Porthgain/Abereiddi

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.6 milltir (5.8 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Llanrhian 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, ymylon clogwyni, caeau a da byw, disgyniad serth i Borthgain
CHWILIWCH AM: Traeth Llyfn • Archeoleg Diwydiannol: chwareli llechi/cerrig a gweithfeydd briciau
RHYBUDD: Mae grisiau metel serth i lawr i’r traeth, ond byddwch yn ofalus – gall rhannau o’r traeth ddod yn wahanedig oddi wrth y tir mawr ar lanw uchel, ac mae cerrynt cryf yn gwneud nofio’n beryglus.

O hanes cyfoethog i lagwnau gwych wedi gorlifo…

Mae Porthgain yn golygu Porth y Gain (‘Chisel’) ac mae’r cysylltiad rhwng hanes y pentref a’r diwydiant adeiladu y mae’r ‘Gain’ yn ei gynrychioli yn amlwg ym mhob man yn y pentref bach prydferth hwn.

Yn yr harbwr, sy’n cael ei ddefnyddio o hyd, chwiliwch am y gwaith briciau (Tŷ Mawr) sydd ddim yn cael ei ddefnyddio mwyach a’r wagenni bric coch a arferai ddal gwenithfaen wedi’i raddio o’r chwarel haenog ymhellach ar hyd yr arfordir tuag at Abereiddi.

Roedden nhw’n chwarelu llechi yma hefyd er, mae’r chwarel wedi’i ffensio i ffwrdd erbyn hyn, oherwydd mae ei llethrau serth yn beryglus; mae’r twnnel a arferai redeg o’r harbwr i’r chwarel lechi hefyd wedi’i flocio i ffwrdd.

Roedden nhw’n chwarelu llechi hefyd yn Abereiddi ac fe’u cludwyd ar hyd y ffordd tram i Borthgain i’w allforio. Daeth y cloddio i ben yma yn y 1930au. Mae tafarn y Sloop Inn yn y pentref yn dyddio o 1743.

Mae Traeth Llyfn yn draeth gwych gyda ffurfiadau craig a chlogwyni trawiadol (ond ansefydlog). Chiliwch am y Lagŵn Glas, hen chwarel lechi a orlifwyd gan y môr yn Abereiddi.

Gwybodaeth Gan y BBC

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM813323

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau