Cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol Geiriau Diflanedig

Cyfle i ennill copi o Geiriau Diflanedig neu The Lost Words wedi ei arwyddo gan Jackie Morris!

I gyd-fynd ag arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc, bydd un copi caled o Geiriau Diflanedig (wedi ei arwyddo) yn cael ei rhoi i ffwrdd bob mis rhwng y sianeli Cymraeg canlynol:

Arfordir Penfro: @ArfordirPenfro ar Facebook, @ArfordirPenfro ar Instagram and @ArfordirPenfro ar X (Twitter.com).

Oriel y Parc: @OrielyParcTyddewi ar Facebook, @OyPTyddewi ar Instagram, @OyPTyddewi ar X (Twitter.com).

Hefyd, bydd un copi caled o The Lost Words (wedi ei arwyddo), yn cael ei roi i ffwrdd bob mis rhwng y sianeli Saesneg canlynol:

Pembrokeshire Coast: @PembrokeshireCoast ar Facebook, @PembsCoast ar Instagram and @PembsCoast ar X (Twitter.com).

Oriel y Parc: @OrielyParc ar Facebook, @OrielyParc ar Instagram, @OrielyParc ar X (Twitter.com).

 

Telerau ac amodau

  1. Mae’r gystadleuaeth yn agored i drigolion y Deyrnas Unedig (DU).
  2. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar draws Facebook, Instagram a X (Twitter.com).
  3. Mae’r cystadlaethau yn cael ei threfnu, ei hyrwyddo a’i chyflawni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ag Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.
  4. Nid oes tâl mynediad ac nid oes angen prynu unrhyw beth er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
  5. Dim ond unwaith y cewch chi wneud cais ar bob platform cyfryngau cymdeithasol wahanol, bob mis.
  6. Ni chaniateir unrhyw geisiadau pellach ar ôl y dyddiad cau a nodir (bydd un dyddiad cau bob mis o Awst 2023 i Ebrill 2024).
  7. Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau neu wobrau nas derbynnir am ba bynnag reswm.
  8. Mae APCAP yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn heb rybudd os oes angen, oherwydd materion y tu allan i reolaeth APCAP. Bydd APCAP yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosibl.
  9. Mae’r wobr fel y nodir ac ni chynigir arian parod neu ddewisiadau eraill. Nid yw’r gwobrau yn drosglwyddadwy. Mae gwobrau yn amodol ar argaeledd ac mae APCAP yn cadw’r hawl i gyfnewid unrhyw wobr heb roi rhybudd.
  10. Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl gynigion cywir a dderbynnir.
  11. Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu trwy ymateb ar y sianel cyfryngau cymdeithasol y gwnaethant gofrestru arni o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad cau. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad, mae APCAP yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi ar yr enillydd a dewis enillydd arall.
  12. Bydd APCAP yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu/draddodi’r wobr.
  13. Bydd penderfyniad APCAP ar bob mater sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
  14. Wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae ymgeisydd yn nodi ei fod yn cytuno i fod yn rhwym i’r telerau ac amodau hyn.
  15. Wrth hyrwyddo’r gystadleuaeth hon nid yw APCAP yn bwriadu gwneud unrhyw gytundeb y gellir ei orfodi’n gyfreithiol gyda’r bobl hynny sy’n dewis cymryd rhan.
  16. Nid yw’r rhodd mewn unrhyw ffordd yn cael ei noddi, ei chymeradwyo, ei gweinyddu gan Meta (Facebook ac Instagram) nac X (Twitter.com), nac yn gysylltiedig â nhw.