Mae Abereiddi yn draeth o dywod du, gyda cherrig crynion a chreigiau yn uwch i fyny. Mae'n gallu fod yn gwych am snorclo, deifio, caiacio a cherdded.
Mae’n gallu bod yn eithaf prysur dros yr haf. Os ydych chi’n ymdrochi yma, gwyliwch rhag y cerhyntau a’r tanlusgo mewn mannau. Chwiliwch am ffosilau bach, a elwir yn graptolitau, ar y traeth.
I’r gogledd o’ traeth, mae llwybr sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, yn arwain at y ‘Lagŵn Glas’, sef chwarel lechi foddedig, heibio i adfeilion adeiladau’ chwarel a bythynnod y gweithwyr llechi.
Mae’n werth cerdded y daith fer i weld hyn. Mae’r Lagŵn Glas, a llawer o’r arfordir o’r fan hon i Borthgain, yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Sylwch fod mynediad i’r Lagŵn Glas yn aml ar gau yn yr hydref er mwyn cyfyngu ar yr aflonyddwch i forloi a’u morloi bach yn yr ardal.
Gwobrau Traeth
Gwobr Arfordir Glas. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am ragor o wybodaeth am Wobrau Arfordir Cymru.
Cyfleusterau
Mae yna doiledau ar gael. No disabled facilities or baby changing facilities available. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.
Mae ciosg symudol yn ymweld â’r maes parcio ac yn gwerthu hufen iâ, diodydd a brechdanau. Mae yna ffôn.
Nid oes unrhyw finiau sbwriel na biniau baw cŵn, felly a wnewch chi gadw Abereiddi’n hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.
Mae yna fynediad i’r anabl yn Abereiddi gyda llwybr sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn yn arwain at y Lagŵn Glas.
Cyfeillgar i gŵn?
Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.
Mynediad hwylus?
Dim mynediad hwylus i’r traeth ond mae llwybr yn dilyn i’r Lagwn Glas sy’n addas i cadeiriau olwyn. Gwelwch ein llwybr Abereiddi yn yr adran ‘Llwybrau i Bawb’ i gael gwybod mwy.
Cwrdd a’r safle
Fe allwch ddod i Abermawr ar eich beic, ac mae’r Llwybr Celtaidd yn pasio o fewn hanner milltir. Mae’n werth crwydro oddi ar y llwybr i ddod yma! Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.
Mae Bws Arfordirol y Gwibiwr Strwmbl yn stopio yn agos i Abereiddi. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.
Mae’r traeth yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.
Yn y car, dilynwch yr arwyddion o Groesgoch ar heol Tyddewi-Abergwaun (yr A487), neu o heol gul yr arfordir rhwng Tyddewi a Llanrhian. Mae maes parcio preifat yn parc ar brig y rhyw sy’n dilyn lawr i Abereiddi. Safleoedd parcio cyfyngedig i’r anabl wrth ymyl y traeth. Taliadau tymhorol yn berthnasol.
Cyngor ar ddiogelwch
- Cadwch yn glir o’r morglawdd trwy gydol y flwyddyn.
- Mae pobl yn ‘Arfordira’ o amgylch y clogwyni yma ac, yn benodol, yn y Lagŵn Glas. Fel arfer, mae Arfordira sy’n cael ei oruchwylio yn ddiogel iawn, ond mae fersiwn anawdurdodedig y weithgaredd, sef ‘Tombstoning’, yn beryglus iawn ac ni ddylech geisio gwneud hyn.
- Dim achubwyr bywyd ar y traeth hwn. Please Ewch i wefan y RNLI i ddod o hyd i’r traeth agosaf sydd ag achubwyr bywyd.
- Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).
Is-ddeddfau
- Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
- Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.
- Mae Is-ddeddfau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berthnasol i’r ardal o amgylch Abereiddi.