Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro

ADRODDIAD TERFYNOL PARATOWYD GAN LUC CHWEFROR 2023

Cynnwys tudalen:

 

Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro

Adnodd SG Cyfredol
Lliniaru Newid Hinsawdd
Asedau a Rhwydweithiau Ecolegol
Cyd-destun y Dirwedd

 

Seilwaith Gwyrdd Strategol Sir Benfro

 

4.1 Mae Sir Benfro yn bwysig yn rhyngwladol am nifer o’i chynefinoedd arfordirol, morol a rhostir iseldirol. Adlewyrchir dylanwad cryf yr arfordir a’r hinsawdd gefnforol ysgafn o fewn y sir yn ei phatrwm o ddefnydd tir, cynefinoedd a dosbarthiad rhywogaethau. Mae Cleddau Ddu a Chleddau Wen yn cyfuno i ffurfio dalgylch sylweddol o fewn y sir. Mae cilfachau a morydau yn amrywio o ran maint o Ddyfrffordd fawr ac ecolegol gyfoethog y Ddau Gleddau, i gilfachau bychain fel Solfach. Mae glannau deheuol Aber Afon Teifi hefyd yn ffurfio rhan o ffin ogleddol y sir.

4.2 Sir wledig yw Sir Benfro ar y cyfan, a 56% o’r gorchudd tir yn cynnwys ‘tir amaeth amgaeedig’ a 17% arall yn goetir, fel y disgrifiwyd gan Ddatganiad Ardal De-orllewin Cymru (Agor mewn ffenest Newydd). Mae ffiniau caeau amaethyddol traddodiadol, coedlannau a nentydd bychain yn darparu coridorau symud hanfodol ar gyfer planhigion ac anifeiliaid, gan gysylltu ardaloedd mwy o goetir a phrysgwydd â ffen a chors ar waelodion dyffrynnoedd sydd wedi’u draenio’n wael. Ystyrir hefyd fod y sir o bwysigrwydd cenedlaethol ar gyfer coetir derw lled-naturiol hynafol. Mae darnau o orchudd coed wedi’u cyfyngu’n bennaf i dir amaethyddol ymylol, gan adlewyrchu patrwm ffermio dwys yn Sir Benfro.

 

Ffigur 4.1: Cyd-destun SG strategol – graddfa tirwedd i lawr i brosiect

 

4.3 Archwiliwyd cyd-destun strategol SG y sir fel rhan o’r gwaith hwn, cyn canolbwyntio ar y raddfa anheddiad a phrosiect. Roedd hyn yn cynnwys adolygiad o gymeriad tirwedd, cysylltiadau teithio llesol strategol, coridorau ecolegol, dalgylchoedd afonydd a safleoedd ecolegol o bwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol. Drwy ddeall Sir Benfro ar raddfa’r dirwedd a pherthynas amgylcheddau trefol â choridorau, cysylltiadau a safleoedd strategol, mae wedi sicrhau bod y prosiectau anheddiad yn cysylltu â rhwydwaith SG strategol Sir Benfro.

4.4 Mae’r dull hwn yn cydredeg â’r dull o gynnal Asesiad Seilwaith Gwyrdd a awgrymir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn eu Nodyn Cyfarwyddyd 042. Mae’r drefn gyfnewidiol o gamau, a ddangosir isod, yn sicrhau bod y cwmpas a manylder priodol o dystiolaeth a data’n cael eu defnyddio i lywio ymyriadau. Ni fwriedir i’r broses hon fod yn llinellol ac ailystyriwyd camau ar raddfeydd gwahanol i sicrhau bod blaenoriaethau a chyfleoedd priodol yn cael eu nodi ar raddfa strategol, anheddiad a phrosiect.

 

Ffigur 4.2: Dull o Asesu SG gan CNC

 

4.5 Mae’r Dull o Asesu SG gan Cyfoeth Naturiol Cymru (fel y’i darlunnir yn y ffigur uchod) yn cynnwys:

  • Gosod y llinell sylfaen
  • Nodi blaenoriaethau
  • Asesu’r safle
  • Nodi cyfleoedd
  • Cyflawni a monitro/adolygu

 

Gosod y Llinell Sylfaen

4.6 Roedd nodi asedau a rhwydweithiau SG presennol yn gam hanfodol yn yr asesiad SG. Rhannwyd setiau data i’r pedwar categori, fel y’u diffiniwyd gan CNC (yr ‘Adnodd SG Cyfredol’, ‘Lliniaru Newid Hinsawdd’, ‘Asedau a Rhwydweithiau Ecolegol’ a ‘Cyd-destun Tirwedd’). Amlinellir isod drosolwg o gyfleoedd SG strategol posibl ac argymhellion polisi, sy’n cael eu llywio gan y dadansoddiad data strategol.

 

Yn ôl i’r top

 

Adnodd SG Cyfredol

 

Setiau data perthnasol
  • Mae set ddata Man Gwyrdd Cymru Gyfan yn nodi pob ardal nad adeiladwyd arni neu nad yw wedi’i gorchuddio ag arwyneb a wnaed gan ddyn, gan roi syniad o’r adnodd man gwyrdd cyfredol yn Sir Benfro.
  • Gorchudd canopi coed trefol – sy’n dangos dosbarthiad coed a lledaeniad canopi dangosol. Mae’r set ddata hon yn cwmpasu aneddiadau allweddol Sir Benfro yn unig.

 

Ffigur 4.3: SG Strategol – Adnodd SG Cyfredol

 

Anghenion a chyfleoedd

 

Mynd i’r afael â diffygion o ran darparu mannau gwyrdd

4.7 Gan ddefnyddio safonau darpariaeth Meysydd Chwarae Cymru ar gyfer Sir Benfro, mynd i’r afael ag anghenion lleol drwy nodi unrhyw ddiffygion yn narpariaeth mannau agored hamdden ledled y sir. Dylai cyfleoedd anelu at ddarparu gwerth aml-swyddogaethol, gan gynnwys iechyd, buddion lles a gwerth bioamrywiaeth. Dylid hefyd archwilio mapio diffygion hygyrchedd i archwilio’r angen am well mynediad i fannau agored ar gyfer cymunedau lleol.

4.8 Argymhelliad polisi: Defnyddio’r system gynllunio a chyfraniadau datblygwyr i sicrhau y darperir y mannau agored a’r gwelliannau gorau posibl ledled y sir. Dylai hyn gynnwys sefydlu egwyddorion ar gyfer darparu SG o fewn datblygiad newydd e.e. safonau mannau agored a thargedau ar gyfer bioamrywiaeth. Dylid hefyd edrych ar gyfleoedd i wella gwerth bioamrywiaeth y mannau gwyrdd presennol drwy’r gofyniad am gynlluniau rheoli fel rhan o’r broses gynllunio.

 

Cynyddu’r gorchudd coetir brodorol

4.9 Ceir potensial i gynyddu’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau ac addasu i effeithiau hirdymor newid hinsawdd drwy hyrwyddo amrywiaeth coetir brodorol yn y sir. Dylid rhoi ffocws penodol ar gyfleoedd i gynyddu gorchudd coed brodorol o fewn dyffrynnoedd afonydd ac adfer planhigfeydd conifferaidd ar safleoedd coetir hynafol. Dylid datblygu cynigion i sicrhau y cydredir â chanllawiau plannu coed cyfredol, gan gynnwys mabwysiadu egwyddor y dull ‘coeden gywir, lle cywir’ o reoli coetiroedd.

4.10 Argymhelliad polisi: Hyrwyddo gwarchod a gwella plannu coed brodorol mewn dyffrynnoedd afonydd drwy ddynodi parth llifogydd CNC a safleoedd coetir hynafol ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu. Dylid defnyddio clustogfeydd priodol hefyd o amgylch coetiroedd a safleoedd datblygu i leihau potensial effeithiau niweidiol ar ardaloedd o gynefin â blaenoriaeth neu goetir hynafol.

 

Cynyddu gorchudd canopi coed trefol

4.11 Darparu gwasanaethau ecosystemau eang drwy gynyddu’r gorchudd canopi coed mewn lleoliadau trefol ledled Sir Benfro. Dylai pob cynnig lynu wrth Egwyddorion Cyffredinol y Strategaeth Plannu Coed Trefol i hyrwyddo sefydliad llwyddiannus yn y tymor hir.

4.12 Argymhelliad polisi: Defnyddio’r system gynllunio a chyfraniadau datblygwyr i sicrhau y darperir cymaint â phosibl o gyfleoedd plannu coed o fewn lleoliadau trefol, fel yr amlinellir yn adran ‘gyflawni’ y Strategaeth Plannu Coed Trefol.

 

Hyrwyddo cysylltedd cynefinoedd

4.13 Defnyddio cynigion plannu coed a gwrychoedd yn fodd o hyrwyddo cysylltedd cynefinoedd. Dylid mabwysiadu arferion rheoli sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt fel dull o gynyddu potensial fforio cynefinoedd presennol.

4.14 Argymhelliad polisi: Diogelu rhwydweithiau cynefinoedd, gan gynnwys coed a gwrychoedd presennol, rhag aflonyddwch, dirywiad neu golled drwy’r system rheoli datblygu. Dylai hyn gynnwys hyrwyddo ymyriadau gwella bioamrywiaeth o fewn cynlluniau datblygu.

 

Yn ôl i’r top

 

Lliniaru Newid Hinsawdd

 

Setiau data perthnasol
  • Mae Map Mawn Unedig Cymru – yn nodi maint daearyddol mawndiroedd yn Sir Benfro, gan gynnig y potensial i adnabod safleoedd ar gyfer adfer mawndiroedd (ar y cyd â Phrosiect Gwybodaeth Cymru ar gyfer Atebion Seiliedig ar Natur (WINS) CNC).
  • Mae Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol Coetiroedd Cymru – yn darparu dadansoddiad o fathau a dosbarthiad coetir i hysbysu cynigion plannu coetir yn y dyfodol.
  • Mae mapiau risg llifogydd manwl – yn adnabod ardaloedd sydd mewn perygl o ddioddef llifogydd dŵr wyneb, gan ddarparu’r man cychwyn ar gyfer nodi ardaloedd a allai elwa ar ymyriadau SG.

 

Ffigur 4.4: SG Strategol – Lliniaru’r Newid yn yr Hinsawdd

 

 

Anghenion a chyfleoedd

 

Hyrwyddo rheoli cynaliadwy adnoddau mawn

4.15Dylid edrych ar gyfleoedd i adfer a chynnal cynefin cors, ffen a rhostir ledled y sir, gan gydnabod mai’r opsiwn gorau ar gyfer mawn ar safle datblygu yw dylunio’r datblygiad fel y caiff ei gadw yn y fan a’r lle, lle bynnag y bo modd.

4.16 Argymhelliad polisi: Dylid dynodi Map Mawn Unedig Cymru fel rhan o’r SG Strategol ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu. Dylid asesu cynigion datblygu er mwyn sicrhau y glynir wrth Atodiad 11 o Ganllawiau Cynllunio Atodol yr Awdurdod ar Fioamrywiaeth, sy’n rhoi cyngor manwl ar reoli mawndiroedd. Dylid hyrwyddo dulliau rheoli pori priodol (gan gynnwys clirio prysgwydd) ar rostir ucheldirol hefyd yn fodd o gyflawni mwy o fioamrywiaeth.

 

Hyrwyddo’r broses o ddiogelu a gwella’r parth arfordirol neu ardaloedd sy’n agored i lifogydd

4.17 Mae gofyn dull hirdymor cynaliadwy o reoli risg llifogydd ac erydu arfordirol o fewn Sir Benfro i sicrhau amrywiaeth o fuddion aml-swyddogaethol, gan gynnwys gwella ecolegol o fewn ardaloedd o risg llifogydd. Ceir cyfle hefyd i gefnogi cyflwyno atebion seiliedig ar natur a Systemau Draenio Cynaliadwy (SDC) fel egwyddorion sy’n sicrhau’r buddion mwyaf posibl ar gyfer ansawdd dŵr, bioamrywiaeth ac amwynder (gan hefyd leihau llygredd gwasgaredig ac erydiad pridd).

4.18 Argymhelliad polisi: Dylid defnyddio canlyniadau mapio parthau llifogydd CNC at ddibenion cynllunio defnydd tir i sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyfeirio i ffwrdd o’r parth arfordirol neu ardaloedd sy’n agored i lifogydd. Dylid cymhwyso clustogfa briodol o amgylch lleoliadau parth llifogydd CNC diffiniedig yn fodd o hyrwyddo diogelu’r ardaloedd hyn rhag datblygiad, yn ogystal ag archwilio cyfleoedd posibl i wella’r rhwydwaith cynefinoedd. Dylai Ardaloedd Rheoli Newid Hinsawdd hefyd gael eu cynnwys ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu er mwyn hyrwyddo’r cyfle i wella bioamrywiaeth ac addasu i newid hinsawdd mewn ardaloedd arfordirol poblog. Bydd angen astudiaethau dichonoldeb a dilysu daearol er mwyn asesu pa mor briodol yw’r argymhelliad hwn.

4.19 Dylai polisi lleol hefyd gyfeirio at Ganllawiau Statudol SDC Llywodraeth Cymru, sy’n disgrifio’r defnydd gorfodol o Systemau Draenio Cynaliadwy ar gyfer dŵr wyneb ar ddatblygiadau newydd. Mae hyn hefyd yn cynnwys y gofyniad i’r awdurdod lleol eu cymeradwyo a’u mabwysiadu wrth weithredu yn ei rôl Corff Cymeradwyo SDC.

 

Yn ôl i’r top

 

Asedau a Rhwydweithiau Ecolegol

 

Setiau data perthnasol
  • Mae’r Rhwydwaith Safleoedd Gwarchodedig – yn cyfuno Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA), Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (sydd hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).
  • Mae Arolwg Cynefin Cam I – yn amlinellu cwmpas data cynefinoedd cynhwysfawr.
  • Mae’r Rhwydwaith Cynefinoedd – yn cyfleu patrymau cyffredinol cysylltedd ecolegol ar draws y dirwedd.
  • Mae set ddata CuRVe – yn rhoi trosolwg o wytnwch ecolegol cymharol ardaloedd.

 

Ffigur 4.5: SG Strategol – Asedau a Rhwydweithiau Ecolegol

 

 

Anghenion a chyfleoedd

 

Gan gydweithio â CNC, nodi ymyriadau i wella cyflwr safleoedd gwarchodedig.

4.20 Ceir cyfle i wella gwytnwch ecosystem cynefinoedd penodol, gan gynnwys mabwysiadu ymyriadau safle-benodol lle ystyrir bod rhywogaeth neu gynefin yn lleol bwysig neu mewn perygl mawr. Mae hyn yn cynnwys adnabod safleoedd lle mae lefelau gwytnwch ecosystemau rhwng 41 a 95 yn unol â set ddata CuRVe – mae’r lleoliadau hyn yn cynnwys Mynyddoedd y Preseli, Pen Maen Dewi, Penrhyn Castellmartin, y Ddau Gleddau a’r parth arfordirol ehangach. Dylid hyrwyddo mwy o addysg ac ymwybyddiaeth o ran rheoli safleoedd gwarchodedig hefyd, gyda’r nod o gael cydbwysedd rhwng swyddogaethau hamdden ac ecolegol.

4.21 Argymhelliad polisi: Dylid dynodi’r Rhwydwaith Safleoedd Gwarchodedig fel SG Strategol ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu a’i ddiffinio fel ardal i’w gwarchod. Dylid defnyddio clustogfa o amgylch SoDdGA hefyd i archwilio potensial y rhwydwaith hwn o safleoedd ar gyfer gwarchod a gwella. Dylid cynllunio polisïau SG i ddiogelu a gwella rhwydweithiau bioamrywiaeth a chynefinoedd ar y safle o fewn safleoedd datblygu a gerllaw. Dylid hefyd hyrwyddo dull dylunio ‘a arweinir gan SG’ o fewn polisi cynllunio lleol, gan gydnabod pwysigrwydd y rhwydwaith SG strategol i sefydlu cyfleoedd ar gyfer gwella a lliniaru. Mae hyn yn cynnwys yr angen i ystyried dyluniad SG aml-swyddogaethol o’r cam cyn-ymgeisio ymlaen, gan gynnwys trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol.

 

Hyrwyddo diogelu a gwella coridorau afonydd

4.22 Mae angen dull sy’n seiliedig ar ddalgylch er mwyn sicrhau gwelliannau i goridorau afonydd o fewn y sir. Yn allweddol i’r egwyddor hon mae hyrwyddo cydweithio, gan gynnwys yn rhan o’r Byrddau Cynlluniau Rheoli Maetholion a sefydlwyd ar gyfer afonydd Cleddau, Teifi a Thywi i gyflawni camau gweithredu a chyrraedd targedau cadwraeth. Dylid edrych ar gyfleoedd i adfer y parth torlannol, defnyddio plannu coed a gwella rheoli tir amaethyddol yn fodd o leihau llygredd gwasgaredig. Mae gwelliannau i arferion rheoli tir ac adfer cynefinoedd torlannol hefyd yn cynnig y potensial i leihau crynodiadau ffosfforws mewn cyrsiau dŵr.

4.23 Argymhelliad polisi: Dylid cymhwyso clustogfa hefyd o amgylch y cyrsiau dŵr ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu sydd ar hyn o bryd yn arddangos lefelau isel o wytnwch ecosystemau fel dull o hyrwyddo amddiffyn a gwella’r coridorau hyn. Y lleoliadau y mae angen ffocws arbennig arnynt yw Cleddau Ddu a Chleddau Wen, Dyfrffordd Aberdaugleddau, Aber Afon Teifi a Bae Caerfyrddin. Dylid archwilio maint arfaethedig y clustogfeydd hyn drwy astudiaethau dichonoldeb priodol a dilysu daearol.

 

Yn ôl i’r top

 

Cyd-destun y Dirwedd

 

Setiau data perthnasol

4.24 Mae LANDMAP – yn rhoi trosolwg o’r asedau SG a geir mewn ardal ac yn amlinellu sut mae’r rhain yn cyfrannu tuag at gymeriad tirwedd ac ymdeimlad o le. Gellir defnyddio’r ardal agwedd Weledol a Synhwyraidd yn benodol i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella elfennau tirwedd nodweddiadol a gwella tirweddau o ansawdd is yn y sir.

4.25 Mae Map Ardal Lonydd Cymru – yn nodi parthau o lonyddwch presennol i lywio ymhle y gellid defnyddio ymyriadau SG i wella seinwedd canfyddedig a llonyddwch cymharol.

 

Ffigur 4.6: SG Strategol – Cyd-destun Tirwedd

 

Anghenion a chyfleoedd

 

Gwella cymeriad y dirwedd a hynodrwydd lleol

4.26Wedi’i lywio gan arfarniad cyd-destun y safle a dadansoddiad gofodol, archwilio cynigion sy’n gwella cymeriad y dirwedd, hynodrwydd lleol ac ymdeimlad o le yn y sir.

4.27 Argymhelliad polisi: Defnyddio data LANDMAP, yn benodol y data gwerthuso yn yr ardal agwedd Weledol a Synhwyraidd, i archwilio cyfleoedd i adfer nodweddion coll neu wella nodweddion presennol trwy wella, cadwraeth a newid yn y dyfodol. Dylai’r ardaloedd hynny yr aseswyd eu bod yn ‘rhagorol’ neu ‘uchel’ gael eu cynnwys ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu. Mae’r set ddata hefyd yn cynnig y potensial i wella cysylltedd cynefinoedd a gwytnwch ecosystemau ar lefel leol drwy ddarparu manylion mannach ynghylch mosaigau cynefinoedd, sydd ar gael fel rhan o ardal agwedd Cynefinoedd y Dirwedd. Ar ben hynny, mae polisi lleol yn cynnig cyfle i nodi a darparu egwyddorion dylunio ar gyfer ardaloedd penodol sy’n arddangos hynodrwydd lleol neu ymdeimlad o le. Dylid felly ystyried gofynion rheoli a chynnal a chadw hirdymor mewn unrhyw ganiatâd cynllunio neu rwymedigaeth cynllunio gysylltiedig.

 

Gwella llonyddwch a chymeriad gwledig y sir drwy leihau effeithiau llygredd golau

4.28 Dylai effaith llygredd golau artiffisial ar fwynder lleol a chadwraeth natur fod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu cynigion y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys adnabod ardaloedd lle gall gostwng lefelau golau artiffisial wella darpariaeth y coridorau cynefin ar gyfer fforio nos.

4.29 Argymhelliad polisi: Defnyddio data Map Ardaloedd Tawel Cymru ar Fap Cynigion y Cynllun Datblygu i nodi mannau tawel presennol yn ogystal ag ardaloedd lle gallai ymyriadau SG wella llonyddwch cymharol a seinwedd canfyddedig.

 

Yn ôl i’r top

 

Pennod flaenorol:

Sut i ddefnyddio’r Asesiad Seilwaith Gwyrdd

 

Pennod nesaf:

Prosiectau Graddfa Strategol Sir Benfro

 

Dychwelyd i’r hafan:

Hafan