Bae Barafundle

Cyfeillgar i gŵn. Dim mynediad hwylus. Dim achubwyr bywyd.

Yn aml, caiff Barafundle ei ddisgrifio fel y traeth prydferthaf yn Sir Benfro, ac mae iddo naws egsotig, gyda thywod mân, euraidd ar gefndir o dwyni a choetir.

Mae’n wynebu’ dwyrain ac felly wedi ei gysgodi rhag y gwyntoedd mawr. Erbyn hyn, mae’n eiddo i’ Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ond yn wreiddiol, roedd Barafundle yn rhan o Ystad Ystagbwll. Adeiladwyd y wal gan berchnogion yr Ystad yn y 18fed ganrif i gau’ parc ceirw i mewn, ac ar un adeg, roedd y grisiau wedi eu leinio â cholofnau addurniadol a choed.

Defnyddiwyd Cei Ystagbwll, ger y maes parcio, i allforio calchfaen o’ chwarel gerllaw ac i ddod â glo a nwyddau eraill ar gyfer Llys Ystagbwll.

 

Cyfleusterau

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y traeth. Mae’r cyfleusterau agosaf yng Nghei Ystagbwll, tua 1 milltir i ffwrdd, ac maen nhw’n cynnwys toiledau (gan gynnwys cyflesterau i’r anabl a cyflesterau newid cewynnau) a chaffi.

Am fod y traeth mor anghysbell, a wnewch chi helpu cadw Barafundle yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Da chi, byddwch yn berchnogion cŵn cyfrifol.

 

Mynediad hwylus?

Na. Gallwch dim ond gyrraedd Bae Barafundle drwy fynd ar daith gerdded hanner milltir o’r maes parcio agosaf yng Nghei Ystagbwll. Nid yw’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn neu gadeiriau gwthio gan fod mynediad i’r traeth trwy gyfres o risiau. Y traeth mynediad hawdd agosaf yw Broad Haven South. Ewch i dudalen Broad Haven South am ragor o wybodaeth. 

Mae yna doiledau, gan gynnwys cyflesterau i’r anabl a cyflesterau newid cewynnau, ym maes parcio Cei Ystagbwll.

 

Cyrraedd

Fe allwch gyrraedd Cei Ystagbwll ar eich beic, ac mae’r  Llwybr Celtaidd yn rhedeg heibio. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.

Mae’r traeth hwn yn rhan o’r  Llwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded. Mae’n daith o un filltir o Gei Ystagbwll sy’n cynnwys rhai grisiau serth nad ydynt yn addas i gadeiriau gwthio.

Mae bws arfordirol ‘Gwibfws yr Arfordir’ yn stopio yng Nghei Ystabwll. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Yn y car, mae yna arwyddion at Gei Ystagbwll oddi ar yr heol rhwng Ystagbwll a Freshwater East. Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol faes parcio ond mae’n rhaid talu i barcio yno.

 

Cyngor ar ddiogelwch

  • Dim Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i weld i ddod o hyd i draethau lle mae achubwyr bywyd yn bresennol.
  • Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
  • Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

  • Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
  • Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.
  • Mae Is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol i’r ardal o amgylch Broad Haven South.

Dod o hyd i'r traeth hwn

Cyfeirnod Grid: SR990950 Côd post: SA71 5LS