Mae blychau barddoniaeth wedi cael eu gosod o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i annog pobl i ailgysylltu â natur ac i ysgrifennu eu cerddi eu hunain i rannu eu profiad gyda phobl sy’n mynd heibio.

Mae’r llwybr wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Geiriau Diflanedig, sy’n cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac mae’n un o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i annog pobl i fwynhau ychydig funudau yn yr awyr agored ar Arfordir Penfro.

Mae pobl yn cael eu gwahodd i agor y blwch, edrych ar y pad ysgrifennu, darllen beth mae pobl eraill wedi’i nodi, ac ysgrifennu ychydig o linellau am yr adegau maen nhw wedi cael cysylltiad â natur. Yna, maen nhw yn ei roi yn ôl yn y blwch er mwyn i’r person nesaf allu mwynhau eu creadigaethau llenyddol, p’un a yw’n swyngan acrostig fel y gwelwch chi yn Y Geiriau Diflanedig neu ychydig o linellau sy’n disgrifio’r hyn rydych chi wedi’i weld neu ei glywed.

Mae’r blychau barddoniaeth i’w gweld yng Nghastell Henllys, Sychpant, Pen-caer, Oriel y Parc, Maes Awyr Tyddewi, Haroldston Chins, Sain Ffraid, Castell Caeriw a Skrinkle Haven.

Map of Pembrokeshire showing locations that have a poetry box on The Lost Words Poetry Box Trali 2023

Oriel Llwybrau Blwch Barddoniaeth Geiriau Diflanedig

Dyma rai o’r cerddi sydd wedi’u gadael ar hyd y llwybr!