Abereiddi/Pwll-caerog

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.3 milltir (3.7 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)li
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw, gweddol wastad
CHWILIWCH AM: Caer Oes Haearn Caerau

Mae llawer o’r tir ar y llwybr hwn wedi ei greithio gan chwareli llechi yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ‘Chwarelau môr’, sy’n cael eu ffurfio wrth i’r môr orlifo i hen weithfeydd chwarel, yn nodwedd unigryw o’r ardal.

Efallai mai’r enghraifft orau yw’r Merllyn Glas yn Abereiddi i’r gogledd – mae’n werth gadael y llwybr am ychydig i’w weld.

Mae yna Gaer Oes Haearn yng Nghaerau sy’n edrych allan dros y môr. Mae creigiau garw Bae Abereiddi yn cynnwys llechi Ordoficaidd sy’n erydu’n hawdd, yn hytrach na’r creigiau igneaidd caletach eraill ym Mhenmaen Dewi a Phen-caer (Chwiliwch am ffosilau graptolitau fforc diwnio, organebau fel plancton a oedd yn byw mewn nythfeydd yn y graig).

Mae M Rose o’r Barri wedi bod ar y daith hon ac yn dweud: “Mae Abereiddi yn un o fy hoff lefydd yn Sir Benfro. Dw i wedi cerdded a chaiacio’r ardal. Mae’n ddarn hyfryd o’r arfordir – nid yw’n rhy egniol i’w cherdded, ac mae yna lawer o gildraethau bach.”

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM797311

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau