Abereiddi

Taith Fer

PELLTER/HYD: 1.0 milltir (1.6 km) 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordir garw, caeau a da byw, golygfeydd gwych. 2 sticil. Grisiau, giât mochyn, adran serth fer.
CHWILIWCH AM: Lagwn Glas

O’r maes parcio, dilynwch y llwybr tuag at y toiledau (adeiladau bach o liw hufen ychydig yn ôl o’r maes parcio) ac ewch drwy’r giât mochyn ar y dde.

Dilynwch y llwybr, sydd â saethau melyn fel marciau llwybr, i fyny’r tyle. Trowch i’r chwith i fyny trac ac yna trowch i’r dde yn siarp ar unwaith i lwybr llydan.

Croeswch y sticil a pharhewch yn syth ymlaen, gan dorri cornel y cae, ac anelwch am y mynegbost a’r sticlau o’ch blaen. Croeswch y sticil ar yr ochr chwith a dilynwch y llwybr glaswelltog amlwg.

Wrth y fforc, cymerwch y llwybr ar yr ochr dde sydd agosaf at y clogwyni ac arhoswch ar y llwybr sydd agosaf at ymyl y clogwyni.

Ewch i lawr y grisiau ac wrth y mynegbost trowch i’r dde yn ôl at y maes parcio.

Blue Lagoon, Abereiddi

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM798316

CYMRWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau