Penrhyn Ystagbwll

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 4.9 milltir (7.9 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Ystagbwll 364/365, Bws gwasanaeth Bosherston 387, Coastal Cruiser
CYMERIAD: Arfordir garw, sticlau, caeau a da byw, graddiannau
CHWILIWCH AM: Traethau tywod • pyllau lili • y frân goesgoch • pont wyth bwa • Gwarchodfa Natur Genedlaethol
MWY O WYBODAETH: Rhybudd: Llwybr caniataol rhwng y bont wyth arch a Chei Ystagbwll ac fe allai fod ar gau.

Taith ble gwelwch chi byllau, coetir ffrwythlon a chwarelau dramatig.

Mae’r dyffryn a’i lethrau serth ble mae cangen ddwyreiniol Pyllau Lili Bosherston yn gorwedd, yn gyfoeth o goed ac mae llawr y goedwig yn doreth o flodau gwyllt fel clychau’r gog, fioledau a briallu yn y gwanwn ac yn gynnar yn yr haf.

Mis Mehefin yw’r amser gorau i weld y lilis dŵr ar y pyllau – mae’r bont wyth bwa ar draws y pwll yn hardd iawn. Mae’r coed yn lle arbennig o dda i weld adar gyda dringwyr bach, cnocellod y
cnau, tylluanod brech, cnocellau mawr brith y coed a sgrechod y coed.

Mae’r clogwyni carreg ar Benrhyn Ystagbwll ac o’i gwmpas (rhwng De Aberllydan a Bae Barafundle) yn wych. Mae’r môr wedi cerflunio’r staciau, yr ogofau, y bwâu, y cilfachau a’r pentiroedd ac mae gweilch y penwaig, heligogod, y frân goesgoch, hebog tramor a phigfrain yn byw yma.

Mae Bae Barafundle yn weddol anhygyrch ac fel arfer mae’n dawel – mae yna dwyni hardd tu ôl i’r traeth a choedwigoedd tu hwnt. Mae Cei Stackpole, a oedd yn chwarel garreg galch ar un adeg, bellach yn borthladd bach – chiliwch am yr odyn galch sgwâr.

Mae Libby Taylor, Rheolwr Parcmyn y Parc Cenedlaethol, wedi cerdded y daith hon. Mae’n dweud: “Traeth anghysbell hardd Bae Barafundle yw hoff draeth Parcmyn sector y De’r Parc Cenedlaethol.

Nid oes mynediad i gerbydau, ac mae hyn yn ychwanegu at ei swyn a’i heddwch. Gyda’r clogwyni carreg galch gwych ac adran ddwyreiniol pyllau lili.

Gwybodaeth gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SR995945

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau