Canllawiau Diogelwch

***Gofalwch fod y gadair yn addas cyn ei defnyddio***

Cloi yr olwynion

  • Cofiwch gloi y ddau deiar mawr cyn wrth eistedd neu godi o’r gadair
  • Dylech gloi’r olwynion pryd bynnag fydd y gadair olwyn wedi stopio a phan nad yw’r helpwr wrth law.
    · Nid brêcs yw’r cloeon ar yr olwynion.
  • Ni ddylid defnyddio’r cloeon ar yr olwynion i arafu na stopio’r gadair tra bydd yn symud.

Rampiau, Llethrau a’r Môr
***Peidiwch â mynd â’r gadair olwyn i mewn i’r môr. Mae’r teiars yn hynawf iawn ac os bydd y gadair olwyn yn dechrau arnofio bydd yn simsan iawn a gall rolio drosodd***
Sicrhewch nad yw’r dolenni’n boeth, yn wlyb nac yn llithrig cyn teithio ar hyd llethr neu ramp.
Rhaid i chi wybod lle mae pendraw i’ch gallu o ran cryfder a pha mor hir allwch chi oddef cyn i chi fentro mynd i lawr neu i fyny ramp, llethr neu lithrfa.

  • A yw’r ramp yn rhy serth?
  • A yw’r ramp yn rhy hir i chi oddef?
  • A yw’r ramp yn llithrig? (mae tywod mân sych neu dywod gwlyb yn gallu bod yn llithrig)
  • A oes unrhyw rwystrau? (biniau sbwriel, stepiau, pobl ac ati)

Mae’r gadair olwyn wedi’i bwriadu i’w defnyddio ar y traeth. Ni ddylid ei defnyddio yn aml ar y palmant i deithio i’r traeth ac oddi yno er mwyn atal y teiars rhag gwisgo.

Safle a Chyflwr

  • Gofalwch eich bod yn gyfforddus efo cynllun a chyflwr y traeth.
  • Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac amseroedd y llanw cyn i chi ymweld.
  • Pan fyddwch chi yn y gadair olwyn, defnyddiwch eli haul neu ambarél i osgoi llosg haul.