Mae cadeiriau olwyn y traeth ac offer pob tir yn helpu i wella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill yn y Parc Cenedlaethol. Mae gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro amrywiaeth o offer gwahanol, y gallwch eu llogi am ddim o wahanol leoliadau yn y Parc Cenedlaethol.
Dolenni cyflym
Ewch i’r wefan archebu i archebu offer symudedd ymlaen llaw ar-lein (yn agor mewn ffenestr newydd)
Gadewch adborth – dywedwch wrthym am eich profiadau (yn agor mewn ffenestr newydd)
Mynediad i Bawb – dewch o hyd i wybodaeth am lwybrau cerdded a thraethau sydd â mynediad hawdd
Ynglŷn â’r cynllun
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill trwy ddarparu ystod o offer gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gwella mynediad i draethau arobryn Sir Benfro a mannau awyr agored eraill trwy ddarparu ystod o offer gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth.
Mae amrywiaeth o offer ar gael i’w llogi am ddim o wahanol leoliadau o amgylch yr arfordir neu’n uniongyrchol oddi wrth Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r rhan fwyaf o’r offer ar gael i’w llogi o leoliadau poblogaidd ger yr arfordir diolch i’r busnesau lleol sydd wedi cytuno’n garedig i ddod yn westeion.
Ble cewch hyd i gadeiriau olwyn y traethau
Gallwch logi offer symudedd o’r lleoliadau canlynol, sydd hefyd i’w gweld ar y map isod:
- Aberllydan (Broad Haven North) – cadair olwyn traeth maint safonol ar gael trwy Hostel Ieuenctid Aberllydan (agor mewn ffenestr newydd)
- Castell Caeriw Castle – sgwter ar gael o’r Castell (agor mewn ffenestr newydd)
- Castell Henllys Iron Age Village – MT-ePush electric assist mountain trike available to hire via Castell Henllys Visitor Centre (agor mewn ffenestr newydd)
- Coppet Hall, Saundersfoot – cadair olwyn traeth i blant ar gael trwy Good Trails (agor mewn ffenestr newydd)
- Dale – standard size beach wheelchair and extreme Motus off-road wheelchair available via Windswept Watersports (agor mewn ffenestr newydd)
- Freshwater East – cadair olwyn traeth maint safonol a chadair olwyn traeth i blant ar gael trwy Jack’s at the Longhouse (agor mewn ffenestr newydd)
- Parc Llanion, Doc Penfro – various equipment available to hire from National Park Authority headquarters (agor mewn ffenestr newydd)
- Niwgwl – extreme Motus off-road wheelchair available directly via The Big Blue Experience (agor mewn ffenestr newydd)
- Traeth Mawr, Trefdraeth – cadair olwyn traeth maint safonol ar gael trwy Caffi Mawr (agor mewn ffenestr newydd)
- Oriel y Parc, Tyddewi – children’s beach wheelchair available via Oriel y Parc Visitor Centre (agor mewn ffenestr newydd)
- Traeth Poppit – cadair olwyn traeth maint safonol a chadair olwyn traeth i blant ar gael trwy Crwst (agor mewn ffenestr newydd)
- Traeth y Castell, Dinbych-y-pysgod – cadair olwyn traeth maint safonol ar gael trwy The Dennis Cafe (agor mewn ffenestr newydd)
- Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod – cadair olwyn traeth i blant ar gael trwy Joe’s Diner (agor mewn ffenestr newydd)
- Traeth y De, Dinbych-y-pysgod – cadair olwyn traeth i blant ar gael trwy Salty’s (agor mewn ffenestr newydd)
- Saundersfoot – cadair olwyn traeth maint safonol ar gael trwy The Stone Crab (agor mewn ffenestr newydd)
- Bae Gorllewin Angle – cadair olwyn traeth maint safonol ar gael trwy Gaffi Wavecrest (agor mewn ffenestr newydd)
- Porth Mawr – cadair olwyn traeth maint safonol a ffrâm gerdded/rholwr pob tir ar gael trwy Clwb Achub Bywyd Syrffio Porthmawr (agor mewn ffenestr newydd)