Pwyth cynaliadwy mewn pryd: ennill brwydrau yn erbyn planhigion goresgynnol

Cyhoeddwyd : 22/07/2020

Mae cam diweddaraf prosiect Pwyth mewn Pryd wedi dod â gwirfoddolwyr, contractwyr a pherchnogion tir at ei gilydd yng nghynllun mwyaf rheoli rhywogaethau goresgynnol Sir Benfro hyd yma, gan gwmpasu ardal o bron i 40 hectar yn 2019 - sy'n cyfateb i oddeutu 75 o gaeau pêl-droed.

Mae prosiect Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n ceisio rheoli Jac y Neidiwr a chlymog Japan mewn ardaloedd allweddol, yn cael ei oruchwylio gan grŵp llywio o bartneriaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Gwybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru.

Wedi eu cyflwyno naill ai’n fwriadol neu’n ddamweiniol, gall planhigion goresgynnol dra-arglwyddiaethu ar gynefinoedd gwlypdiroedd a glannau afonydd drwy dyfu’n gryfach na phlanhigion eraill i ddwyn eu gofod a’u peillwyr, gan achosi colledion mawr mewn bioamrywiaeth.

Cyllidwyd cam diweddaraf y prosiect, dan y teitl Pwyth Cynaliadwy mewn Pryd, gan grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles Llywodraeth Cymru gyda chyllid ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ynghyd â Dŵr Cymru.

Dywedodd Cydlynydd Prosiect Pwyth mewn Pryd, Matthew Tebbutt: “Mae’r cyllid ychwanegol wedi caniatáu i ni fonitro a chynnal y llwyddiannau a gyflawnwyd yn barod yn nalgylchoedd afon Gwaun a Phorthgain, yn ogystal â pharhau â’n hymdrechion dileu yn nalgylch Clydach ac ymlediad i ardaloedd newydd yn nalgylch Castellmartin yn Ne Sir Benfro.

“Cyfrannodd ein gwirfoddolwyr a’n grwpiau cymunedol 440 awr at y prosiect y llynedd ac roedd y cyfraniad hwnnw’n hanfodol i lwyddiant tymor rheoli 2019. Mae llawer o grwpiau a gwirfoddolwyr yn rhoi amser dro ar ôl tro i’w hardaloedd ‘mabwysiedig’. Ni allaf ddiolch digon iddynt, ond rydym yn gwybod nad mater o gyflawni’r gwaith yn unig yw hyn, mae ein gwirfoddolwyr yn ei fwynhau’n fawr a dyna pam eu bod yn dal i ddod yn ôl yn fy marn i.”

Himalyan balsam in the Clydach catchment of the River Gwaun

Ychwanegodd un o’r gwirfoddolwyr, Granville Watson: “Mae mynd yn ôl i leoedd a gweld y llwyddiant yn ysgogiad go iawn i mi. Rydym yn gwybod ei bod yn dasg fawr, yn broblem fawr, ond rydyn ni’n dechrau rheoli’r sefyllfa. Rwyf wedi dysgu llawer am rywogaethau goresgynnol drwy weithio gyda’r prosiect a nawr gallaf rannu rhywfaint o wybodaeth. Gallaf siarad â phobl nad ydyn nhw’n gwybod llawer am Jac y neidiwr a gallaf gyfeirio tirfeddianwyr at y cysylltiadau cywir”.

Dywedodd Jonathan Hughes, aelod o grŵp cymunedol: “Pan symudais i’r ardal gyntaf ymunais â Llais Llanychaer, grŵp lleol sy’n ymwneud â’r prosiect Pwyth mewn Pryd, fel ffordd o ddod yn rhan o’m cymuned leol. Roedd modd i mi gysylltu â phobl o’r un anian, datblygu cyfeillgarwch newydd o gwmpas diddordebau cyffredin, ac roedd modd cael sgyrsiau newydd a gwahanol. Mae’n teimlo fel caseg eira, braidd – megis dechrau pethau oedd cymryd rhan.”

Er bod y cyfyngiadau yn sgil y coronafeirws wedi golygu bod yr holl weithgareddau gwirfoddoli wedi eu hatal yn ystod cyfnod a fyddai wedi bod yn brysur i’r prosiect, mae cyswllt â gwirfoddolwyr wedi parhau drwy ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein er mwyn eu paratoi ar gyfer dull newydd a fydd yn diogelu iechyd a diogelwch pawb dan sylw. .

Er mwyn diogelu’r cynnydd a wnaeth y prosiect yn barod, mae pum contractwr lleol wedi gallu parhau i weithio gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol diogel, gan alluogi Pwyth mewn Pryd i gefnogi’r busnesau lleol hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

I gymryd rhan neu am ragor o wybodaeth am brosiect Pwyth mewn Pryd, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/pwyth-mewn-pryd neu cysylltwch â Matthew Tebbutt drwy ffonio 01646 624800 neu e-bostio matthewt@arfordirpenfro.org.uk.

Darganfyddwch fwy am gadwraeth yn y Parc Cenedlaethol