Bae Caerbwdi

Cyfeillgar i gŵn. Dim mynediad hwylus. Dim achubwyr bywyd.

Traeth fechan o greigiau bach a cherrig mân, er bod rhywfaint o dywod i'w weld pan fo'r llanw'n isel.

Mae’n eithaf cysgodol, ac yn dawel fel arfer ar wahân i ambell gerddwr ar Lwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cafodd tywodfaen porffor nodweddiadol Caerbwdi ei chwareli mewn amseroedd Canoloesol i ddarparu’ garreg ymylol ar gyfer Egwlys Gadeiriol Tyddewi.

 

Cyfleusterau

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y traeth. Amrywiaeth o gyflesterau yn Nhyddewi, tua 1 milltir i ffwrdd, gan gynnwys Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, sydd wedi’i rheoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Am fod y traeth mor anghysbell, a wnewch chi helpu cadw Caerbwdi yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle hwn.

 

Mynediad hwylus?

Na. Mynediad drwy denfyddio Llwybr yr Arfordir neu o ffordd Hwlffordd-Tyddewi (A487) mae yna lwybr troed yn arwain 0.6 milltir (1km) i’r bae.

 

Cyrraedd

Fe allwch gyrraedd Bae Caerbwdi ar eich beic, ac mae’r  Llwybr Celtaidd yn rhedeg heibio. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.

Mae’r traeth hwn yn rhan o’r  Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded. Mae’n daith o un filltir o Gei Ystagbwll sy’n cynnwys rhai grisiau serth nad ydynt yn addas i gadeiriau gwthio.

Mae bws gwasanaeth y T11 a’r bws arfordirol ‘Y Pal Gwibio’ yn stopio yn agos i Bae Caerbwdi. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Yn y car, o ffordd Hwlffordd-Tyddewi (A487) mae yna lwybr troed yn arwain 0.6 milltir (1km) i’r bae. Parcio cyfyng oddi ar y brif ffordd.

 

Cyngor ar ddiogelwch

  • Dim Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i weld i ddod o hyd i draethau lle mae achubwyr bywyd yn bresennol.
  • Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
  • Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

  • Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
  • Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i'r traeth hwn

Cyfeirnod Grid: SM766244 Côd post: SM766244