Bae Caerfai

Cyfeillgar i gŵn. Dim mynediad hwylus. Dim achubwyr bywyd.

Mae Caerfai, y traeth agosaf at Dyddewi, yn boblogaidd ymhlith trigolion ac ymwelwyr sy'n gallu bod yn lle gwych i nofio, archwilio pyllau glan môr.

Mae’n wynebu’r de ac yn eithaf cysgodol. Pan fydd y llanw’n uchel dim ond creigiau a chlogfeini sydd yma, ond mae’r tywod yn ymddangos ar drai’r llanw. O amgylch y bae, mae yna glogwyni tywodfaen trawiadol ond ansefydlog, ac fe allwch weld ble mae’r clogwyni wedi disgyn. Mae yna sawl ogof i chi eu harchwilio, yn ogystal â phyllau glan môr diddorol, ond gofalwch rhag i chi gael eich ynysu wrth i’ llanw godi.

 

Gwobrau Traeth

Gwobr Arfordir Glas. Gwobr Arfordir Glas. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am ragor o wybodaeth am Wobrau Arfordir Cymru.

 

Cyfleusterau

Nid oes unrhyw gyfleusterau ar y traeth. Amrywiaeth o gyflesterau yn Nhyddewi, tua 1 milltir i ffwrdd, gan gynnwys Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, sydd wedi’i rheoli gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Am fod y traeth mor anghysbell, a wnewch chi helpu cadw Caerbwdi yn hardd a mynd â’ch sbwriel adref gyda chi.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle hwn.

 

Mynediad hwylus?

Na. Ceir mynediad i’r traeth trwy lwybr serth o’r maes parcio uwchlaw’r traeth, felly byddwch yn ofalus.

 

Cyrraedd

Fe allwch gyrraedd Bae Caerfai ar eich beic, ac mae’r  Llwybr Celtaidd yn rhedeg heibio o fewn dwy filltir. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.

MaeCeir mynediad i’r traeth trwy lwybr serth o’r maes parcio uwchlaw’r traeth, felly byddwch yn ofalus.

Mae Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir benfro yn pasio heibio’r traeth hwn. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.

Mae bws gwasanaeth y T11 a’r bws arfordirol ‘Y Pal Gwibio’ yn stopio yn agos i Bae Caerfai. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Yn y car, o ffordd Hwlffordd-Tyddewi (A487) mae yna lwybr troed yn arwain 0.6 milltir (1km) i’r bae. Parcio cyfyng oddi ar y brif ffordd.

 

Cyngor ar ddiogelwch

  • Dim Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i weld i ddod o hyd i draethau lle mae achubwyr bywyd yn bresennol.
  • Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
  • Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

  • Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
  • Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.

Dod o hyd i'r traeth hwn

Cyfeirnod Grid: SM760243 Côd post: SA62 6QT