.47 Wrth ddylunio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) gellir creu amrywiaeth o amodau tyfu. Gall hyn gynnwys ardaloedd cynefin a phantiau o lystyfiant sy’n destun llifogydd aml neu anaml. Mae rhai cynlluniau SDC yn ymgorffori systemau storio wedi’u peiriannu’n fawr, gan gynnwys pyllau coed gyda phriddoedd strwythurol sy’n draenio’n rhydd iawn. Yn y sefyllfaoedd hyn, gall amgylcheddau gwreiddio ddirlenwi’n llwyr, cyn sychu’n gymharol gyflym. Bydd angen i goed allu goddef rhywfaint o ddirlawnder ond hefyd sychder yn y lleoliadau hyn.

3.48 Yn addas ar gyfer SDC wedi’u peiriannu gyda phriddoedd strwythurol:

  • Masarn onennaidd (Acer negundo)
  • Masarn coch (Acer rubrum)
  • Masarn arian (Acer saccharinum)
  • Gwern yr Eidal (Alnus cordata)
  • Gwern (Alnus glutinosa)
  • Cwyros (Cornus sanguinea)
  • Melddrain (Gleditsia triacanthos)
  • Gludwydd melys (Liquidambar styraciflua)
  • Planwydd Llundain (Platanus x hispanica)
  • Planwydd Dwyreiniol (Platanus orientalis)
  • Derw Sbaen (Quercus palustris)

3.49 Gallu goddef dirlawnder:

  • Gwern (Alnus glutinosa)
  • Helyg gwynion (Salix alba)
  • Helyg clustiog (Salix aurita)
  • Helyg deilgrwn (Salix caprea)
  • Helyg llwyd (Salix cinerea)
  • Helyg pêr (Salix pentandra)
  • Cochwydd collddail (Taxodium distichum)

 

Coed ar gyfer lleoliadau arfordirol

3.50 Coed ar gyfer lleoliadau arfordirol (hefyd yn addas i’w plannu i ardaloedd tirwedd galed):

  • Sycamorwydd (Acer pseudoplatanus)
  • Gwern llwyd (Alnus incana)
  • Gwern yr Eidal (Alnus cordata)*
  • Criafol (Amelanchier canadensis)
  • Cyll (Corylus avellana)
  • Drain Gwynion (Crataegus monogyna)
  • Banadl (Cytisus scoparius)
  • Melddrain (Gleditsia triacanthos))*
  • Helyg y môr (Hippophae salicifolia))*
  • Celyn (Ilex aquifolium)
  • Meryw (Juniperus communis)
  • Coed afalau surion (Malus sylvestris)
  • Pinwydd du (Pinus nigra))*
  • Pinwydd cneuog (Pinus pinea)
  • Pinwydd Monterey (Pinus radiata)
  • Pinwydd yr Alban (Pinus sylvestris)
  • Poplys arian (Populus alba)
  • Poplys duon (Populus nigra)
  • Aethnenni (Populus tremula)
  • Drain duon (Prunus spinosa)
  • Gellyg (Pyrus communis)
  • Criafol (Sorbus aucuparia)
  • Derw Twrci (Quercus cerris))*
  • Derw bythwyrdd (Quercus ilex))*
  • Derw digoes (Quercus petraea))*
  • Derw coesynnog (Quercus robur)
  • Helyg clustiog (Salix aurita)
  • Helyg deilgrwn (Salix caprea)
  • Helyg llwyd (Salix cinerea)
  • Ysgaw (Sambucus nigra)
  • Cerddin Sweden (Sorbus intermedia))*
  • Cerddin gwylltion (Sorbus torminalis))*
  • Pisgwydd arian (Tilia tomentosa)*
  • Eithin Ewropeaidd (Ulex europaeus)

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Egwyddorion Cyffredinol

 

Pennod nesaf:

Cyflawni – Strategaethau Coed Trefol

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan