Grant yn ceisio hybu adfer ffiniau caeau traddodiadol

Cyhoeddwyd : 18/09/2020

Mae cynllun grant peilot wedi cael ei lansio i gefnogi adfer ffiniau caeau traddodiadol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r grant, sy’n rhan o gynllun Awdurdod Parc Cenedlaethol a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn arolwg o ffiniau traddodiadol a gwblhawyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020.

Gellir anfon ceisiadau am gefnogaeth gyda phob agwedd o adfer ffiniau traddodiadol, yn cynnwys atgyweirio cloddiau pridd a chloddiau cerrig, adfer waliau sychion, plygu perthi a bondocio, creu gwrychoedd newydd a chau bylchau mewn gwrychoedd sy’n bodoli.

Example of traditional hedgelaying

Dywedodd Sarah Mellor, Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc a datblygwr y cynllun:

”Tynnodd yr arolwg sylw at amrywiaeth ragorol y ffiniau traddodiadol sy’n gwneud cyfraniad anferth i’r dirwedd a’r bywyd gwyllt fel ei gilydd yn ein Parc Cenedlaethol.
“Mae pwysigrwydd ffiniau traddodiadol o fewn y system ffermio wedi gostwng, ynghyd ag argaeledd llafur fferm sydd ei angen i’w cynnal. Mae’n amser iddyn nhw gael y sylw y maen nhw’n eu haeddu.
“Mae’r gronfa grant yn gyfyngedig a chan y bu oedi gyda lansio’r cynllun oherwydd Covid-19, byddwn yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin ar gyfer gweithiau a gynlluniwyd y gaeaf hwn.
“Os digwydd i’r cynllun gael ei ordanysgrifio, gallwn ni ystyried y canlynol wrth flaenoriaethu ceisiadau: gwerth bywyd gwyllt, agosrwydd at hawliau tramwy cyhoeddus neu welededd o hawliau tramwy cyhoeddus, cyfraniad at y dirwedd a gwerth hanesyddol.”

Bydd ceisiadau yn cael eu cyfyngu i un ffin i bob ymgeisydd.  Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun, 5ed Hydref 2020.

Er mwyn gweld y manylion llawn a llawrlwytho’r ffurflen gais, ewch i https://www.arfordirpenfro.cymru/cadwraeth/cynllun-peilot-ffiniau-traddodiadol-2020-2021/

Os ydych chi angen unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda ar 01646 624800 neu drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.

Darganfyddwch fwy am cadwraeth yn y Parc Cenedlaethol