Bae Santes Non i Gaerbwdi

Taith Fer

PELLTER/HYD: Bae Santes Non i Gaerbwdi 1.7 milltir (2.8 km) 1 awr bob ffordd. Caerfai i Gaerbwdi 0.9 milltir (1.4 km) 30 munud bob ffordd
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Tyddewi 411, *Pâl Gwibio 400 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: dim sticlau, yn hawdd i gymedrol, tair llethrau gweddol serth, un nant gul i groesi.

Ar y daith hon, mae yna olygfeydd ysblennydd o forlin gwyllt Bae Sain Ffraid, rhwng Niwgwl ac Ynys Dewi, ac allan tuag at Ynys Sgomer.

Parcio cyfyngedig ym Mae Santes Non gyda mwy o le ym maes parcio mawr y Parc Cenedlaethol yng Nghaerfai. Enwyd Bae y Santes Non ar ôl mam Dewi Sant, a anwyd yma ym 462OC.

Olion y Capel oedd ei man geni. Mae lloches y Santes Non yn dyddio nôl i 1929 ac adeiladwyd y capel presennol ym 1934 mewn arddull Geltaidd gynnar gan ddefnyddio’r deunyddiau o olion Priordy Whitewell gerllaw.

Mae yna lethr fach, graddiant 1 mewn 8, sy’n arwain i fyny at y giât gyntaf, ac yna mae yna raddiant fach cyn cyrraedd darn garw ac anwastad o dir – fe allwch weithio eich ffordd trwy’r cerrig mawr – sydd â graddiant o 1 mewn 12 am 25m.

Mae’r llwybr yn parhau gyda’r un cymeriad garw ac anwastad ond gyda llethr mwy cymedrol. Yn y man sy’n croesi dros nant fechan, mae yna olygfeydd da o Sgomer a Bae Sain Ffraid.

Mae’r llwybr yn parhau gyda llethr o 1 mewn 6 am 15m. Mae yna groes Geltaidd fodern wedi’i cherfio ar garreg fawr i’r gorllewin o Gaerfai. Wedi pasio trwy giât mochyn, mae yna nifer o lethrau, 1 mewn 8 i lawr am 35m, 1 mewn 12 i fyny am 30m.

I gerdded ar hyd darn byrrach o lwybr, parciwch yn y maes parcio mawr yng Nghaerfai ac yna ewch i Lwybr yr Arfordir trwy’r llwybr gweddol serth (1 mewn 13 am 50m) wrth ymyl y giât i’r dwyrain o’r maes parcio.

Mae nifer o lwybrau’n croesi’r fan hon. Mae’r llwybr isaf yn arwain i lawr at y traeth ac mae yna lwybr concrit cymedrol o serth, sy’n dod i ben wrth ymyl grisiau byr.

Ar benrhyn Penpleidiau mae yna gaer bentir Oes Haearn gyda phedair arglawdd a ffos amddiffynnol. Fe allwch weld Niwgwl yn y pellter.

Chwarelwyd y tywodfaen Jasper porffor a chafodd ei defnyddio i adeiladu Egwlys Gadeiriol Tyddewi yng Nghaerbwdi.

Ar ôl gris uchel, mae’r llwybr yn disgyn yn serth i Gaerbwdi.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM759243

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau