Pwll y Felin, Caeriw

Taith fynediad hwylus

Taith fynediad hwylus: 1.0 milltir (1.6 km).
Cymeriad: llwybrau gwastad gydag arwyneb o amgylch Pwll y Felin, gyda golygfeydd hyfryd o gastell Ganoloesol.
Toiledau: yr ochr arall i’r heol o’r maes parcio.

Sut i gyrraedd yno:

Trafnidiaeth gyhoeddus: Bws gwasanaeth 361 (Dinbych-ypysgod i Ddoc Penfro), nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn.
Eich trafnidiaeth eich hun: De Sir Benfro, 4.5 milltir i’r Dwyrain o dref Doc Penfro. Dewch ar gefnffordd yr A477 neu heol yr A4075.

Mae’r daith yn wastad gan fwyaf, ac ar lonydd a llwybrau ag arwyneb. Nid yw’r graddiannau’n fwy serth nag 1:20, er fel y nodir yn y cyfarwyddiadau, ceir ychydig o raddiannau byr sy’n fwy serth. Byddwch yn ofalus wrth groesi pont heol Caeriw.

Pwll y Felin, Caeriw yw un o’r lleoliadau harddaf yn Sir Benfro. Ar ddiwrnod llonydd, pan fydd y llanw’n uchel, mae’r dŵr yn adlewyrchu’r castell a’r felin gerllaw yn berffaith.

Mae’n denu llawer o adar rhydio ac mae’n lle da i wylio ystlumod ar nosweithiau o Haf. Adeiladwyd Castell Caeriw ar ddiwedd yr 11eg ganrif gan gwnstabl Castell Penfro, Gerald de Windsor.

Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i arwyddion o anheddiad o’r Oes Haearn yn agos at y castell yn ogystal â chrochenwaith Rhufeinig.

Mae’r felin gyntaf yng Nghaeriw’n dyddio o 1542. Fwy na thebyg fod yr adeilad presennol yn dyddio o’r 19eg ganrif gynnar ac fe’i adferwyd gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, sydd â’r Castell a’r Felin ar les.

Mae’r daith hefyd yn pasio Croes Geltaidd wedi’i cherfio. Dywedir bod y gofgolofn Gristnogol hon o’r 11eg ganrif yn un o’r tair Groes Geltaidd orau yng Nghymru.

Cyfarwyddiadau

Gadewch y maes parcio trwy’r allanfa ar yr ochr, trowch i’r chwith a dilynwch y lôn darmac.

Ychydig bach ar ôl pasio Castell Caeriw mae yna raddiant o 1:18 i fyny am 20 metr, ac yna graddiant o 1:8 i lawr am 4 metr.

Trowch i’r dde wrth y fforc (1:15 am 13 metr, ac yna 1:20 o raddiant croes am 10 metr) i lawr tuag at y Felin. Trowch i’r dde a cherddwch heibio i’r Felin.

Mae yna bont gyda ramp sy’n 1:12 i fyny a ramp sy’n 1:8 i lawr. Croeswch y cawsai dros yr afon Caeriw (ramp i fyny at ail bont yn 1:12) a throwch i’r dde arno i’r llwybr wrth ymyl Pwll y Felin.

Ble mae’r llwybr yn mynd i mewn i’r ardal bicnic mae yna raddiant o 1:15 am 7 metr. Ewch drwy fynedfa’r ardal picnic, ac yna cadwch i’r dde arno i heol sy’n ymlwybro ar hyd ochr y pwll (mae’r graddiant arno i’r heol yn 1:12 i 1:9 am 12 metr).

Sylwer bod gan ymyl yr heol raddiant croes o 1:20. Trowch i’r dde (1:15 am 3 metr) a chroeswch bont heol Cairew yn ofalus, gan ddefnyddio’r llwybr sydd wedi’i ddynodi’n arbennig ar gyfer cerddwyr.

Dilynwch y palmant i fyny’r llethr, sydd â graddiant o hyd at 1:20 yn gyffredinol. Mae yna un graddiant croes sy’n 1:13 am 5 metr ar ddechrau’r palmant ac adran fer gyda graddiant o 1:5 yn Bridge Cottage.

Wrth y giatiau agored i Gastell Caeriw mae yna raddiant croes a graddiant o 1:6 am 2 metr.  Ewch drwy’r fynedfa a dilynwch y llwybr i fyny’r llethr (1:8 am 7 metr, ac yna 1:15 am 36 metr), ac yna trowch i’r chwith yn siarp a dilynwch y llwybr at y maes parcio.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid Maes Parcio Castell Caeriw: SN046036