Cyflawni – Strategaethau Coed Trefol

Asesiad Seilwait Gwyrdd Sir Benfro: Paratowyd gan LUC Mawrth 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Y broses plannu coed
Cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus
Dewis rhywogaethau
Yr amgylchedd gwreiddio

 

Cyflawni – Strategaethau Coed Trefol

 

Y broses plannu coed

 

4.1 Efallai y bydd y gwaith o gyflawni prosiectau plannu coed yn ymarferol yn golygu bod angen cydlynu amrywiaeth o randdeiliaid, arbenigwyr a phartïon a chanddynt fuddiant. Buddiol felly yw gosod proses neu ‘fframwaith’ lefel uchel ar gyfer y cyflawni. Gellir defnyddio cynllun proses amlinellol yn fan cychwyn i unrhyw brosiect plannu coed drwy’r 11 anheddiad i gyd ac mae modd ei ddiwygio yn ôl yr angen. Gall y cynllun proses hefyd fod yn sail i restr wirio a rhaglen y gall partneriaid prosiect weithio iddynt.

4.2 Gall cynigion am blannu coed ddod o amrywiaeth o bartïon, gan gynnwys Cyngor Sir Penfro (CSP) neu Gynghorau Tref, neu grwpiau cymunedol. Argymhellir datblygu rhestr blannu neu brosiect ym mhob tymor plannu gwreiddiau moel (a fydd yn debygol o bara o fis Hydref hyd at fis Mawrth fan bellaf). Bydd angen digon o amser i wneud yn siŵr bod yr holl archwiliadau angenrheidiol yn cael eu cynnal (megis cloddio pyllau prawf neu brofion pridd) a chadarnhau a oes unrhyw gynlluniau neu ganiatâd yn ofynnol ar gyfer y plannu. Os cyflwynir ceisiadau addas gan grwpiau cymunedol neu drigolion a bod arian ar gael ar gyfer plannu, gallai coed gael eu hychwanegu at y rhaglen blannu ar gyfer y flwyddyn honno.

4.3 Bydd maint y cynllunio, yr adnoddau a lefel yr arbenigedd sydd eu hangen ar gyfer prosiectau plannu coed yn amrywio’n sylweddol gan ddibynnu ar y lleoliad. Er enghraifft, bydd y gofynion ar gyfer plannu ar raddfa fach mewn tirwedd feddal (megis parc lleol neu ymyl laswellt) yn llawer llai nag ar gyfer plannu mewn ardal tirwedd galed lle nad yw’r amodau dan y ddaear yn hysbys.

4.4 Dangosir cynllun proses lefel uchel ar gyfer prosiectau plannu coed yn ffigur 4.1 isod ac mae’n cynnwys y canlynol:

  • Cynllun proses prosiectau plannu coed
    • Arolwg desg i gadarnhau unrhyw gyfyngiadau amgylcheddol, cynllunio neu berchnogaeth.
    • Nodi unrhyw ofynion ymgynghori tebygol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn gynnar
    • Arolwg gweledol i gwmpasu nifer y coed/lleoliadau, golygfeydd, cyfyngiadau, amlygiad a choed cyfagos presennol
  • Plannu mewn tirwedd galed
    • Cynnal asesiad radar treiddio tir i helpu i nodi cyfyngiadau cyfleustodau tanddaearol
    • Treialu cloddio lleoliadau sy’n pasio’r cam blaenorol (pwll prawf lleiaf 600mm x 600mm)
    • Nodi a chostio unrhyw ofynion tirlunio caled/peirianneg sifil
  • Plannu mewn tirwedd feddal
    • Asesiad pridd sylfaenol i lywio dewis rhywogaethau. Nodi math o bridd, pH ac unrhyw broblemau draenio
    • Cadarnhau bod cynllun cynnal a chadw hyd at sefydlu yn ei le (isafswm o 3 blynedd)
  • Ychwanegu safleoedd llwyddiannus at raglen blannu flynyddol
    • Yn ddelfrydol, dylai safleoedd fod wedi’u cyflwyno erbyn mis Awst i ganiatáu amser i sicrhau stoc coed ar gyfer y tymor plannu i ddod
    • Adolygu opsiynau rhywogaethau sy’n cael eu llywio gan restr rhywogaethau.
    • Cysylltu â phlanhigfeydd er mwyn gwirio argaeledd stoc a diwygio cynlluniau plannu ar gyfer safleoedd os oes angen
    • Sicrhau stoc plannu. Gwneud trefniadau i dderbyn dosbarthiadau. Trefnu storfa dros dro os oes angen. Chwilio am gyfleoedd i wneud archebion grŵp ac arbed costau dosbarthu
    • Cysylltu â thimau, contractwyr neu grwpiau cymunedol perthnasol i gadarnhau trefniadau plannu ac ôl-ofal.
    • Trefnu unrhyw waith tirlunio caled, gwella pridd neu baratoi safle ymhell cyn y dyddiad plannu
    • Ychwanegu plannu newydd at gofnodion coed. Monitro coed ar ôl eu plannu. Gofal dyfrio a sefydlu am 3 blynedd o leiaf nes bod coed yn gwbl annibynnol yn y dirwedd.

 

Ffigur 4.1: Cynllun proses lefel uchel ar gyfer prosiectau plannu coed


Yn ôl i’r top

 

Cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus

 

4.5 Gellir rhannu’r cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed yn llwyddiannus yn fras fel a ganlyn:

  1. Dewis rhywogaethau
  • Dewis y goeden gywir ar gyfer y lleoliad, gan ystyried cyfyngiadau’r safle.
  1. Yr amgylchedd gwreiddio
  • Darparu amgylchedd gwreiddio priodol, gyda digon o gyfaint o bridd o’r amodau cywir.
  1. Plannu ac ôl-ofal
  • Defnyddio arferion da drwy gydol y broses gyfan o archebu planhigion i blannu a chynnal a chadw

4.6 Mae Ffigur 4.2 isod yn amlygu’r pwyntiau canlynol ar gyfer pob cydran:

  • Yr amgylchedd gwreiddio
    • Cyfaint gwreiddio
    • Manyleb pwll coed
    • Math/amodau pridd
  • Dewis rhywogaethau
    • Cyfyngiadau’r safle
    • Hinsawdd
    • Tirwedd
    • Egwyddorion Strategaeth
  • Plannu ac ôl-ofal
    • Arfer plannu
    • Ansawdd y planhigion
    • Cynnal a chadw
    • Diogelu

 

Ffigur 4.2: Cydrannau allweddol ar gyfer sefydlu coed llwyddiannus


Yn ôl i’r top

 

Dewis rhywogaethau

 

4.7 Mae yna ystod eang o ffactorau y mae angen eu hystyried wrth ddewis rhywogaethau addas ar gyfer unrhyw gynllun plannu coed. Derbynnir yn helaeth mai coed uchafbwyntiol iach, canopi mawr a fydd yn sicrhau’r buddion mwyaf ar y cyfan. Felly, dylid blaenoriaethu plannu coed mawr lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, gall cyfyngiadau’r safle (megis strydoedd cul, ystyriaethau diogelwch, agosrwydd at strwythurau a chyfleustodau) bennu y bydd angen dewis rhywogaethau neu gyltifarau llai o faint.

4.8 Beth bynnag y bydd maint aeddfed y goeden yn y pen draw, dim ond os bydd y coed yn iach a bod modd sicrhau bywioldeb parhaus y bydd buddion yn dod. Ni fydd coed sydd heb egni ac sy’n ei chael hi’n anodd goroesi yn darparu’r buddion a fwriadwyd. Ar ben hynny, bydd mwy o waith cynnal yn ofynnol ar goed mewn iechyd gwael, byddant yn fwy agored i bathogenau a byddant yn arwain yn y pen draw at wastraff amser ac adnoddau. Felly mae angen i goed fod yn addas ar gyfer yr amgylchedd a’r safle lle cânt eu plannu, a’r gofyniad cyffredinol ar gyfer dewis rhywogaethau felly fydd ‘coeden gywir, lle cywir’. Yn ddealladwy, mae ystyriaethau esthetig yn aml yn dylanwadu ar ddewis coed i raddau helaeth, ond dylai hyn bob amser fod yn eilaidd i allu’r goeden i ffynnu ar y safle dan sylw.

 

Ystyriaethau allweddol ar gyfer dewis rhywogaethau

 

Nodweddion a chyfyngiadau safle

4.9 Bydd angen asesu nodweddion a chyfyngiadau’r safle ar gyfer pob cynllun plannu coed. Bydd maint y dasg hon yn amrywio yn ôl y lleoliad a’r math o blannu sy’n cael ei gynnig. Mae cyfyngiadau safle allweddol y bydd angen eu hystyried yn cynnwys:

 

Yr amgylchedd gwreiddio / islaw’r ddaear
  • Nodweddion y pridd (pH, math o bridd, materion draeniad neu gywasgu)
  • Presenoldeb a lleoliad cyfleustodau
  • Cyfaint wreiddio ac arwyneb sydd ar gael (a yw’r safle’n balmantog / yn dal traffig)
  • Risg llifogydd / llygredd ffo tebygol

4.10 Yn gyffredinol, mae’r cyfyngiadau a’r heriau ar gyfer yr amgylchedd gwreiddio a achosir trwy blannu o fewn tirweddau caled yn fwy na phlannu o fewn tirweddau meddal (fel parciau a mannau agored).

 

Uwchlaw’r ddaear
  • Lle tyfu sydd ar gael (h.y. adeiladau a chyfleustodau cyfagos)
  • Amlygiad a hinsawdd (llwch halen, amlygiad i’r gwynt, cysgod ac ati)
  • Golygfeydd (h.y. fistâu y mae angen eu cynnal er mwyn diogelwch neu werthfawrogiad esthetig / tirwedd neu dreftadaeth)
  • Llygredd
  • Cynefin amgylchynol a phoblogaeth bresennol o goed
  • Cymeriad tirwedd
  • Defnydd arall y safle a materion mynediad

 

Amrywiaeth rhywogaethau coed

4.11 Mae poblogaethau amrywiol o goed yn fwy gwydn i amrywiaeth o fygythiadau amgylcheddol, fel plâu a chlefydau, sy’n gallu amlhau mewn achosion o blannu rhywogaethau sengl ac a allai fygwth rhywogaethau cyfan o goed. Bydd newidiadau disgwyliedig yn yr hinsawdd hefyd yn gosod heriau i dyfiant iach rhai coed ac o bosib yn gwaethygu rhai problemau plâu a chlefydau. Felly, wrth blannu coed newydd, dylid anelu at amrywio’r gymysgedd rhywogaethau ar unrhyw safle penodol. Gallai strydoedd a rhodfeydd ag un rhywogaeth fod yn briodol o hyd, ond ar y cyfan dylai dewis rhywogaethau ledled anheddiad neu is-ardal osgoi cael mwy na thuag 20% o’r un rhywogaeth yn gyffredinol. Fel y nodwyd o dan nodweddion a chyfyngiadau’r safle, dylid cynnal asesiad o’r boblogaeth goed bresennol. Dylai hwn gynnwys asesiad o’r gymysgedd bresennol o rywogaethau coed y gellir ei wneud wrth ddewis rhywogaethau.

 

Darparu ar gyfer bioamrywiaeth

4.12 Mae coed yn darparu cynefinoedd a ffynonellau bwyd ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt. Mae coed mwy o faint yn darparu lle i glwydo, eistedd a nythu (fel adar ac ystlumod). Mae ffrwythau, aeron a hadau yn ffynhonnell fwyd i adar a mamaliaid, ac mae llawer o infertebratau’n dibynnu ar goed am fwyd (fel neithdar o flodau) ac am agweddau eraill ar eu cylch bywyd (fel dodwy wyau / gaeafu ac ati). Dylid blaenoriaethu cyfleoedd i blannu coed sy’n darparu bwyd, lloches a chynefin i fywyd gwyllt arall. Fodd bynnag, mewn rhai lleoliadau gall fod cyfyngiadau eraill ar y safle a allai gyfyngu ar ddefnyddio rhai coed at y diben (megis ffrwythau mawr a allai achosi mater cynnal a chadw sylweddol na ellir ei reoli’n briodol).

4.13 Yn gyffredinol, bydd rhywogaethau brodorol, a fu’n bresennol ochr yn ochr â bywyd gwyllt brodorol arall am gyfnod hirach, yn cynnal ystod ehangach o fywyd gwyllt arall na rhywogaethau anfrodorol. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried ei bod yn gwbl hanfodol defnyddio rhywogaethau brodorol yn unig ym mhob ardal. Mae llawer o rywogaethau coed anfrodorol â phriodoleddau buddiol a allai fod yn fwy gwydn i effeithiau disgwyliedig newid hinsawdd. Mae hyn yn arbennig o wir o fewn amgylcheddau trefol, a dylid ystyried y rhywogaethau hyn hefyd wrth ddewis rhywogaethau ar gyfer prosiectau plannu coed, ar yr amod nad ydynt yn oresgynnol. Dylai’r ffocws fod ar y rhywogaethau sy’n fwyaf priodol i’r fro, ac sy’n fwyaf tebygol o ffynnu yn amodau’r dyfodol. Yn gyffredinol, y rhywogaethau sy’n perthyn agosaf i’r rhywogaethau brodorol fydd y rhai mwyaf priodol.

 

Dewis rhywogaethau ar gyfer 11 anheddiad ledled Sir Benfro

4.14 Dylai dealltwriaeth drylwyr o’r safle plannu a’r elfennau allweddol eraill a drafodir uchod hysbysu’r broses o ddewis rhywogaethau. Datblygwyd cyfres o deipoleg plannu a rhestri o rywogaethau a awgrymir y gellir cyfeirio atynt wrth ddatblygu cynlluniau plannu coed. Nid yw’r rhestri’n nodi pob opsiwn posibl a byddai angen gwneud gwaith pellach i bennu addasrwydd ar gyfer unrhyw safle penodol. Gall argaeledd stoc a chyllideb y prosiect hefyd ddylanwadu ar y dewis terfynol o rywogaethau yn y pen draw. Fodd bynnag, dylid cadw bob amser at egwyddor allweddol ‘coeden gywir, lle cywir’.

  • Coed ar gyfer amgylcheddau palmantog a choridorau trafnidiaeth;
  • Parcdir
  • Coetir a lleiniau cysgodi;
  • Coed ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy; a
  • Choed ar gyfer lleoliadau arfordirol.

4.15 Argymhellir cyfeirio at ganllawiau presennol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy’n gysylltiedig ag Iechyd Coed yng Nghymru (Agor mewn ffenest Newydd) wrth baratoi rhestri rhywogaethau ar gyfer prosiectau plannu coed. Yn ddelfrydol, rhywogaethau brodorol ddylai fod prif elfen cynlluniau plannu coetir sylweddol. Dylid hefyd ystyried effaith dewis rhywogaethau ar gymeriad y tirlun, yn enwedig o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Canllawiau ar Goed a Choetir (Canllawiau Cynllunio Atodol i Gynllun Datblygu Lleol 2 Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro – drafft wedi’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus). Mae’r ddogfen hon i’w mabwysiadu’n ffurfiol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) (yn dilyn adroddiad o ymgynghoriadau) yn 2023.

4.16 Mae argymhellion rhywogaethau ar gyfer y deipoleg blannu a restrir uchod wedi’u nodi o dan Barthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad.

Yn ôl i’r top

 

Yr amgylchedd gwreiddio

 

4.17 Er mwyn i goed dyfu i’w hiechyd gorau posibl a’u llawn botensial, mae angen cyfaint priodol o bridd arnynt gyda digon o fater organig, maetholion, pH addas, y gallu i ddal digon o ddŵr a digon o ddraeniad. Mae awyriad yn hanfodol ac mae’n pennu gallu’r goeden i gael at ddŵr a maetholion. Gall y ffactorau allweddol canlynol gyfaddawdu awyriad pridd:

  • Selio pridd ag arwynebau caled sy’n atal cyfnewid ocsigen a nwyon eraill rhwng amgylcheddau uwchlaw ac islaw’r ddaear (sy’n broblem yn bennaf mewn amgylcheddau tirwedd galed);
  • Draeniad gwael neu lefelau trwythiad uchel (a all fod oherwydd amodau daear naturiol a hefyd cael eu creu’n artiffisial trwy ddyluniad gwael); a
  • Chywasgu pridd drwy ddefnydd blaenorol neu gamreoli priddoedd (megis trwy ddefnyddio peiriannau trwm pan fydd pridd yn wlyb).

4.18 Gall nodweddion eraill y pridd megis pH pridd, ansawdd pridd a’r gallu i ddal dŵr gael effaith sylweddol ar ddewis rhywogaethau. Bydd angen pennu rhagor o wybodaeth am ofynion penodol i rywogaethau yn ôl y gofyn.

 

Safonau pyllau coed (amgylchedd gwreiddio) ar gyfer 11 anheddiad yn Sir Benfro

4.19 Nid yw’n bosib darparu pwll plannu coed syml oddi ar y silff a fydd yn berthnasol i bob safle. Gall pyllau plannu coed amrywio o atebion syml iawn i dra thechnegol y mae angen mewnbwn ac arbenigedd dylunio arbenigol arnynt. Yn gyffredinol, dim ond i fynd i’r afael â chyfyngiad neu rwystr penodol ar safle y bydd angen dyluniadau mwy cymhleth o gwbl. Yr egwyddor ar gyfer y rhan fwyaf o blannu coed o ran yr amgylchedd gwreiddio fydd ceisio’r ateb symlaf, gan fabwysiadu arferion coedyddiaeth priodol. Ar gyfer rhai prosiectau, efallai mai’r cyfan y bydd angen ei wneud yw cloddio twll plannu, gosod y goeden ac ôl-lenwi â’r pridd presennol, gan sicrhau bod uwchbridd ac isbridd yn cael eu cadw ar wahân. Dylai dyluniad pwll coeden syml fod yn fan cychwyn, ond gall fod angen rhagor o waith a mewnbwn dylunio mewn ymateb i gyfyngiadau penodol y safle. Gellir cyfeirio at destun cyfeirio cynhwysfawr; Trees in Hard Landscapes: A Guide for Delivery (Trees and Design Action Group, 2014) am arweiniad pellach ynghylch goresgyn cyfyngiadau safle penodol wrth blannu mewn tirweddau caled.

 

Coed mewn tirwedd feddal

4.20 Yn gyffredinol, bydd darparu amgylchedd gwreiddio addas mewn ardaloedd o dirwedd feddal yn fwy didrafferth na darparu amgylchedd gwreiddio addas mewn ardaloedd o dirwedd galed (balmantog). Bydd angen i asesiadau safle nodi unrhyw faterion penodol a allai rwystro tyfiant gwreiddiau, gan gynnwys materion draenio sylweddol neu gywasgiad pridd a pH pridd a allai gyfyngu’n sylweddol ar dyfiant planhigion iach neu ddewis rhywogaethau. Dylid dilyn arfer da coedyddiaeth lle mae angen unioni unrhyw faterion pridd. Y deunydd a gloddiwyd a ddylai ddarparu’r pridd a ddefnyddir i lenwi’r twll plannu yn ôl. Os nad yw hyn yn bosibl am unrhyw reswm, dylai’r pridd a ddefnyddir i ôl-lenwi’r twll plannu fod mor agos â phosibl o ran nodweddion i’r pridd cyfagos.

 

Coed mewn tirwedd galed

4.21 Un ffactor cyfyngu allweddol yn nhyfiant coed trefol yw diffyg cyfaint pridd addas i wreiddiau dyfu. Dylai cynigion ar gyfer plannu mewn ardaloedd o dirwedd galed sicrhau bod digon o gyfaint gwreiddio i’r rhywogaeth sy’n cael ei phlannu er mwyn i’r goeden gyrraedd aeddfedrwydd a sicrhau’r buddion a fwriadwyd. Mae hyn yn her, gan fod angen lle tanddaearol yn aml ar gyfer defnyddiau sy’n cystadlu yn yr ardaloedd trefol. Dylid ceisio cael y cyfaint gwreiddio mwyaf posibl os oes modd. Os yw cost yn ystyriaeth fawr wrth ddarparu prosiect o fewn ardal o dirwedd galed, efallai y bydd yn fwy priodol lleihau nifer cyffredinol y coed a darparu mwy o gyfaint gwreiddio ar gyfer llai o goed. Ymhlith y strategaethau allweddol i sicrhau bod digon o gyfaint gwreiddio islaw ardaloedd o dirwedd galed, mae:

  • Cynyddu’r amgylchedd gwreiddio gymaint â phosibl drwy swbstradau plannu sy’n dwyn llwyth (priddoedd strwythurol) neu gelloedd pridd modiwlaidd (ateb costus fel rheol);
  • Creu ffos barhaus sy’n galluogi gwreiddiau i ledaenu i’r lle rhwng coed, gan greu amgylchedd gwreiddio a rennir. Golyga hyn yn gyffredinol y gellir lleihau’r amgylchedd gwreiddio cyffredinol fesul coeden; a
  • Chreu ‘parthau ymneilltuo’ sy’n galluogi gwreiddiau i fanteisio ar ardaloedd pridd cyfagos a allai ddarparu amgylchedd gwreiddio ehangach.

4.22 Gellir plannu coed newydd o hyd mewn ardaloedd lle mae cyfaint pridd yn brin, ond dylid derbyn na fydd coed o’r fath yn debygol o gyrraedd eu llawn botensial (aeddfedrwydd, maint neu ddisgwyliad oes).

 

Canllaw i gyfeintiau pridd (lleiaf)

4.23 Nodir isod ganllaw i gyfeintiau pridd lleiaf, sy’n cael eu pennu gan faint y goeden yn y pen draw. Darperir canllawiau ar gyfer amgylcheddau gwreiddio coed sy’n cynnwys uwchbridd ‘amlbwrpas’ sy’n cydymffurfio â Safonau Prydeinig (BS 3882:2015 Manyleb ar gyfer Uwchbridd). Darperir canllawiau cyfaint pridd ar wahân hefyd ar gyfer priddoedd strwythurol (sy’n dwyn llwyth), y mae angen iddynt fod yn fwy yn gyffredinol oherwydd y cynnwys cerrig uwch, a chanddynt lai o gyfran o bridd mwynol a mater organig.

 

Coed bach iawn <5 metr
  • Priddoedd lôm heb eu cywasgu: 6m3 (5m3 os cânt eu rhannu); a
  • Phriddoedd strwythurol: 8m3 (6m3 os cânt eu rhannu).

 

Coed bach (5-10m)
  • Priddoedd lôm heb eu cywasgu: 12m3 (9.5m3 os cânt eu rhannu); a
  • Phriddoedd strwythurol: 15m3 (12m3 os cânt eu rhannu).

 

Coed canolig (10-15m)
  • Priddoedd lôm heb eu cywasgu: 20m3 (16m3 os cânt eu rhannu); a
  • Phriddoedd strwythurol: 26m3 (20m3 os cânt eu rhannu).

 

Coed mawr (15-25m)
  • Priddoedd lôm heb eu cywasgu: 28m3 (24m3 os cânt eu rhannu); a
  • Phriddoedd strwythurol: 36m3 (28m3 os cânt eu rhannu).

 

Coed enfawr (>25m)
  • Priddoedd lôm heb eu cywasgu: 36m3 (30m3 os cânt eu rhannu); a
  • Phriddoedd strwythurol: 45m3 (35m3 os cânt eu rhannu).

4.24 Ar y cyfan, bydd angen llai o gyfaint gwreiddio ar goed colofnaidd neu bigfain nag ar goed sydd â mathau o ganopi llydan neu ganopi sy’n lledu. Mewn rhai amgylchiadau efallai y bydd yn briodol cwtogi cymaint â hanner ar gyfeintiau pridd y canllawiau ar gyfer coed cul eu ffurf.

 

Agoriad pwll coeden

4.25 Yn ddelfrydol, dylai arwyneb uchaf lleoliadau plannu coed fod yn bridd agored o ansawdd rhydd. Mae pyllau coed agored gyda phriddoedd agored hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddio taenfeydd sy’n gallu cynnal strwythur pridd iach a gweithgarwch biolegol, gan helpu i sicrhau ymdreiddiad dŵr a chyfnewid ocsigen a charbon deuocsid.

4.26 Mae’n bwysig bod priddoedd dros wreiddiau coed yn cael eu diogelu rhag cywasgu ac yn ddelfrydol yn cael eu gwarchod rhag traffig cerddwyr. Mae amrywiaeth o atebion y gellir eu defnyddio gan gynnwys defnyddio rhwyllau coed, gardiau coed postyn a rheilen, cyrbau wedi’u codi ychydig (gan sicrhau bod modd dargyfeirio dŵr wyneb i bwll y goeden o hyd) neu osod coed yn syml i ochr llwybrau troed ac allan o ffordd llwybrau i gerddwyr lle bo modd.

4.27 Os nad oes modd osgoi arwyneb caled uwchben pyllau coed, rhaid gwneud darpariaeth ar gyfer ymdreiddiad dŵr ac awyriad i ardal y gwreiddiau. Yn gyffredinol, bydd hyn yn pennu’r defnydd o ddeunydd arwyneb athraidd, graean neu arwynebau anathraidd gydag awyrellau a thiwbiau awyru diamedr mawr.

 

Ymgorffori’r amgylchedd gwreiddio coed fel rhan o Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC).

4.28 Lle bynnag y bo’n bosibl, dylai pyllau coed newydd gyfrannu tuag at Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC). Gellir ymgorffori coed mewn ystod o wahanol SDC (megis gwlypdiroedd neu erddi glaw) i wella ymarferoldeb. Gellir dylunio pyllau coed unigol hefyd fel nodwedd SDC annibynnol. Os caiff ei ddylunio’n gywir, gall gwaredu tirwedd galed helpu i dderbyn dŵr ffo wyneb gormodol, a gellir dargyfeirio dŵr glaw i’r amgylchedd gwreiddio coed i ddarparu ffynhonnell ddŵr a gwella iechyd coed. System ddraenio briodol ac effeithiol i sicrhau bod modd gwaredu gormodedd dŵr er mwyn osgoi amodau anaerobig. Yn gyffredinol, bydd amgylcheddau gwreiddio coed gyda chyfaint mwy a all gynnwys nifer o goed yn gweithredu’n well fel rhan o gynlluniau SDC oherwydd capasiti storio dŵr uwch.

 

Gwasanaethau dan y ddaear

4.29 Wrth gynnig plannu unrhyw goed, yn enwedig rhai ar hyd y briffordd neu mewn ardaloedd o dirwedd galed, mae’n hanfodol nad yw’r pyllau coed a thyfiant gwreiddiau yn achosi difrod uniongyrchol neu anuniongyrchol i gyfleustodau neu wasanaethau tanddaearol. Fel y nodwyd yn y cynllun proses uchod, bydd gofyn cynnal ymchwiliadau gwasanaeth i bennu hyfywedd cynigion plannu. Mae amrywiaeth o atebion dylunio y gellir eu defnyddio i fynd i’r afael â gwrthdaro posibl, ac efallai y bydd angen ymgynghori â chwmnïau cyfleustodau / adrannau priffyrdd perthnasol. Mae angen asesu a datrys pob sefyllfa fesul achos. Gall y gost o ddylunio i leddfu rhyw wrthdaro posib fod yn sylweddol a bydd angen ei hystyried yn gynnar yn y prosiect. Efallai y bydd angen atebion dylunio pwrpasol, gan gynnwys yr opsiynau ar gyfer sicrhau bod gwasanaethau tanddaearol yn cael eu diogelu ym mhob lleoliad.

 

Dulliau plannu ac ôl-ofal

 

Cyrchu coed

4.30 Mae prynu coed iach sy’n rhydd o blâu a chlefydau yn elfen allweddol o sefydliad llwyddiannus coed newydd a blannir. Yn ddelfrydol, dylid dod o hyd i’r stoc goed yn lleol a dylent fod o darddiad hysbys. Mae bioddiogelwch yn flaenoriaeth uchel ac mae’n rhaid cadw at yr holl fesurau a’r gofynion diweddaraf i gyfyngu ar ledaeniad pathogenau coed. Mae gan gyflenwyr coed gyfrifoldeb i sicrhau bod stoc blannu ac unrhyw bridd yn rhydd o blâu a chlefydau drwy’r holl gadwyn gyflenwi. Dylai planhigfeydd coed allu darparu trywydd archwilio o drosglwyddiad a pherchnogaeth stoc goed o hadau i’r safle plannu. Dylai stoc goed ar gyfer plannu newydd fod:

  • Wedi’i thyfu a’i chyrchu o’r DU
  • Yn destun cwarantin planhigfa am dymor tyfu llawn ar ôl ei mewnforio o dramor (ni ddylid mewnforio coed yn uniongyrchol a’u plannu yn y dirwedd)
  • O feithrinfeydd sy’n aelod achrededig o gynllun sicrhau iechyd planhigion sy’n dilyn y canllawiau cenedlaethol diweddaraf ac sy’n gallu darparu trywydd archwilio llawn ar gyfer stoc goed

4.31 Mae’n fuddiol i’r rhai sy’n goruchwylio prosiectau plannu coed ymweld â chyflenwyr cyn gosod archebion. Mae hyn yn ddoeth ar gyfer archebion bach o goed ac yn hanfodol wrth archebu nifer fawr o goed.

 

Maint a math o stoc goed

4.32 Mae stoc goed fwy o faint yn fwy costus a bydd angen ôl-ofal dwysach arni, fel dyfrhau. Mae coed bach yn tueddu i sefydlu’n gyflymach na stoc plannu coed fwy o faint a bydd yn tyfu’n gyflymach oherwydd cymhareb fwy ffafriol o ran gwreiddyn i eginyn. Mae coed bach yn llawer mwy agored i fandaliaeth a difrod damweiniol o fewn amgylcheddau trefol ac felly mae coed mwy o faint ar y cyfan yn fwy priodol ac yn fwy tebygol o oroesi, o gael ôl-ofal priodol. Mae cost maint y stoc goed sydd ar gael hefyd yn ystyriaeth bwysig am fod coed mwy o faint yn llawer drutach a bydd costau cludo yn gyfrifol am ganran fwy o’r costau cyffredinol. Yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd bydd angen dod i ‘ganol teg’, gan gael stoc o faint rhesymol sy’n addas ar gyfer plannu coed sbesimen unigol mewn amgylcheddau tirwedd galed a sefyllfa tirwedd feddal fel parciau. Yn gyffredinol, bydd stoc lai o faint yn addas ar gyfer plannu gwrychoedd, coetiroedd, lleiniau cysgodi ac ardaloedd perllan gymunedol.

4.33 Mae coed ar gael naill ai gyda gwreiddiau moel, gwreiddiau mewn pêl (y gwreiddiau a’r pridd wedi’u lapio mewn lliain hesian), neu wedi’u tyfu mewn pot. Mae gan bob opsiwn ei fanteision a’i gyfyngiadau. Yn gyffredinol, coed gwreiddiau moel fydd y stoc a ddewisir ar gyfer cynlluniau plannu mwy o faint ar gyfer coetir, llain gysgodi neu wrych. Mae coed gwreiddiau moel yn cyflwyno her logistaidd gan fod angen eu plannu cyn gynted â phosibl ar ôl eu cael, ac yn gyffredinol dim ond am gyfnodau byr iawn y bydd yn ymarferol eu storio. Gellir cael y rhan fwyaf o goed fel planhigion a dyfwyd mewn potiau. Fel rheol, bydd yn ddrutach prynu a chludo sbesimenau a dyfwyd mewn pot, ond bydd defnyddio coed a dyfwyd mewn pot ar y cyfan yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran pryd y gellir plannu’r coed. Gellir storio coed a dyfwyd mewn pot yn ofalus drwy gydol y tymor plannu os oes angen ac os oes lle ar gael.

4.34 Yn ymarferol, ac yn dibynnu ar argaeledd, mae hyn yn debygol o olygu cyrchu’r mathau a’r meintiau canlynol o stoc goed ar gyfer llawer o gynlluniau plannu:

 

Plannu mewn tirwedd galed:
  • Tal (8-10cm o gwmpas), neu Dal Dethol (10-12cm o gwmpas) (yn debygol o fod wedi’u tyfu mewn pot).

 

Plannu mewn tirwedd feddal (coed sbesimen neu goed parcdir unigol):
  • Tal Ysgafn (6-8cm o gwmpas), neu
  • Dal (8-10cm o gwmpas) (yn debygol o fod wedi’u tyfu mewn pot).

 

Plannu mewn tirwedd feddal (Plannu coetir neu lain gysgodi):
  • Coed chwip neu goed chwip asgellog (gwreiddiau moel yn debygol)
  • (coed un cyff, neu ag ychydig o ganghennau ochr, dim ond un flwydd neu sawl mlwydd oed).

 

Gadael bwlch rhwng coed

4.35 Ar gyfer coed sbesimen unigol, coed parcdir neu goed mewn tirwedd galed, dylid gadael digon o le rhwng coed fel y gallant ddatblygu corunau llawn wrth aeddfedu. Efallai y bydd angen ystyried ffactorau eraill wrth bennu maint y bylchau megis faint o gysgod a allai gael ei fwrw ar hyd strydoedd unigol. Bydd dwysedd a ffurf canopi hefyd yn dylanwadu ar y penderfyniadau dylunio hyn. Lle mae angen cynnal golygfeydd, megis gweld yr arfordir, gall plannu dwysedd isel iawn (bylchau eang), neu blannu grwpiau bach o goed a bylchau eang rhyngddynt, fod yn fwy priodol.

4.36 Fel rheol, bydd coetiroedd neu leiniau cysgodi, sydd wedi’u plannu â choed chwip neu asgellog bychain, yn cael eu plannu’n agosach at ei gilydd. Yn y senario hon, yn gyffredinol bydd angen plannu coed rhwng 2 a 3 metr ar wahân. Fel rheol, bydd coed yn y math hwn o gynllun plannu yn elwa ar waith rheoli coetir gweithredol parhaus. Gall hyn gynnwys ychydig o deneuo wrth i’r planhigion ddatblygu i gynyddu’r pellter rhwng rhai coed, creu ardaloedd agored ac amrywio strwythur y plannu.

 

Plannu coed

4.37 Mae’r prif dymor plannu coed yn estyn o fis Tachwedd i fis Mawrth (yn gynhwysol). Yn gyffredinol, dim ond yn yr hydref a dechrau’r gaeaf y mae coed gwreiddiau moel a choed a’u gwreiddiau mewn pêl ar gael ac mae angen eu plannu tra’u bod ynghwsg. Er bod modd cael gafael ar y rhan fwyaf o goed fel sbesimenau a dyfwyd mewn pot, y gellir eu plannu mewn egwyddor ar unrhyw adeg o’r flwyddyn, bydd sefydlu llwyddiannus yn fwy heriol os cânt eu plannu yn ystod misoedd yr haf. Y nod ddylai fod cwblhau’r holl waith plannu coed blynyddol o fewn y prif dymor plannu coed.

4.38 Mae angen plannu coed i bridd parod sy’n weddol rydd o chwyn a cherrig mawr. Yn gyffredinol, ni fydd angen ychwanegu mater organig neu wrtaith ychwanegol at bridd presennol oni nodwyd problem benodol gyda’r pridd y mae angen ei hunioni. Os caiff mater organig ei ymgorffori, ni ddylid ei roi yng ngwaelod y pwll plannu nac o dan y bêl wreiddiau. Gall ochrau a gwaelod y twll platio gael eu torri’n ysgafn i gynorthwyo draenio. Dylid plannu coed â gwaelod y coesyn / ymlediad y gwreiddyn ar yr un lefel ag y datblygodd yn y blanhigfa. Dylid gwneud y pridd yn gadarn o amgylch gwreiddiau’r goeden / y bêl wreiddiau fel nad oes unrhyw fylchau aer, ond hynny heb gywasgu’r pridd.

4.39 Dylai pob coeden newydd gael ei dyfrio’n drwyadl yn syth ar ôl ei phlannu.

4.40 Yn ddelfrydol bydd safle pob coeden a blannir yn cael ei thaenu â thomwellt organig addas, sy’n rhydd o chwyn (megis compost rhydd o chwyn o pH addas, neu risgl mân). Mae hyn yn helpu i gadw lleithder, cynnal strwythur pridd da a lleihau cystadleuaeth chwyn. Dylai’r tomwellt fod hyd at 75mm o ddyfnder (heb fod mewn tomen yn erbyn y boncyff) a dylai estyn hyd at 1 metr o gyff y goeden.

 

Coedio a diogelu coed

4.41 Mae amrywiaeth eang o systemau ar gyfer cynnal y goeden ar ôl ei phlannu. Mae cynnal coeden yn sicrhau bod pridd yn parhau i fod mewn cysylltiad â gwreiddiau’r goeden wrth iddi sefydlu, gan leihau ‘siglo’ gormodol y gwreiddiau yn y gwynt. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod y boncyff yn symud rhywfaint yn y gwynt er mwyn annog datblygiad prif gyff strwythurol a fydd yn cynnal y goeden yn y tymor hir. Y dull mwyaf priodol ar gyfer y rhan fwyaf o goed fydd coedio ddwywaith (â pholion pren fel arfer), mor isel i lawr ar y goeden â phosib, gan hefyd gadw’r gwreiddiau mewn cysylltiad â’r ddaear. Gellir defnyddio clymau rwber i ddiogelu’r goeden wrth y polion. Dylid gosod y polion bob ochr i’r brif bêl wreiddiau a dylid cymryd mesuriadau i sicrhau nad yw’r polion a’r clymau yn rhwbio ar foncyffion coed.

4.42 Mae’n debygol y bydd angen ffyrdd eraill o ddiogelu coed yn ystod y cyfnod sefydlu yn y rhan fwyaf o amgylchiadau. Ar y cyfan, gardiau boncyff (megis rhwyll wedi’i weldio sydd ynghlwm wrth bolion coed) fydd yr ateb mwyaf effeithiol mewn ardaloedd trefol. Yn gyffredinol, tiwbiau coed bioddiraddadwy fydd yr ateb mwyaf effeithiol ar gyfer ardaloedd coetir, lleiniau cysgodi neu blannu perllannau.

 

Ôl-ofal

4.43 Bydd angen i bob coeden newydd a blannwyd gael ei chynnal yn ystod y cyfnod sefydlu nes y bydd yn gwbl annibynnol yn y dirwedd. Fel y nodwyd yn y cynllun proses uchod, dylid cadarnhau cynllun ar gyfer cynnal a chadw parhaus yn ystod proses gynllunio unrhyw brosiect. Dylai gweithrediadau cynnal a chadw blynyddol allweddol gynnwys:

  • Rheoli chwyn wrth waelod coed, gan gynnal man sy’n rhydd o chwyn a glaswellt sy’n estyn 1 metr o’r prif foncyff. Dylid cwtogi cymaint ag sy’n rhesymol bosibl ar ddefnyddio chwynladdwyr, gan reoli chwyn drwy ddulliau eraill lle bo hynny’n ymarferol. Dylid chwynnu o leiaf am y tair blynedd gyntaf ar gyfer y rhan fwyaf o goed a blannir, ond yn ddelfrydol fel rhan o 60 mis o gyfnod cynnal a chadw.
  • Cynnal ac ychwanegu at haen o domwellt sy’n estyn 1 metr (hyd at 75mm o ddyfnder) o’r prif foncyff (a fydd hefyd yn helpu i leihau gofynion chwynnu). Gellir parhau i daenu tomwellt pan fydd coed wedi llawn sefydlu, ond mae’n bwysicaf yn ystod y cyfnod sefydlu.
  • Dyfrhau er mwyn sicrhau tyfiant a datblygiad iach.
    • Dylai coed sydd newydd eu plannu gael eu dyfrhau adeg eu plannu. Dylai’r dyfrhau barhau drwy gydol y prif dymor tyfu am y tair blynedd gyntaf o leiaf nes ei sefydlu.
    • Yn ystod y sefydlu, mae amlder yn bwysicach na maint y dŵr, yn enwedig yn ystod y tymor cyntaf. Os yw’r goeden yn tyfu’n iach o’r ail dymor, gellir lleihau’r amlder ychydig o blaid rhoi mwy o ddŵr yn llai aml. Fel meincnod, efallai y bydd angen ymweld â choed ar gyfer dyfrhau hyd at 12 gwaith drwy gydol y tymor tyfu.
    • Yn ystod cyfnodau o dywydd sych a phoeth, efallai y bydd angen dyfrhau’n amlach. Wrth i goed ddatblygu yn ystod y cyfnod sefydlu, bydd angen cynyddu’r dyfrhau er mwyn ystyried arwynebedd ychwanegol y gwreiddiau a’r dail.
    • Bydd gofynion dyfrhau yn amrywio yn dibynnu ar rywogaethau, maint stoc a lleoliad. Bydd angen mwy o ddŵr ar goed mawr sydd newydd eu plannu nag ar goed llai o faint.
  • Dylid archwilio, addasu ac amnewid polion, clymau a gardiau coed pryd bynnag y bo angen. Dylid archwilio coed newydd yn flynyddol o leiaf i fonitro llwyddiant y cynllun a nodi unrhyw bla a chlefyd, neu broblemau eraill

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Parthau Plannu Coed ac Is-egwyddorion ar gyfer 11 Anheddiad

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan