Gweledigaeth a Nodau

Adroddiad terfynol Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Gweledigaeth a Nodau

 

Gweledigaeth gyffredinol yr Asesiad SG yw cynllunio’n strategol ar gyfer rhwydwaith SG Sir Benfro trwy nodi a rheoli ymyriadau ledled y sir.

2.1 Mae ffocws y cynigion ar gyflawni a rheoli yn y dyfodol, gan ddarparu map trywydd ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn SG. Trwy ganolbwyntio ymyriadau o fewn 11 anheddiad allweddol yn Sir Benfro, atgyfnerthir rhwydwaith strategol SG, fel y dangosir ar y ffigur isod.

 

Ffigur 2.1: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro

 

2.2 Cefnogir gweledigaeth yr Asesiad SG gan gyfres o chwe nod, fel y’u hamlinellir isod:

  • Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
  • Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
  • Nod 3 – Adeiladu cymunedau iachach
  • Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle
  • Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
  • Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol

2.3 Mae’r chwe nod hyn yn cydredeg yn agos â Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd ) (gweler isod) a byddant yn helpu i ddarparu’r rhwydwaith SG ac yn sail i fonitro ei lwyddiant. Bydd eu cyflawniad yn dibynnu ar ddosbarthu arweinyddiaeth ar draws ystod eang o adrannau CSP / APCAP a phartneriaid allanol trwy broses gydweithredol a arweinir gan SG. Trwy gyflwyno dull integredig o sicrhau SG ledled y sir, galluogir amrywiaeth fwy o fuddion amlswyddogaethol ar gyfer ystod ehangach o dderbynyddion. Ar ben hynny, bydd y nodau’n hyrwyddo dull strategol, ond cyfannol, o gynllunio, dylunio a rheoli SG.

 

Mae Lleihau Anghydraddoldebau Iechyd yn cydredeg â’r nodau canlynol:

  • Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
  • Nod 3 – Adeiladu cymunedau iachach

 

Mae Sicrhau rheoli tir cynaliadwy yn cydredeg â’r nodau canlynol:

  • Nod 1 – Creu lleoliad ar gyfer ffyniant trefol a gwledig
  • Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
  • Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle

 

Mae Gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a gwella bioamrywiaeth, yn cydredeg â’r nodau canlynol:

  • Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
  • Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol

 

Mae Lliniaru newid hinsawdd ac addasu i hinsawdd sy’n newid yn cydredeg â’r nodau canlynol:

  • Nod 2 – Gwella’r profiad i ymwelwyr a’r economi
  • Nod 4 – Cynnal a gwella ansawdd lle
  • Nod 5 – Sicrhau bod ardaloedd trefol a gwledig yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd
  • Nod 6 – Diogelu a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau naturiol

 

Ffigur 2.2: Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru

 

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Throsolwg o’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro

 

Pennod nesaf:

Sut i ddefnyddio’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan