Throsolwg o’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Benfro

Adroddiad Terfynol Paratowyd gan LUC Chwefror 2023

Cynnwys Tudalen:

 

Beth yw Seilwaith Gwyrdd?
Pam mae angen yr Asesiad SG hwm arnom?
Sut datblygwyd yr Asesiad SG?
Pam mabwysiadwyd y dull seiliedig ar anheddiad?

 

 

Trosolwg o’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd

 

Beth yw Seilwaith Gwyrdd?

1.4 Fel y’i diffinnir o fewn Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) (Agor mewn ffenest newydd), mae Seilwaith Gwyrdd (SG) yn cyfeirio at “y rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, mannau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sy’n britho ac yn cysylltu lleoedd”.

1.5 Yn union fel y mae rhwydwaith trafnidiaeth yn cysylltu pobl ar draws ardal trwy rwydwaith o ffyrdd, rheilffyrdd neu balmentydd, mae SG yn helpu i gysylltu pobl, bywyd gwyllt a natur. Gall SG felly gynnwys asedau graddfa strategol fel coridorau afonydd yn ogystal â pharciau, coetiroedd, gerddi preifat, rhandiroedd, gwrychoedd, coed stryd, ymylon gwyrdd ar ochr y ffordd, neu lwybrau troed.

1.6 Mae’r ffigur isod yn darlunio natur amlswyddogaethol seilwaith gwyrdd, a all gynnwys:

  • Coetir
  • Coed ac ymylon stryd
  • Mynwentydd
  • Traethau a’r arfordir
  • Rheilffyrdd a ddefnyddir a rhai segur
  • Cafnau plannu uchel a pharciau poced
  • Rhostir a glaswelltir
  • Gwrychoedd/tir amaethyddol
  • Gerddi preifat
  • Coridorau afonydd a gwlyptiroedd
  • Parciau, mannau a chyfleusterau chwaraeon
  • Toeau gwyrdd a waliau gwyrdd
  • Rhandiroedd a pherllannau
  • Llwybrau troed a llwybrau beicio

 

Ffigur 1.1: Natur aml-swyddogaethol Seilwaith Gwyrdd

 

1.7 Mae cydnabod natur amlswyddogaethol SG hefyd yn arbennig o bwysig. Wrth ystyried unrhyw ased SG penodol, mae’n debygol y bydd nifer o swyddogaethau’n cael eu nodi, a nifer o fuddion yn cael eu deillio. Er enghraifft, bydd parc trefol o ansawdd uchel yn debygol o ddarparu cyfleoedd ar gyfer hamdden anffurfiol, cefnogi teithio llesol, darparu cyfleoedd addysg, lle i fywyd gwyllt, lleihau dŵr ffo wyneb a lliniaru llygredd aer.

1.8 Dylai SG ffurfio rhwydwaith strategol o fannau gwyrdd o ansawdd uchel a nodweddion naturiol eraill, sy’n cynnig buddion ansawdd bywyd i gymunedau. Dylai dreiddio drwy’r amgylchedd adeiledig a chysylltu’r ardal drefol ag ardaloedd gwledig ehangach. Caiff ei gydnabod fel elfen hanfodol o gymunedau gwydn ac iach, felly mae cysyniad SG yn un o gonglfeini datblygiad cynaliadwy.

1.9 Dengys y ffigur isod rai o fuddion seilwaith gwyrdd, sy’n cynnwys:

  • Lleihau risg llifogydd
  • Gwella ansawdd dŵr
  • Buddsoddiad a gwell profiad i ymwelwyr
  • Lle i fywyd gwyllt a gwytnwch ecolegol
  • Oeri trefol
  • Rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol
  • Dal a storio carbon a lliniaru newid hinsawdd
  • Gwella iechyd a lles
  • Atgyfnerthu ymdeimlad o le
  • Chwarae, addysg a rhyngweithio â natur
  • Gwella ansawdd aer a rheoleiddio sŵn
  • Darparu cyfleoedd teithio llesol

 

Ffigur 1.2: Buddion Seilwaith Gwyrdd

 

Yn ôl i’r top

Pam mae angen yr Asesiad SG hwm arnom?

1.10 Ar raddfa genedlaethol, mae’r cyd-destun polisi sy’n esblygu yng Nghymru yn sicrhau bod SG yn cael mwy o sylw nag erioed o’r blaen. Cymru’r Dyfodol (Agor mewn ffenest Newydd) yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru a hwn yw haen uchaf y Cynllun Datblygu yng Nghymru. Ystyrir bod gan Cymru’r Dyfodol, sef y mynegiant diweddaraf o’r polisi cynllunio cenedlaethol, le blaenaf yn yr hierarchaeth polisi cynllunio. Felly mae’n ofynnol i’r Cynllun Datblygu Lleol sicrhau cydymffurfiaeth. Pwrpas Cymru’r Dyfodol yw sicrhau bod y system gynllunio ar bob lefel yn gyson â nodau a pholisïau strategol Llywodraeth Cymru, ac yn cefnogi’r gwaith o’u cyflawni. Y prif bolisïau sy’n berthnasol i SG yw Polisïau 2, 8 a 9. Dywed Polisi 2 y “dylai twf ac adfywiad trefi a dinasoedd gyfrannu’n gadarnhaol tuag at adeiladu mannau cynaliadwy sy’n cefnogi bywydau egnïol ac iach, gyda chymdogaethau trefol sy’n gryno ac yn gerddadwy, wedi’u trefnu o gwmpas canolfannau amlddefnydd a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac sy’n ymdoddi i seilwaith gwyrdd“.

1.11 Mae Polisi 8 yn nodi y bydd gwaith rheoli perygl llifogydd sy’n galluogi ac yn cefnogi twf strategol cynaliadwy yn cael ei gefnogi, gan gynnwys hybu atebion seiliedig ar natur fel blaenoriaeth. Ar ben hynny, amlinellir y gofyniad am welliannau bioamrywiaeth, mwy o wytnwch ecosystemau a darparu SG ym Mholisi 9. Mae hyn yn cynnwys nodi cyfleoedd SG gyda’r nod o ddarparu twf cynaliadwy, cysylltedd ecolegol, cydraddoldeb cymdeithasol a lles. Amlygir Mynyddoedd y Preseli a choetiroedd gogledd Sir Benfro yn benodol fel llecynnau cyfoethog sy’n gwasanaethu ecosystemau, gan gynnig buddion amlswyddogaethol ar y raddfa strategol.

1.12 Yn 2015, derbyniodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Agor mewn ffenest Newydd). Mae’r Ddeddf hon yn rhoi amcan cyffredin sy’n gyfreithiol rwymol i lywodraeth genedlaethol a lleol gydweithio i wella iechyd a lles yng Nghymru, drwy saith nod llesiant. Felly er mwyn darparu SG ar raddfa anheddiad mae gofyn cydredeg â’r sylfaen polisi a strategaeth bresennol hon. Mae hyn yn sicrhau bod ymyriadau SG arfaethedig yn seiliedig ar ddosbarthiad Nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac wedi’u gwreiddio mewn polisïau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill.

1.13 Amlygir y gwaith o ddarparu atebion a chynigion sy’n seiliedig ar natur i gynyddu SG mewn ardaloedd trefol ac o’u cwmpas fel blaenoriaethau cenedlaethol o fewn Polisi Adnoddau Naturiol (Agor mewn ffenest Newydd). Mae fframweithiau cyfreithiol allweddol eraill a dogfennau polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru (gan gynnwys Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (Agor mewn ffenest Newydd) a deddfwriaeth megis rheoliadau Systemau Draenio Cynaliadwy (Agor mewn ffenest Newydd) arloesol Cymru ac Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (Agor mewn ffenest Newydd)) yn darparu fframwaith ar gyfer buddsoddi mewn SG yn y dyfodol.

1.14 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Agor mewn ffenest Newydd) hefyd yn cynnwys dyletswydd bioamrywiaeth newydd gyda’r nod o helpu i wrthdroi’r dirywiad a sicrhau gwytnwch bioamrywiaeth yng Nghymru yn y tymor hir. Mae hyn yn tynnu sylw at fater allweddol pwysau bioamrywiaeth a’r angen i wella gwytnwch ecosystemau yng Nghymru, gan gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar lefel leol. Mae’r Ddeddf yn ystyriaeth graidd wrth wneud penderfyniadau ac yn fframwaith sy’n sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru yn cael eu rheoli’n gynaliadwy.

1.15 Ar lefel genedlaethol, roedd Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) yn nodi mai’r argyfyngau natur a hinsawdd oedd y ddwy her amgylcheddol strategol allweddol i Gymru fynd i’r afael â nhw. Mae newid yn yr hinsawdd a llifogydd hefyd yn faterion allweddol sy’n effeithio ar gyd-destun trefol Sir Benfro, ac yn un o’r Amcanion Strategol i wireddu gweledigaeth Cynllun Datblygu Lleol CSP (Agor mewn ffenest Newydd) yw lliniaru newid hinsawdd ac ymateb iddo. Mae Cynllun Datblygu Lleol APCAP hefyd yn tynnu sylw at newid hinsawdd, dylunio cynaliadwy, llifogydd ac ynni cynaliadwy fel materion blaenoriaeth o fewn y sir.

1.16 Mae’r ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar yr angen am yr Asesiad SG yn seiliedig ar y ‘themâu’ a nodwyd yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fel y’u diffinnir isod yn Ffigur 1.3 ac y’u disgrifir yn y paragraffau sy’n dilyn ar ôl y ffigur.

 

Ffigur 1.3: Themâu Datganiad Ardal De-orllewin Cymru

 

Lliniaru newid hinsawdd ac addasu i hinsawdd sy’n newid

1.17 Mae’r newid yn yr hinsawdd a’i risgiau cysylltiedig yn ystyriaeth bwysig i’r sir, yn enwedig yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd gan CSP ac APCAP yn 2019. Mae hefyd yn ofynnol ymateb i ymrwymiad ehangach y sir i gyrraedd sero-net erbyn 2030. Mae buddsoddi mewn SG yn cynnig y potensial i wneud Sir Benfro yn llai agored i’r newid yn yr hinsawdd a bygythiadau amgylcheddol eraill, fel llifogydd. Cefnogir hyn gan sylfaen dystiolaeth gref, gan gynnwys Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

1.18 Cyhoeddwyd Asesiad Llesiant Sir Benfro (Agor mewn ffenest Newydd) yn 2022 ac mae’n disgrifio newid hinsawdd a’r argyfwng natur fel materion diffiniol ein hoes. Bydd effeithiau newid hinsawdd yn cynyddu nifer sylweddol yr eiddo, y cymunedau, y seilwaith a’r gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd yn y sir.  Mae nifer o aneddiadau yn Sir Benfro eisoes yn wynebu problemau andwyol yn ymwneud â newid hinsawdd, felly mae angen dull cyfannol i fynd i’r afael â’r materion hyn. O ganlyniad, mae gan ymyriadau SG ran allweddol i’w chwarae wrth ymateb i amrywioldeb a newid yn yr hinsawdd.

 

Gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, a gwella bioamrywiaeth

1.19 Mae’r newid yn yr hinsawdd a’i risgiau cysylltiedig yn ystyriaeth bwysig i’r sir, yn enwedig yn dilyn datgan argyfwng hinsawdd gan CSP ac APCAP yn 2019. Mae hefyd yn ofynnol ymateb i ymrwymiad ehangach y sir i gyrraedd sero-net erbyn 2030. Mae buddsoddi mewn SG yn cynnig y potensial i wneud Sir Benfro yn llai agored i’r newid yn yr hinsawdd a bygythiadau amgylcheddol eraill, fel llifogydd. Cefnogir hyn gan sylfaen dystiolaeth gref, gan gynnwys Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (Agor mewn ffenest Newydd).

1.20 Cyhoeddwyd Asesiad Llesiant Sir Benfro (Opens in new window) yn 2022 ac mae’n disgrifio newid hinsawdd a’r argyfwng natur fel materion diffiniol ein hoes. Bydd effeithiau newid hinsawdd yn cynyddu nifer sylweddol yr eiddo, y cymunedau, y seilwaith a’r gwasanaethau allweddol sydd mewn perygl o lifogydd yn y sir.  Mae nifer o aneddiadau yn Sir Benfro eisoes yn wynebu problemau andwyol yn ymwneud â newid hinsawdd, felly mae angen dull cyfannol i fynd i’r afael â’r materion hyn. O ganlyniad, mae gan ymyriadau SG ran allweddol i’w chwarae wrth ymateb i amrywioldeb a newid yn yr hinsawdd.

 

Lleihau anghydraddoldebau iechyd

1.21 Mae Cynllun Llesiant Sir Benfro (Agor mewn ffenest Newydd) yn hyrwyddo’r amgylchedd fel adnodd allweddol i wella iechyd a lles, mynd i’r afael ag ynysu cymdeithasol, gwella iechyd meddwl a chyflwyno prosiectau megis presgripsiynu cymdeithasol a gwyrdd. Yn ogystal â gwella canlyniadau iechyd cyffredinol, mae’r adroddiad yn dweud bod gwella perthynas y cyhoedd â byd natur yn cynnig cyfle i wella eu hagweddau a’u hymddygiad yn uniongyrchol ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol.

1.22 Mae ehangu a gwella SG yn fodd o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd yn ogystal â chefnogi cydlyniant cymunedol. Mae pob un o aneddiadau Sir Benfro yn cynnig ystod eang o asedau SG sy’n dwyn buddion iechyd a lles y gellid eu gwella ymhellach trwy ymyriadau SG priodol.

 

Sicrhau rheoli tir cynaliadwy

1.23 Er bod yr Asesiad SG yn canolbwyntio ar nodi ymyriadau SG ar raddfa anheddiad, mae’r ffordd y caiff tir ei reoli’n dwyn goblygiadau ehangach ar gyfer y sir. Mae amrywiaeth amaethyddiaeth a chynhyrchu cynaliadwy yn fater allweddol, a dulliau coedwigaeth a ffermio cynaliadwy efallai’n cynnig buddion enfawr i’r amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth, lleihau risgiau llifogydd a gwella ansawdd adnoddau dŵr. Ceir cyfle hefyd i gynyddu’r potensial ar gyfer dal a storio carbon o fewn priddoedd a biomas, trwy ddiogelu a gwella asedau presennol.

Yn ôl i’r top

 

Sut datblygwyd yr Asesiad SG?

1.24 Mae datblygu’r Asesiad SG wedi cynnwys gwerthuso’r llinell sylfaen bresennol ac adnabod cyfleoedd i wella. Mae’r dull gweithredu wedi cynnwys pum cam, fel yr amlinellir o fewn Nodyn Cyfarwyddyd 42 Asesiadau SG a gyhoeddwyd gan CNC. Defnyddiwyd y broses hon i lunio’r sylfaen dystiolaeth i helpu i ddatblygu a nodi ymyriadau SG.

 

Gosod y llinell sylfaen

1.25 Cam cyntaf y gwaith o ddatblygu’r Asesiad SG oedd adnabod asedau SG, coridorau ecolegol a rhwydweithiau strategol presennol yn Sir Benfro. Casglwyd data gofodol sylfaenol o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys CNC, a’u coladu gan ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).

 

Adnabod blaenoriaethau

1.26 Roedd y cam hwn yn cynnwys dadansoddi dosbarthiad gofodol y rhwydwaith SG presennol, yn ogystal â’r cyd-destun economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol sy’n cyfrannu at yr ‘angen’ am SG o fewn Sir Benfro. Dadansoddwyd setiau data i nodi risgiau a heriau o fewn y sir, gan ddarparu’r man cychwyn ar gyfer adnabod cyfleoedd i wella’r rhwydwaith SG. Ychwanegwyd at yr wybodaeth hon flaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd lleol a nodwyd yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd), gan ddarparu’r sbardunau a’r cyd-destun strategol ar gyfer yr Astudiaethau.

1.27 Roedd ymgynghori ac ymgysylltu yn rhan hanfodol o ddatblygu’r Asesiad SG. Defnyddiwyd hyn i ychwanegu at y dadansoddiad data ac roedd yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gyfres o weithdai rhithwir, ymgynghoriad wedi’i dargedu ac ymweliadau safle. Defnyddiwyd yr ymatebion hyn i lywio’r gwaith o baratoi’r Asesiad SG a oedd yn dod i’r amlwg. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd gan ddefnyddio arolwg ar-lein a map rhyngweithiol fel arf i gael cipolwg ar ganfyddiadau, cyfleoedd a disgwyliadau lleol.

 

Asesiad o’r safle

1.28 Gwnaethpwyd gwaith maes er mwyn nodi bygythiadau a heriau penodol i’r safle i gyflawni’r prosiect. Ymwelwyd â’r 11 anheddiad gyda’r nod o nodi cyfleoedd i gynnal a gwella’r rhwydwaith SG ar lefel safle, gan ategu dadansoddiad ar y raddfa strategol.

 

Adnabod cyfleoedd

1.29 Gan ddechrau ar y raddfa strategol, cwblhawyd y gwaith dadansoddi er mwyn mynd i’r afael â’r blaenoriaethau yn ymwneud â bioamrywiaeth a phobl yn Sir Benfro. Defnyddiwyd y canfyddiadau i lywio’r broses o nodi prosiectau SG ar gyfer diogelu, gwella, ac ehangu’r rhwydwaith SG. Rhoddwyd pwyslais penodol ar nodi cyfleoedd i wella cadernid ecolegol, darparu gwasanaethau ecosystemau a rheoli dŵr. Mapiwyd pob un o’r prosiectau SG ac amlygwyd swyddogaethau pob gweithred / prosiect.

 

Cyflawni a monitro / adolygu

1.30 Wrth ddatblygu’r Asesiad SG canolbwyntiwyd ar sicrhau bod ymyriadau SG yn cael eu cyflawni, gan gynnwys mecanweithiau i fonitro llwyddiannau yn y dyfodol trwy ddangosyddion perfformiad.

 

Ffigur 1.4: Dull o ddatblygu’r Astudiaethau a mapio SG

Yn ôl i’r top

 

Pam mabwysiadwyd y dull seiliedig ar anheddiad?

1.31 Defnyddiwyd y dull hwn gan ei fod yn cynnig y cyfle mwyaf i fodloni anghenion pobl a’r gymuned. Trwy amlinellu cyfleoedd yn yr amgylchedd trefol, nod yr Asesiad SG yw asesu’r potensial i wella SG yn aneddiadau allweddol Sir Benfro a thrwy hynny annog pobl i fyw’n iach ac egnïol, hybu adfywiad economaidd lleol a chynyddu gwytnwch yr amgylchedd naturiol. Mae’r uchelgeisiau hyn hefyd yn cefnogi’r heriau a’r cyfleoedd cenedlaethol a nodwyd o fewn Polisi Adnoddau Naturiol (Agor mewn ffenest Newydd). Mae’r rhain yn cynnwys helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd, cynorthwyo cydlyniant cymunedol a lliniaru newid hinsawdd ac addasu i newid hinsawdd.

1.32 Mae Adroddiad Cyflwr Adnoddau Naturiol Cymru (Agor mewn ffenest Newydd) yn dangos bod cynyddu SG mewn ardaloedd trefol ac o’u cwmpas yn darparu ystod eang o fuddion o ran gwytnwch ecosystemau a lles cymunedol. Cydnabyddir bod darparu mwy o orchudd canopi yn agos at aneddiadau hefyd yn cynnig y gwerth mwyaf o ran hamdden a gwasanaethu ecosystemau. Yn ogystal, gall SG sydd wedi’i gynllunio’n dda o fewn ardaloedd trefol ddarparu rhyddhad rhag eithafion hinsoddol trwy roi cysgod a lloches yn ogystal â chysylltedd i fioamrywiaeth addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Ar ben hynny, mae darparu ymyriadau SG gyda ffocws trefol yn helpu i sicrhau bod cymunedau’n elwa ar amgylcheddau iach, gan gefnogi dulliau ataliol o sicrhau canlyniadau iechyd. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod ffocws penodol ar faterion iechyd cyhoeddus allweddol fel llygredd sŵn ac aer sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn ogystal â mynd i’r afael ag anweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl drwy ddarparu mwy o fannau gwyrdd.

1.33 Rhestrir yr 11 anheddiad sydd wedi’u cynnwys yn yr Asesiad SG isod ac fe’u harddangosir ar y map canlynol:

  • Abergwaun ac Wdig
  • Hwlffordd
  • Aberdaugleddau
  • Arberth
  • Trefdraeth
  • Neyland
  • Penfro
  • Doc Penfro
  • Saundersfoot
  • Tyddewi
  • Dinbych-y-pysgod

 

Ffigur 1.5: yr 11 anheddiad sydd wedi’u cynnwys yn yr Asesiad SG

 

1.34 Mae’r Asesiad SG yn meithrin ymhellach y gwaith a gyflawnwyd hyd yma fel rhan o Gynllun Gweithredu Seilwaith Gwyrdd ar gyfer Sir Benfro (a ddisodlwyd bellach), gyda mwy o bwyslais ar reoli a chyflawni yn y dyfodol. Mae’r prosiectau a’r cyfleoedd a amlinellir yn darparu map trywydd ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol, gyda’r nod o lywio’r gwaith o gyflawni uchelgeisiau SG yn y dyfodol ledled y sir yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.

1.35 Mae’r Asesiad SG yn cynnwys tair elfen benodol (fel y’u rhestrir isod) sy’n cyfuno i lywio SG ar y raddfa strategol yn Sir Benfro:

  • Cynlluniau Rheoli Anheddiad
  • Strategaethau Plannu Coed Trefol
  • Strategaethau Peillwyr

 

Ffigur 1.6: Tair elfen benodol yr Asesiad SG

Yn ôl i’r top

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan

 

Pennod nesaf:

Gweledigaeth a Nodau