Aberllydan

Traeth Baner Las mawr gyda mynediad hwylus. Cyfyngiadau cŵn 1 Mai-30 Medi. Achubwyr bywyd tymhorol.

Bae agored, yn wynebu'r gorllewin yw Aberllydan, gyda thraeth Baner Las mawr tywodlyd. Mae'n lle gwych ar gyfer nofio, gemau traeth, pyllau creigiog ac amrywiaeth o chwaraeon dŵr.

Bu hwn yn un o fannau hamddena mwyaf poblogaidd Sir Benfro ers tua 1800 pan fyddai peiriannau nofio i’w gweld ar y traeth. Roedd glo’n cael ei gloddio o’r clogwyni i’ gogledd.

Heddiw mae’n dal i fod yn boblogaidd ar gyfer nofio, ac mae hwylfyrddwyr a brigdonwyr hefyd yn dod yma pan fydd yr amgylchiadau’n addas. Ffurfiwyd y clogwyni tua 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Carbonifferaidd, ac mae’ rhain yn denu daearegwyr o bob rhan o Brydain.

Yr ochr draw i’r pentir i’r gogledd ceir nifer o staciau, gan gynnwys Drws Den sydd â dau fwa drwy ei seiliau. Gerllaw gwelir craig enfawr sy’n ymdebygu i forfil a elwir y Garreg Lefn, rhan o blyg i fyny yn y Mesurau Glo. Ond dylech dalu sylw gofalus i amseroedd y llanw os ydych chi am fynd i weld y nodweddion hyn – mae’n hawdd iawn cael mynd yn sownd yno.

 

Gwobrau Traeth

Baner Las. Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus am ragor o wybodaeth am Wobrau Arfordir Cymru.

 

Cyfleusterau

Ceir toiledau gan gynnwys cyfleusterau i’r anabl a chyfleusterau newid cewynnau yn y maes parcio tua phen de’r traeth. Mae cyfleusterau i’r anabl yn y toiledau yn y maes parcio tua phen gogledd y traeth ond does dim cyfleusterau newid cewynnau.  Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor toiledau.

Mae ffôn, llogi offer traeth/brigdonni, caffis, hostel ieuenctid, tafarnau a thai bwyta i gyd i’w canfod ar lan y môr. Mae digon o wely a brecwast, gwersylla a charafanio yn yr ardal.

Helpwch i gadw Aberllydan yn brydferth a defnyddiwch y cyfleusterau Deddfau lleol.

 

Cyfeillgar i gŵn?

Mae cyfyngiadau tymhorol ar gŵn ar ochr ogleddol y traeth rhwng 1 Mai a 30 Medi. Ewch i wefan Croeso Sir Benfro i weld y mapiau cyfyngiadau cŵn diweddaraf. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.

 

Mynediad hwylus?

Mynediad mwyaf hwylus i’r traeth o’r ochr ddeheuol. Llithrffordd goncrit fwyaf deheuol: 1:12 i 1:7 am 29 metr, ar ei fwyaf serth ar y gwaelod. Graddiannau croes i’r ochrau felly arhoswch yng nghanol y llithrffordd.

Maes parcio gyferbyn, gyda thoiledau, siop/swyddfa bost a ffôn gerllaw. Ramp goncrit ychydig i’r gogledd o’r llithrffordd: 1:12 i 1:6 am 19 metr, ar ei fwyaf serth ar y gwaelod.

 

Cyrraedd

Gallwch gyrraedd Aberllydan â beic, ar hyd y Llwybr Celtaidd; ewch drwy’r pentref ac i’r dde wrth y traeth. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro am fanylion Llwybr yr Aberoedd.

Mae bws arfordirol y Pâl Gwibio yn stopio yn Aberllydan. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.

Mae’r traeth yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded. 

Gallwch gyrraedd Aberllydan â char, ar y B4341 o Hwlffordd, neu ar hyd ffordd gul yr arfordir sy’n rhedeg o Little Haven i Neigwl. Rhennir y parcio rhwng dau faes parcio (taliadau tymhorol yn berthnasol).

 

Cyngor ar ddiogelwch

  • Mae yna Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i gael gwybodaeth am ddyddiadau/amserau diweddaraf.
  • Fel arfer, mae’n fwy diogel ymdrochi pan fydd y llanw’n uchel, ond os oes baner goch yn chwifio mae’n beryglus i ymdrochi.
  • Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
  • Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
  • Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).

 

Is-ddeddfau

Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.

Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.