Abereiddi i’r Merllyn Glas

Taith Cadair Olwyn

PELLTER/HYD: 300 llath (300 m)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Strumble Shuttle (NID yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn)
CYMERIAD: llwybr concrid-pridd-craig gyda rhediad serth; un giât (nid yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn trydan mwy o faint)

Rhan o’r llwybr o goncrid, rhan o bridd caled a chraig yn arwain at olygfan isel ar draws y Merllyn Glas ysblennydd – chwarel â gorlif dwfn.

Y graddiant mwyaf serth yw 1 mewn 8 ar goncrit garw – dwy ran o 5m, 1 mewn 10 am 50m ar goncrit, ond hefyd adran carreg 1 mewn 15 am 60m. Un giât mochyn o’r maes parcio na fydd yn cymryd cadeiriau olwyn trydan mwy o faint.

Cambwr dibwys. Un sedd. Arwyneb garw ar y maes parcio. Toiledau ym Mhorthgain.

Cadair olwyn 300m – Antur 300m

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM797314

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau